The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Problemau gyda gwyliau
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ydy eich gwyliau yn wyliau pecyn
Bydd yr opsiynau sydd ar gael i ddatrys eich problem gwyliau yn dibynnu os yw’r gwyliau a brynoch chi yn wyliau pecyn, neu’n un a brynwyd yn uniongyrchol gyda darparwyr eich trafnidiaeth a’ch llety. Os ydych chi wedi archebu gwyliau pecyn, fe fydd gennych hawliau ychwanegol.
Mae’ch gwyliau yn debygol o fod yn wyliau pecyn os yw:
- wedi’i drefnu ymlaen llaw; a
- wedi’i gwerthu am bris cynhwysol; a
- yn cynnwys cyfnodau o dros 24 awr neu lety dros nos; a
- yn cynnwys o leiaf dau o’r canlynol: trafnidiaeth, llety neu
- wasanaethau eraill i dwristiaid. Gall gwasanaethau eraill i dwristiaid gynnwys teithiau, hawliau pysgota, neu hurio car.
Enghraifft o wyliau pecyn yw un yr ydych yn ei dewis o bamffled trefnydd gwyliau, ac yn un sy’n cynnwys taith hedfan ac aros am saith noson mewn gwesty.
Nid yw’ch gwyliau yn debygol o fod yn wyliau pecyn os archeboch chi holl elfennau’r gwyliau ar wahân, er enghraifft fe archeboch chi’r daith hedfan yn uniongyrchol oddi wrth y cwmni awyrennau, ac fe archeboch chi’r llety yn ystod sgwrs ar y ffôn gyda’r gwesty.
Gall gwyliau a archebir ar y rhyngrwyd fod yn wyliau pecyn o hyd, yn enwedig os archeboch chi ac y taloch chi am bopeth yr un pryd.
Os nad ydych yn siwr a ydy’r gwyliau brynoch chi yn wyliau pecyn, fe ddylech chi gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cansladau
Chi’n canslo
Os ydych chi’n canslo’ch gwyliau, er enghraifft, oherwydd salwch neu oherwydd na allwch chi bellach fforddio mynd ar wyliau, fel arfer fe gollwch chi’ch blaendal neu bydd yn rhaid i chi dalu tâl canslo. Gall hyn fod yn gost lawn y gwyliau bron. Mae hyn oherwydd eich bod wedi torri telerau’r cytundeb wnaethoch chi gyda’r gwerthwr gwyliau pan archeboch chi’r gwyliau.
Fel arfer bydd y cytundeb yn dweud os oes rhaid talu tâl canslo. Os bydd rhaid, bydd y swm a roddir fel arfer yn ymrwymol. Os nad ydyw’r cytundeb yn caniatáu canslo, fe fyddwch chi’n atebol am unrhyw golledion y bydd gan y masnachwr. Gwiriwch i weld os ydyw’ch yswiriant gwyliau yn gwarchod cost canslo.
Byddwch yn ofalus os ydych yn ystyried atal eich siec, gan y gall y trefnydd teithiau fynd â chi i’r llys am iawndal.
Chi’n canslo gwyliau pecyn
Os ydych chi wedi archebu gwyliau pecyn, fe allwch chi ei ganslo dim ond os ydyw wedi newid yn sylweddol cyn i chi adael - gweler Newidiadau i wyliau pecyn, o dan y pennawd Newidiadau i’ch gwyliau. Os yw’ch trefnydd teithiau yn aelod o Gymdeithas Trefnwyr Gwyliau Prydain (ABTA), rhaid bod y taliadau canslo wedi’u dangos yn y pamffled gwyliau.
Os na allwch chi bellach fynd ar eich gwyliau pecyn am resymau sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth chi, er enghraifft marwolaeth perthynas agos, efallai y gallwch chi drosglwyddo'ch archeb i rywun arall. Mae’n annhebygol y byddwch chi’n gallu trosglwyddo’ch archeb dim ond achos eich bod wedi newid eich meddwl ynglŷn â theithio.
Y masnachwr gwyliau yn canslo
Unwaith y caiff eich archeb ei gadarnhau, mae yna gytundeb ymrwymol rhyngoch chi a’r masnachwr gwyliau. Ni all y masnachwr gwyliau ganslo’r trefniadau heb dorri’r cytundeb. Os torrir y cytundeb, fe fyddwch chi’n gymwys i hawlio iawndal, er enghraifft i warchod unrhyw golled ariannol ddaeth i’ch rhan, neu siom ac anghyfleustra.
Os nad ydyw’r archeb wedi’i gadarnhau, nid oes cytundeb a gall y masnachwr gwyliau ganslo’r trefniadau os dymunant wneud hynny. Allwch chi ddim mynnu fod y trefniadau yn mynd ymlaen - gweler o dan y pennawd I bwy mae cwyno.
Y masanachwr gwyliau yn canslo’ch gwyliau pecyn
Os bydd eich trefnydd teithiau yn canslo’ch gwyliau pecyn, bydd sawl opsiwn gennych. Fe allwch ddewis i:
- dderbyn gwyliau amgen o safon gyffleyb neu well
- dderbyn gwyliau amgen o safon is a hawlio ad-daliad o’r gwahaniaeth yn y gost
- ganslo’r gwyliau a chael eich arian yn ôl.
Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu hawlio iawndal os bydd eich gwyliau yn cael eu canslo. Sut bynnag, fyddwch chi ddim yn gymwys i wneud cais am iawndal os nad oedd digon o bobol wedi archebu’r gwyliau pecyn. Rhaid i’r trefnydd teithiau eich rhybuddio yn ysgrifenedig pan fyddwch chi’n archebu’r gwyliau, os oes angen isafswm o bobol er mwyn i’r gwyliau fynd yn eu blaen. Rhaid eich hysbsysu hefyd ynglŷn â pha bryd y dywedir wrthych os nad yw’r rhif hwn wedi’i wireddu a bod yn rhaid canslo’r gwyliau.
Fe fyddwch chi hefyd yn methu hawlio iawndal os bydd yn rhaid canslo’ch gwyliau pecyn oherwydd amgylchiadau anghyffredin ac annisgwyl oedd y tu hwnt i reolaeth y trefnydd teithiau ac na ellid fod wedi’u hosgoi.
Cynnydd yn y prisiau
Mae’r cwestiwn a fydd yn rhaid i chi dalu pris cynyddol neu dâl cynyddol ar eich gwyliau ai peidio yn dibynnu ar y ffaith a yw’r gwyliau wedi’i archebu a’i gadarnhau ai peidio.
Os nad yw’r archeb wedi’i dderbyn na’i gadarnhau, nid oes cytundeb wedi’i wneud ac fe ellir cynyddu’r pris.
Os ydyw’r archeb wedi’i dderbyn a’i gadarnhau fe fydd rhaid i chi dalu’r cynnydd neu’r tâl ychwanegol dim ond os yw amodau’r archebu yn caniatau hynny. Weithiau mae’r cytundeb yn caniatau cynnydd neu dâl ychwanegol, ond yn cyfyngu ar pa bryd y gellir gwneud hynny. Yn yr achos hwn, bydd rhaid i chi dalu’r cynnydd neu’r tâl ychwanegol dim ond os caniateir hynny gan y cytundeb.
Mae’n drosedd i roi gwybodaeth camarweiniol neu ffug ynglŷn â phrisiau. Byddai hyn yn cynnwys methu gwneud yn glir y gellid cynyddu’r pris ac o dan pa amgylchiadau y gallai hyn ddigwydd. Os ydych chi’n credu fod y pris a roddwyd i chi yn gamarweiniol, fe ddylech chi gwyno wrth Cyswllt Defnyddwyr Cymru/Consumer Direct ar: 08454 04 05 06.
Cynnydd yn y prisiau i wyliau pecyn
Pan fyddwch chi’n archebu gwyliau pecyn, yr ydych yn cychwyn ar gytundeb gyda’r masnachwr gwyliau sydd o reidrwydd yn cynnwys manylion am bris y gwyliau a’r amgylchiadau all arwain at gynnydd yn y pris. Mae yna reolau arbennig ynglŷn â phryd y gellir newid pris gwyliau pecyn. Ar ôl i chi brynu gwyliau pecyn, gellir newid y pris dim ond os:
- bydd eich cytundeb yn cynnwys term sy’n dweud sut y cyfrifir y newid yn y pris; a
- bydd y cynnydd neu’r gostyngiad yn mynd i ddigwydd dim ond oherwydd newid yng nghost trafnidiaeth, ffioedd a thollau neu newid yn y gyfradd gyfnewid; a
- mae o leiaf 30 diwrnod cyn i chi adael; a
- mae’r cynnydd yn fwy na 2%.
Os nad yw pob un o’r amodau hyn yn cael eu hateb, ni ellir newid pris gwyliau pecyn. Os ydyw’r amodau yn cael eu hateb ac mae’r cynnydd yn y pris yn 10% neu fwy, mae’n debygol y byddwch chi naill ai’n gallu dewis gwyliau amgen neu ganslo’r gwyliau. Mae hyn oherwydd edrychir arno fel newid arwyddocaol i’ch gwyliau (gweler Newidiadau i wyliau pecyn, o dan y pennawd Newidiadau i’ch gwyliau).
Newidiadau i’ch gwyliau
Os ydyw’ch archeb wedi’i gadarnhau fe fydd cytundeb ymrwymol rhyngoch chi a’r masnachwr gwyliau lle archeboch chi. Os newidir y trefniadau wedyn a’r newidiadau hynny’n arwyddocaol, fe allwch chi naill ai dderbyn y newid neu ganslo’r gwyliau a gofyn am ad-daliad. Efallai y byddwch chi hefyd yn gymwys i hawlio iawndal am unrhyw golled y dioddefoch chi o ganlyniad i ganslo’r gwyliau, er enghraifft siom neu anghyfleustra. Os derbyniwch chi’r newid naill ai o dan brotest neu oherwydd nad oes dewis gennych, efallai y byddwch chi o hyd yn gallu hawlio iawndal. Os nad ydych chi’n derbyn y newid fe allwch chi ganslo’r gwyliau, ond yn gymwys i dderbyn iawndal dim ond os yw’r newid yn golygu y byddwch chi ar eich colled. Os nad yw’r newid i’ch trefniadau gwyliau yn arwyddocaol, fyddwch chi ddim yn gallu canslo’r gwyliau, ond efallai y byddwch chi’n gallu hawlio iawndal oherwydd bod y masnachwr gwyliau wedi torri un o delerau’r cytundeb.
Gall rhai telerau cytundeb fod yn annheg i’r cwsmer. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys telerau cytundeb wedi’u hysgrifennu yn y fath fodd fel nad ydych yn gallu eu deall, neu delerau sy’n mynd â’ch hawliau cyfreithiol oddi arnoch. Os ydych chi’n credu fod un o delerau’r cytundeb gyda’ch masnachwr gwyliau yn annheg, fe ddylech chi ymgynghori ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os newidir trefniadau’r gwyliau ar yr adeg pan fyddwch chi’n archebu’r gwyliau fydd yna ddim cytundeb oni bai eich bod chi a’r masnachwr gwyliau wedi cytuno ar fanylion y trefniant. Er enghraifft, os ydych chi’n ysgrifennu i archebu ystafell ddwbl gyda bath ac mae’r gwesty’n derbyn yr archeb, ond yn nodi nad oes ystafelloedd â bath ar gael, nid oes cytundeb. Fe allwch chi wrthod derbyn cynnig y gwesty o ystafell heb fath ac fe fyddwch yn gymwys i dderbyn ad-daliad o unrhyw arian a dalwyd.
Os nad ydych yn cwestiynu’r trefniadau a newidiwyd, bydd hyn yn awgrymu eich bod yn derbyn y newid.
Newidiadau i wyliau pecyn
Mae yna reolau arbennig ynglŷn â pha bryd y gellir newid gwyliau pecyn.
Gall gwyliau pecyn gael ei newid o’r disgrifiad sydd yn y pamffled gwyliau pan:
- fydd gosodiad yn gynwysedig yn y pamffled gwyliau yn nodi y gellir newid; a
- ddywedir wrthych am y newid cyn i chi brynu’r gwyliau pecyn.
Os newidir y gwyliau pecyn, ond bod dim gosodiad yn y pamffled gwyliau ac ni ddywedwyd wrthych am y newid cyn i chi brynu’r gwyliau, gall y newid ddigwydd dim ond os ydych chi a’r trefnydd teithiau yn cytuno i’r newid. Os nad ydych yn cytuno i’r newid, efallai y bydd eich cytundeb wedi’i dorri, ac fe fyddwch yn gallu hawlio iawndal. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gwyno pan fydd eich cytundeb wedi’i dorri, gweler o dan y pennawd Sut i ddelio â’ch problem gwyliau.
Os bydd yn rhaid i’ch trefnydd teithiau newid eich gwyliau pecyn yn sylweddol cyn i chi fynd i ffwrdd, er enghraifft, newid y dyddiad gadael, rhaid dweud wrthych cyn gynted ag sy’n bosibl. Bydd sawl opsiwn gennych wedyn. Fe allwch chi ddewis:
- derbyn gwyliau amgen o safon gyffelyb neu well
- derbyn gwyliau amgen o safon is a hawlio ad-daliad o’r gwahaniaeth yn y gost
- canslo’r gwyliau a chael eich arian yn ôl.
Rhaid i chi ddweud wrth y trefnydd teithiau pa opsiwn yr ydych am ei ddewis cyn gynted ag sy’n bosibl.
Mae’ch gwyliau wedi’u gorfwcio
Gorfwcio trafnidiaeth
Os ydych chi wedi archebu eich trafnidiaeth yn uniongyrchol oddi wrth y cwmni teithio, er enghraifft cwmni trenau, coetsus neu fferi, fe fyddwch mwy na thebyg yn gallu hawlio iawndal dim ond os oedd seddau penodol wedi’u cadw i chi neu os oedd y tocyn yn nodi taith arbennig neu wasanaeth. Os mai hyn sy’n wir, efallai y byddwch yn gallu hawlio am ‘dor-cytundeb’ ac unrhyw dreuliau anochel ddaeth i’ch rhan o ganlyniad i’r oedi, megis costau prydau bwyd a llety dros nos. Sut bynnag, mwy na thebyg bydd angen i chi fynd i’r llys i wneud hyn. Fe ddylech chi wirio eich yswiriant teithio i weld os ydyw’n eich gwarchod rhag oediadau a achosir gan orfwcio, gan y bydd mwy na thebyg yn haws hawlio ar eich yswiriant na mynd drwy’r llysoedd.
Yn Lloegr a Chymru, am fwy o wybodaeth ynglŷn â gorfwcio trafnidiaeth, gweler Gorfwcio yn y taflenni ffeithiau i Ddefnyddwyr.
Teithiau hedfan wedi’u gorfwcio
Mae yna reolau arbennig ynghylch teithiau hedfan sydd wedi’u gorfwcio o feysydd awyr yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r rheolau yn berthnasol hefyd i deithiau hedfan o feysydd awyr y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ond sy’n hedfan i mewn i faes awyr yn yr Undeb Ewropeaidd, ar gwmni hedfan Undeb Ewropeaidd. Mae’r rheolau hyn yn berthnasol dim ond os gwrthodwyd i chi fynd ar yr awyren, nid os gynigioch chi fynd ar daith hedfan arall. O dan y rheolau hyn fe allwch chi gael iawndal am y gorfwcio, cyhyd â’ch bod yn cwrdd ag amodau arbennig. Rhaid i chi gael tocyn dilys, sydd wedi’i gadarnhau ar gyfer y daith hedfan sydd wedi’i gorfwcio, a rhaid eich bod chi wedi cofrestru erbyn yr amser terfynol a roddwyd i chi gan y cwmni hedfan.
Cyhyd â’ch bod yn cwrdd â’r holl amodau hyn fe fydd gennych hawl:
- i gael ad-daliad llawn am eich tocyn a thaith hedfan yn ôl am ddim i fan cychwyn eich taith, os bydd angen un arnoch; neu
- i gael taith hedfan arall cyn gynted ag sy’n bosibl neu ar ddyddiad diweddarach o’ch dewis.
Fe fydd gennych hawl hefyd i gael:
- iawndal mewn arian parod, neu siec neu drosglwyddiad banc. Bydd y swm gewch chi yn dibynnu ar hyd y daith a pha mor hwyr y byddwch chi’n cyrraedd diwedd eich taith; a
- dwy alwad ffôn, neu e-byst, neu delecs neu ffacs; a
- prydau bwyd a lluniaeth rhesymol os bydd rhaid i chi aros am daith hedfan hwyrach; a
- llety mewn gwesty os bydd yr oedi yn golygu aros dros nos.
Os ydyw’ch taith hedfan wedi’i gorfwcio dylai’r cwmni hedfan roi ffurflen i chi sy’n nodi pa iawndal sydd ar gael.
Os nad yw’r rheolau sy’n berthnasol i deithiau awyren yr UE yn berthnasol, efallai y byddwch chi o hyd yn gallu cael iawndal am orfwcio. Bydd angen i chi wirio gyda’r cwmni hedfan os oes iawndal ar gael ar gyfer eich amgylchiadau arbennig chi.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gorfwcio ar bob taith hedfan, gweler gwefan yr Awdurdod Hedfan Sifil yn: www.caa.co.uk.
Yn Lloegr a Chymru, am fwy o wybodaeth ynglŷn â theithiau hedfan wedi’u gorfwcio, gweler Gorfwcio yn y taflenni ffeithiau i Ddefnyddwyr.
Llety wedi’i orfwcio
Os nad yw’ch llety ar gael oherwydd gorfwcio, rhaid cynnig naill ai llety amgen rhesymol neu ad-daliad llawn. Fe fyddwch hefyd yn gallu hawlio iawndal i warchod costau ychwanegol y bu’n rhaid i chi eu talu, ac i warchod colli pleser ac anghyfleustra.
Os ydych chi’n derbyn llety amgen ond heb fod yn hapus ag ef, efallai y gallwch chi o hyd gael iawndal os wnaethoch chi’r peth yn glir fod y llety amgen wedi’i dderbyn o ‘dan brotest’.
Os oedd y llety amgen a gynigiwyd o safon gyffelyb i’r llety a archebwyd gennych, mae’n annhebygol y cewch chi iawndal oni bai eich bod wedi ei wneud yn glir adeg yr archebu ei fod yn bwysig i chi aros yn y gwesty arbennig hwnnw. Er enghraifft, roedd y llety amgen a gynigwyd mewn lleoliad fyddai’n ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddiwr cadair olwyn i gymryd mantais o amwynderau neu gyfleusterau lleol.
Yn Lloegr a Chymru, am fwy o wybodaeth ynglŷn â gorfwcio trafnidiaeth, gweler Gorfwcio yn y taflenni ffeithiau i Ddefnyddwyr.
Gorfwcio mewn gwyliau pecyn
Os ydyw’ch trafnidiaeth neu lety wedi’u gorfwcio ar wyliau pecyn, mae’r trefnydd teithiau yn gyfrifol am ddelio â’r broblem a thalu iawndal i chi. Sut bynnag, gall y trefnydd teithiau ddweud wrthych am gwyno wrth y cwmni a ddarparodd y drafnidiaeth neu’r llety.
Os yw’r trefnydd teithiau yn methu delio â’ch cwyn fe ddylech chi gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Oedi a Chanslo
Mae yna reolau arbennig sy’n gwarchod achosion o oedi a chanslo teithiau hedfan o feysydd awyr yn yr Undeb Ewropeaidd, Mae’r rheolau hyn hefyd yn berthnasol i deithiau hedfan o feysydd awyr y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ond yn hedfan i faes awyr Undeb Ewropeaidd, ar gwmni awyrennau Undeb Ewropeaidd.
Os nad yw’r rheolau sy’n berthnasol i deithiau hedfan UE yn berthnasol, fe allwch chi o hyd gael iawndal am oedi chanslo. Bydd angen i chi wirio gyda’ch cwmni awyrennau os oes iawndal ar gael i’ch amgylchiadau arbennig chi.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag oedi a chanslo ar gyfer pob taith hedfan wrth deithio yn yr awyr, gweler gwefan yr Awdurdod Hedfan Sifil yn: www.caa.co.uk.
Cofiwch ddarllen eich yswiriant gwyliau bob tro gan y gall hyn gynnwys darpariaeth ar gyfer oediadau neu gysylltiadau teithio a gollwyd.
Oediadau i wyliau pecyn
Os oedd oedi i’ch taith ar wyliau pecyn, rhai i’r cwmni teithio neu’r trefnydd teithiau ddilyn y trefniadau a osodwyd allan yn y llyfryn gwyliau i warchod oediadau. Os na ddilynir y trefniadau hyn, efallai y byddwch yn gallu hawlio iawndal. Gallai hwn gynnwys ad-daliad o unrhyw arian yr ydych wedi’i dalu a, mewn rhai achosion, iawndal am golledion ychwanegol.
Efallai na fyddwch yn gymwys i dderbyn iawndal os achoswyd yr oedi i’ch taith:
- gennych chi; neu
- drydydd parti heb gysylltiad â threfniadau'r gwyliau pecyn, oni bai y gellid fod wedi rhagweld ac osgoi'r rhain. Er enghraifft, os ydych chi’n teithio i ardal lle mae twristiaid yn tueddu i gael eu haflonyddu, mae’n ddyletswydd ar eich trefnydd teithiau i’ch rhybuddio am hyn;
- amgylchiadau anghyffredin neu annisgwyl sydd y tu hwnt i reolaeth y trefnydd teithiau neu gyflenwr y gwasanaeth, er enghraifft, tywydd gwael anghyffredin.
Gall y cwmni teithio neu’r trefnydd teithiau geisio gwadu cyfrifoldeb am yr oedi neu anghytuno ynglŷn â swm yr iawndal. Os digwydd hyn, fe ddylech chi weld ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Doedd eich gwyliau ddim yn ôl y disgwyl
Efallai nad oedd eich gwyliau yn ôl y disgwyl oherwydd:
- llety gwael
- doedd y cyfleusterau yn y llety neu le gwyliau ddim yn debyg i’r hyn yr arweiniwyd chi i’w ddisgwyl
- roedd y gwesty heb ei orffen
- doedd y lle gwyliau ddim fel y disgwyl
- roedd yr ardal o gwmpas yn swnllyd a brwnt, er enghraifft, roedd y gwesty cefn wrth gefn â maes awyr neu safle adeiladu
- doedd y gwyliau ddim yn ôl y disgrifiad yn y pamffled gwyliau.
Os nad oedd y gwyliau fel yr hyn yr arweiniwyd chi i’w gredu, efallai y byddwch yn gallu hawlio iawndal.
Sut bynnag, os nad oedd y gwyliau fel yr oeddech wedi disgwyl iddo fod oherwydd ei fod yn wahanol i’r deunydd hysbysebu yr ydych wedi’i weld neu i hysbyseb, efallai na fyddwch yn gallu hawlio iawndal. Y rheswm am hyn yw nad yw deunydd marchnata a hysbysebion yn ffurfio rhan o’r cytundeb wnaethoch chi gyda’r cwmni teithio pan archeboch chi’r gwyliau.
Rhaid i ddisgrifiadau i wyliau fod yn llawn a chywir. Os nad oedd y disgrifiad o’ch gwyliau yn un cywir, efallai fod trosedd wedi’i chyflawni o dan Ddeddf Disgrifiadau Masnach ac fe ddylech gwyno wrth Gyswllt Defnyddwyr Cymru (Consumer Direct) ar: 08454 04 05 06.
Nid oedd eich gwyliau pecyn fel yr oeddech wedi’i ddisgwyl
Os archeboch chi wyliau pecyn ac y mae’n sylweddol wahanol i’r un yr oeddech yn ei ddisgwyl, rhaid i’ch trefnydd teithiau ymdrechu i unioni pethau cyn gynted ag sy’n bosibl. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, cynnig llety amgen i chi lle mae hyn yn bosibl. Os nad yw hyn yn bosibl, fe ddylid rhoi cludiant i chi am ddim i rywle y gallwch chi wneud eich ffordd eich hunan adref, er enghraifft, maes awyr neu orsaf drenau. Os oes rhaid i chi wneud eich ffordd eich hunan adref, efallai y byddwch yn gallu hawlio iawndal oddi wrth eich trefnydd teithiau am y gost ychwanegol y bu’n rhaid talu.
Os na wnaeth y trefnydd teithiau unrhyw ymdrech i unioni pethau cyn gynted ag sy’n bosibl, neu os nad oeddech chi’n hapus gyda’r trefniadau amgen a gynigiwyd, efallai y byddwch yn gallu hawlio iawndal. Gallai hyn fod, er enghraifft, am y gwahaniaeth yng nghost y llety a roddwyd i chi, os oedd o safon is, neu fe allai fod am y siom a’r anghyfleustra a brofwyd gennych.
Efallai na fyddwch yn gymwys i dderbyn iawndal os ydyw’r rheswm pam nad oedd eich gwyliau fel yr oeddech chi’n ei ddisgwyl oherwydd:
- chi; neu
- trydydd parti heb gysylltiad â threfniadau'r gwyliau pecyn, oni bai y gellid fod wedi rhagweld ac osgoi'r rhain. Er enghraifft, os ydych chi’n teithio i ardal lle mae twristiaid yn tueddu i gael eu haflonyddu, mae’n ddyletswydd ar eich trefnydd teithiau i’ch rhybuddio am hyn;
- amgylchiadau anghyffredin neu annisgwyl sydd y tu hwnt i reolaeth y trefnydd teithiau neu gyflenwr y gwasanaeth, er enghraifft, tywydd gwael anghyffredin.
Anaf personol neu salwch
Os cewch chi’ch anafu neu os ewch chi’n sâl yn ystod eich gwyliau, efallai y byddwch yn gallu hawlio iawndal i warchod eich colledion.
Os archeboch chi’ch gwyliau trwy gwmni sy’n aelod o ABTA, efallai y gallwch hawlio iawndal trwy un o’r cynlluniau a weithredir gan ABTA.
Os oes rhaid i chi hawlio am fan salwch neu anaf, fe allwch hawlio trwy gynllun cyflafareddu annibynnol ABTA. Fe ellir dyfarnu i fyny at £1000 y person trwy’r cynllun hwn.
Os ydych chi am hawlio yn erbyn anaf personol difrifol, mae yna gynllun cyflafareddu ar wahân gan ABTA o’r enw RAPID y gellid ei ddefnyddio. Mae yna dâl am gael defnyddio’r cynllun hwn, ond ad-delir hwn os bydd eich cais yn llwyddiannus. Y terfyn amser ar gyfer gwneud cais i ddefnyddio’r gwasanaeth yw naw mis o ddiwedd y gwyliau.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynllun cyflafareddu annibynnol ABTA, gweler gwefan ABTA yn: www.abta.com.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynllun cyflafareddu ABTA o’r enw RAPID gweler gwefan ABTA yn: www.abta.com.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag ABTA gweler o dan y pennawd Cymorth ychwanegol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawlio am anafiadau personol neu salwch, yn Lloegr a Chymru, gweler Anafiadau personol. Yn yr Alban, gweler Anafiadau personol.
Y masnachwr gwyliau yn mynd allan o fusnes
Bydd y math o warchod sydd gennych os aiff y masnachwr gwyliau allan o fusnes yn dibynnu ar y math o wyliau brynoch chi.
Gwyliau pecyn gyda thaith hedfan
Os archeboch chi wyliau pecyn sy’n cynnwys taith hedfan fe fyddwch yn cael eich gwarchod gan gynllun Trwydded Trefnwyr Teithiau Hedfan (ATOL). Mae hyn yn golygu:
- y cewch chi ad-daliad o gost lawn y gwyliau, os nad ydych chi wedi teithio eto; neu
- os ydych chi wedi teithio eisoes, bydd ATOL yn cwrdd â gweddill cost eich gwyliau fel na fydd rhaid i chi ddod adref yn gynnar; neu
- os na ellir gwneud trefniadau i chi orffen gweddill eich gwyliau, bydd ATOL yn gwneud yn siŵr na fyddwch yn stranded; neu
- fe gynigir gwyliau amgen i chi, os archebwyd y gwyliau trwy fanwerthwr, megis asiant teithio.
Er mwyn dod i wybod mwy ynglŷn â sut i hawlio o dan gynllun ATOL, ewch i: www.atol.org.uk.
Gwyliau pecyn heb daith hedfan
Os archeboch chi wyliau pecyn sy ddim yn cynnwys taith hedfan, rhaid bod y trefnydd yn gallu:
- ad-dalu cost lawn eich gwyliau, os nad ydych wedi teithio eto
- gwarchod cost eich taith yn ôl adref, os ydych chi wedi cael eich hun heb ffordd adref ar eich gwyliau pan mae’r cwmni gwyliau yn mynd allan o fusnes.
Os nad ydyw’r trefnydd yn gallu gwneud un o’r pethau hyn, fe ddylech chi gwyno wrth Gyswllt Defnyddwyr Cymru/Consumer Direct ar: 08454 04 05 06.
Os ydych chi’n cael anhawster yn cael eich arian yn ôl ar ôl i’r masnachwr gwyliau fynd allan o fusnes a chwithau wedi talu am eich gwyliau gyda cherdyn credyd, fe allwch chi hefyd hawlio yn erbyn eich cwmni cerdyn credyd. Fe ddylech chi wirio os ydych chi wedi’ch gwarchod o dan eich polisi yswiriant teithio ai peidio.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawlio yn erbyn cwmni cerdyn credyd, gweler Credyd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawlio yn erbyn eich polisi yswiriant yn Lloegr a Chymru, gweler Yswiriant Teithio, yn y taflenni ffeithiau i Ddefnyddwyr.
Masnachwr ar gyfer gwyliau sy ddim yn wyliau pecyn yn mynd allan o fusnes
Os prynoch chi docyn hedfan sy ddim yn rhan o wyliau pecyn ac mae’r cwmni hedfan yn mynd allan o fusnes, efallai y gallwch ddefnyddio y cynllun ATOL i gael eich arian yn ôl neu barhau â’ch gwyliau. Sut bynnag, bydd hyn yn dibynnu oddi wrth bwy y prynoch chi’r tocyn a pha bryd y rhoddwyd y tocyn – gweler Gwyliau pecyn gyda thaith hedfan, o dan Y Masnachwr Gwyliau yn mynd allan o fusnes.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd pan fydd cwmni hedfan yn methu, gweler Cyngor teithiau hedfan.
Os taloch chi am eich tocyn gyda cherdyn credyd, ac roedd yn costio mwy na £100, efallai y gallwch hawlio yn erbyn y cwmni cerdyn credyd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawlio yn erbyn cwmni cerdyn credyd, gweler Credyd.
Fe ddylech chi hefyd wirio os ydyw’ch polisi yswiriant teithio yn eich gwarchod os yw’ch masnachwr gwyliau yn mynd allan o fusnes.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawlio yn erbyn eich polisi yswiriant, gweler Yswiriant Teithio, yn y taflenni ffeithiau i Ddefnyddwyr.
Mae rhai masnachwyr gwyliau yn aelodau o gymdeithasau masnach, sy’n gweithredu cynlluniau i helpu’r un sy’n mynd ar wyliau os bydd y masnachwr gwyliau yn mynd allan o fusnes. Er mwyn darganfod os yw eich masnachwr gwyliau yn aelod o gymdeithas fasnach, er enghraifft Cymdeithas Trefnwyr Gwyliau Prydain (ABTA) neu Gyngor Teithwyr Rheilffyrdd (gweler o dan y pennawd Cymorth ychwanegol), fe ddylech chi edrych drwy unrhyw ddogfennaeth ysgrifenedig sydd gennych ynglŷn â’r gwyliau am logo, neu am unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r gymdeithas.
Os nad oes un o’r opsiynau hyn yn berthnasol, efallai y bydd angen i chi drafod gyda derbynnydd neu ddatodwr y masnachwr gwyliau er mwyn cael eich arian yn ôl.
Gall hawlio iawndal pan fydd cwmni teithio wedi mynd allan o fusnes fod yn anodd ac efallai y bydd angen i chi weld ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Pryderon diogelwch ynglŷn â theithio dramor
Gall y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) eich cynghori ynglŷn â diogelwch teithio dramor. Fe allwch chi gael cyngor o uned deithio FCO ar 020 7008 0232, neu trwy edrych ar wefan FCO www.fco.gov.uk.
Eiddo coll, sydd wedi’i ddwyn neu’i ddifrodi
Os ydych chi wedi colli eiddo, os ydyw wedi’i ddwyn neu ei ddifrodi wrth aros mewn gwesty yn y DU, fe allwch chi hawlio swm cyfyngedig o iawndal. Mae hyn fel arfer yn £50 am un eitem, a chyfanswm o £100. Dylai rhybudd sy’n nodi hyn fod wedi’i arddangos yn y fynedfa i’r gwesty. Os ydyw’ch colledion yn fwy na hyn, fe ddylech chi weld os allwch chi hawlio ar eich yswiriant teithio.
Mae yna rai amgylchiadau lle gallwch chi hawlio mwy na’r swm cyfyngedig hwn. Am fwy o wybodaeth fe ddylech chi weld ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych chi wedi colli eiddo, os ydyw wedi’i ddwyn neu ei ddifrodi tra ar wyliau dramor, bydd eich hawliau yn dibynnu ar gyfraith y wlad lle rydych chi’n aros. Mae hawlio iawndal dramor yn anodd a drud, ac fe ddylech chi ystyried hawlio ar eich yswiriant teithio yn lle.
Os ydych chi wedi colli bagiau, os ydyn nhw wedi’u ddwyn neu eu difrodi yn ystod eich taith, fe ddylech chi ystyried gwneud cais yn erbyn y cwmni teithio, er enghraifft y cwmni coets neu gwmni trenau. Mae’n bwysig eich bod chi’n riportio’r broblem wrth y cwmni teithio cyn gynted ag sy’n bosibl. Ar y llaw arall, fe allech chi ystyried hawlio ar eich yswiriant.
Mae rheolau arbennig yn berthnasol i broblemau gyda bagiau yn ystod teithiau hedfan.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gwyno am broblemau gyda bagiau yn ystod taith hedfan, gweler Cyngor Teithiau Hedfan.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawlio ar eich polisi yswiriant yn Lloegr a Chymru, gweler Yswiriant Teithio, yn y taflenni ffeithiau i Ddefnyddwyr.
Gwahaniaethu ar wyliau
Os ydych chi wedi profi gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich rhyw, rhywioldeb, crefydd, hil neu anabledd pan ddarparwyd gwasanaethau i chi ar eich gwyliau, fe ddylech chi gael cyngor ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Sut i ddelio â’ch problem gwyliau
Yn y rhan fwyaf o achosion, y ffordd i ddatrys eich problem ynglŷn â gwyliau pan fydd pethau’n mynd o le fydd gofyn i’r masnachwr am iawndal ariannol. Os nad ydych chi eto wedi cymryd y gwyliau, efallai y gallwch chi ganslo’r gwyliau a gofyn am ad-daliad llawn.
Pwy all gwyno
Os oedd y gwyliau yn wyliau pecyn, gall unrhyw un aeth ar y gwyliau gwyno - nid oes rhaid iddo fod y person archebodd y gwyliau.
Os nad oedd eich gwyliau yn wyliau pecyn, fel arfer dim ond y person archebodd y gwyliau all gwyno. Os nad archeboch chi’r gwyliau eich hun, fe ddylech chi ofyn i’r person wnaeth yr archeb am gwyno.
I bwy y dylech chi gwyno
Fe ddylech chi gwyno wrth:
- y trefnydd teithiau os oedd y gwyliau yn wyliau pecyn
- darparwr y llety neu’r drafnidiaeth os nad oedd yn wyliau pecyn
- eich asiant teithio os ydyw’ch cwyn am wasanaethau ychwanegol gafodd eu trefnu ganddynt ar eich cyfer.
Fe ddylech chi hefyd gopio manylion am eich cwyn i’r asiant teithio (os ddefnyddioch chi un), yr Awdurdod Safonau Hysbyseb os ydyw’r gwyn ynglŷn ag hysbyseb (gweler o dan y pennawd Cymorth ychwanegol).
Os taloch chi gyda cherdyn credyd ac fe gostiodd y gwyliau mwy na £100, fe allwch chi hefyd gwyno yn erbyn y cwmni cerdyn credyd, felly fe ddylech chi gopïo eich cwyn iddyn nhw.
Sut i gwyno
Cwynwch cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl darganfod y broblem. Os cododd y broblem tra roeddech chi ar eich gwyliau fe allai helpu os allwch chi ddangos eich bod wedi cwyno ar y pryd. Ysgrifennwch at y masnachwr gwyliau yr ydych yn cwyno iddo bob amser hyd yn oed os ffonioch chi eisoes. Dylai’r llythyr gynnwys manylion ynglŷn â’r canlynol:
- rhif yr anfoneb, rhif cadarnhad, rhif y tocyn ac unrhyw rifau cyfeirnodau eraill
- dyddiadau’r gwyliau
- cost y llety, trafnidiaeth neu wyliau pecyn
- disgrifiad clir o’r diffyg neu broblem
- datganiad ynglŷn â sut yr effeithiodd y broblem arnoch
- unrhyw beth a ddywedwyd yn y llyfryn gwyliau, hysbyseb papur newydd neu lenyddiaeth arall sy’n gysylltiedig â’r broblem
- unrhyw beth a ddywedwyd adeg trefnu’r gwyliau neu archebu sy’n berthnasol i’r broblem mewn unrhyw ffordd
- manylion yr asiant teithiau os defnyddiwyd un
- beth yr ydych yn dymuno’i gael, er enghraifft, eich arian yn ôl, neu faint o iawndal yr hoffech ei dderbyn
- y dyddiad cau ar gyfer derbyn ateb
- copïau unrhyw ddogfennau neu luniau perthnasol sy’n dangos y broblem, er enghraifft, y safle adeiladu drws nesaf i’r gwesty, neu ddatganiadau cefnogol oddi wrth dystion.
Cadwch gopi o’r llythyr, a chopiau gwreiddiol o unrhyw ddogfennau neu luniau perthnasol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gwyno ynglŷn â phroblem gwyliau pecyn yn Lloegr a Chymru, gweler gwyliau Pecyn ar y taflenni ffeithiau i Ddefnyddwyr.
Camau pellach
Os nad ydych yn llwyddo i ddatrys eich problem gwyliau ar ôl cwyno wrth y masnachwr, efallai y byddwch am ystyried defnyddio cynllun cyflafareddu neu gyfryngdod, megis y rheiny a ddefnyddir gan Gymdeithas Trefnwyr Gwyliau Prydain (ABTA) neu Gymdeithas Trefnwyr Teithiau Annibynnol (AITO). Gelwir y math hwn o gynllun yn gynllun datrys anghydfod amgen - gweler o dan y pennawd Cymorth ychwanegol. Yr unig opsiwn arall sydd gennych ydyw ystyried cymryd achos llys.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â defnyddio dulliau datrys anghydfod amgen, yn Lloegr a Chymru gweler Datrys Anghydfod Amgen yn y taflenni ffeithiau i Ddefnyddwyr. Yn yr Alban, gweler Datrys Anghydfod Amgen yn y taflenni ffeithiau i Ddefnyddwyr.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymryd achos llys, yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gweler Hawliadau Bychain.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn yn Lloegr a Chymru, gweler Cychwyn Achos Llys yn y taflenni ffeithiau i Ddefnyddwyr.
Os ydych chi am gymryd achos llys fe fydd angen i chi weld ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Help gyda dod o hyd i wyliau os oes gennych anghenion neu ofynion arbennig
Mae yna sawl cymdeithas all roi cyngor i chi ynglŷn â dod o hyd i wyliau os oes gennych anghenion neu ofynion arbennig.
Mae Holiday Care yn darparu gwybodaeth am wyliau a theithio, cefnogaeth a gwasanaeth archebu i bobol hŷn a phobol ag anabledd. Fe allwch gysylltu â nhw yn:
Holiday Care Information Unit
7th Floor
Sunley House
4 Bedford Park
Croydon
CR0 2AP
Tel: 0845 124 9971
Fax: 0845 124 9972
Email: holiday.care@virgin.net
Website: www.holidaycare.org.uk
Disabled Persons Transport Advisory Committee (DPTAC) - Door to Door
Mae Door to Door yn rhoi gwybodaeth ynglŷn ag opsiynau teithio a thrafnidiaeth i bobol anabl. Eu gwefan yw www.dptac.gov.uk. Mae’n cynnwys adran sy’n sôn yn benodol am wyliau.
Cymorth ychwanegol
Cymdeithas Trefnwyr Gwyliau Prydain (ABTA)
30 Park Street
London
SE1 9EQ
Tel: 020 3117 0500
Fax: 020 3117 0581
Email: abta@abta.co.uk
Website: www.abta.com
Rhaid i asiantau teithio a threfnwyr teithiau sy’n aelodau o ABTA ddilyn cod ymddygiad ABTA. Mae hyn yn golygu y dylech chi ddisgwyl cael gwasanaeth da oddi wrth y cwmni, ac fe allwch chi gwyno os nad ydyw hyn yn digwydd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gwyno ynglŷn ag aelod o ABTA, gweler adran Problemau teithio gwefan ABTA: www.abta.com.
Cymdeithas Trefnwyr Teithiau Annibynnol (AITO)
133a St Margaret’s Road
Twickenham
Middlesex
London
TW1 1RG
Tel: 020 8744 9280
Fax: 020 8744 3187
Email: info@aito.co.uk
Website: www.aito.co.uk
Mae rhai trefnwyr teithiau yn aelodau o AITO, ac mae gan AITO wasanaeth cyflafareddu annibynnol y gallwch ei ddefnyddio i ddatrys unrhyw gwyn ynglŷn â chwmni sy’n aelod. Os ydych chi am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, mae yna dâl na ellir ei ad-dalu.
Yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA)
CAA House
45-59 Kingsway
London
WC2B 6TE
Llinell cyngor i ddefnyddwyr: 020 7453 6888 (dydd Llun i ddydd Iau o 9.30yb tan 2.30yp)
Ffôn: 020 7379 7311 (prif switsfwrdd)
Ffacs: 020 7453 6754
E-bost: passengercomplaints@caa.co.uk
Gwefan: www.caa.co.uk
Gellir anfon cwynion am deithiau awyr at y CAA, er enghraifft, ynglyn â safon gwasanaeth ar y daith awyr.
Cymdeithas Llongau Teithio (PSA)
1st Floor
41-42 Eastcastle Street
London
W1W 8DU
Tel: 020 7436 2449
Fax: 020 7636 9206
Website: www.the-psa.co.uk
Mae’r PSA yn gweithredu cynllun cymodi a chyflafareddu i ddiogelu cwsmeriaid sy wedi archebu mordeithiau sy ddim yn cynnwys taith hedfan. All y Gymdeithas ddim delio â chwynion cyffredinol hyd nes y defnyddir y cynllun cymodi neu gyflafareddu. Mae’r PSA hefyd yn gweithredu cynllun bondio i amddiffyn cwsmeriaid lle mae’r cwmni llongau yn mynd allan o fusnes.
Passenger Focus
Passenger Focus
Freepost (RRRE-ETTC-LEET)
PO Box 4257
Manchester
M60 3AR
Llinell Gymorth i Deithwyr: 0300 123 2350 (Llun-Gwe 8.00yb-8.00yh; Sad-Sul 8.00yb-4.00yp)
Ffacs: 0845 850 1392
E-bost: info@passengerfocus.org.uk
Gwefan: www.passengerfocus.org.uk
Dylid cyflwyno cwynion am gwmnïau trenau i’r cwmni trenau perthnasol yn y lle cyntaf. Os nad ydych yn hapus â chanlyniad eich cwyn neu os nad ydych yn teimlo bod y cwmni trenau wedi trafod y gwyn mewn ffordd briodol, fe fyddwch yn medru gofyn i Passenger Focus fynd ar drywydd y gwyn ar eich rhan.
Gwyliau Coetsus Wedi’u Bondio
Drury House
34-43 Russell Street
WC2B 5HA
Tel: 020 7240 3131
Fax: 020 7240 6565
Email: bch@cpt-uk.org
Website: www.bondedcoachholidays.co.uk
Mae Gwyliau Coetsus Wedi’u Bondio yn gweithredu cynllun i ddiogelu cwsmeriaid sy wedi archebu gwyliau pecyn sy’n cynnwys cludiant coets. Mae’r cynllun yn sicrhau y byddwch naill ai’n cael eich arian yn ôl neu drafnidiaeth amgen os bydd eich cwmni coetsus yn mynd allan o fusnes. Mae yna gynlluniau cymodi a chyflafareddu ar gael hefyd i ddelio â chwynion yn erbyn cwmniau sy’n aelodau.
Cyngor Cyffredinol i Ddefnyddwyr i Ogledd Iwerddon
Consumer Affairs Officer
General Consumer Council for Northern Ireland
Elizabeth House
116 Holywood Road
Belfast
BT4 1NY
Consumerline: 0300 123 6262
Tel: 028 9067 2488
Fax: 028 9065 7701
Email: info@gccni.org.uk
Website: www.gccni.org.uk
Dylid cyflwyno cwynion am drefnydd teithiau rheilffyrdd yng Ngogledd Iwerddon i’r cwmni trefnu teithiau rheilffyrdd perthnasol yn y lle cyntaf. Os ydyw’r ymdriniaeth yn anfoddhaol, gellir cyfeirio’r gwyn at Swyddog Materion Defnyddwyr y Cyngor Cyffredinol i Ddefnyddwyr i Ogledd Iwerddon.
Holiday Travel Watch
PO Box 6410
Birmingham
B36 0HF
Tel: 0845 017 9229
E-mail: information@holidaytravelwatch.com
Website:www.holidaytravelwatch.com
Mae Holiday Travel Watch yn sefydliad sy’n cynnig cyngor a chymorth i bobol syd wedi cael problemau gyda gwyliau a drefnir gan drefnwyr teithiau yn y DU.
Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA)
Os nad yw’r gwyliau fel y’i disgrifiwyd yn y pamffled neu hysbyseb papur newydd, fe allwch chi gwyno wrth yr Awdurdod Safonau Hysbysebu. Ni all ASA ddyfarnu iawndal ond fe all weithredu trwy dynnu nôl hysbyseb neu ei newid fel nad yw’n camarwain eraill. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â desg ymholiadau ASA ar: 020 7492 2222.









