Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gwiriwch a oes rhaid i'ch landlord ddiogelu'ch blaendal

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Fel arfer mae'n rhaid i chi dalu 'blaendal rhent' i'ch landlord neu asiant gosod eiddo cyn y gallwch rentu eich cartref. Mae'r blaendal fel arfer yn 1 i 2 fis o rent ond gallai fod yn fwy.

Fel arfer mae'n rhaid i'ch landlord ddiogelu'ch blaendal a'i roi mewn cynllun diogelu blaendal nes i chi symud allan o'r eiddo.

Mae'r cynllun yn cadw'ch arian yn ddiogel ac yn sicrhau eich bod yn cael yr hyn sy'n ddyledus i chi yn ôl ar ddiwedd eich contract.

Talu blaendal ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022 

Mae’n rhaid i’ch landlord ddiogelu eich blaendal oni bai bod un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn byw gyda’ch landlord ac nid yw wedi cynnig contract meddiannaeth i chi

  • rydych yn denant gwarchodedig

Rhaid diogelu eich blaendal hyd yn oed os talodd rhywun arall amdano, er enghraifft eich rhieni neu ffrind.

Mae'n rhaid i'ch landlord ddiogelu'ch blaendal o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad y mae'n ei dderbyn.

Darllenwch eich datganiad ysgrifenedig

Byddwch yn cael datganiad ysgrifenedig ar ddechrau eich contract meddiannaeth. Mae’n nodi eich hawliau a’ch cyfrifoldebau – a rhai eich landlord.

Rhaid i’ch landlord roi datganiad ysgrifenedig i chi – os nad yw wedi rhoi datganiad ysgrifenedig i chi, gofynnwch iddynt am un.

Gwiriwch eich datganiad ysgrifenedig - dylai ddweud bod yn rhaid i'ch landlord ddiogelu'ch blaendal. Os nad yw’n gwneud hynny neu os nad ydych yn siŵr, siaradwch â chynghorydd.

Os gwnaethoch dalu blaendal cyn 1 Rhagfyr 2022

Mae'r rheolau y mae'n rhaid i'ch landlord eu dilyn i ddiogelu'ch blaendal yn dibynnu ar y sefyllfa.

Os oedd eich tenantiaeth yn dal i fod gennych ar 1 Rhagfyr 2022

Dylai eich landlord fod wedi diogelu eich blaendal os oedd gennych denantiaeth fyrddaliol sicr. Os nad ydych yn siŵr pa fath o denantiaeth oedd gennych, siaradwch â chynghorydd.

Mae eich tenantiaeth wedi dod yn ‘gontract wedi’i drawsnewid’. Mae'n rhaid i'ch landlord warchod eich blaendal o hyd.

Dylai eich blaendal fod wedi ei ddiogelu hyd yn oed os talodd rhywun arall amdano, er enghraifft eich rhieni neu ffrind.

Dylai eich landlord fod wedi diogelu eich blaendal o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad y cafodd ei dderbyn.

Darllenwch eich datganiad ysgrifenedig

Gwiriwch eich datganiad ysgrifenedig - dylai ddweud bod yn rhaid i'ch landlord ddiogelu'ch blaendal. Mae eich datganiad ysgrifenedig yn nodi eich hawliau a’ch cyfrifoldebau – a’ch landlord.

Os nad oes gennych ddatganiad ysgrifenedig, gofynnwch i’ch landlord am un. Rhaid iddynt roi datganiad ysgrifenedig i chi erbyn 1 Mehefin 2023.

Os nad yw eich datganiad ysgrifenedig yn dweud bod yn rhaid i’ch landlord ddiogelu eich blaendal neu os nad ydych yn siŵr, siaradwch â chynghorydd

Os gwnaethoch dalu eich blaendal ar ôl 6 Ebrill 2007 a daeth eich tenantiaeth i ben cyn 1 Rhagfyr 2022

Dylai eich landlord fod wedi diogelu eich blaendal os oedd gennych denantiaeth fyrddaliol sicr. Os nad ydych yn siŵr pa fath o denantiaeth oedd gennych, siaradwch â chynghorydd.

Pryd dylai eich blaendal fod wedi'i ddiogelu

Pan wnaethoch chi dalu eich blaendal                           

Pryd oedd angen gwarchod eich blaendal erbyn

Cyn 6 Ebrill 2012

6 Mai 2012

Ar neu ar ôl 6 Ebrill 2012

30 diwrnod ar ôl iddo gael ei dalu

Os gwnaethoch dalu’ch blaendal cyn 6 Ebrill 2007 a daeth eich tenantiaeth i ben cyn 1 Rhagfyr 2022

Os oedd gennych denantiaeth fyrddaliol sicr a ddechreuodd cyn 6 Ebrill 2007, efallai bod eich blaendal wedi'i ddiogelu. Os nad ydych chi’n siŵr pa fath o denantiaeth oedd gennych chi, siaradwch â chynghorydd.  

Mae'r rheolau'n dibynnu ar ba bryd y taloch chi'ch blaendal.

Eich sefyllfa                         

Pryd oedd angen diogelu eich blaendal erbyn

Daeth eich cyfnod penodol cyntaf i ben ar neu ar ôl 6 Ebrill 2007 ac ni wnaethoch adnewyddu eich tenantiaeth

23 Mehefin 2015

Gwnaethoch adnewyddu eich tenantiaeth am y tro cyntaf ar neu ar ôl 6 Ebrill 2007 a chyn 6 Ebrill 2012

6 Mai 2012

Gwnaethoch adnewyddu eich tenantiaeth am y tro cyntaf ar neu ar ôl 6 Ebrill 2012

30 diwrnod ar ôl adnewyddu eich tenantiaeth gyntaf

Nid oes angen i’ch landlord ddiogelu’ch blaendal os daeth eich cyfnod penodol cyntaf i ben cyn 6 Ebrill 2007 ac ni wnaethoch adnewyddu eich tenantiaeth.

Gwiriwch a yw'ch blaendal wedi'i ddiogelu

Dylai eich blaendal gael ei ddiogelu gan un o 3 darparwr cynllun diogelu blaendal:

Os nad yw eich landlord neu asiant gosod eiddo wedi dweud wrthych a ydynt wedi diogelu eich blaendal, edrychwch ar wefannau darparwyr y cynllun.

Bydd angen i chi nodi ychydig o fanylion, er enghraifft eich cod post, cyfenw a'r dyddiad y gwnaethoch ddechrau eich contract. Fe welwch y wybodaeth hon yn eich datganiad ysgrifenedig.

Efallai y bydd angen i chi nodi manylion unrhyw ddeiliaid contract ar y cyd os na allwch ddod o hyd i'r manylion o dan eich enw eich hun. Os ydych chi wedi adnewyddu eich contract, mae'n werth gwirio'r dyddiadau dechrau gwahanol hefyd.

Os na allwch ddarganfod a yw'ch blaendal wedi'i ddiogelu, siaradwch â rhywun ym mhob darparwr cynllun diogelu blaendal. Gallwch ddod o hyd i'w rhifau cyswllt ar eu gwefannau.

Os nad yw eich landlord wedi diogelu eich blaendal

Peidiwch â phoeni os nad yw eich landlord neu asiant gosod eiddo wedi diogelu eich blaendal pan ddylai fod wedi gwneud hynny - nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.

Byddwch yn dal i allu hawlio'n ôl yr arian sy'n ddyledus i chi ac efallai y byddwch yn gallu cael iawndal gan eich landlord.

Dysgwch sut i gael eich blaendal yn ôl.

Os cewch hysbysiad troi allan ‘dim bai’

Bydd yn rhaid i’ch landlord dalu’ch blaendal yn ôl i chi cyn y gall ddefnyddio hysbysiad dim bai i’ch troi allan os yw naill ai:

  • nid oedd eich blaendal wedi'i ddiogelu a dylai fod wedi'i ddiogelu

  • nad yw eich landlord wedi bodloni rheolau’r cynllun diogelu blaendal

Mae'n rhaid i'ch landlord hefyd roi 'gwybodaeth ragnodedig' i chi - mae hyn yn cynnwys manylion am yr eiddo a'ch blaendal. Ni allant eich troi allan gyda hysbysiad dim bai os nad ydynt wedi rhoi'r wybodaeth hon i chi neu os na wnaethant ei lofnodi i ddweud ei fod yn gywir.

Os yw'ch landlord yn rhoi'r wybodaeth ragnodedig i chi yn hwyr neu'n talu'ch blaendal yn ôl i chi, bydd yn gallu eich troi allan heb hysbysiad dim bai.

Gwiriwch beth allwch chi ei wneud os cewch hysbysiad dim bai. 

Siaradwch â chynghorydd os nad yw’ch landlord wedi diogelu’ch blaendal ac yn ceisio defnyddio hysbysiad dim bai i’ch troi allan.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.