The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Beth yw gahaniaethu ar sail oed
Mae yn erbyn y gyfraith i’ch cyflogwr eich trin chi’n waeth na chydweithwyr eraill yn y gwaith oherwydd eich oed, onid oes rheswm da iawn dros wneud hynny. Mae hefyd yn erbyn y gyfraith i gyflogwr eich diswyddo neu wrthod eich cyflogi, ar sail eich oed yn unig, onid oes rheswm da iawn dros wneud hynny. Os yw’ch cyflogwr yn gwneud hyn, mae’n cael ei alw’n ‘wahaniaethu ar sail oed’. Ni chaiff gyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn am eich bod yn rhy hen neu’n rhy ifanc.
Efallai y bydd hefyd yn wahaniaethu ar sail oed os ydych yn dioddef gwahaniaethu oherwydd:
- ·oed rhywun yr ydych yn ei adnabod, fel aelod o’r teulu neu ffrind, yn hytrach na’ch oed chi eich hun. Er enghraifft, nid yw’ch cyflogwr yn medru gwahaniaethu yn eich erbyn am eich bod yn gofalu am berthynas oedrannus. Gelwir hyn yn wahaniaethu trwy gysylltiad
- ·mae eich cyflogwr yn credu eich bod o oed penodol, ond nid yw hyn yn wir.
Mae'r gyfraith ynghylch gwahaniaethu ar sail oed ond yn cwmpasu cyflogaeth, addysg oedolion a hyfforddiant. Hyd yn hyn, nid oes unrhyw gyfraith i gwmpasu gwahaniaethu ar sail oed mewn meysydd eraill fel nwyddau a gwasanaethau neu dai. Mae hyn yn golygu bod cwmnïau fel cwmnïau yswiriant a chwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau ariannol yn dal i fedru eich trin chi’n waeth na phobl eraill oherwydd eich oed.
I bwy mae'r gyfraith yn berthnasol
Mae'r gyfraith yn berthnasol i chi os ydych:
- ·yn gweithio
- ·yn ceisio am swydd newydd
- ·yn weithiwr asiantaeth. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawliau cyflogaeth gweithwyr asiantaeth, gweler Hawliau gweithwyr asiantaeth
- ·angen cael geirda gan gwmni yr oeddech yn arfer gweithio iddo. Nid yw eich cyflogwr yn medru gwrthod rhoi geirda i chi pan fyddwch chi’n gadael swydd ar sail eich oed yn unig.
Mae'r gyfraith yn berthnasol i chi, waeth sawl person sy’n gweithio yn eich cwmni neu ba mor hir yr ydych wedi bod yn gweithio iddynt.
Ni fydd y gyfraith newydd yn berthnasol i chi os ydych yn y lluoedd arfog neu os ydych yn wirfoddolwr sydd ddim yn cael eich talu.
Beth mae'r gyfraith yn ei olygu
Mae'r gyfraith newydd yn golygu:
- nad yw eich cyflogwr yn cael eich trin yn waeth na chydweithwyr eraill yn y gwaith oherwydd eich oed, neu ba mor hen/ifanc yr ydych yn eu barn nhw, onid oes rheswm da iawn dros hyn
- nad yw cyflogwyr yn medru gwrthod eich cyflogi oherwydd eich oed onid yw’n medru rhoi rheswm busnes da dros hyn, sydd heb unrhyw gysylltiad o gwbl ag oed
- nad yw eich cyflogwr yn cael eich gorfodi i ymddeol na’ch diswyddo am eich bod wedi cyrraedd oed penodol, onid oes rheswm da iawn dros wneud hynny. Os yw’n gwneud hynny, fe fyddwch yn medru gofyn i dribiwnlys benderfynu os ydych wedi cael eich diswyddo’n annheg ac os ydych wedi dioddef gwahaniaethu oherwydd eich oed
- nad yw eich cyflogwr yn medru eich diswyddo oherwydd eich oed, ac eithrio ble mae am wneud i chi ymddeol yn 65 neu’n hyn. Fe fydd hyn yn newid o 1 Hydref 2011.
- nad yw’ch cyflogwr yn medru cael rheolau neu arferion a fyddai, er nad ydynt wedi eu hanelu atoch chi’n bersonol, yn golygu eich bod ar anfantais oherwydd eich oed. Er enghraifft, nid yw’n cael dweud bod angen i chi fod wedi cael 12 mlynedd o brofiad cyn ceisio am swydd. Mae hyn yn gosod pobl ifancach ar anfantais ac mae yn erbyn y gyfraith. Ond, weithiau mae cyflogwyr yn cael mabwysiadu rheolau neu arferion sy’n eich gosod chi ar anfantais, os oes ganddynt reswm cryf iawn dros wneud hyn
- nad yw’ch cyflogwyr yn cael eich bwlio nac aflonyddu arnoch oherwydd eich oed. Rhaid iddynt hefyd atal cydweithwyr eraill ac, mewn rhai achosion, cleientiaid neu gwsmeriaid busnes, rhag gwneud hyn. Er enghraifft, rhaid iddynt stopio pobl eraill os ydynt yn dweud jôcs sarhaus am eich oed yn y gweithle
- nad yw’ch cyflogwr yn cael eich trin yn waeth oherwydd oed rhywun yr ydych ei h/adnabod, fel aelod o’r teulu neu ffrind. Er enghraifft, os yw’ch cyflogwr yn caniatáu i rieni â phlant bach weithio oriau hyblyg, ni ddylai wrthod adael i chi weithio’n hyblyg er mwyn i chi fedru gofalu am berthynas oedrannus. Petai’n gwneud hynny, byddai’n wahaniaethu trwy gysylltiad.
Os ydych yn dioddef gwahaniaethu ar sail oed, fe fyddwch yn medru dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Pryd efallai y bydd eich cyflogwr yn cael eich trin yn wahanol oherwydd eich oed?
Mae eich cyflogwr yn medru cyfiawnhau’r driniaeth
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd eich cyflogwr yn cael eich trin yn waeth na chydweithwyr eraill oherwydd eich oed, os yw’n medru dangos bod modd cyfiawnhau’r rheswm dros hyn.
Byddai angen i’ch cyflogwr ddangos bod y rheswm dros y driniaeth neu dros gael polisi neu arfer penodol yn y gweithle yn rheswm busnes da iawn ac nid yn ymwneud â’ch oed yn unig.
Os yw’n medru dangos hyn, a bod y driniaeth, y polisi neu’r arfer yn briodol o dan yr amgylchiadau, ni fydd yn cyfrif fel gwahaniaethu.
Dyma enghraifft o bolisi y byddai cyflogwr yn medru ei gyfiawnhau. Mae hyn yn golygu, er ei fod yn ymddangos yn annheg i grwpiau o oed penodol, na fyddai’n cyfrif fel gwahaniaethu.
Dyma enghraifft o reol fwy na thebyg na allai cyflogwr ei chyfiawnhau ac felly byddai’n cyfrif fel gwahaniaethu.
Mae cwmni cludiant yn cyflwyno gwaharddiad cyffredinol ar lorïau cymalog i yrwyr lori sydd dros 55. Mae hyn am fod y dystiolaeth ystadegol yn awgrymu bod mwy o siawns cael trawiad ar y galon dros yr oed yma.
Er mai’r nod tu ôl i’r polisi yw diogelu’r cyhoedd, gellid dadlau y byddai’n well rhoi gwiriadau meddygol cyffredinol i yrwyr lori unigol yn hytrach na chyflwyno gwaharddiad cyffredinol. Byddai hyn yn gwahaniaethu llai.
Os ydych yn credu bod cyflogwr yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oed ac nid ydynt yn medru cyfiawnhau’r rheswm dros eich trin chi fel hyn, fe fyddwch yn medru dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Sefyllfaoedd eraill pan fydd cyflogwr yn medru eich trin chi’n wahanol
Mae yna nifer o sefyllfaoedd eraill pan fydd cyflogwyr efallai’n cael eich trin chi’n wahanol i grwpiau oedran eraill. Mae hyn yn wir yn yr achosion canlynol:
- mae yna gyfyngiad cyfreithiol ar y gwaith y gall rywun ei wneud oherwydd eu hoed. Er enghraifft, rhaid bod staff bar sy’n gweini alcohol yn 18 o leiaf, felly fe allwch wrthod cyflogi rhywun dan 18 ar gyfer y swydd hon. Pan fyddwch chi’n hysbysebu, fe allwch chi ddweud mai pobl sydd dros 18 yn unig ddylai geisio
- mae cyflogwr yn medru dangos ei fod angen rhywun o oed penodol i wneud gwaith penodol. Gelwir hyn yn angen galwedigaethol. Er enghraifft, byddai angen actores ifancach i chwarae rôl merch ifanc yn ei harddegau mewn ffilm
- mae’ch cyflogwr yn seilio’r swm y mae’n ei dalu i chi, a buddion eraill sy’n ymwneud â’r gyflogaeth, ar y cyfnod yr ydych wedi gwasanaethu. Ond, os yw’r gwahaniaeth hwn yn seiliedig ar fwy na phum mlynedd o wasanaeth, rhaid bod eich cyflogwr yn medru cyfiawnhau hyn
- rydych chi’n cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae yna gyfraddau cyflog gwahanol ar gyfer yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan ddibynnu ar eich oed. Rydych yn cael llai o arian os ydych dan 21 ac nid yw hyn yn erbyn y gyfraith
- rydych chi’n cael tâl dileu swydd. Mae hyn yn medru bod yn gysylltiedig ag oed
- mae eich cyflogwr yn darparu meithrinfa yn y gweithle neu dalebau gofal plant. Mae’n medru cyfyngu mynediad at y rhain ar sail oed y plentyn
- mae’ch cyflogwr yn gwneud rheolau ynghylch oed yng nghynlluniau pensiwn y gweithle. Er enghraifft, os yw cynllun pensiwn y gweithle’n dweud nad ydych yn medru cael eich pensiwn cyn i chi droi’n 60, nid yw hyn yn erbyn y gyfraith. Mae eich cwmni’n medru gosod yr oed y medrwch gael pensiwn y gweithle, cyhyd â’i fod dros 55
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gweler Hawliau i gyflog.
Am fwy o wybodaeth ynghylch tâl dileu swydd, gweler Tâl dileu swydd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau pensiwn yn y gwaith, gweler Pensiynau’r gweithle.
Gwahaniaethu ar sail oed ac ymddeol
Nid yw’ch cyflogwr yn medru eich diswyddo na’ch gorfodi i ymddeol am eich bod wedi cyrraedd oed penodol, onid oes rheswm da iawn dros wneud hynny.
Os nad oes rheswm da dros eich diswyddo chi neu dros ofyn i chi ymddeol oherwydd eich oed, efallai bod hyn yn ddiswyddiad annheg ac yn wahaniaethu ar sail oed. Fe fyddwch yn medru dwyn achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth gyda honiad o ddiswyddiad annheg a gwahaniaethu ar sail oed.
Ar un adeg, roedd cyflogwr yn medru gwneud i chi ymddeol wedi i chi gyrraedd 65 oed, trwy ddilyn gweithdrefn o’r enw ‘gweithdrefn ymddeol ddiofyn’.
Os oedd eich cyflogwr wedi dechrau’r weithdrefn hon erbyn 5 Ebrill 2011, fe fyddwch yn dal i orfod ymddeol ar y dyddiad y cytunwyd arno gyda’ch cyflogwr.
Rhaid eich bod chi wedi cyrraedd 65 cyn 1 Hydref 2011 a rhaid bod eich cyflogwr wedi dilyn y weithdrefn gywir.
Ers 6 Ebrill, nid yw unrhyw gyflogwr yn cael dechrau’r weithdrefn ymddeol ddiofyn.
Beth os oeddech wedi cyrraedd 65 cyn 1 Hydref 2011?
Os oeddech wedi cyrraedd 65 oed cyn 1 Hydref 2011, efallai y byddwch chi wedi cael rhybudd ymddeol o dan yr hen weithdrefn ymddeol ddiofyn. Fe allai hyn olygu eich bod yn ymddeol mor ddiweddar â mis Hydref 2012.
Dylech fod o dan rybudd ymddeol dim ond os yw’r holl bwyntiau canlynol yn wir yn eich achos chi:
- ·roeddech wedi cyrraedd 65 oed cyn 1 Hydref 2011
- ·cawsoch rybudd gan eich cyflogwr erbyn 5 Ebrill 2011 fan hwyraf, ei fod am i chi ymddeol. Os cawsoch y rhybudd hwn ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd eich cyflogwr yn medru eich gorfodi i ymddeol o dan yr hen weithdrefn ymddeol ddiofyn
- ·dilynodd eich cyflogwr y weithdrefn ymddeol ddiofyn gywir – er enghraifft, rhaid bod y llythyr rhybudd wedi cynnwys geiriau penodol iawn. Os nad oedd eich cyflogwr wedi dilyn y weithdrefn gywir, efallai na fydd yn medru eich gorfodi i ymddeol.
Os ydych yn credu nad oedd eich cyflogwr wedi dilyn y weithdrefn rybudd gywir, neu nad oedd wedi cynnwys y geiriau cywir yn y llythyr rhybudd, dylech gael cyngor cyfreithiol.
Y dyddiad hwyraf y gellir gorfodi unrhyw un sydd wedi cyrraedd 65 oed cyn 1 Hydref 2011 i ymddeol o dan yr hen weithdrefn ymddeol ddiofyn yw 5 Hydref 2012. Mae hyn yn wir oherwydd, o dan yr hen reolau, roedd eich cyflogwr yn medru rhoi hyd at ddeuddeg mis o rybudd i chi ynghylch dyddiad eich ymddeoliad, ac fe allech ofyn i’ch cyflogwr estyn eich ymddeoliad am hyd at chwe mis tu hwnt i’r dyddiad hwn.
Felly, er enghraifft, efallai eich bod wedi cael blwyddyn o rybudd ar 5 Ebrill 2011. Fe fyddai wedi dod i ben ar 5 Ebrill 2012 ond, os oeddech wedi gofyn am estyniad o chwe mis a’ch cyflogwr wedi cytuno, fe allech fod yn gweithio hyd nes 5 Hydref 2012. Yna, fe fyddai’n rhaid i chi ymddeol.
Ymddeol a diswyddiad annheg
Cyn 1 Hydref 2011, roedd yn bosib i’ch cyflogwr eich gorfodi i ymddeol heb i hyn gyfrif fel diswyddiad annheg. Cyhyd â’i fod wedi dilyn y weithdrefn gywir, roedd eich cyflogwr yn medru eich diswyddo unwaith yr oeddech wedi cyrraedd oed ymddeol, heb unrhyw reswm arall.
O dan y gyfraith bresennol, nid yw’ch cyflogwr yn cael eich diswyddo dim ond am ei fod yn dweud eich bod wedi cyrraedd oed ymddeol. Fe fydd hyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl.
Ond, efallai bod rhai swyddi ble mae’ch cyflogwr yn medru dweud bod yn rhaid i chi ymddeol wedi cyrraedd oed penodol. Fe fydd angen iddo gael rheswm cryf iawn, er enghraifft oherwydd iechyd a diogelwch. Os yw cyflogwr am wneud i chi ymddeol wedi i chi gyrraedd oed penodol, fe fydd angen iddo fedru cyfiawnhau’r rhesymau dros hyn gerbron llys neu dribiwnlys cyflogaeth. Fe fydd llysoedd a thribiwnlysoedd cyflogaeth yn ystyried y mathau hyn o achosion yn ofalus iawn, i benderfynu a yw gorfodi rhywun i ymddeol oherwydd eu hoed yn deg ai peidio.
Problemau gyda gwahaniaethu ar sail oed ac ymddeol
Os ydych yn credu bod eich cyflogwr wedi ceisio eich gorfodi chi i ymddeol pan na ddylai fod wedi gwneud hynny, fe fyddwch yn medru dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Os ydych yn aelod o undeb llafur, gofynnwch i’ch undeb llafur am eich helpu i wybod sut i ddelio gyda’ch cyflogwr, neu siaradwch â chynghorydd profiadol.
Mae help ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol, i ddelio gyda honiad o ddiswyddiad annheg neu wahaniaethu ar sail oed. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych chi am ymddeol erbyn oed penodol
Os ydych am adael gwaith ar unrhyw oed, cewch wneud hynny trwy roi wythnos o rybudd, neu fwy os yw’ch cytundeb yn gofyn i chi roi mwy. Os ydych chi am ‘ymddeol’ yn gynnar, ni fyddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth nac unrhyw daliadau pensiwn eraill ynghynt na’r dyddiad y mae rheolau’r cynllun yn ei ganiatáu. Mae’r oed y medrwch chi gael Pensiwn y Wladwriaeth, a thaliadau pensiwn eraill, yn dibynnu ar eich oed ac nid pryd yr ydych chi’n ymddeol.
Dylech holi a oes hawl gennych i unrhyw bensiwn gan y gweithle os ydych yn ymddeol yn gynnar. Er enghraifft, fe fydd rhai pensiynau gan y gweithle yn rhoi taliadau os ydych yn ymddeol yn gynnar oherwydd afiechyd.
I gael gwybod mwyn am bryd y gallwch chi gael Pensiwn y Wladwriaeth, gweler Pensiwn y Wladwriaeth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch pensiynau’r gweithle, gweler Pensiynau’r gweithle.
Ceisiadau am swydd a gwahaniaethu ar sail oed
Yr oed ymddeol arferol ar gyfer dynion a menywod yw 65
Nid yw’r mwyafrif o gyflogwyr yn medru eich gorfodi i ymddeol cyn i chi droi’n 65 oed, onid oes rheswm da iawn dros wneud hynny.
Wedi i chi gyrraedd 65 oed, mae eich cyflogwr yn medru eich gorfodi i ymddeol.
Efallai y byddwch yn medru gweithio ar ôl troi’n 65 os yw’n dweud hynny yn eich cytundeb cyflogaeth, neu os ydych yn gofyn am gael gweithio’n hirach a’ch cyflogwr yn cytuno i hynny.
Os yw’ch cytundeb cyflogaeth yn dweud eich bod yn medru gweithio ar ôl troi’n 65, nid yw’ch cyflogwr yn medru gwneud i chi ymddeol yn 65, onid oes rheswm da iawn dros wneud hynny.
Efallai bod cytundeb gennych sy’n dweud bod yr oed ymddeol ar gyfer eich gweithle yn is na 65. Hyd yn oed os yw’n dweud hynny, ni fydd eich cyflogwr yn medru gwneud i chi ymddeol cyn 65, onid oes rheswm da iawn dros wneud hynny.
Os nad yw’ch cytundeb yn sôn am oed ymddeol arferol, eich oed ymddeol fydd 65.
Mae yna weithdrefn benodol y mae’n rhaid i’ch cyflogwr ei dilyn os am wneud i chi ymddeol.
Mae'n rhaid i’ch cyflogwr roi rhybudd ysgrifenedig i chi ynghylch y dyddiad y byddwch yn ymddeol a dweud wrthych am eich hawl i ofyn am gael aros ymlaen ar ôl y dyddiad yna. Dylech gael y rhybudd rhwng chwech a deuddeg mis cyn y dyddiad y byddech yn ymddeol.
Os nad yw'ch cyflogwr yn dilyn y weithdrefn hon, fe fyddwch yn medru dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth ac mae'n bosib y cewch hyd at wyth wythnos o gyflog.
Mae’ch cytundeb yn dweud bod yn rhaid i chi ymddeol cyn troi’n 65
Hyd yn oed os yw’ch cytundeb cyflogaeth yn dweud bod yr oed ymddeol arferol ar gyfer eich gweithle’n is na 65, fel arfer nid yw’ch cyflogwr yn medru gwneud i chi ymddeol cyn i chi droi’n 65.
Ond, efallai y bydd eich cyflogwr yn medru cyfiawnhau pam mae angen i chi ymddeol cyn troi’n 65. Efallai y bydd hyn yn anodd, gan ddibynnu ar y math o waith yr ydych yn ei wneud a’r rheswm pam y mae’ch cyflogwr am i chi ymddeol.
Er enghraifft, oed ymddeol arferol diffoddwyr tân yw 55. Mae hyn yn eu cytundebau. Os yw cyflogwr diffoddwr tân am iddo ymddeol ar yr oed yma, fe fydd yn rhaid mynd trwy’r weithdrefn arbennig a rhoi rheswm da iawn pam y mae am i’r diffoddwr tân ymddeol. Os nad yw’r cyflogwr yn medru rhoi rheswm sy’n ddigon da, ni fydd yn medru ei orfodi i ymddeol ar yr oed yma.
Os yw’ch cyflogwr yn eich gorfodi i ymddeol cyn 65 heb reswm sy’n ddigon da, mae hyn yn debygol o fod yn ddiswyddiad annheg ac yn wahaniaethu ar sail oed. Fe fyddwch yn medru dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth am y pethau hyn.
Os ydych yn aelod o undeb llafur, mynnwch help gan eich undeb llafur i ddelio yn y ffordd orau gyda’ch cyflogwr, neu siaradwch â chynghorydd profiadol.
Mae help ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol, i ddelio gydag achos o ddiswyddiad annheg neu wahaniaethu ar sail oed. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych am weithio ar ôl yr oed ymddeol arferol
Os ydych yn gofyn i’ch cyflogwr am gael gweithio ar ôl troi’n 65 neu ar ôl yr oed ymddeol arferol sydd yn eich cytundeb, mae’n rhaid i’ch cyflogwr ystyried eich cais, ond nid yw’n gorfod cytuno.
Os ydych am ymddeol cyn troi’n 65
Os ydych chi am ymddeol cyn troi’n 65, cewch wneud hyn os yw eich cyflogwr yn cytuno. Os ydych yn ymddeol yn gynnar ni fyddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth ynghynt. Mae’r oed y byddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar eich oed ac nid ar yr adeg yr ydych yn ymddeol.
Dylech holi os oes pensiwn ar gael gan y gweithle y gallech ei gael yn gynnar os digwydd i chi ymddeol yn gynnar. Er enghraifft, fe fydd rhai pensiynau gweithle’n talu allan os oes rhaid i chi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch.
Am fwy o wybodaeth ynghylch pryd fedrwch chi gael Pensiwn y Wladwriaeth, gweler Pensiwn y Wladwriaeth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch pensiynau’r gweithle, gweler Pensiynau’r gweithle.
Gwahaniaethu ar sail oed a cheisiadau am swydd
Rydw i newydd geisio am swydd ac mae’r ffurflen yn gofyn am fy nyddiad geni. A oes rhaid i mi ei roi? Rwy’n 62 ac yn ofni na fydd y cwmni’n edrych ar fy nghais wedi sylweddoli faint yw fy oed.
Nid oes unrhyw beth i atal cwmni rhag gofyn am eich dyddiad geni ar ffurflen gais. Ond os nad ydych yn cael y swydd ac rydych yn credu mai’r rheswm yw eich oed, fe allwch ddefnyddio’r ffaith eu bod wedi gofyn am eich dyddiad geni fel tystiolaeth bosib o wahaniaethu ar sail oed.
Yn gyffredinol, mae yn erbyn y gyfraith i gyflogwyr wrthod eich cyflogi neu wrthod eich dyrchafu oherwydd eich oed, onid oes rheswm da iawn dros wneud hynny.
Mae hyn yn golygu, yn y mwyafrif o achosion, na ddylai cyflogwyr hysbysebu swyddi sydd wedi eu hanelu at grwpiau oed penodol.
Fodd bynnag, mae yn rai pethau y mae’r cyflogwr yn cael eu gwneud wrth eich cyflogi neu eich dyrchafu, sydd ddim yn cyfrif fel gwahaniaethu.
Beth sydd ddim yn cyfrif fel gwahaniaethu ar sail oed os yw cyflogwr yn gwrthod eich cyflogi pan fyddwch chi'n ceisio am swydd
Efallai na fydd yn cyfrif fel gwahaniaethu ar sail oed yn yr achosion canlynol:
- mae cyflogwr yn medru cyfiawnhau pam na all eich cyflogi oherwydd eich oed. Er enghraifft, efallai bod yna gyfyngiad cyfreithiol ar gyflogi pobl dan oedran penodol i wneud gwaith penodol, neu efallai bod yna angen galwedigaethol i gyflogi pobl o oed penodol.
A yw cyflogwr yn cael holi am eich oed mewn cais am swydd
Mae cyflogwr yn medru gofyn am wybodaeth am eich oed mewn cais am swydd. Ond, os ydych yn credu bod cyflogwr wedi defnyddio’r wybodaeth hon i wahaniaethu yn eich erbyn, rydych yn medru cwyno at dribiwnlys cyflogaeth.
Gwahaniaethu ar sail oed a diswyddiad annheg
Os cewch eich diswyddo'n annheg, efallai y byddwch yn medru dwyn achos o ddiswyddiad annheg gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Efallai y byddwch yn medru dwyn achos am wahaniaethu ar sail oed a diswyddiad annheg.
Rydych yn medru dwyn achos o wahaniaethu ar sail oed waeth faint o amser yr ydych wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr. Er mwyn dwyn achos o ddiswyddiad annheg, rhaid eich bod wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr ers o leiaf un flwyddyn os oeddech wedi dechrau cyn 6 Ebrill 2012 neu o leiaf ddwy flynedd os oeddech wedi dechrau ar 6 Ebrill 2012 neu ar ôl y dyddiad yma.
Dim ond 42 ydw i ond mae'r bos yn dweud ei fod yn gorfod cael fy ngwared oherwydd fy oed – mae'n dweud nad ydyw fy nelwedd i'n iawn i'w gwmni. Ydyw e'n gallu gwneud hyn?
Na, ni all eich diswyddo, onid oes rheswm da ganddo dros eich diswyddo. Yn syml, nid yw bod yn 42 yn rheswm da. Os cewch eich diswyddo, efallai bod gennych le i hawlio Diswyddiad annheg. Mynnwch gyngor cyn cynted â phosib.
Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich diswyddo'n annheg neu wedi dioddef gwahaniaethu, dylech gael cyngor cyn gynted â phosib, oherwydd mae yna derfynau amser ar gyfer dwyn achos. Dylai eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol fod yn medru helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gwahaniaethu ar sail oed a dileu swydd
Os cewch eich diswyddo o’ch gwaith, rydych yn medru cael tâl dileu swydd waeth faint yw eich oed – nid oes terfyn uwch nac is.
Mae'n rhaid eich bod wedi gweithio i'ch cyflogwr ers o leiaf dwy flynedd cyn i chi fedru cael tâl dileu swydd statudol. Dyma’r swm a osodir yn gyfreithiol fel y swm y dylech ei gael os yw’ch swydd yn cael ei dileu. Efallai y byddwch yn medru cael tâl dileu swydd cyn i chi fod wedi gweithio am ddwy flynedd os yw’ch cytundeb cyflogaeth yn dweud hynny. Gelwir hyn yn dâl dileu swydd cytundebol.
Wrth ddiswyddo staff, ni chaiff cyflogwyr wahaniaethu yn erbyn gweithwyr hyn nac ifancach. Os ydyn nhw’n gwneud hynny, efallai y byddwch yn medru dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Ond, mae cyflogwyr yn cael dewis pobl i'w diswyddo ar sail y cyfnod y maent wedi bod yn gweithio iddynt.
Gwahaniaethu ar sail oed ac aflonyddu
Nid yw’ch cyflogwr yn cael aflonyddu arnoch oherwydd eich oed. Os yw cydweithiwr yn aflonyddu arnoch, eich cyflogwr sy’n gyfrifol.
Mae aflonyddu’n cyfrif fel gwahaniaethu ar sail oed os ydych yn teimlo bod ymddygiad rhywun yn ymosodol, yn dychryn, yn diraddio, yn bychanu neu’n drallodus mewn unrhyw ffordd arall oherwydd eich oed.
Enghraifft
Mae fy rheolwr yn ceisio fy mychanu drwy’r amser oherwydd fy oed. Mae’n dweud pethau fel ‘hen ddyn ffôl’ ac yn dweud fy mod i’n mynd yn fethedig.
Beth fedrwch chi ei wneud am wahaniaethu ar sail oed
Os ydych yn cael eich trin yn annheg neu eich bwlio yn y gwaith oherwydd eich oed, gwnewch rywbeth cyn gynted â phosib.
Siarad â rhywun
Ceisiwch ddweud wrth y person sy'n aflonyddu arnoch neu'n eich trin yn annheg i stopio, ond dim ond os ydych yn teimlo y byddai'n ddiogel gwneud hynny. Efallai y byddai'n ddefnyddiol cael cydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur gyda chi pan fyddwch yn gwneud hyn.
Dylech ddweud wrth eich rheolwr beth sy'n digwydd ac hefyd siarad â'ch adran personél neu undeb llafur, os oes un gennych. Cofnodwch y cyfan yn ysgrifenedig a chadwch gopi. Mae gofyn i'ch cyflogwr, yn ôl y gyfraith, i geisio atal bwlio a gwahaniaethu yn y gweithle, waeth ai cydweithiwr, rheolwr neu gwsmer sy’n gyfrifol am yr ymddygiad. Os mai'r person dan sylw yw eich rheolwr, dylech ddweud wrth rywun uwch yn y sefydliad.
Casglu tystiolaeth
Byddai'n ddefnyddiol casglu tystiolaeth ynghylch y gwahaniaethu yr ydych yn ei ddioddef. Me hyn yn medru cynnwys cadw dyddiadur neu gofnodi'r amser, y dyddiad a'r lleoliad ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau, Yr hyn a gafodd ei ddweud neu ei wneud, a oedd unrhyw dystion, a thystiolaeth o unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn erbyn cydweithwyr. Efallai y byddwch am gofnodi enwau a swyddi'r rheiny sydd, yn eich barn chi, yn cael eu trin yn fwy ffafriol na chi, neu ynghylch y rheol neu bolisi sy'n eich gosod o dan anfantais, ac esbonio pam.
Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i'ch cyflogwr ddarparu gwybodaeth trwy weithdrefn holiadur. Mae hyn yn medru helpu cael gwybodaeth i gefnogi eich achos. Mynnwch gyngor yn gynnar oherwydd mae yna derfynau amser llym ar gyfer y weithdrefn hon.
Rydych yn medru cael cyngor ar wahaniaethu ar sail oed gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth lleol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Codi achwyniad
Os nad yw siarad â rhywun wedi stopio'r aflonyddu neu’r driniaeth annheg, rydych yn medru codi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr. Dylai fod ganddo weithdrefn achwyniad ffurfiol ar gyfer codi achwyniad, ond os nad oes un ar gael, dylech ddilyn Cod Ymarfer Acas ar weithdrefnau disgyblu ac achwyniad.
Os ydych yn credu efallai y byddwch yn dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gofalwch rhag i chi golli’r terfyn amser ar gyfer dwyn achos, hyd yn oed os ydych yn codi achwyniad.
Am wybodaeth bellach ynghylch codi achwyniad gyda'ch cyflogwr, gan gynnwys Cod Ymarfer Acas, gweler Delio gydag achwyniadau yn y gwaith.
Hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth
Os yw’ch cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oed, efallai y byddwch yn medru dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Dylech fod wedi ceisio datrys eich problemau’n gyntaf trwy godi achwyniad neu fynd at ganolwr.
Rydych yn medru dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth am wahaniaethu ar sail oed ac, mewn rhai achosion, efallai y byddwch hefyd yn medru dwyn achos o ddiswyddiad annheg.
Mae tribiwnlys cyflogaeth yn medru:
- penderfynu ar eich hawliau
- rhoi iawndal. Nid oes unrhyw derfyn uchaf ar gyfer yr iawndal y medrwch ei gael oherwydd gwahaniaethu ar sail oed.
- Awgrymu i'r cyflogwr unioni'r broblem.
Pwysig!
Terfynau amser
Os ydych chi am ddwyn achos o wahaniaethu ar sail oed neu ddiswyddiad annheg gerbron tribiwnlys cyflogaeth, mae yna derfyn amser llym. Fel arfer, mae gennych dri mis namyn diwrnod i gyflwyno’ch achos i’r tribiwnlys. Mae’r tri mis yn dechrau o’r dyddiad diwethaf y gwahaniaethwyd yn eich erbyn neu yr aflonyddwyd arnoch neu o’r dyddiad y cawsoch eich diswyddo. Mae’r terfyn amser yn berthnasol hyd yn oed os ydych yn codi achwyniad.
Am fwy o wybodaeth ynghylch dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gweler Tribiwnlysoedd cyflogaeth.
Os ydych yn ystyried hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft gan ganolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cynlluniau pensiwn gwaith a gwahaniaethu ar sail oed
Mae cyflogwyr yn cael cynnwys rheolau am oedran yn eu cynlluniau pensiwn gwaith. Nid yw hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu ar sail oed.
Er enghraifft, os yw’ch cynllun pensiwn gwaith yn dweud nad ydych yn medru cael eich pensiwn cyn cyrraedd 60, nid yw hyn yn erbyn y gyfraith. Mae eich cwmni’n medru gosod yr oedran y medrwch gael eich pensiwn gwaith, tra’i fod dros 55.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau pensiwn gwaith, gweler Pensiynau’r gweithle.
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a gwahaniaethu ar sail oed
Mae yna gyfraddau cyflog gwahanol ar gyfer yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan ddibynnu ar eich oed. Rydych yn cael llai o arian os ydych yn iau na 21 ac nid yw hyn yn erbyn y gyfraith.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gweler Hawliau i gyflog.
Mathau eraill o wahaniaethu
Yn ogystal â dioddef gwahaniaethu ar sail oed, mae'n bosib i chi gael eich trin yn annheg am resymau eraill, er enghraifft, am eich bod yn fenyw, yn hoyw neu'n anabl.
Gwybodaeth bellach
Mae mwy o wybodaeth am wahaniaethu ar sail oed yng Nghymru a Lloegr ar gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy eu gwybodaeth Age Positive. Fe allwch weld yr wybodaeth hon ar-lein yn: www.dwp.gov.uk.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban mae mwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail oed ar gael hefyd gan Age UK.
Yng Nghymru a Lloger, fe allwch weld yr wybodaeth hon ar-lein hefyd yn: www.ageuk.org.uk, yn Alban www.ageuk.org.uk.
Mae'r Rhwydwaith Oed a Chyflogaeth (Age and Employment Network) yn gweithio gyda phobl hŷn i hybu cyfleoedd gwaith iddyn nhw. Mae hefyd yn rhedeg gwefan Agebusters sy'n rhoi gwybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail oed: www.agebusters.org.uk.
Mae Is that discrimination? yn wefan a gynhyrchwyd gan Advicenow. Mae'n cynnwys gwybodaeth ar sut i daclo gwahaniaethu yn y gweithle. Mae hefyd yn cynnwys tudalen broblemau ac astudiaethau achos ynghylch gwahaniaethu. Rhowch glic ar www.isthatdiscrimination.org.uk.
Help pellach
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Efallai y bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn medru eich helpu os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu. Rydych yn medru cysylltu â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn:-
Lloegr
Equality and Human Rights Commission Helpline England
Freepost RRLL-GHUX-CTRX
Arndale House
Arndale Centre
Manchester
M4 3AQ
Ffôn: 0845 604 6610 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 6620
Ffacs: 0845 604 6630
E-bost: englandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
Cymru
Llinell Gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru
Rhadbost RRLR-UEYB-UYZL
3ydd Llawr
3 Sgwâr Callaghan
Caerdydd
CF10 5BT
Ffôn: 0845 604 8810 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 8820
Ffacs: 0845 604 8830
E-bost: waleshelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
Yr Alban
Equality and Human Rights Commission Helpline Scotland
Freepost RRLL-GYLB-UJTA
The Optima Building
58 Robertson Street
Glasgow
G2 8DU
Ffôn: 0845 604 5510 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 5520
Ffacs: 0845 604 5530
E-bost: scotlandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon
Mae cyngor ar gael gan Gomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon. Dyma’r manylion cyswllt:
The Equality Commission for Northern Ireland
Equality House
7-9 Shaftesbury Square
Belfast
BT2 7DP
Ffôn: 028 9050 0600
Ffôn Testun: 028 9050 0589
Llinell Ymholiadau: 028 90 890 890
Ffacs: 028 9024 8687
E-bost: information@equalityni.org
Gwefan: www.equalityni.org
Canolfannau Cyfraith
Mae canolfannau cyfraith yn medru cynnig cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim i bobl sydd am gymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail oed. Os ydych yn cael eich cynrychioli gan gyfreithiwr o ganolfan gyfraith, efallai y bydd hawl gennych i gymorth cyfreithiol. Mae manylion y canolfannau cyfraith agosaf ar gael gan:-
Yng Nghymru a Lloegr
The Law Centres Federation
PO Box 65836,
London EC4P 4FX
Ffôn: 020 7842 0720
Ffacs: 020 7842 0721
E-bost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: www.lawcentres.org.uk
Yn Yr Alban
Scottish Association of Law Centres
Secretary
c/o Govan Law Centre
47 Burleigh Street
Govan
Glasgow G51 3LB
Ffôn: 0141 440 2503
E-bost: m@govanlc.com
Gwefan: www.salc.info
Yng Ngogledd Iwerddon
Law Centre NI
124 Donegall Street
Belfast
BT1 2GY
Ffôn: 028 9024 4401
Ffacs: 028 9023 6340
E-bost: admin.belfast@lawcentreni.org
Uned Cynrychiolaeth Rhad Ac Am Ddim (Lloegr)
Mae’r Uned Cynrychiolaeth Rhad Ac Am Ddim yn fudiad sy’n medru darparu cynrychiolaeth i bobl yn ardal Llundain sydd ar incwm isel. Ond, mae ond yn medru gweithredu ar ran pobl sydd wedi cael eu cyfeirio’n ysgrifenedig gan asiantaeth arall sydd wedi tanysgrifio i’r Uned, er enghraifft, rhai canolfannau Cyngor Ar Bopeth yn ardal Llundain. Mae manylion y canolfannau CAB mewn llyfrau ffôn lleol neu ar wefan Cyngor ar Bopeth, sef www.citizensadvice.org.uk. Gellir cysylltu â’r uned yn:
6th Floor
289 – 293 High Holborn
London
WC1V 7HZ
Ffôn: 020 7611 9555
Ffacs: 020 7611 9551
E-bost: ar gael trwy ffurflen ar y wefan
Gwefan: www.thefru.org.uk
Cynrychiolaeth Rhad Ac Am Ddim (Yr Alban)
Mae peth cynrychiolaeth rhad ac am ddim ar gael yn yr Alban ar gyfer tribiwnlysoedd a llysoedd. Mae ond ar gael ar gyfer rhai achosion penodol ac ar gyfer pobl sydd ar incwm isel. Mae ond ar gael trwy ganolfan Cyngor ar Bopeth.
I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy ‘n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.









