Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd cyfnod mamolaeth neu feichiogrwydd

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban

Beth yw gwahaniaethu oherwydd cyfnod mamolaeth neu feichiogrwydd

Os ydych chi’n gweithio ac yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth, mae gennych well hawliau a gwell mesurau i’ch amddiffyn.

Un o’r hawliau hyn yw nad yw’ch cyflogwr yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn, naill ai am eich bod yn feichiog neu am eich bod chi ar gyfnod mamolaeth. Mae hyn yn golygu na all eich cyflogwr eich diswyddo, eich gosod chi mewn swydd is na’ch disgyblu oherwydd eich beichiogrwydd na’ch cyfnod mamolaeth. Gelwir hyn yn wahaniaethu oherwydd cyfnod mamolaeth a beichiogrwydd.

Er enghraifft, fe fyddai’n wahaniaethu ar sail cyfnod mamolaeth a beichiogrwydd petaech yn cael eich diswyddo neu eich disgyblu:

  • am eich bod wedi gofyn am gymryd amser i ffwrdd i fynychu dosbarthiadau cyn-geni
  • am nad ydych yn gallu gwneud eich gwaith yn ystod eich beichiogrwydd am resymau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch
  • am eich bod wedi gofyn am gael cymryd cyfnod mamolaeth neu am eich bod ar gyfnod mamolaeth

Os cewch eich trin yn annheg am eich bod yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth, mae yna bethau fedrwch chi eu gwneud ynglŷn â’ch sefyllfa, gan gynnwys codi achwyniad gyda’ch cyflogwr neu hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Nôl i’r brig


Enghreifftiau o wahaniaethu oherwydd cyfnod mamolaeth neu feichiogrwydd

Dyma rai enghreifftiau o sefyllfaoedd ble efallai y byddai’ch cyflogwr yn euog o wahaniaethu yn eich erbyn am eich bod yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth:

  • os cewch eich gwahardd o’r gwaith gan eich cyflogwr am resymau iechyd a diogelwch ac nid ydych yn cael tâl llawn
  • os cewch eich diswyddo am fod eich cyflogwr yn dweud nad ydyn nhw’n medru fforddio talu eich tâl mamolaeth statudol
  • os nad ydych yn mynd i gyfarfod disgyblu oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â’ch beichiogrwydd ac mae’ch cyflogwr yn gwrthod aildrefnu’r cyfarfod
  • os cewch eich disgyblu am fod yna faterion yn ymwneud â’ch perfformiad oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â’ch beichiogrwydd
  • os yw’ch cyflogwr yn methu â gwneud asesiad risg iechyd a diogelwch, ac mae hyn yn eich gorfodi chi i ymddiswyddo
  • os yw’ch cyflogwr yn rhoi swydd is i chi neu’n eich diswyddo, neu’n eich atal chi rhag cael cyfleoedd hyfforddiant neu ddyrchafiad, am eich bod yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth
  • os yw’ch cyflogwr yn dewis dileu eich swydd chi am eich bod yn feichiog
  • os yw’ch cyflogwr yn penderfynu dileu swyddi pobl tra’ch bod chi ar gyfnod mamolaeth ond nid yw’n ymgynghori â chi am hyn.

Nôl i’r brig


Eich hawl i gyflog ac amodau a thelerau eraill yn ystod eich cyfnod mamolaeth a’ch beichiogrwydd

Mae gennych yr hawl i gadw’r un amodau a thelerau tra’ch bod chi ar gyfnod mamolaeth. Ond, nid oes hawl awtomatig gennych i barhau i gael eich cyflog llawn, onid yw’ch cytundeb cyflogaeth yn dweud hynny. Os nad ydych yn cael cyflog llawn yn ystod eich cyfnod mamolaeth, nid yw hyn yn wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth ac nid yw’n wahaniaethu ar sail rhyw chwaith.

Os ydych i ffwrdd o’r gwaith yn sâl oherwydd eich beichiogrwydd, nid oes hawl awtomatig gennych i barhau i gael eich cyflog llawn. Mae gennych yr hawl i gael faint bynnag o arian y mae’n dweud yn eich cytundeb cyflogaeth y dylech ei gael pan fyddwch chi i ffwrdd o’r gwaith yn sâl.

Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawliau pan fyddwch chi ar gyfnod mamolaeth, gweler Cyfnod mamolaeth.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw yn y gwaith, gweler Gwahaniaethu ar sail rhyw ac aflonyddu rhywiol yn y gwaith [Adobe Acrobat Document 43 KB].

Nôl i’r brig


Amser i ffwrdd o’r gwaith yn sâl ar gyfer beichiogrwydd a’ch cofnod salwch

Ni ddylai amser yr ydych yn ei gymryd i ffwrdd yn sâl oherwydd salwch sy’n ganlyniad i’ch beichiogrwydd, fel pwysau gwaed uchel, gyfrif tuag at eich cofnod salwch yn y gwaith. Mae hyn yn cynnwys unrhyw amser yr ydych yn ei gymryd i ffwrdd wedi i chi golli plentyn.

Os cewch eich disgyblu neu eich diswyddo oherwydd eich cofnod salwch pan fyddwch chi’n feichiog, efallai y bydd hyn yn wahaniaethu. Dylech gael cyngor.

Os yw’ch cyflogwr yn penderfynu eich diswyddo am gymryd gormod o amser i ffwrdd yn sâl ac roedd yr amser i ffwrdd yn ganlyniad i’ch beichiogrwydd, mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth. Fe fyddwch yn medru dwyn honiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth ynglŷn â hyn.

Os ydych chi’n cymryd amser i ffwrdd oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â’ch beichiogrwydd, neu wedi i chi golli plentyn, dylai hyn gael ei gofnodi. Efallai y byddwch chi am gadw’ch cofnod eich hun o’r amser yr ydych wedi ei gymryd i ffwrdd o’r gwaith yn sâl oherwydd eich beichiogrwydd.

Efallai na fydd yr holl amser yr ydych wedi ei gymryd i ffwrdd o’r gwaith am eich bod yn sâl yn ystod eich beichiogrwydd yn gysylltiedig â’ch beichiogrwydd. Er enghraifft, efallai y bydd anwyd neu’r ffliw arnoch. Os ydych i ffwrdd o’r gwaith yn sâl am reswm sydd heb gysylltiad â’ch beichiogrwydd, gellir trin y salwch hwn yr un peth â’r polisi tâl salwch arferol.

Enghraifft

Rydych chi’n feichiog ac wedi bod i ffwrdd o’r gwaith yn sâl gyda salwch sy’n gysylltiedig â’ch beichiogrwydd ers cyfnod cynnar yn eich beichiogrwydd. Mae eich cyflogwr yn eich diswyddo chi am fod eu polisi salwch yn dweud nad ydych yn medru bod i ffwrdd o’r gwaith yn sâl am fwy nag 20 wythnos yn olynol. Os oedd yr holl amser i ffwrdd yn ganlyniad i salwch a oedd yn gysylltiedig â’ch beichiogrwydd, mae hyn yn wahaniaethu.

Nôl i’r brig


Amser i ffwrdd ar gyfer gofal cyn-geni

Os ydych yn feichiog, mae gennych hawl i amser i ffwrdd â thâl ar gyfer gofal cyn-geni. Mae gofal cyn-geni yn medru cynnwys archwiliadau meddygol, ymlacio a dosbarthiadau magu plant.

Rhaid i’ch cyflogwr adael i chi gymryd amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau cyn-geni a’ch talu chi am yr amser hwn, tra bod yr hyn yr ydych yn gofyn amdano yn rhesymol.

Enghraifft

Rydych chi wedi trefnu amser i ffwrdd i fynd i apwyntiad meddygol sy’n gysylltiedig â’ch beichiogrwydd. Mae’ch cyflogwr yn mynnu bod yn rhaid i chi wneud iawn am yr amser hwn trwy drefniadau amser hyblyg, neu bydd yn cwtogi ar eich cyflog. Mae hyn yn wahaniaethu ar sail beichiogrwydd. Fe fyddwch yn medru cwyno i’ch cyflogwr trwy godi achwyniad ac, os oes angen, dwyn honiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Os ydych yn bartner i fenyw feichiog, nid oes hawl gennych i gael amser i ffwrdd o’r gwaith â thâl i fynd i apwyntiadau cyn-geni. Ond, efallai y bydd eich cyflogwr yn dewis rhoi’r amser hwn i ffwrdd i chi neu efallai y byddwch yn medru cymryd yr amser i ffwrdd fel gwyliau neu gymryd cyfnod heb gyflog.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hawl i amser i ffwrdd ar gyfer gofal cyn-geni, gweler Hawliau rhieni yn y gwaith.

Nôl i’r brig


A oes hawl gennych i amser i ffwrdd o’r gwaith i gael triniaeth ffrwythloni?

Os ydych yn fenyw, nid oes hawl gennych i amser i ffwrdd â thâl ar gyfer ffrwythloni in vitro (IVF) nac unrhyw driniaeth ffrwythloni arall.

Ond, os ydych yn cael eich diswyddo neu’ch trin yn anffafriol am eich bod yn cael triniaeth IVF, efallai y bydd hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu ar sail rhyw. Dylech gael cyngor.

Unwaith fydd embryo wedi’i ffrwythloni’n cael ei fewnblannu, fe fyddwch chi’n feichiog yn gyfreithlon. Yna, fe fydd hawl gennych i amser i ffwrdd ar gyfer gofal cyn-geni ac fe fydd gennych yr holl amddiffyniad rhag gwahaniaethu y mae gan fenywod beichiog eraill yr hawl iddo.

Nôl i’r brig


Ceisio am swydd os ydych chi’n feichiog neu ar gyfnod mamolaeth

Nid yw cyflogwr yn medru gwrthod eich cyflogi chi am eich bod yn feichiog. Dylai seilio’i benderfyniad ar p’un ai fod gennych y sgiliau i wneud y gwaith ai peidio, ac nid p’un ai eich bod yn feichiog ai peidio.

Nid oes rhaid i chi ddweud wrth y cyflogwr eich bod yn feichiog pan fyddwch chi’n ceisio am y swydd. Os ydych yn deud wrth y cyflogwr eich bod yn feichiog adeg y cyfweliad ac nid ydych yn cael cynnig y swydd oherwydd hynny, fe fydd hyn yn wahaniaethu ar sail beichiogrwydd.

Os nad ydych yn dweud wrth y cyflogwr eich bod yn feichiog ac mae’n rhoi’r swydd i chi, ni ddylai eich diswyddo chi pan fydd yn cael gwybod am y beichiogrwydd.

Enghraifft

Rydych yn ceisio am swydd fel hyfforddwr. Ar sail eich ffurflen gais a’ch cyfweliad, mae’r cyflogwr yn penderfynu mai chi yw’r person gorau ar gyfer y swydd ac yn ei chynnig i chi. Ond, rydych chi newydd ddarganfod eich bod yn feichiog ac yn dweud wrth y cyflogwr pan fyddwch chi’n derbyn y cynnig. Mae’r cyflogwr yn newid ei feddwl ac yn tynnu’r cynnig yn ôl. Mae hyn yn wahaniaethu ac ni ellir ei gyfiawnhau. Fe fyddwch chi’n medru dwyn honiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Nôl i’r brig


Beth fedrwch chi ei wneud ynghylch gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth?

Os ydych yn dioddef gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth, dylech wneud rhywbeth cyn gynted â phosib.

  • dywedwch wrth eich rheolwr beth sy’n digwydd. Gwnewch hyn yn ysgrifenedig a chadwch gopi. Yn ôl y gyfraith, mae angen i’ch cyflogwr eich amddiffyn chi rhag gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth. Os yw’ch rheolwr yn gwahaniaethu yn eich erbyn, dywedwch wrth rywun sy’n uwch i fyny yn y mudiad
  • siaradwch â’ch adran personél neu’ch undeb llafur. Efallai y byddan nhw’n medru eich helpu chi i stopio’r gwahaniaethu
  • mynnwch gyngor. Efallai y bydd canolfan Cyngor ar Bopeth yn medru eich helpu chi neu eich cyfeirio chi at arbenigwr
  • casglwch dystiolaeth. Fe allai hyn gynnwys cadw dyddiadur neu gofnod o amser, dyddiad a lleoliad unrhyw ddigwyddiadau, yr hyn sydd wedi cael ei ddweud neu ei wneud, pwy oedd yn gysylltiedig, a oedd unrhyw dystion a thystiolaeth o unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn erbyn cydweithwyr eraill.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gael cefnogaeth cydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur pan fyddwch chi’n cymryd rhai o’r camau hyn.

Codi achwyniad

Os nad ydych yn medru datrys eich problem yn anffurfiol, efallai y byddwch chi am gyflwyno cwyn ysgrifenedig ffurfiol i’ch cyflogwr, gan ddefnyddio gweithdrefn achwyniad. Os nad oes gan eich gweithle weithdrefn achwyniad, fe fyddwch yn medru defnyddio gweithdrefn achwyniad ACAS.

Er bod y gyfraith yn medru helpu eich amddiffyn chi, dylech fod yn ymwybodol, os fyddwch chi’n cwyno’n ffurfiol, bod yna berygl y gallai hyn wneud eich bywyd chi’n fwy anodd yn y gwaith.

Mynd at dribiwnlys cyflogaeth

Os nad ydych wedi gallu datrys eich problem trwy ddefnyddio gweithdrefn achwyniad, efallai y byddwch chi am ddwyn honiad o wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Os ydych am ddwyn honiad o wahaniaethu, fel arfer fe fydd gennych dri mis namyn diwrnod i anfon eich cais at y tribiwnlys. Mae’r tri mis yn dechrau ar y dyddiad y digwyddodd y gwahaniaethu neu’r aflonyddu ddiwethaf. Cedwir yn llym at y terfyn amser hwn, felly mynnwch gyngor yn gynnar.

Nôl i’r brig


Dwyn honiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth ar gyfer gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth

Er mwyn dwyn honiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth am wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth:

  • fel arfer, rhaid i chi wneud hyn heb fod yn hwyrach na thri mis namyn diwrnod i’r dyddiad y digwyddodd y gwahaniaethu ddiwethaf
  • nid oes angen i chi fod wedi gweithio i’ch cyflogwr am unrhyw gyfnod penodol o amser
  • rhaid bod eich cyflogwr yn gwybod eich bod yn feichiog
  • fe fydd angen i chi brofi eich achos.

Nid oes unrhyw derfyn uchaf ar swm yr iawndal fedrwch chi ei gael gan dribiwnlys cyflogaeth mewn achos o wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.

Profi eich achos

Fe fydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i brofi eich achos.

Fe allai hyn gynnwys tystiolaeth o’r amser, y dyddiad a’r lleoliad ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau, yr hyn a gafodd ei ddweud neu ei wneud, pwy oedd yn gysylltiedig, a oedd unrhyw dystion a thystiolaeth o unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn erbyn cydweithwyr eraill. Os ydych chi wedi cadw dyddiadur neu gofnod o’r digwyddiadau, fe fydd hyn yn helpu eich achos.

Fe fyddwch chi hefyd yn medru gofyn i’ch cyflogwr ddarparu gwybodaeth trwy weithdrefn holiadur. Efallai y bydd hyn hefyd yn helpu cefnogi eich achos. Mae yna derfynau amser llym. Efallai y bydd angen i chi gael cyngor i’ch helpu i wneud hyn.

Am fwy o wybodaeth ynghylch dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gweler Tribiwnlysoedd cyflogaeth.

Sut mae dwyn honiad o wahaniaethu ar sail beichiogrwydd neu famolaeth yn wahanol i wahaniaethu ar sail rhyw

Mae dwyn honiad o wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn wahanol i ddwyn honiad o wahaniaethu ar sail rhyw. Mewn ambell ffordd, mae’n fwy syml.

Os ydych am ddwyn honiad o wahaniaethu ar sail rhyw, mae’n rhaid i chi brofi eich bod wedi cael eich trin yn llai ffafriol na pherson arall yn yr un gweithle sydd ddim o’r un rhyw â chi neu sydd ddim yn feichiog.

Ond, os ydych chi am ddwyn honiad o wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth, nid oes rhaid i chi ddangos eich bod wedi cael eich trin yn llai ffafriol na rhywun arall yn yr un gweithle â chi.

Er enghraifft

Rydych yn cael eich diswyddo am eich bod wedi cymryd tri mis i ffwrdd o’r gwaith yn sâl am reswm sy’n gysylltiedig â’ch beichiogrwydd. Rydych yn dwyn honiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth, o wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth. Mae eich cyflogwr yn ceisio amddiffyn yr honiad trwy ddadlau y buasai wedi diswyddo person cyflogedig arall a oedd wedi bod i ffwrdd o’r gwaith am dri mis wedi torri coes. Ni fyddai’r tribiwnlys cyflogaeth yn derbyn y ddadl hon. Fe fyddai’r tribiwnlys yn dweud eich bod wedi dioddef gwahaniaethu oherwydd eich beichiogrwydd. Ni fyddai gwahaniaeth sut fyddai’ch cyflogwr wedi trin person cyflogedig arall a fuasai wedi bod i ffwrdd o’r gwaith am yr un cyfnod o amser.

Nôl i’r brig


Beth sy’n digwydd os cewch eich erlid am gwyno?

Nid yw’ch cyflogwr yn cael eich erlid chi am gwyno ynghylch gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn y gwaith. Os oes unrhyw un yn y gwaith yn eich erlid chi am gwyno, neu am helpu cydweithiwr i wneud hynny, fe fyddwch chi’n medru dwyn honiad o erledigaeth anghyfreithlon gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Os ydych chi am wneud hyn, mynnwch gyngor yn gynnar.

Nôl i’r brig


Help pellach

Yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau

Mae mwy o wybodaeth i gyflogedigion a chyflogwyr ar eu hawliau a’u cyfrifoldebau, ar wefan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn www.bis.gov.uk.

Adran Cyflogaeth a Dysgu (Gogledd Iwerddon yn unig)

Yng Ngogledd Iwerddon, mae mwy o wybodaeth i gyflogedigion a chyflogwyr ar eu hawliau a’u cyfrifoldebau ar wefan yr Adran Cyflogaeth a Dysgu yn www.delni.gov.uk.

Maternity Action

Mae cyflogedigion a chyflogwyr yn medru cysylltu â Maternity Action am wybodaeth bellach ynghylch eu hawliau a’u cyfrifoldebau. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth ynghylch hawliau yn ystod beichiogrwydd, cyfnod mamolaeth a dychwelyd i’r gwaith. Mae yna daflenni ffeithiau rhad ac am ddim hefyd y gallwch eu lawrlwytho oddi ar y wefan.

Ffôn: 0845 600 8533 (Dydd Mercher: 3yp – 7yh; Dydd Iau: 3yp – 7yh; Dydd Gwener: 10yb – 2yp)
Gwefan: www.maternityaction.org.uk.

Working Families

Mae Working Families yn helpu rhieni a chyflogwyr i gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd y cartref a gwaith. Mae’n darparu taflenni ffeithiau a chyngor ar hawliau sy’n ffafriol i’r teulu, ac yn rhedeg llinell gymorth i deuluoedd ar incwm isel sy’n rhoi cyngor ar hawliau cyfreithiol, budd-daliadau a gweithio oriau sy’n ffafriol i’r teulu.

1-3 Berry Street
London
EC1V OAA

Llinell gymorth i deuluoedd ar incwm isel: 0800 013 0313
Gwasanaeth neges testun i dadau: 0780 000 4722
Ffacs: 020 7253 6253
E-bost i dadau: edads@workingfamilies.org.uk
E-bost: office@workingfamilies.org.uk (gweinyddol yn unig)
Gwefan: www.workingfamilies.org.uk

Rights of Women (Cymru a Lloegr yn unig)

Mae Rights of Women yn fudiad gwirfoddol i fenywod ac mae wedi ymrwymo i hysbysu menywod, eu haddysgu a’u grymuso, ynghylch eu hawliau cyfreithiol. Mae ganddo linellau cyngor cyfrinachol, rhad ac am ddim sy’n rhoi cyngor arbenigol ar gyfraith y teulu, ysgariad, perthnasoedd sy’n chwalu, plant a materion cyswllt, trais yn y cartref a trais rhywiol, gwahaniaethu a lesbiaid sy’n magu plant.

52-54 Featherstone Street
London
EC1 8RT

Ffôn: 0207 251 6575 (gweinyddol yn unig)
Ffôn Testun: 0207 490 2562

Llinell Gyngor Cyfraith y Teulu: 020 7251 6577 (Dydd Llun 11yb-1yp; Dydd Mawrth a Dydd Mercher 2yp-4yp a 7yh-9yh; Dydd Iau 7yh-9yh; Dydd Gwener 12 hanner dydd-2yp)

Llinell Gyngor Cyfraith Trosedd: 020 7251 8887 (Dydd Mawrth 11yb-1yp; Dydd Iau 2yp-4yp)

Llinell Gyngor Cyfraith Lloches a Mewnfudo: 020 7490 7689 (Dydd Llun 2yp-4yp; Dydd Mercher 11yb-1yp)

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn medru rhoi cyngor ynghylch gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth ac mae’n darparu manylion cyfreithwyr sydd â phrofiad yn y maes cyfreithiol hwn. Fe fyddwch chi’n medru cael mwy o wybodaeth oddi ar eu gwefan yn www.equalityhumanrights.com.

Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, mae cyngor ar gael ar feichiogrwydd a hawliau mamolaeth ar wefan Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon yn www.equalityni.org.

ACAS

Mae ACAS yn gweithio gyda chyflogwyr a chyflogedigion i ddatrys problemau yn y gweithle.

Fe allwch chi ffonio llinell gymorth ACAS ar: 08457 47 47 47 a siarad â chynghorydd am eich problemau cyflogaeth. Mae’r llinell gymorth ar agor o 8yb tan 8yh o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ac o 9yb tan 1yp ar Ddydd Sadwrn.

Mae gan wefan ACAS yn www.acas.org.uk lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch sut i ddatrys problemau yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys Cod Ymarfer ACAS ar weithdrefnau disgyblu ac achwyniad y dylai pob cyflogwr a pherson cyflogedig eu dilyn pan fyddan nhw’n ceisio datrys problemau yn y gwaith. I lawrlwytho copi o’r Cod, rhowch glic ar: www.acas.org.uk.

Is that discrimination?

Mae Is that discrimination? yn wefan a gynhyrchir gan Advicenow. Mae’n cynnwys gwybodaeth ar sut i daclo gwahaniaethu yn y gweithle. Mae hefyd yn cynnwys tudalen broblemau ac astudiaethau achos ar wahaniaethu. Rhowch glic ar www.isthatdiscrimination.org.uk.

Ar Adviceguide

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback