Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Opsiynau Trafnidiaeth i bobol anabl

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Cadeiriau olwyn

Gall pobol sydd â’u hanawsterau cerdded yn rhai parhaol neu bron a bod yn barhaol gael benthyg cadair olwyn am ddim oddi wrth GIG. Mae manylion am wasanaethau cadeiriau olwyn lleol ar gael oddi wrth Feddygon Teulu, canolfannau iechyd lleol ac adrannau ffisiotherapi neu therapi galwedigaethol yr ysbyty lleol.

Gall GIG roi benthyg mwy nag un gadair olwyn os oes angen, er enghraifft, un i’w defnyddio gartref a’r llall i’w defnyddio yn y gwaith. Mae cynllun taleb cadair olwyn yn bodoli yn Lloegr. O dan y cynllun hwn, efallai y gallwch gael cadair ddrutach o’ch dewis trwy dalu’r gwahaniaeth rhwng gwerth y gadair safonol a gwerth yr un ddrutach. Bydd rhaid i’r gadair ddrud gael ei chymeradwyo gan GIG.

Yng Nghymru, os yw rhywun yn gymwys i gael cadair olwyn ond am “uwchraddio”, rhaid iddyn nhw drafod hyn gyda’r gwasanaeth cadair olwyn lleol.

Yn yr Alban mae byrddau iechyd unigol yn gweithredu eu polisïau eu hunain.

Yng Ngogledd Iwerddon mae’r Groes Goch yn gweithredu hurio cadair olwyn tymor byr. Fe allwch chi gysylltu â swyddfa Belffast ar 028 90246400. Mae’r gwasanaeth am ddim, er y croesewir cyfraniadau.

Os oes angen benthyg arian arnoch i brynu cadair fe allwch chi gael benthyciad yn un o’r ffyrdd arferol, er enghraifft, oddi wrth y banc. Mae’r cynllun hurbwrcas Motability ar gael i bobol sydd yn derbyn rhai budd-daliadau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Motability. Am y cyfeiriad a’r rhif ffôn - gweler o dan y pennawd Sefydliadau sy’n gallu rhoi cymorth a chyngor.

Nôl i’r brig


Trafnidiaeth preifat

Gyrru

Bydd yn rhaid i berson anabl sydd am drwydded gyrru dros dro ddarparu gwybodaeth am eu hanghenion arbennig ac efallai cael archwiliad meddygol. Os gwrthodir trwydded ar sail feddygol mae gennych hawl i apelio i lys ynadon (llys y siryf yn yr Alban). Mewn rhai achosion, gall person anabl ifanc gael trwydded yrru dros dro yn 16 oed yn lle 17 os ydynt yn derbyn rhai budd-daliadau arbennig.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thrwyddedau gyrru, gweler Trwyddedau gyrru.

Dylai pobol anabl gael asesiad i weld a fyddan nhw’n gallu gyrru ai peidio â pha fath o reolaeth ac offer fyddai eu hangen ar gyfer y cerbyd. Gallai fod gwersi ar gael oddi wrth hyfforddwr sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig ac mewn car sydd wedi’i addasu’n briodol. Gellir cael gwybodaeth am asesiad a hyfforddiant oddi wrth nifer o sefydliadau - gweler o dan y pennawd Sefydliadau sy’n rhoi cymorth a chyngor).

Prynu neu hurio cerbyd

Efallai y gall person anabl sydd am brynu cerbyd gael gostyngiad. Cysylltwch â gwerthwyr ceir a gofyn a ydyn nhw'n gweithredu unrhyw gynlluniau gostyngiad i yrwyr anabl.

Gall Motability werthu neu hurio ceir ail law neu geir newydd i unrhyw un sy’n derbyn cyfradd uwch yr elfen symudedd o’r lwfans byw i’r anabl neu atodiad symudedd pensiwn rhyfel. Am gyfeiriad Motability, gweler o dan y pennawd Sefydliadau sy’n rhoi cymorth a chyngor.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Lwfans Byw i’r Anabl, gweler Budd-daliadau i bobol sy’n sâl neu’n anabl.

Mae rhai cwmnïau hurio masnachol yn cynnig gostyngiadau i bobol anabl pan fyddan nhw’n hurio car neu fen. Mae’n werth gwirio i weld os oes gostyngiad ar gael.

Addasiadau i gerbydau

Efallai y bydd angen addasu car i weddu i anghenion person anabl. Am gyngor cyffredinol ynglŷn ag addasiadau, gweler gwefan Directgov yn: www.direct.gov.uk. Ar gyfer asesiad annibynnol o’ch anghenion addasiadau, cysylltwch â Fforwm Canolfannau Symudedd. Am fanylion cyswllt, gweler o dan y pennawd Sefydliadau sy’n rhoi cymorth a chyngor.

Rhyddhad o dreth ffordd

Bydd unrhyw gerbyd a ddefnyddir yn unig ar gyfer person anabl (pa un ai a ydynt yn yrrwr neu’n deithiwr) yn rhydd o dreth ffordd. Er mwyn cael rhyddhad o’r dreth, rhaid i’r person anabl fod naill ai:

  • yn derbyn cyfradd uwch yr elfen symudedd o’r lwfans byw i’r anabl; neu
  • yn derbyn atodiad symudedd pensiwn rhyfel.

Rhaid bod y cerbyd wedi’i gofrestru yn enw’r person anabl neu yn enw rhywun sydd wedi’i awdurdodi i weithredu ar eu rhan.

Consesiynau parcio

Mae cynllun y Bathodyn Glas (arferid cyfeirio at hwn fel cynllun y Bathodyn Oren) yn caniatáu grwpiau arbennig o bobol anabl i barcio mewn mannau parcio cyfyngedig. Er enghraifft, mae’r bathodyn glas yn galluogi pobol anabl i barcio am ddim a heb derfyn amser wrth fesuryddion parcio ar y stryd. Nid yw rhai bwrdeistrefi yn Llundain a chanol rhai trefi eraill yn gweithredu’r cynllun hwn. Fe ddylech chi wirio os ydyw’r cynllun yn gweithredu cyn parcio gyda’ch bathodyn glas.

Efallai y gallwch chi gael bathodyn glas os ydych chi’n yrrwr neu deithiwr sydd:

  • yn derbyn cyfradd uwch yr elfen symudedd o’r lwfans byw i’r anabl neu atodiad symudedd pensiwn rhyfel, neu os ydych chi wedi’ch cofrestru’n ddall
  • yn dair oed neu’n hŷn gydag anabledd parhaol a sylweddol sy’n golygu eich bod yn analluog i gerdded neu i gerdded gydag anhawster mawr yn unig
  • ag anableddau braich uchaf difrifol iawn (gyrwyr yn unig).

Yng Nghymru a Lloegr, rydych yn gallu cael bathodyn glas i blentyn rhwng 2 a 3 oed sydd ag anabledd parhaol a sylweddol. Er mwyn bod yn gymwys rhaid iddynt fod yn methu â cherdded neu’n medru cerdded gydag anhawster sylweddol yn unig.

Efallai y byddwch hefyd yn medru cael bathodyn glas i blentyn dan ddwy oed os oes gan y plentyn gyflwr meddygol sy’n gofyn am iddynt fod yn agos i gerbyd i gael triniaeth feddygol frys, neu os ydych chi am gludo offer meddygol swmpus gyda nhw.

I wneud cais am fathodyn glas yn Lloegr cysylltwch â’ch awdurdod lleol neu fe allwch ymgeisio ar-lein trwy wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk. Yng Nghymru, cysylltwch â’ch awdurdod lleol ac yng Ngogledd Iwerddon, yr Adran Datblygu Rhanbarthol. Yn yr Alban, cysylltwch â phrif weithredwr neu adran gwaith cymdeithasol yr awdurdod lleol neu ymgeisiwch ar-lein trwy DirectScot yn www.bluebadgescotland.org. Mae yna dâl bychan.

Os oes gennych fathodyn glas efallai y gallwch gael consesiynau parcio wrth deithio mewn gwlad arall sydd hefyd yn cydnabod y bathodyn. Sut bynnag, mae pob gwlad yn parhau i benderfynu ar ei set o gonsesiynau parcio ei hunan ar gyfer defnydd y bathodyn.

Fe allwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan yr Adran Drafnidiaeth yn:
www.mobility-unit.dft.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, fe allwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar wefan Gwasanaethau Ffyrdd yn: www.roadsni.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cynllun y Bathodyn Glas, rhowch glic ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.

Nôl i’r brig


Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae gan weithredwyr trafnidiaeth yr un dyletswyddau ag unrhyw ddarparwr gwasanaeth arall lle mae gwahaniaethu ar sail anabledd yn y cwestiwn. Mae hyn yn golygu na ddylen nhw eich trin chi’n llai ffafriol nag y bydden nhw’n trin person sy ddim yn anabl, oni bai eu bod yn gallu dangos fod cyfiawnhad i’r driniaeth. Mae hyn yn berthnasol i’r cerbyd ei hun yn ogystal ag i wasanaethau eraill a ddarperir gan y gweithredwr, megis gwybodaeth amserlen neu gyfleusterau mewn gorsaf. Nid yw’r rheolau hyn yn berthnasol i awyrennau a llongau ond mae gwasanaethau eraill a ddarperir gan gwmnïau awyrennau a llongau yn cael eu gwarchod.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â mynediad i nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.

Gwasanaethau Rheilffyrdd

Rhaid i bob gorsaf a gweithredwr trenau gael polisi amddiffyn pobl anabl a gymeradwyir gan Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd. Bydd y polisi yn nodi pa ddarpariaeth mae gorsaf neu weithredwr trenau yn eu cynnig i bobol anabl sy’n defnyddio’u gwasanaethau. Mae gwybodaeth am y gwasanaethau hyn a chopi o’r polisi amddiffyn ar gael oddi wrth weithredwr trenau neu’r orsaf leol. Ar y llaw arall, mae’r mwyafrif o awdurdodau lleol a Gweithrediaethau Cludiant Teithwyr (gweler o dan y pennawd Sefydliadau sy’n rhoi cymorth a chyngor) yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer teithwyr anabl sy’n ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth ar y cyfleusterau mewn gorsafoedd rheilffyrdd.

Os oes angen cymorth arnoch wrth deithio ar drên, er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn ac angen help i fynd ar y trên ac oddi arno, neu os oes nam ar y golwg ac angen cael eich tywys at y trên, cysylltwch â gweithredwr y trenau a gofynnwch iddynt am drefnu cymorth. Ceisiwch roi o leiaf 24 awr o rybudd i’r gweithredwr o pryd yr ydych yn bwriadu teithio a pha fath o gymorth sydd ei angen arnoch. Mae gan y mwyafrif o’r prif orsafoedd trenau aelod o staff sy’n delio â cheisiadau am gymorth. Bydd y person hwnnw yn gallu gwneud y trefniadau sydd eu hangen gyda chwmnïau gweithredu eraill.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn caniatáu Adran yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon i sicrhau bod pob trên a ddaeth i wasanaeth ar ôl 31 Rhagfyr 1998 ac a weithredir gan Reilffyrdd Gogledd Iwerddon yn hygyrch i bobol anabl.

Prisiau consesiwn

Os ydych chi’n anabl fe allwch chi brynu cerdyn rheilffordd person anabl sy’n rhoi hawl i chi ac oedolyn arall yn gydymaith i gael gostyngiad o un rhan o dair o bris y rhan fwyaf o docynnau trên. Mae ffurflenni cais ar gael o’r prif orsafoedd, neu oddi wrth Rail Travel Made Easy. Gall defnyddwyr presennol cerdyn rheilffordd adnewyddu eu cerdyn dros y ffôn - gweler o dan y pennawd Sefydliadau sy’n rhoi cymorth a chyngor am y cyfeiriad.

Yng Ngogledd Iwerddon, gall pobol anabl rhwng 16 a 65 oed deithio am hanner pris ar drenau (ar ôl 65 oed fe allwch chi deithio am ddim). Bydd angen i chi wneud cais i’r Cynllun Pris Consesiwn am docyn-smart hanner pris - gweler o dan y pennawd Sefydliadau sy’n rhoi cymorth a chyngor am fanylion cyswllt.

Cwynion

Os nad ydych yn hapus ag unrhyw drefniadau a wnaed neu unrhyw agwedd ar hygyrchedd cwynwch wrth y gweithredwr trenau. Os nad yw’r gweithredwr wedi cadw at delerau ei bolisi amddiffyn person anabl, dylid cwyno yn y lle cyntaf wrth y gweithredwr ac yna wrth y cwmni gwarchod defnyddwyr rheilffyrdd cenedlaethol, Passenger Focus.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gwyno am wasanaethau trên, gweler Trafnidiaeth Gyhoeddus.

Bysiau

Y tu allan i Lundain, mae’r mwyafrif o Awdurdodau Cludiant Teithwyr ac awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth gyhoeddus yn cyhoeddi canllawiau i deithwyr anabl. Yn Llundain, dylai person sydd ag ymholiad ynglŷn â mynediad anabledd i fysiau gysylltu â Transport for London Access and Mobility - ar gyfer y cyfeiriad gweler o dan y pennawd Sefydliadau sy’n rhoi cymorth a chyngor.

Mewn rhai ardaloedd mae yna gynlluniau Deialwch-am-fws sy’n darparu gwasanaeth o ddrws i ddrws i bobol anabl. Fe allwch chi gael gwybodaeth oddi wrth adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol neu gymdeithas leol ar gyfer pobol anabl.

Mae yna reoliadau sy’n ymwneud â bysiau moethus a bysiau fel bod pobol anabl yn gallu mynd a dod oddi arnynt yn ddiogel a gyda chysur rhesymol. Mae’r rhain yn dibynnu ar pryd y daeth y bws i wasanaeth, ond fe allan nhw gynnwys yr angen am rampiau, grisiau a seddau blaenoriaeth. Rhaid i yrrwr neu docynnwr eich helpu i ddod ar y bws ac oddi arno os ydych chi’n gofyn, oni bai fod pryderon iechyd a diogelwch ynglŷn â gwneud hynny.

Prisiau Consesiwn i bobol anabl yn Lloegr, Cymru a’r Alban

Yn Lloegr, mae gan bobol anabl yr hawl i deithio ar fws am ddim adeg oriau llai prysur a hynny ar fysiau unrhyw le yn Lloegr. Fe fyddan nhw hefyd yn derbyn unrhyw gonsesiynau ychwanegol y bydd yr awdurdod lleol yn dewis eu cynnig ar ben hynny.

Yn Lloegr a’r Alban, mae gan bobol anabl a chymdeithion hanfodol i bobol anabl yr hawl i gael pas bws am ddim.

Am fwy o wybodaeth am brisiau consesiwn i bobol anabl, gweler Trafnidiaeth Gyhoeddus.

Prisiau Consesiwn i bobol anabl yng Ngogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, mae pobol anabl rhwng 16-65 oed yn gallu teithio ar fysiau am hanner pris (ar ôl 65 oed fe allwch chi deithio am ddim). Bydd angen i chi wneud cais i’r Cynllun Pris Consesiwn am docyn-smart hanner pris - gweler o dan y pennawd Sefydliadau sy’n rhoi cymorth a chyngor am fanylion cyswllt.

Cwynion

Os ydych chi’n anfodlon ynglŷn â mynediad i wasanaeth bws, cwynwch wrth y gweithredwr bws. Efallai y byddwch chi hefyd am dynnu sylw cyfarwyddwr eich awdurdod lleol. Fe allai’r awdurdod lleol gydio yn y gwyn ond ni fydd ganddynt unrhyw bwerau ffurfiol i orfodi’r gweithredwr i ymateb.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gwyno am wasanaethau bws, gweler Trafnidiaeth Gynhoeddus.

Bysiau moethus

Mae darpariaethau cyffelyb ar gyfer mynediad anabledd i fysiau moethus ag sydd i fysiau - gweler uchod. Os ydych chi’n bwriadu teithio ar fws moethus efallai y byddwch am gysylltu â’r gweithredwr wrth drefnu’r daith er mwyn gadael i’r gweithredwr wybod pa drefniadau sydd eu hangen arnoch a gweld os ydyw’r cyfleusterau’n bod i gwrdd â nhw.

Gwasanaethau Tanddaearol

Mae darpariaethau cyffelyb ar gyfer mynediad anabledd i wasanaethau tanddaearol ag sydd i fysiau moethus a bysiau - gweler uchod. I wirio darpariaethau ar gyfer pobol anabl ar y gwasanaeth tanddaearol yn eich ardal, cysylltwch â Gweithrediaeth Cludiant Teithwyr (PTE) ar gyfer teithio y tu allan i Lundain, neu Transport for London’s Access and Mobility ar gyfer teithio yn Llundain - gweler o dan y pennawd Sefydliadau sy’n rhoi cymorth a chyngor am y cyfeiriadau.

Gall pobol anabl fod yn gymwys i gael prisiau consesiwn ar y trenau tanddaearol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gwyno am wasanaethau tanddaearol, am gyfeiriadau Gweithrediaethau Cludiant Teithwyr a mwy o wybodaeth am brisiau consesiwn, gweler Trafnidiaeth Gyhoeddus.

Tacsis a Cherbydau hurio preifat

Mae gofyn i yrwyr tacsis trwyddedig a cherbydau hurio preifat gario ci tywys a chi clywed, neu gi cymorth i deithio gyda pherson sy’n dioddef o epilepsi neu anabledd corfforol, a hynny am ddim. Gall gyrrwr wneud cais i gael ei eithrio o’r gofyn hwn er enghraifft, os ydyn nhw’n alergaidd i gŵn.

Yn Llundain, rhaid bod pob tacsi sydd newydd ei drwyddedu fod yn gallu cario cadair olwyn a rhaid i bob tacsi fod yn hygyrch i gadair olwyn erbyn 1 Ionawr 2012.

Yn Llundain, mae cynllun a elwir yn gynllun Taxicard yn rhoi cymhorthdal tuag at gostau tacsis ar gyfer pobol â phroblemau symudedd difrifol sy’n methu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Transport for London yn: www.tfl.gov.uk.

Ar wahân i’r ddarpariaeth ynglŷn â chŵn y soniwyd amdano eisoes, nid oes darpariaeth ar gyfer mynediad anabledd i gerbydau hurio preifat.

Mae Gogledd Iwerddon yn gweithredu gwasanaeth hurio tacsi cyhoeddus a phreifat. Mae tacsis hurio cyhoeddus (du) yn arddangos plât melyn a roddwyd gan Adran yr Amgylchedd ac yn gweithredu o safle tacsis. Mae gofyn iddyn nhw gario cŵn tywys a chlywed neu gwn cymorth fel ym Mhrydain. Rhaid iddyn nhw hefyd fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Nid yw hyn yn wir am dacsis hurio preifat.

Awyrennau

Os ydych chi’n bwriadu teithio mewn awyren fe ddylech chi roi gwybod i’ch asiant teithio neu'r cwmni awyrennau am eich anghenion arbennig a pha fath o gymorth bydd ei angen arnoch yn y maes awyr ac yn yr awyren ei hun.

Er enghraifft, efallai y bydd cadeiriau olwyn ar gael yn y meysydd awyr mawr ac efallai y bydd yn bosibl trefnu sedd arbennig ar yr awyren. Gall y cwmni awyrennau drefnu fod cludydd yn helpu gyda’r bagiau ac i rywun eich helpu trwy reolfan mewnfudo a thollau.

Yn ôl y gyfraith ni chaniateir i gwmnïau awyrennau na chwmnïau teithio i wrthod derbyn archebion oddi wrth deithwyr anabl. Mae hyn yn berthnasol i bob taith awyr sy’n gadael maes awyr yn yr Undeb Ewropeaidd ac i unrhyw daith awyr sy’n cyrraedd mewn gwlad UE ar gwmni awyrennau UE. Mae’r gyfraith hon yn gwarchod pobol na fyddai’n cael eu gwarchod fel arfer gan ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd, megis y rheiny ag anaf dros dro.

Nôl i’r brig


Cymorth gyda defnyddio trafnidiaeth

Gwasanaeth Hebrwng y Groes Goch

Mae’r Groes Goch yn darparu gwasanaeth hebrwng i alluogi pobol anabl i wneud teithiau byr neu hir y bydden nhw fel arall yn ei chael hi’n anodd eu gwneud. Mae gwasanaethau hebrwng yn cynnwys darparu cydymaith ar gyfer taith ar drafnidiaeth gyhoeddus, car preifat gyda gyrrwr neu ambiwlans y Groes Goch. Fe fydd tâl am y gwasanaeth hwn.

Gwasanaeth Cludiant Cleifion St John Cymru

Gall St John Cymru Wales ddarparu cludiant meddygol nad yw’n un brys i bobol sy’n cael anhawster defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu geir arferol. Fe allan nhw ddarparu cerbydau sy wedi’u haddasu’n arbennig i dderbyn cadeiriau olwyn ac ambiwlansys â chyfarpar llawn. Maen nhw hefyd yn darparu gwasanaeth ceir ysbyty i gleifion abl, yn cael eu gyrru gan yrwyr sydd wedi’u hyfforddi mewn cymorth argyfwng a thrafod â llaw. Bydd tal am yr holl wasanaethau hyn. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan St John Cymru Wales yn: www.stjohnwales.co.uk.

Nôl i’r brig


Sefydliadau sy'n rhoi cymorth a chyngor

Fforwm Canolfannau Symudedd

The Forum of Mobility Centres
C/O Providence Chapel
Warehorne
Ashford
Kent
TN26 2JX

Email: mobility@rcht.cornwall.nhs.uk
Website: www.mobility-centres.org.uk

Mae Fforwm Canolfannau Symudedd yn cynnwys 17 canolfan yn y DU sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth i’r gyrrwr hŷn a’r gyrrwr anabl.

Rail Travel Made Easy

PO Box 11631
Laurencekirk
AB30 9AA

Tel: 0845 605 0525
Textphone: 0845 601 0132
Email: disability@atoc.org
Website: www.disabledpersons-railcard.co.uk

Cynllun Prisiau Consesiwn (Gogledd Iwerddon)

Translink
Milewater Road
Belfast
BT3 9BG
Tel: 0845 600 0049

Canolfan Symudedd Banstead

Damson Way
Fountain Drive
Carshalton
Surrey SM5 4NR
Tel: 020 8770 1151

Mae’r ganolfan yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth am ddim ynglŷn â phob agwedd o symudedd awyr agored. Mae’n darparu asesiad o fedrau gyrru, cyngor ynglŷn â mathau priodol o gerbydau ac ar drawsnewidiadau ac addasiadau. Codir tâl am yr asesiad. Gall y ganolfan hefyd roi cyngor ynglŷn â chynlluniau cyllid a chonsesiynau i helpu prynu neu hurio cerbyd.

Disability Action (NI)

Portside Business Park
189 Airport Road West
Belfast
BT3 9ED

Tel: 028 9029 7880
Textphone: 028 9029 7882
Fax: 028 9029 7881
E-mail: hq@disabilityaction.org
Website: www.disabilityaction.org

Mai Disability Action (NI) yn darparu gwybodaeth ynglŷn â phob agwedd o anabledd. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth asesu, cyngor ynglŷn ag addasiadau i gerbydau a gwersi gyrru mewn ceir wedi’u haddasu’n arbennig.

Mobilise

Ashwellthorpe
Norwich
NR16 1EX
Tel: 01508 489449
Fax: 01508 488173
E-mail: enquiries@mobilise.info
Website: www.mobilise.info

Mae’r elusen hon yn ganlyniad cyfuno Cymdeithas Gyrwyr Anabl a Chlwb Ceir Gyrwyr Anabl. Ei fwriad yw gwarchod lles gyrwyr anabl ac i annog a helpu pobol anabl i ennill mwy o symudedd.

Motability

Mae Motability yn cyflenwi ceir, sgwteri a chadeiriau olwyn i bobol anabl.

Motability

City Gate House
22 Southwark Bridge Road
London
SE1 9HB

Telephone: 0845 456 4566
Minicom: 0845 675 0009
Website: www.motability.co.uk

Gweithrediaeth Cludiant Teithwyr

Am gyfeiriadau Gweithrediaethau Cludiant Teithwyr rhanbarthol, gweler Trafnidiaeth Gyhoeddus.

Passenger Focus

Passenger Focus yw’r sefydliad gwarchod defnyddwyr rheilffyrdd cenedlaethol annibynnol.

I wybod sut mae cysylltu â Passenger Focus, gweler Trafnidiaeth Gyhoeddus.

Transport for London Assisted Travel

Tel: 0843 222 1234
Website: www.tfl.gov.uk

Scottish Driving Assessment Service

Astley Ainslie Centre
133 Grange Loan
Edinburgh EH9 2HL
Tel: 0131 537 9192
Fax: 0131 537 9193

Mae’r Scottish Driving Assessment Service yn cynnig cyngor i bobol anabl sydd am yrru. Mae hefyd yn cynnig asesiad ynglŷn â ffitrwydd i yrru.

Mobility and Access Committee for Scotland (MACS)

Tel: 0131 244 0869
E-mail: macs@scotland.gsi.gov.uk
Website: www.scotland.gov.uk

Mae MACS yn bwyllgor ymgynghorol i Lywodraeth yr Alban ac yn cynrychioli anghenion cludiant pobol anabl yn y Alban. Er na all drafod cwynion unigol, fe all drosglwyddo gwybodaeth am broblemau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus a brofir gan bobl ag anableddau.

Enable (Scotland)

Enable National Office (Scotland)
2nd Floor
146 Argyle Street
Glasgow
G2 8BL
Ffôn: 0141 226 4541
Ffacs: 0141 204 4398
E-bost: enabledirect@enable.org.uk
Gwefan: www.enable.org.uk

Enable yw’r pwynt cyswllt ar gyfer y cynllun Thistle Travel yn yr Alban. Am wybodaeth am y cynllun, gweler o dan y pennawd Gwasanaethau Hebrwng a chymorth arall.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback