Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Os ydych chi’n cael cynnig cartref oherwydd eich bod yn ddigartref

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os yw’r cyngor yn penderfynu cynnig cartref i chi, mae'n rhaid iddyn nhw roi rhywle i chi aros ar unwaith.

Gallai’r cyngor gynnig gwahanol fathau o lety yn dibynnu ar eich sefyllfa. Gallai hyn fod yn:

  • llety brys – mae’n cael ei alw weithiau yn ‘llety interim’

  • llety dros dro

  • cartref hirdymor

Dim ond am gyfnod byr y dylai llety brys bara.

Mae llety dros dro fel arfer yn para'n hirach na llety brys. Os bydd y cyngor yn penderfynu eich bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cartref hirdymor, efallai y byddan nhw’n cynnig llety dros dro i chi hyd nes gall y cyngor ddod o hyd i gartref hirdymor i chi.

Os ydych wedi cael cynnig llety brys neu lety dros dro, dylai’r cyngor ofalu am unrhyw eiddo nad oes gennych le ar ei gyfer.

Efallai y byddwch mewn llety dros dro am amser hir. Gofynnwch i'ch cyngor pa mor hir y gallai'r amser aros am gartref hirdymor fod. Unwaith y byddwch mewn llety dros dro efallai y bydd yn gyflymach i chi chwilio am lety preifat i’w rhentu eich hun.

Os cewch gynnig cartref hirdymor bydd hyn naill ai:

  • yn dŷ cyngor neu’n dŷ y gymdeithas dai oddi ar eu rhestr aros

  • cartref landlord preifat am o leiaf 6 mis

Os ydych chi’n byw mewn llety dros dro, mae’n bwysig cadw at delerau eich contact meddiannaeth neu gytundeb trwyddedu – os na wnewch chi, gallech gael eich troi allan. Mae hyn yn golygu y gallai’r cyngor ddod â'u dyletswydd i roi cartref i chi i ben ac i beidio â chynnig cartref arall i chi.

Os cewch eich troi allan o lety brys, rhaid i’r cyngor barhau i brosesu eich cais digartrefedd. Os byddan nhw’n penderfynu bod gennych yr hawl i gartref hirdymor, rhaid iddyn nhw gynnig llety dros dro i chi tra byddan nhw’n ceisio dod o hyd iddo.

Os nad ydych chi’n hapus gyda’r hyn a gynigiwyd i chi

Os nad yw’r cartref yn addas, gallwch herio penderfyniad y cyngor.

Os yw’r cartref yn cael ei ystyried yn un addas gallwch ofyn i’r cyngor a allan nhw gynnig rhywbeth arall i chi, ond does dim rhaid iddyn nhw wneud hynny.

Gwiriwch a yw’r cartref a gynigiwyd i chi yn addas

Rhaid iddo fod yn addas i chi ac unrhyw aelodau o’r teulu sy’n byw gyda chi fel arfer. Rhaid iddo fod yn addas hefyd ar gyfer unrhyw un y gellid disgwyl yn rhesymol iddyn nhw fyw gyda chi yn y dyfodol. Er enghraifft, plentyn nad yw’n byw gyda chi oherwydd nad yw’r lle rydych chi’n byw ynddo yn addas ar gyfer plentyn.

Dylai’r cyngor gynnig llety:

  • sy’n fforddiadwy i chi – byddan nhw’n ystyried unrhyw gyflog, budd-daliadau neu bensiynau a dderbyniwch ac unrhyw gynilion sydd gennych

  • yn addas ar gyfer unrhyw anghenion meddygol sydd gennych - fel y dylai’r cartref fod ar y llawr gwaelod neu gael lifft os ydych yn defnyddio cadair olwyn

  • yn ddiogel i fyw ynddo - ac nad ydych mewn perygl o drais yno.

Mae'r safon ar gyfer llety brys addas yn is na llety dros dro a hirdymor, ond rhaid iddo fod yn addas o hyd. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi rannu cegin neu ystafell ymolchi gyda phobl eraill.

Efallai bod y cyngor wedi cynnig cartref i chi hyd yn oed os nad ydych chi’n gymwys am lety brys, dros dro neu dymor hwy. Rhaid iddo fod yn addas ar gyfer eich anghenion o hyd.

Os cewch gynnig llety mewn hostel, gwely a brecwast neu westy

Os ydych chi wedi gorfod gadael eich cartref oherwydd cam-drin domestig, gallwch ddweud wrth y cyngor os nad ydych chi eisiau aros mewn llety sy’n gymysg o ran rhyw. Nid oes rhaid i’r cyngor gynnig dewis arall i chi ond dylen nhw ystyried y sefyllfa. 

Os oes gennych blant neu os ydych chi’n feichiog, ni ddylech orfod aros fel arfer mewn gwely a brecwast neu westy am fwy na 6 wythnos. Os ydych chi yno am fwy o amser na hyn, dylech ofyn i'r cyngor eich symud oherwydd nad yw’n addas mwyach.

Efallai y bydd yn rhaid i chi aros mewn gwely a brecwast neu westy am fwy na 6 wythnos os wnaethoch chi wrthod llety dros dro arall a oedd yn addas.

Os cewch gynnig cartref mewn ardal wahanol

Os nad oes digon o dai yn eich ardal, efallai y bydd y cyngor yn cynnig rhywbeth i chi mewn ardal wahanol. Byddan nhw’n ystyried eich sefyllfa os ydyn nhw’n gwneud hynny.

Fel arfer, dylai’r cyngor ystyried:

  • ble roeddech chi’n byw o’r blaen a pha mor agos y mae eich cartref newydd i’r hen un

  • os yw’n agos i lefydd rydych chi’n ymweld â nhw’n gyson – er enghraifft, eich gweithle, ysgol eich plentyn neu ysbyty y mae angen i chi fynd iddo’n aml 

  • os byddai lleoliad y cartref newydd yn eich rhoi mewn perygl o drais

Pe bai'r lleoliad yn amharu cryn dipyn ar eich bywyd bob dydd, dylech ddweud wrth y cyngor – efallai y bydden nhw’n edrych ar y cynnig unwaith eto.

Os ydych chi wedi symud i ardal wahanol, efallai y bydd angen i chi wneud newidiadau – fel symud eich plentyn i ysgol newydd. Dylai’r cyngor ystyried os yw eich plentyn mewn blwyddyn arholiadau neu ag anghenion addysgol arbennig.

Dylai’r cyngor hefyd feddwl a allwch chi fforddio unrhyw gostau cludiant ar gyfer unrhyw le y bydd angen i chi deithio iddo, er enghraifft:

  • ysgolion

  • siopau

  • cyfleusterau meddygol

  • cadw mewn cysylltiad â’ch teulu, ffrindiau a rhwydweithiau cymorth 

Os nad yw’r cartref a gynigiwyd i chi yn addas

Fel arfer, mae’n well derbyn y cynnig a gofyn i’r cyngor adolygu a yw'r cartref yn addas. Fel hyn, bydd gennych chi rywle i fyw tra bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal.

Os ydych yn gwrthod cynnig cartref sy’n addas ym marn eich cyngor, gallen nhw wrthod dod o hyd i fwy o lefydd i chi. Mae hyn oherwydd y gallen nhw ddod â’u dyletswydd gyfreithiol i ddod o hyd i gartref i chi i ben.

Os nad ydych chi’n credu bod y cartref a gynigiwyd i chi yn addas, gallwch:

  • ofyn i’ch cyngor ailystyried y cynnig os oeddech chi'n credu ei fod yn addas, ond ddim bellach

  • herio’r penderfyniad - mae sut rydych chi'n gwneud hyn yn dibynnu os cewch chi gynnig llety dros dro, llety hirdymor neu lety brys

Os ydych chi’n credu bod y cartref dros dro neu hirdymor sy’n cael ei gynnig i chi yn anaddas, gallwch wirio sut i herio penderfyniad digartrefedd y cyngor.

Os ydych chi wedi cael cynnig llety brys, ni allwch ofyn am adolygiad os yw’n anaddas. Siaradwch â chynghorydd os ydych chi eisiau herio addasrwydd llety brys.

Os roddodd y cyngor gynllun tai i chi ac nad ydych yn credu eu bod wedi asesu eich sefyllfa’n iawn, dylech siarad â chynghorydd.

Os yw eich sefyllfa yn newid mewn llety brys neu lety dros dro

Os bydd eich anghenion llety yn newid, dywedwch wrth eich cyngor beth sydd wedi digwydd cyn gynted ag y gallwch. Bydd angen iddyn nhw edrych ar eich sefyllfa i wirio a yw’r cartref dal yn addas i chi.

Er enghraifft os ydych chi’n:

  • dod yn feichiog neu’n cael plentyn arall

  • datblygu cyflwr meddygol newydd neu mae eich anghenion meddygol yn newid 

  • cael eich aflonyddu lle rydych chi’n byw

Gallai effeithio ar ba gartref y mae'r cyngor yn ei gynnig i chi ac a yw'n addas ar gyfer eich anghenion.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.