Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Herio cael eich troi allan

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Byddwch yn cael papurau llys pan fydd eich landlord yn dechrau hawliad meddiant. Gallwch herio hawliad troi allan eich landlord pan fyddwch yn cael papurau’r llys.

Dylech ateb y llys o fewn 14 diwrnod i gael papurau’r llys.

Os oes gennych wrandawiad llys, dylech barhau i fynd iddo hyd yn oed os na fyddwch yn ateb y llys.

Mae sut y gallwch herio eich troi allan yn dibynnu ar:

  • pa fath o gontract sydd gennych - edrychwch ar eich datganiad ysgrifenedig i weld pa fath o gontract sydd gennych

  • pam rydych chi’n cael eich troi allan - gallwch chi ddod o hyd i’r rheswm pam rydych chi’n cael eich troi allan yn ysgrifenedig ar eich hysbysiad

Mae eich datganiad ysgrifenedig yn nodi eich hawliau a'ch cyfrifoldebau chi - a rhai eich landlord. Os nad oes gennych ddatganiad ysgrifenedig, efallai na fydd eich hysbysiad troi allan yn ddilys. Dylech esbonio efallai na fydd eich hysbysiad troi allan yn ddilys pan fyddwch yn dweud pam eich bod yn herio eich troi allan.

Fel arfer mae’n rhaid i’ch landlord roi datganiad ysgrifenedig i chi o fewn 14 diwrnod ar ôl i chi symud i mewn.

Os dechreuodd eich tenantiaeth cyn 1 Rhagfyr 2022

Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd dylai eich landlord fod wedi rhoi datganiad ysgrifenedig i chi erbyn 1 Mehefin 2023.

Mae dyddiad cau ychydig yn ddiweddarach os oedd newid deiliad contract rhwng 1 Rhagfyr 2022 a 31 Mai 2023. Yn y sefyllfa hon roedd gan eich landlord tan 14 Mehefin 2023 i roi datganiad ysgrifenedig i chi.

Mae enghreifftiau o newid deiliad contract yn cynnwys os:

  • roedd gennych gontract ar y cyd a newidiodd i gontract unigol oherwydd bod rhywun arall wedi symud allan

  • roedd gennych gontract unigol a newidiodd i gontract ar y cyd oherwydd bod rhywun arall wedi symud i mewn

  • rydych wedi cymryd drosodd contract rhywun sydd wedi marw

  • daeth eich contract i ben a daeth yn fath arall o gontract - er enghraifft daeth eich cyfnod penodol i ben a daeth yn gontract cyfnodol

Os nad ydych yn siŵr pa fath o gontract sydd gennych, siaradwch â chynghorydd. 

Os oes gennych gontract rhagarweiniol neu ymddygiad gwaharddedig safonol, rhaid i chi ofyn am adolygiad os ydych am i'r cyngor neu'ch cymdeithas dai newid eu penderfyniad. Mae gennych 14 diwrnod o'r dyddiad y cawsoch eich hysbysiad i ofyn am adolygiad.

Siaradwch â chynghorydd os oes angen help arnoch ar unrhyw adeg yn ystod y broses troi allan. Efallai y gallant eich helpu i lenwi'r ffurflen amddiffyn neu negodi gyda'ch landlord i aros yn eich cartref.

Ysgrifennwch pam rydych chi'n herio'r troi allan

Os gallwch chi, siaradwch â chynghorydd cyn herio eich troi allan.

Mae’r hyn sydd angen i chi ei wneud yn wahanol os yw’ch landlord yn defnyddio’r weithdrefn garlam – gwiriwch a yw’n dweud ‘gweithdrefn garlam’ ar frig y ffurflen hawlio.

Os yw'ch landlord yn defnyddio'r weithdrefn garlam

Defnyddiwch y ffurflen amddiffyn a ddaeth gyda phapurau’r llys i roi eich rhesymau dros herio’ch hysbysiad.

Y ffurflen amddiffyn yw eich unig gyfle i ddweud wrth y llys pam y dylech aros yn eich cartref - ni fydd gwrandawiad llys bob amser.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd defnyddio'r ffurflen amddiffyn, ysgrifennwch yr hyn rydych chi am ei ddweud ar ddarn o bapur yn lle hynny. Ysgrifennwch rif eich achos ar y darn o bapur – gallwch ddod o hyd i rif eich achos ar y ffurflen hawlio.

Os rhoddwyd eich hysbysiad i chi ar neu cyn 30 Tachwedd 2022, gallwch hefyd ddod o hyd i’r ffurflen amddiffyn ar GOV.UK – fe’i gelwir yn ffurflen N11B.

Os nad yw’ch landlord yn defnyddio’r weithdrefn gyflymu

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen amddiffyn a ddaeth gyda phapurau’r llys i roi eich rhesymau dros herio eich troi allan.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd defnyddio'r ffurflen amddiffyn, ysgrifennwch yr hyn rydych chi am ei ddweud ar ddarn o bapur yn lle hynny. Ysgrifennwch rif eich achos ar y darn o bapur – gallwch ddod o hyd i rif eich achos ar y ffurflen hawlio.

Dylech roi cymaint o fanylion â phosibl - bydd y llys yn edrych ar yr hyn a ddywedwch i benderfynu a allwch aros yn eich cartref.

Fel arfer bydd angen i chi:

  • rhoi rhesymau dros eich problemau

  • esbonio sut rydych chi'n gwella'r sefyllfa

  • gwirio'r papurau a gewch gan y llys

  • esbonio pam y dylid caniatáu mwy o amser i chi yn eich cartref

  • ymateb i bob hawliad y mae eich landlord yn ei wneud yn eich erbyn

Os na roddodd eich landlord ddatganiad ysgrifenedig o’ch contract i chi, efallai na fydd eich hysbysiad troi allan yn ddilys. Dylech esbonio efallai na fydd eich hysbysiad yn ddilys pan fyddwch yn ysgrifennu pam eich bod yn herio eich troi allan.

Rhowch y rhesymau dros eich problemau

Dylech esbonio eich ochr chi o’r stori os oes rhaid i’ch landlord brofi’r rhesymau dros eich troi allan.

Er enghraifft, os ydych chi’n cael eich troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent, dylech sôn pam eich bod yn ei chael hi’n anodd talu eich rhent – gallai hyn fod oherwydd eich bod wedi colli eich swydd neu oherwydd eich bod yn yr ysbyty.

Casglwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich achos. Er enghraifft, nodyn meddyg os na allech dalu eich rhent oherwydd eich bod yn sâl.

Os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef gwahaniaethu

Gallech helpu eich achos drwy ei gynnwys ar eich ffurflen - gwiriwch a yw eich problem tai yn wahaniaethu.

Dylech wirio yn bendant am wahaniaethu os oes gennych gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol sy'n gwneud eich bywyd bob dydd yn anodd. Gallai hyn gyfrif fel anabledd yn ôl y gyfraith. Efallai bod eich landlord wedi gwahaniaethu yn eich erbyn os nad oedd wedi ystyried eich cyflwr.

Eglurwch sut rydych chi'n gwella'r sefyllfa

Efallai y bydd y llys yn edrych ar yr hyn yr ydych wedi bod yn ei wneud i wella’r sefyllfa – mae’n dibynnu ar y rheswm y mae’ch landlord yn ei ddefnyddio i’ch troi allan.

Os gallwch chi brofi eich bod yn ceisio datrys y sefyllfa, efallai y bydd y llys yn oedi cyn penderfynu a ddylech chi gael eich troi allan.

Gwnewch yn siwr i sôn os:

  • rydych yn talu eich ôl-ddyledion rhent bob wythnos neu wedi talu am atgyweiriadau i unrhyw ddifrod a achoswyd gennych

  • rydych wedi gwneud cais am unrhyw fudd-daliadau neu swydd newydd os oes gennych ôl-ddyledion rhent

  • efallai y byddwch yn gallu talu eich rhent yn fuan - er enghraifft oherwydd eich bod yn disgwyl eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf

Os nad yw eich landlord wedi gwneud atgyweiriadau

Os ydych wedi dweud wrth eich landlord fod eich cartref yn llaith neu fod angen atgyweiriadau ac nad ydynt wedi datrys y broblem, efallai y gallwch wneud hawliad am ddadfeiliad neu iawndal yn ei erbyn.

Gallai hyn gael ei ddefnyddio i ostwng swm yr ôl-ddyledion rhent sy'n ddyledus gennych.

Siaradwch â chynghorydd am gymorth yn yr achosion hyn.

Os ydych yn meddwl bod eich landlord wedi gwahaniaethu yn eich erbyn

Os yw eich landlord wedi eich trin yn annheg oherwydd pwy ydych chi, efallai y gallwch amddiffyn eich troi allan. Er enghraifft, efallai eu bod yn eich troi allan oherwydd eich bod yn hoyw, neu oherwydd nad ydynt am wneud newidiadau ar gyfer eich anabledd.

Gwiriwch a yw eich problem yn cyfrif fel gwahaniaethu i ddarganfod a allwch chi ei hychwanegu at eich amddiffyniad troi allan.

Os yw’r rheswm pam rydych chi’n cael eich troi allan yn gysylltiedig â’ch anabledd

Efallai y gallwch chi herio'r troi allan. Er enghraifft, os ydych yn cael eich troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent, ond y rheswm pam yr aethoch i ôl-ddyledion rhent oedd oherwydd bod eich anhawster dysgu yn ei gwneud yn anodd dilyn polisi talu eich landlord.

Efallai y gallwch amddiffyn eich troi allan gan ddefnyddio cyfraith gwahaniaethu - gwiriwch a yw eich problem tai yn gwahaniaethu. 

Os ydych yn cael eich troi allan oherwydd eich bod wedi cwyno am wahaniaethu o’r blaen

Gallai hyn fod yn fath o wahaniaethu a elwir yn erledigaeth. Efallai y gallwch amddiffyn eich troi allan gan ddefnyddio cyfraith gwahaniaethu. 

Os oedd taliadau dŵr wedi'u cynnwys yn eich rhent

Os yw eich landlord wedi codi gormod arnoch am ddŵr, efallai y byddwch yn gallu eu hatal rhag eich troi allan. Gwiriwch a wnaeth eich landlord godi gormod arnoch am ddŵr a beth allwch chi ei wneud. 

Nodwch unrhyw wallau yn y llythyrau a anfonwyd atoch

Bydd eich papurau llys yn esbonio pam mae eich landlord yn ceisio eich troi allan. Fel arfer byddant yn cynnwys unrhyw dystiolaeth y mae eich landlord am i’r llys edrych arni, ond efallai y bydd eich landlord yn anfon mwy cyn y gwrandawiad. Darllenwch holl bapurau’r llys yn ofalus a gwiriwch eu bod yn gywir.

Os ydynt yn anghywir, eglurwch pam yn eich amddiffyniad. Er enghraifft, soniwch os yw swm yr ôl-ddyledion rhent yn anghywir, neu esboniwch eich ochr chi o’r stori os ydych chi wedi cael eich cyhuddo o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dylech hefyd grybwyll a wnaeth eich landlord unrhyw gamgymeriadau yn ei hysbysiad. Er enghraifft, os ydyn nhw wedi defnyddio'r ffurflen anghywir.

Eto, cynhwyswch unrhyw dystiolaeth sy’n cefnogi’r hyn rydych yn ei ddweud os gallwch.

Eglurwch pam y dylid caniatáu mwy o amser i chi yn eich cartref

Eglurwch pam y credwch y dylech gael mwy o amser yn eich cartref a rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch.

Efallai y bydd angen i chi esbonio i'r llys pam y dylid caniatáu amser ychwanegol i chi - er enghraifft oherwydd bod gennych salwch difrifol neu anabledd.

Gallai'r llys ohirio'r dyddiad y bydd angen i chi adael eich cartref. Mae faint o amser ychwanegol y gall y llys ei roi i chi yn dibynnu ar pam mae eich landlord yn ceisio eich troi allan.

Yn dibynnu ar pam fod eich landlord yn eich troi allan, gallai’r llys naill ai:

  • gadael i chi aros yn eich cartref os byddwch yn dilyn eu gorchmynion - er enghraifft os ydych yn cytuno i dalu'ch ôl-ddyledion

  • gohirio’r dyddiad y bydd angen i chi adael hyd at 6 wythnos, os byddai gadael o fewn y 14 diwrnod arferol yn achosi ‘caledi eithriadol’ i chi

Anfonwch eich amddiffyniad 'r llys

Rhaid i chi anfon y ffurflen amddiffyn neu'r hyn rydych wedi'i ysgrifennu at y llys a'ch landlord o fewn 14 diwrnod - bydd y cyfeiriad ar y ffurflen.

Os byddwch yn methu'r dyddiad cau, dylech ei anfon cyn gynted â phosibl.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw copi - bydd angen i chi gofio beth rydych chi wedi'i ysgrifennu yn nes ymlaen.

Gwiriwch beth sy'n digwydd ar ôl i chi anfon eich amddiffyniad

Mae’r broses yn wahanol os yw’ch landlord yn defnyddio’r weithdrefn garlam – gwiriwch a yw’n dweud ‘gweithdrefn garlam’ ar frig y ffurflen hawlio.

Os yw'ch landlord yn defnyddio'r weithdrefn garlam

Bydd y llys yn edrych ar eich ffurflen amddiffyn. Byddant un ai:

  • yn rhoi gorchymyn ildio meddiant – mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref

  • yn rhoi dyddiad i chi fynd i’r llys – gelwir hyn yn wrandawiad meddiannu

  • yn gwrthod yr achos - mae hyn yn golygu y gallwch aros yn eich cartref

Fel arfer, bydd y llys ond yn trefnu gwrandawiad neu’n gwrthod achos os oes problem gyda gwaith papur eich landlord neu os yw wedi gwneud camgymeriad yn dilyn y weithdrefn.

Os byddwch yn cael gwrandawiad meddiannu, byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych pryd a ble mae'r gwrandawiad.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am baratoi ar gyfer eich gwrandawiad troi allan. 

Os nad yw'ch landlord yn defnyddio'r weithdrefn garlam

Anfonir dyddiad ar gyfer gwrandawiad llys atoch. Dylai hyn fod o fewn 8 wythnos i’r llys anfon y papurau atoch. Gallwch ddod o hyd i ddyddiad y gwrandawiad llys ar y ffurflen hawlio a anfonwyd atoch yn eich papurau llys.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am baratoi ar gyfer eich gwrandawiad troi allan. 

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.