Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Os cewch hysbysiad troi allan

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Bydd eich cyngor neu gymdeithas tai yn anfon hysbysiad atoch os ydynt am eich troi allan. Gelwir hyn yn ‘hysbysiad i gymryd meddiant’. Ni fydd yn rhaid i chi adael eich cartref ar unwaith.

Os ydych chi’n dal yno ar y dyddiad y mae am i chi adael, fel arfer bydd yn rhaid i’ch landlord fynd i’r llys i ddechrau’r broses troi allan. Mae llawer o gamau y mae'n rhaid iddynt eu dilyn cyn y gallant eich troi allan.

Os na fyddwch yn gadael eich cartref a bod eich landlord yn mynd â chi i'r llys, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu eu costau llys yn ogystal â ffioedd llys. Gall hyn fod yn ddrud.

Os cawsoch hysbysiad troi allan cyn 1 Rhagfyr 2022

Gwiriwch ein cyngor i weld a gawsoch hysbysiad troi allan cyn 1 Rhagfyr 2022. 

Gwiriwch a yw eich hysbysiad yn ddilys

Mae'n rhaid i'ch landlord anfon yr hysbysiad cywir atoch - mae'r rheolau'n dibynnu ar y math o gontract.

Dylech hefyd wirio a oes unrhyw gamgymeriadau eraill ar eich hysbysiad - fel y cyfeiriad neu'r enw anghywir.

Siaradwch â chynghorydd os nad ydych yn siŵr pa gontract sydd gennych neu os oes angen help arnoch i wirio'ch hysbysiad. 

Os oes gennych gontract diogel

Gall eich landlord eich troi allan dim ond os ydynt naill ai:

  • yn meddwl eich bod wedi torri eich contract - er enghraifft os ydych wedi rhoi’r gorau i dalu rhent

  • angen eich symud i eiddo gwahanol - er enghraifft os yw'r adeilad yn cael ei ddymchwel

Rhaid i'ch landlord roi hysbysiad ysgrifenedig i chi.

Rhaid iddo:

  • dweud pam fod eich landlord eisiau i chi adael - y rheswm y mae'n ei ddefnyddio i'ch troi allan a pham

  • dweud ar ba ddyddiad y gallant ddechrau proses y llys - rhaid iddynt roi'r swm cywir o rybudd i chi, yn dibynnu ar ba bryd y byddant yn anfon y rhybudd i gymryd meddiant atoch

  • cael ei ysgrifennu ar y ffurflen gywir - gwiriwch y ffurflen ar GOV.UK

Fel arfer mae’n rhaid i’ch landlord roi 1 mis o rybudd i chi.

Os na fydd eich landlord yn mynd â chi i’r llys o fewn 6 mis, ni fydd eich hysbysiad troi allan yn ddilys mwyach.

Os ydych yn cael eich troi allan am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Efallai y bydd eich landlord yn gallu dechrau proses y llys ar unwaith. Siaradwch â chynghorydd am help os ydych chi’n cael eich troi allan am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Os oes gennych gontract rhagarweiniol neu ymddygiad gwaharddedig

Rhaid i’ch landlord roi hysbysiad ysgrifenedig i chi gan ddefnyddio ffurflen RHW18. Gallwch ddod o hyd i enghraifft o ffurflen RHW18 ar wefan llywodraeth Cymru.

Rhaid i'ch landlord ddweud wrthych:

  • pam eu bod yn gofyn i chi adael

  • y dyddiad y gallant ddechrau proses y llys ar ei ôl - mae'n rhaid iddynt roi'r swm cywir o rybudd i chi, yn dibynnu ar ba bryd y byddant yn anfon yr hysbysiad i gymryd meddiant atoch

  • y gallwch ofyn am adolygiad a'r dyddiad cau ar gyfer gofyn am adolygiad

  • y gallwch gael help gan Cyngor ar Bopeth, canolfan cymorth tai, canolfan gyfraith neu gyfreithiwr

Faint o rybudd y mae'n rhaid i'ch landlord ei roi i chi 

Mae faint o rybudd a gewch yn dibynnu ar:

  • a oes gennych gontract rhagarweiniol neu gontract ymddygiad gwaharddedig - gwiriwch eich datganiad ysgrifenedig i weld pa fath o gontract sydd gennych

  • pam rydych chi'n cael eich troi allan - gallwch wirio'r rheswm pam rydych chi'n cael eich troi allan ar eich hysbysiad troi allan

Mae eich datganiad ysgrifenedig yn nodi eich hawliau a’ch cyfrifoldebau chi – a rhai eich landlord.

Os nad oes gennych ddatganiad ysgrifenedig, gofynnwch i’ch landlord am un. Fel arfer mae’n rhaid iddyn nhw roi datganiad ysgrifenedig i chi o fewn 14 diwrnod i chi symud i mewn.

Os dechreuodd eich tenantiaeth cyn 1 Rhagfyr 2022, mae’n rhaid i’ch landlord roi datganiad ysgrifenedig i chi erbyn 1 Mehefin 2023.

Os nad ydych yn siŵr pa fath o gontract sydd gennych, siaradwch â chynghorydd. 

Fel arfer mae’n rhaid i’ch landlord roi 2 fis o rybudd i chi. Bydd gennych 1 mis o rybudd:

  • os oes gennych ôl-ddyledion rhent difrifol - mae hyn os oes arnoch chi o leiaf 8 wythnos o rent

  • os yw’ch landlord yn meddwl eich bod wedi torri eich contract – er enghraifft os ydych wedi difrodi’r eiddo

  • os yw’ch landlord angen eich symud i eiddo gwahanol – er enghraifft os yw’r adeilad yn cael ei ddymchwel

Os oes gennych gontract rhagarweinio

Ni all eich landlord roi hysbysiad troi allan i chi yn ystod eich 4 mis cyntaf o fyw yn yr eiddo.

Os nad yw eich hysbysiad yn ddilys

Fel arfer bydd yn rhaid i'ch landlord roi rhybudd newydd, dilys i chi os yw dal eisiau i chi adael eich cartref. Bydd hyn yn golygu bod gennych fwy o amser yn eich cartref.

Os ydych chi'n cael eich troi allan am reswm penodol, mae'n werth defnyddio'r amser ychwanegol i ddatrys y broblem.

Bydd yn rhaid i’ch landlord ddechrau proses y llys os nad ydych wedi gadael eich cartref erbyn y dyddiad ar eich hysbysiad. Byddwch yn cael papurau llys a ffurflen amddiffyn y gallwch eu defnyddio i herio’r troi allan. Eglurwch pam nad yw'r hysbysiad yn ddilys. Cael help i lenwi'r ffurflen amddiffyn.  

Weithiau gall y llys fynd ymlaen â’r achos hyd yn oed os nad yw’r hysbysiad yn ddilys. Mae hyn yn dibynnu ar y math o gontract. Os credwch nad yw’r hysbysiad yn ddilys dylech siarad â chynghorydd am gymorth.  

Os yw eich hysbysiad yn ddilys

Fel arfer ni all eich landlord orfodi i chi adael eich cartref nes ei fod wedi mynd i’r llys i gael gorchymyn ildio meddiant a gwarant i’ch troi allan. Mae’n bwysig eich bod yn parhau i dalu eich rhent.

Os ydynt wedi gwneud cais i’r llys am ‘feddiant carlam’, ni fydd gwrandawiad llys fel arfer - oni bai eich bod yn herio’r troi allan.

Byddwch yn cael papurau llys pan fydd eich landlord yn gwneud cais i’r llys. Gallwch herio hawliad troi allan eich landlord pan fyddwch yn cael papurau’r llys. 

Os yw’n mynd i’r llys, gallai’r llys hefyd eich gorchymyn i dalu ffioedd llys eich landlord os cewch eich troi allan – gall y rhain fod yn ddrud.

Os penderfynwch adael eich cartref cyn y dyddiad ar eich rhybudd

Peidiwch â gadael eich cartref cyn y dyddiad ar eich hysbysiad os nad ydych wedi dod o hyd i rywle arall i fyw.

Os byddwch yn gadael eich cartref cyn i'r llys wneud gorchymyn ildio meddiant, gallai effeithio ar ba help y gall eich cyngor lleol ei gynnig i chi. Darganfod mwy am orchmynion ildio meddiant. 

Efallai y bydd gan eich cyngor ddyletswydd gyfreithiol i helpu i ddod o hyd i lety i chi. Gallwch gael help os ydych yn cael eich troi allan.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.