Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Edrychwch ar sut mae rheolau rhentu Cymru wedi newid

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi’n denant, dylai’r rheolau newydd ei gwneud yn haws i chi rentu a rhoi mwy o warchodaeth i chi.

Cafodd eich tenantiaeth ei disodli’n awtomatig gan ‘gontract meddiannaeth’ ar 1 Rhagfyr 2022. Rydych chi nawr yn ‘ddeiliad contract’.

Yn hytrach na chael cytundeb tenantiaeth, bydd gennych 'ddatganiad ysgrifenedig'. Rhaid i'ch landlord roi datganiad ysgrifenedig i chi.

Mae gennych hefyd fwy o hawliau:

  • os byddwch yn rhentu gan landlord preifat, fel arfer byddwch yn cael mwy o rybudd am gael eich troi allan o’ch cartref 'heb fai'
  • mae'n anoddach i'ch landlord eich troi allan o’ch cartref os ydynt wedi torri'r gyfraith - er enghraifft, os nad ydynt wedi gwneud gwaith atgyweirio neu wedi rhoi datganiad ysgrifenedig i chi
  • mae'n rhaid i'ch landlord wneud eich cartref yn ddiogel i fyw ynddo
  • gallwch ychwanegu neu dynnu pobl o'ch cyd-gontract yn haws
  • gallwch drosglwyddo'ch contract ymlaen ddwywaith os byddwch yn marw

Edrychwch i weld pa fath o gytundeb sydd gennych chi

Os ydych yn rhentu gan gyngor neu gymdeithas dai, mae'n debyg bod eich tenantiaeth wedi dod yn 'gontract diogel'.

Os ydych chi'n rhentu gan landlord preifat, mae'n debyg bod eich tenantiaeth wedi'i disodli gan 'gontract safonol'. 

Edrychwch i weld pa denantiaethau sydd heb newid yn awtomatig

Ni ddaeth eich tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth yn awtomatig:

  • os oes gennych 'denantiaeth warchodedig' - mae hyn fel arfer yn golygu bod y denantiaeth wedi dechrau cyn 15 Ionawr 1989

  • os oes gennych denantiaeth neu drwydded sy'n gysylltiedig â bod yn y lluoedd arfog, â'ch mechnïaeth neu'ch prawf, neu â mewnfudo neu loches

  • os ydych chi’n 'feddiannydd eithriedig' - er enghraifft, os ydych yn byw gyda'ch landlord neu'n aros mewn llety gwyliau

Mae eich hawliau yr un fath ag o'r blaen - dydy'r rheolau newydd ddim yn effeithio arnoch chi.

Edrychwch pryd mae’n rhaid i'ch landlord anfon datganiad ysgrifenedig i chi

Rhaid i'ch landlord roi datganiad ysgrifenedig i chi os yw'ch tenantiaeth wedi newid i gontract. Os oes gennych gytundeb tenantiaeth, bydd y datganiad ysgrifenedig yn ei ddisodli.

Dylech wirio a llofnodi’r datganiad ysgrifenedig pan fyddwch yn ei gael. Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth arall.

Hyd yn oed os nad yw eich datganiad ysgrifenedig gennych eto, cafodd eich tenantiaeth ei disodli gan gontract meddiannaeth yn awtomatig.

Os gwnaethoch ddechrau rhentu eich cartref cyn 1 Rhagfyr 2022, roedd gan eich landlord tan y 1 Mehefin 2023 i roi’r datganiad ysgrifenedig i chi. 

Os ydych chi’n rhentu cartref sy’n dechrau ar 1 Rhagfyr 2022 neu ar ôl hynny, rhaid i’ch landlord roi’r datganiad ysgrifenedig i chi o fewn 14 diwrnod i ddechrau eich contract.

Efallai y gallwch hawlio arian gan eich landlord os nad ydynt yn rhoi'r datganiad ysgrifenedig i chi mewn pryd. Gallwch edrych i weld sut gallwch chi hawlio iawndal gan eich landlord.

Edrychwch ar y rheolau newydd ynghylch gorchmynion troi allan

Ni all eich landlord roi rhybudd troi allan o’ch cartref 'heb fai' i chi os na roddodd y datganiad ysgrifenedig i chi pan ddylai fod wedi gwneud hynny.

Bydd gennych fwy o warchodaeth os bydd eich landlord yn ceisio'ch troi allan o’ch cartref oherwydd i chi ofyn i’r lle gael ei atgyweirio. Gallwch edrych ar beth i'w wneud os ydych chi'n cael eich troi allan o’ch cartref oherwydd i chi ofyn i’ch cartref gael ei atgyweirio.

Rhentu gan landlord preifat

Os ydych chi’n rhentu gan landlord preifat, ni all eich landlord eich troi allan o'ch cartref yn ystod 6 mis cyntaf eich contract.

Ar ôl 6 mis, gallant eich troi allan o’ch cartref - bydd rhaid iddynt roi gwybod i chi os ydynt am i chi symud allan.

Os oedd gennych denantiaeth a ddaeth yn gontract yn awtomatig, fel arfer mae'n rhaid iddynt roi 2 fis o rybudd i chi.

Os gwnaethoch ddechrau rhentu eich cartref ar 1 Rhagfyr 2022 neu ar ôl y dyddiad hwn, mae’n rhaid i’ch landlord roi 6 mis o rybudd i chi.

Mae dau brif fath o orchymyn troi allan: gorchmynion ‘heb fai’ a gorchmynion ‘gyda sail’.

Rydych chi’n gallu:

Edrychwch ar yr hyn mae'n rhaid i'ch landlord ei wneud i wneud eich cartref yn ddiogel i fyw ynddo

Rhaid i'ch landlord sicrhau bod eich cartref yn ddiogel i fyw ynddo a bodloni rhai safonau diogelwch newydd. Mae hyn yn cynnwys gosod larymau mwg a charbon monocsid a phrofi’r diogelwch trydanol bob 5 mlynedd o leiaf.

Edrychwch i weld pwy y gallwch drosglwyddo'ch contract ymlaen iddyn nhw os byddwch yn marw

Os ydych yn rhentu gan gyngor neu gymdeithas dai, gall eich partner neu aelod o'ch teulu gymryd drosodd eich contract os byddwch yn marw.

O dan y rheolau newydd, os bydd y person hwnnw'n marw, gall aelod arall o'r teulu neu ofalwr gymryd y contract drosodd. Mae hyn yn golygu y gallwch drosglwyddo eich contract ddwywaith, yn hytrach nag unwaith yn unig.

Gallwch edrych i weld pwy y gallwch drosglwyddo’ch contract iddyn nhw os byddwch yn marw.

Edrychwch ar sut i ychwanegu neu dynnu pobl o’ch cyd-gontract

Rydych chi angen caniatâd eich landlord i wneud unrhyw newidiadau i'r enwau sydd ar y contract.

Os oes gennych chi gyd-gontract a’ch bod am symud allan ond bod y person arall eisiau aros, gallwch ‘dynnu’n ôl’ o’ch contract. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi derfynu eich contract. Gall y person arall aros ar ei ben ei hun neu gall rhywun arall gymryd eich lle.

Os ydych chi am i rywun symud i mewn, gallwch eu hychwanegu at eich contract - does dim angen i chi ddechrau un newydd.

Os oes cyd-ddeiliad contract arall yn cael ei droi allan o’ch cartref am ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch aros ar eich pen eich hun neu gall rhywun arall gymryd ei le.

Gallwch edrych ar beth i’w wneud i newid neu ddod â’ch cyd-gontract i ben.

Rhagor o wybodaeth am y newidiadau

Mae rhagor o fanylion am sut mae rhentu wedi newid ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gallwch ddod o hyd i ddogfen Hawdd ei Deall am sut mae rhentu wedi newid ar wefan Llywodraeth Cymru.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.