Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Hawliau i gyflog

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Hawliau i gyflog

Mae gan bob gweithiwr yr hawl i dderbyn cyflog am y gwaith y mae ef/hi wedi'i wneud. Maen nhw hefyd â hawl i gael eu talu os ydynt yn barod i weithio ond bod eu cyflogwr heb ddarparu unrhyw waith ar eu cyfer, ac eithrio ble mae eich cytundeb cyflogaeth yn dweud fel arall.

Mae hawl gan weithwyr gael eu talu hefyd os nad ydynt yn medru gweithio am eu bod i ffwrdd o’r gwaith yn sâl, ar gyfnod mamolaeth, cyfnod tadolaeth neu fabwysiadu, neu absenoldeb rhiant. Yn ogystal, caniateir nifer penodol o ddiwrnodau o wyliau gyda thâl yn ystod y flwyddyn.

Yn y mwyafrif o'r amgylchiadau yma, bydd hawl gan y gweithiwr i dderbyn y cyflog arferol tra i ffwrdd o'r gwaith. Mae yna rai eithriadau i’r rheol yma. Er enghraifft, mae gan rieni sydd ar gyfnod mamolaeth, cyfnod tadolaeth, cyfnod mabwysiadu neu absenoldeb rhiant yr hawl i gyfnod penodol i ffwrdd o’r gwaith gyda thâl ond mae'r gyfraith yn gosod y gyfradd ar gyfer y tâl yma ac efallai nad ydyw cymaint â’r cyflog arferol

Os rydych yn weithiwr ar gyflog salwch, gallai eich cytundeb ddynodi llai o gyflog na'r cyflog arferol. Yn ôl y gyfraith, mae gan y mwyafrif o weithwyr yr hawl i'r isafswm tâl salwch statudol. Gallai eich cytundeb roi mwy o gyflog na hyn i chi.

Mae’n bosib bod gennych yr hawl i amser i ffwrdd o’r gwaith heb dâl mewn amgylchiadau eraill, er enghraifft, argyfwng teuluol neu wasanaeth reithgor.

Am restr gyflawn o sefyllfaoedd lle mae gan weithwyr yr hawl i dderbyn cyflog am amser i ffwrdd o'r gwaith, a pha fath o amser i ffwrdd o'r gwaith y mae hawl ganddynt i dderbyn tâl, gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â thâl mamolaeth a chyfnod mamolaeth, gweler Hawliau rhiant yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â thâl salwch statudol, gweler I ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch.
Am fwy o wybodaeth am gyflog gwyliau, gweler Gwyliau a thâl gwyliau.

Mae yna reolau arbennig i weithwyr asiantaeth. Am fwy o wybodaeth, gweler Hawliau gweithwyr asiantaeth.

Cynlluniau aberthu cyflog – talebau gofal plant

Fe all cyflogwr gynnig cymorth i weithwyr gyda gofal plant o dan gynllun 'aberthu cyflog'. Dyma gynllun sy'n galluogi gweithiwr i ildio rhan o'i g/chyflog yn gyfnewid am dalebau i dalu am ofal plant. Mae yna fanteision i'r cynlluniau hyn o ran treth, ond fe allai derbyn taleb gofal plant yn lle cyflog ostwng eich cyflog fel ei fod yn llai na'r terfyn enillion is ac fe allai effeithio ar eich hawl i rai budd-daliadau.

Am fwy o wybodaeth am dalebau gofal plant, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.

Nôl i’r brig


Faint o gyflog

Mae gan bron pob gweithiwr yr hawl i'r isafswm cyflog cenedlaethol - gweler y pennawd Isafswm cyflog cenedlaethol (ICC) am fwy o wybodaeth. Efallai bod gan y gweithiwr yr hawl i fwy o gyflog na o hyn o dan ei g/chytundeb.

Mae unrhyw gyflog sy’n fwy na'r isafswm cenedlaethol a osodir gan y gyfraith ar gyfer gweithwyr nad ydyw'n dod o dan yr isafswm cyflog cenedlaethol, yn dibynnu ar gytundeb cyflogaeth unigol y gweithiwr.

Ni ddylai cyflogwyr wahaniaethu o ran faint maen nhw'n talu eu gweithwyr, er enghraifft, drwy dalu llai i weithwyr croenddu na gweithwyr gwyn sy'n gwneud yr un swydd, neu trwy dalu llai i ferched na dynion pan fyddan nhw'n gwneud gwaith o'r un gwerth. Gelwir hyn yn ‘gyflog teg’.

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef anffafriaeth o ran eich cyflog, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar arwydd CAB.

Mae yna reolau arbennig ynglŷn â faint ddylid talu gweithwyr asiantaeth pan fyddan nhw wedi gweithio yn yr un swydd i’r un cyflogwr am o leiaf deuddeg wythnos.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawl gweithwyr asiantaeth i gyflog ar ôl deuddeg wythnos, gweler Hawliau ychwanegol i weithwyr asiantaeth.

Nôl i’r brig


Sut dylid talu person cyflogedig

Nid oes unrhyw hawl cyfreithiol i gael eich cyflog wedi'i dalu mewn modd benodol, er enghraifft, i gyflogwr i gael ei g/chyflog wedi'i dalu'n uniongyrchol i'r cyfrif banc.

Bydd y ffordd y telir cyflog gweithiwr yn dibynnu ar yr hyn y mae'r cytundeb cyflogaeth yn ei ddweud ynghylch sut dylid talu'r cyflog. Os nad oes ganddyn nhw gytundeb ysgrifenedig, mae ganddyn nhw gytundeb cyflogaeth, ond bydd yn un llafar. Mewn achosion lle mae yna gytundeb llafar yn hytrach na chytundeb ysgrifenedig, dylai'r ffordd o dalu cyflog fod wedi ei gytuno rhwng y cyflogwr a'r person cyflogedig, neu os na, bydd yn dibynnu ar sut mae'r cyflogwr fel arfer yn talu cyflog gweithwyr yn y gweithle yna.

Yr hyn ddylai'r datganiad ei ddweud ynglyn â phryd mae'r cyflog yn cael ei dalu – datganiadau ysgrifenedig o amodau a thelerau cyflogaeth

Mae gan bob gweithiwr sydd wedi gweithio i gyflogwr am o leiaf deufis yr hawl i 'ddatganiad ysgrifenedig o amodau a thelerau'r gyflogaeth’. Dylai'r datganiad yma gynnwys, ymhlith gwybodaeth arall, fanylion ynglyn â pha mor aml y dylid talu cyflog, er enghraifft yn wythnosol neu'n fisol.

Dylai cytundeb y gweithiwr roi'r manylion canlynol ynglyn â'r cyflog:-

  • pryd dylid talu'r cyflog, er enghraifft, ar ddiwedd yr wythnos, ar ddiwedd y mis
  • a yw'r cyflog yn cael ei dalu ymlaen llaw ai peidio. Gyda chyflog misol, mae'n gyffredin talu rhan ohono ymlaen llaw a rhan ohono ar ôl gwneud y gwaith. Gyda chyflog wythnosol caiff ei dalu yn ôl fel arfer, hynny yw telir y cyflog wedi gwneud y gwaith
  • os telir y cyflog wythnos ymlaen llaw. Weithiau, os telir gweithiwr yn wythnosol, bydd yn rhaid iddi/iddo weithio pythefnos cyn derbyn cyflog. Mae hyn yn golygu eu bod, mewn gwirionedd yn derbyn dyled o wythnos a bod wythnos yn ddyledus iddynt trwy gydol y gyflogaeth. Telir yr wythnos y'n ddyledus pan fydd y gweithiwr yn gadael y swydd.

Os nad ydych yn siwr a yw eich cytundeb yn rhoi'r wybodaeth uchod ynglyn â'ch cyflog, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â phwy sydd â hawl i ddatganiad ysgrifenedig o amodau a thelerau cyflogaeth a beth ddylai ei gynnwys, gweler Hawl gweithiwr i fanylion ysgrifenedig ynglyn â'r cytundeb cyflogaeth yn Cytundebau cyflogaeth.

Nôl i’r brig


Yr hawl i slip cyflog

Mae gan bob gweithiwr yr hawl i slip cyflog ysgrifenedig unigol ar yr adeg y caiff ei d/thalu neu cyn hynny. Mae slip cyflog hefyd yn medru bod yn slip cyflog a anfonir drwy’r e-bost. Mae'n rhaid i'r slip cyflog ddangos:-

  • cyflog gros, hynny yw, cyn tynnu unrhyw dreth neu yswiriant gwladol
  • cyfanswm unrhyw symiau a dynnir allan, sy'n newid o wythnos i wythnos, er enghraifft treth ac yswiriant gwladol, a phwrpas tynnu'r symiau hyn
  • cyfanswm unrhyw symiau sefydlog a dynnir o'r cyflog. Mae'r rhain yn symiau sy'n aros yr un faint o wythnos i wythnos, er enghraifft, ffioedd undeb. Nid oes rhaid i gyflogwr roi manylion ynghylch diben y symiau hyn tra'u bod yn rhoi yn rhoi datganiad ar wahân yn nodi'r manylion hyn, o leiaf unwaith y flwyddyn
  • cyfanswm y cyflog sydd gan y gweithiwr i fynd adref gydag ef, wedi tynnu'r symiau priodol.

Dim ond didyniadau penodol y gall gyflogwr eu tynnu o gyflog gweithiwr - gweler y pennawd A oes hawl gan y cyflogwr i wneud didyniadau o gyflog gweithiwr.

Nôl i’r brig


Isafswm cyflog cenedlaethol (ICC)

Erbyn hyn, mae hawl cyfreithiol gan weithwyr y DU sy'n 16 (ac yn hyn nag oed gadael ysgol) neu'n hyn, i isafswm cyflog cenedlaethol yr awr. Nid oes gwahaniaeth ble maen nhw'n gweithio, maint y cwmni neu alwedigaeth y gweithwyr. Mae hyn yn cynnwys labrwyr achlysurol, gweithwyr asiantaeth, y rheiny sy'n gweithio o gartref, gweithwyr sydd ar gytundebau tymor byr a gweithwyr a gyflogir gan isgontractwyr.

Gweithwyr sydd ddim â hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae yna rai gweithwyr sydd ddim yn dod o dan y isafswm cyflog cenedlaethol, sef:

  • gweithwyr sy'n iau nag16
  • rhai pobl sy'n byw ac yn gweithio o fewn teulu fel mamaethod (nannies) ac au pairs. Ni fydd gweithwyr o'r fath â hawl i dderbyn y ICC os ydynt yn byw yng nghartref y teulu lle maent yn gweithio ac yn rhannu prydau bwyd gyda'r teulu ac nid oes rhaid iddynt dalu tuag at eu costau llety neu brydau bwyd
  • pobl sy'n wirioneddol hunangyflogedig.

Am wybodaeth ynghylch p'un ai fod person yn wirioneddol hunangyflogedig, gweler 'Sut i ddweud y gwahaniaeth rhwng gweithiwr a pherson hunangyflogedig yn Cytundebau Cyflogaeth.

  • aelodau o'r lluoedd arfog (ond mae sifiliaid sy'n gweithio i'r lluoedd wrth gefn neu'r weinyddiaeth amddiffyn yn dod o dan y ddeddf)
  • pysgotwyr cyfran
  • carcharorion
  • gweithwyr gwirfoddol
  • rhai sydd o dan hyfforddiant ar gynlluniau'r llywodraeth.

Am fanylion ynghylch pa rai sydd o dan hyfforddiant sydd ddim â hawl i'r ICC, cysylltwch â llinell gymorth y ICC neu gynghorydd profiadol. Gweler isod am fanylion ynglyn â linell gymorth ICC.

  • gweithwyr sy'n ddigartref neu'n byw mewn hostel, sydd â hawl i Gymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm ac sy'n cymryd rhan mewn cynllun gan elusen sy'n darparu gwaith ar eu cyfer
  • aelodau preswyl o gymunedau crefyddol sy'n elusennau
  • pobl sydd â swydd
  • rhai pobl sy’n hyfforddi ar Gynlluniau’r Gymuned Ewropeaidd.

Faint yw'r ICC

Ar gyfer y mwyafrif o weithwyr sy'n 21 neu’n hŷn, mae cyfradd safonol yr awr yr ICC wedi'i restru isod. Mae yna rai gweithwyr sydd ddim â hawl i ICC o gwbl - gweler y pennawd Isafswm cyflog cenedlaethol (ICC). Mae rhai gweithwyr ond â hawl i gael eu talu ar gyfradd is, gan eu bod rhwng 18 ac 20 oed, gweler isod. Mae yna gyfraddau arbennig o gyflog ar gyfer gweithwyr amaethyddol - gweler y pennawd Cyflog i Weithwyr Amaethyddol.

Cyfraddau’r ICC ar hyn o bryd

Math o ICCCyfradd ICC yr awr: O 1.10.11
Cyfradd Safonol ICC ar gyfer gweithwyr sy'n 21 neu’n hŷn£6.08
Gweithwyr rhwng 18 ac 20 oed – cyfradd ICC gostyngol£4.98
Gweithwyr sy'n 16-17 oed£3.68
Prentisiaid sy’n iau na 19 neu ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth£2.60

Cyfraddau’r ICC - o 1.10.10

Math o ICCCyfradd ICC yr awr: O 1.10.10Cyfradd ICC yr awr: O 1.10.09
Cyfradd Safonol ICC ar gyfer gweithwyr sy'n 21 neu’n hŷn£5.93£5.80
Gweithwyr rhwng 18 ac 20 oed – cyfradd ICC gostyngol£4.92£4.83
Gweithwyr sy'n 16-17 oed£3.64£3.57
Prentisiaid sy’n iau na 19 neu ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth£2.50 

Pa fathau o gyflog a pha oriau gwaith sy'n cyfrif ar gyfer y ICC

Mae'r rheolau ynglyn â pha elfennau o gyflog gweithiwr, a pha oriau o amser gwaith, sy'n cyfrif tuag at gyfrifo'r ICC yn gymhleth iawn.

Os nad ydych yn credu eich bod yn cael yr isafswm cyflog cenedlaethol neu os ydych am ddarganfod os oes hawl gennych i’r isafswm cyflog cenedlaethol, dylech gysylltu â llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith ar 0800 917 2368, neu dylech fynd at gynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor.

Llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith

Os ydych am ddarganfod a oes hawl gennych i’r ICC, dylech gysylltu â Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith ar 0800 917 2368. Rydych hefyd yn medru defnyddio cyfrifydd rhyngweithiol i weld os ydych yn gymwys i'r ICC. Rhowch glic ar: www.worksmart.org.uk.

Gwybodaeth am yr isafswm cyflog cenedlaethol mewn ieithoedd gwahanol

Mae gan y llywodraeth ganllawiau ynghylch yr isafswm cyflog cenedlaethol mewn amrywiaeth o ieithoedd cymunedol gwahanol, er enghraifft, Pwyleg, Slofac a Lithwanaidd. Rhowch glic ar: www.direct.gov.uk.

Taflen ffeithiau ar yr isafswm cyflog cenedlaethol

Am fwy o wybodaeth am yr isafswm cyflog cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gweler Yr isafswm cyflog cenedlaethol yn y Taflenni ffeithiau ar gyflogaeth. Cyfieithwyd y daflen ffeithiau hon  i nifer o ieithoedd cymunedol, gan gynnwys Pwyleg, Tsiec a Slofac.

Nôl i’r brig


Cyflog i weithwyr amaethyddol

Mae gan weithwyr amaethyddol yr hawl i leiafswm cyfradd yr awr benodol gan ddibynnu ar eu hoed a'r math o waith y maen nhw'n ei wneud. Mae yna gyfradd penodol ar gyfer cyflog safonol a chyfradd penodol ar gyfer goramser.

Os yw'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn is na'r isafswm cyflog amaethyddol sy'n berthnasol i chi, mae gennych yr hawl i gael y gyfradd uwch.

Os ydych chi'n credu eich bod yn weithiwr amaethyddol a bod hawl gennych i lefel penodol o gyflog dylech gysylltu â Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith ar 0800 917 2368.

Nôl i’r brig


A oes hawl gan gyflogwr i dynnu arian o gyflog gweithiwr

Yn ôl y gyfraith, dim ond pethau penodol y gall cyflogwr eu tynnu o gyflog gweithiwr. Os nad yw'r cyflogwr yn talu'r gweithiwr o gwbl, mae hyn yn cyfrif fel didyniad 100%. Mae yna reolau ynghylch beth sy'n cyfrif fel cyflog at ddiben nodi pryd y gall cyflogwr dynnu symiau o'r cyflog, gweler isod.

Yn y mwyafrif o achosion, gall cyflogwr ond wneud didyniadau cyfreithiol o gyflog gweithiwr os yw'r didyniad:-

  • yn angenrheidiol o dan y gyfraith. Er enghraifft, mae gofyn i gyflogwyr dynnu treth ac yswiriant gwladol o gyflog gweithwyr yn ôl y gyfraith, neu
  • wedi'i ganiatau yn ôl cytundeb y gweithiwr. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid bod cymal penodol yn y cytundeb sy'n caniatáu tynnu'r fath ddidyniad. Yna, gellir ond gwneud y didyniad yn gyfreithiol os rhoddir copi ysgrifenedig i'r gweithiwr o'r amod yna yn y cytundeb cyn gwneud unrhyw ddidyniadau. Byddai hyn yn cynnwys didyniadau fel taliadau undeb neu daliadau i gynllun pensiwn; neu
  • wedi ei gytuno yn ysgrifenedig gan y gweithiwr cyn ei dynnu.

Mae yna ddidyniadau penodol y gall cyflogwr eu gwneud sydd ddim yn gorfod syrthio i'r categorïau uchod, sef:-

  • didyniad am fod y gweithiwr wedi derbyn gormod o gyflog, a hynny'n wirioneddol
  • didyniad a wnaed gan i'r gweithiwr gymryd rhan mewn gweithgarwch diwydiannol
  • didyniad a wnaed gan gyflogwr o dan orchymyn llys neu orchymyn gan dribiwnlys cyflogaeth, fel gorchymyn ychwanegiad cyflog (yn yr Alban, arestiad cyflog).

Tynnu arian o gyflog gweithwyr siop

Mae yna reolau arbennig ynghylch tynnu arian o gyflog gweithwyr siop.

Mae cyflogwr gweithiwr siop yn medru tynnu arian ar gyfer prinder arian neu stoc sydd wedi mynd ar goll. Mae hyn yn medru bod, er enghraifft, am fod y gweithiwr siop wedi bod yn anonest neu am fod cwsmer wedi dwyn.

Rhaid i'r cyflogwr roi manylion ysgrifenedig am y swm a dynnwyd, i'r gweithiwr, ar ddiwrnod cyflog. Rhaid tynnu unrhyw symiau am arian neu stoc sydd wedi mynd ar goll, o fewn 12 mis i'r dyddiad y darganfu'r cyflogwr y prinder.

Ni ddylai'r swm a dynnwyd fod yn fwy na 10% o gyflog gros y gweithiwr siop ar unrhyw un diwrnod cyflog. Gellir tynnu'r swm yma yn ychwanegol at unrhyw symiau eraill y mae hawl cyfreithiol gan y cyflogwr i'w cymryd.

Nid oes terfyn ar y cyfanswm y mae cyflogwr yn medru ei dynnu ar gyfer arian neu stoc sydd wedi mynd ar goll. Yr unig derfyn yw'r swm y mae'n cael ei dynnu ar bob diwrnod cyflog.

Am fwy o wybodaeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban am eich hawliau pan fydd eich cyflogwr yn tynnu arian o'ch cyflog, gweler Mae'r cyflogwr yn dal eich cyflog yn ôl yn Taflenni Ffeithiau ar Gyflogaeth.

Os aethpwyd ag arian o'ch cyflog chi a chithau ddim yn cytuno â hyn, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, a Canolfan Cynghori.I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Beth sy'n cyfrif fel cyflog

Pan yn ystyried a yw cyflogwr yn medru tynnu arian o gyflog gweithiwr, mae'r canlynol yn cyfrif fel cyflog:-

  • cyflog arferol, gan gynnwys ffioedd, bonws a chomisiwn, ond nid taliadau am dreuliau
  • cyflog gwyliau
  • taliadau a orchmynnwyd gan dribiwnlys cyflogaeth, fel talu cyflog rhwng diswyddo cyflogwr a roi'r swydd yn ôl
  • taliadau sy'n rhaid eu gwneud o dan y gyfraith yn lle cyflog fel taliadau sydd wedi'u gwarantu pan fydd y gweithiwr yn cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i wneud gwaith undeb neu chwilio am waith os ydyw ar fin colli swydd
  • tâl salwch statudol
  • tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol a thâl mabwysiadu statudol

Arian rhodd a thaliadau gwasanaeth

Mae arian parod a roddir yn wirfoddol i weithwyr, fel gweinyddion, gan gwsmer (tip), yn cyfrif fel rhodd gan y cwsmer i'r gweithiwr. Nid ydyw felly'n rhan o dâl y gweithiwr. Hyd yn oed os yw'r arian yn cael ei gronni gan yr holl weithwyr, a'i rannu rhyngddynt, mae'n dal i fod yn rhodd i'r gweithwyr ac felly nid yw'n rhan o'r cyflog.

Os yw tâl gwasanaeth yn orfodol, hynny yw, wedi ei ychwanegu at bob bil yn awtomatig, mae'n eiddo i 'r cyflogwr. Gall y cyflogwr ei rannu rhwng y gweithwyr yn ôl dymuniad y cyflogwr. Os oes cymal yng nghytundeb y gweithiwr yn dweud bod hawl ganddo i gyfran o'r tâl gwasanaeth, fe ddylai gael hyn yn ychwanegol at ei gyflog.

Os yw cwsmer yn gadael tip yn wirfoddol, gan ychwanegu swm i daliad cerdyn credyd neu siec, mae'r tip yn eiddo i'r cyflogwr. Gall y cyflogwr ei rannu rhwng y gweithwyr yn ôl dymuniad y cyflogwr. Ond, os yw gweithiwr yn derbyn rhan o'r taliad ychwanegol gwirfoddol yma, dylai gael ei dalu yn ychwanegol at ei gyflog.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback