Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Hawliau cleifion y GIG yng Nghymru

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru

Ynglŷn â hawliau cleifion y GIG yng Nghymru

Fel claf y GIG, mae gennych hawliau sy’n lledu ar draws eich triniaeth, pa wasanaeth GIG bynnag yr ydych yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys na ddylid gwahaniaethu yn eich erbyn, y dylai’ch gwybodaeth fod yn gyfrinachol a hawliau ynglŷn â rhoi caniatâd i gael triniaeth.

Ar y dudalen hon fe gewch chi amrywiaeth eang o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau ar draws gwasanaethau’r GIG. Mae hyn yn cynnwys:

Fe gewch chi fwy o wybodaeth hefyd am eich triniaeth o fewn y GIG yn Adviceguide. Mae hyn yn cynnwys Defnyddio Meddyg Teulu'r GIG yng Nghymru a Defnyddio gwasanaethau ysbyty'r GIG yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth, gweler Cymorth ychwanegol.

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu yn y GIG

Nid oes hawl gan sefydliadau na phobol sy’n darparu gwasanaethau iechyd i wahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu gred neu rywioldeb.

Gall fod polisi cydraddoldeb gan eich Bwrdd Iechyd Lleol hefyd sy’n nodi na fydd yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail rhesymau eraill, er enghraifft, os oes gennych HIV neu os ydych yn drawsrywiol.

Mae clinig y GIG wedi gwrthod gwasanaethau ffrwythlonder i ni am ein bod yn gwpl lesbiaidd. Allan nhw wneud hyn?

Na allan, allan nhw ddim. Os ydyn nhw’n gwrthod eich trin chi dim ond o achos eich bod yn gwpl lesbiaidd pan ellir cynnig y driniaeth i gwpl strêt, mae hyn yn wahaniaethu ar sail rhywioldeb ac mae yn erbyn y gyfraith. Fe fydd angen i chi gael cyngor arbenigol ynglŷn â sut i fynd â hyn ymhellach.

Sut bynnag, os nad ydynt yn cynnig triniaeth ffrwythlonder i unrhyw gwpl, waeth bynnag beth yw eu rhywioldeb, allwch chi ddim cwyno am wahaniaethu ar sail rhywioldeb.

Os ydych chi’n anabl, rhaid i ddarparwr gwasanaeth iechyd wneud addasiadau rhesymol er mwyn caniatáu i chi ddefnyddio eu gwasanaethau, neu fe fyddan nhw’n gwahaniaethu yn eich erbyn.Mae enghreifftiau o wneud addasiadau rhesymol yn cynnwys darparu gwybodaeth ar dâp fideo yn ogystal ag yn ysgrifenedig, neu osod ramp er mwyn caniatáu mynediad i gadair olwyn.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn âg addasiadau rhesymol, gweler Gwahaniaethu ar sail Anabledd yng Nghymru.

Mae gen i anawsterau clywed ac mae’n embaras pan fydda i’n mynd at y deintydd - alla i byth glywed y derbynnydd yn galw fy enw.

Fe allwch chi ofyn i’ch meddygfa deintydd i gadw cofnod o’u cleifion sydd ag anawsterau clywed. Gall derbynyddion wedyn ddod draw atoch a dweud wrthych pan fydd y deintydd yn barod i’ch gweld, yn hytrach na galw allan eich enw. Os na fyddant yn cytuno â hynny heb reswm da iawn, mwy na thebyg eu bod yn gwahaniaethu yn eich erbyn ac fe ddylech chi gwyno.

Os ydych chi’n credu fod meddyg, deintydd, nyrs neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall yn gwahaniaethu yn eich erbyn, fe allwch gwyno am hyn. Gofynnwch am gael gweld copi o bolisi cydraddoldeb y sefydliad y maen nhw’n gweithio iddo a nodi ble maen nhw’n methu cadw ato.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno, gweler Cwynion GIG yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau ynglŷn â gwahaniaethu ar sail hil.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred, gweler Gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau ynglŷn â gwahaniaethu ar sail rhyw.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu ar sail rhywioldeb, gweler Gwahaniaethu ar sail rhywioldeb.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.

Fe gewch chi fwy o wybodaeth hefyd am wahaniaethu yn y GIG yng Nghymru oddi wrth wefan Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com.

Nôl i’r brig


Eich hawliau i gael gwybodaeth

Pan fyddwch chi’n defnyddio gwasanaethau'r GIG, rhaid i’r staff esbonio pethau i chi mewn ffordd y gallwch ei ddeall. Os ydych chi’n cael trafferth gyda chyfathrebu rhaid i’r staff sicrhau eich bod yn deall. Gallai hyn fod, er enghraifft, trwy ddarparu dehonglydd iaith, dehonglydd iaith arwyddion neu ddefnyddio eiriolwr.

Os nad ydych yn gwneud hyn ynglŷn â’ch triniaeth, er enghraifft, efallai nad ydych wedi rhoi caniatâd cywir ar gyfer y driniaeth.

Os nad yw darparwr gofal iechyd yn cymryd camau i gyfathrebu gyda chi’n gywir, fe allech chi gwyno fod gwahaniaethu yn eich erbyn wedi digwydd. Gallai fod yn wahaniaethu ar sail hil os nad ydych yn gallu deall yr hyn maen nhw’n ei ddweud wrthych oherwydd nad Saesneg yw eich iaith gyntaf. Neu fe allai fod yn wahaniaethu ar sail anabledd os nad ydych yn deall yr hyn maen nhw’n ei ddweud wrthych oherwydd bod gennych anabledd. Os ydych chi am siarad am rywbeth o natur meddygol personol sy’n effeithio dim ond menywod neu ddynion ac mae angen dehonglydd arnoch, fe allwch gwyno am wahaniaethu ar sail rhyw os nad yw’r dehonglydd o’r un rhyw â chi.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno, gweler Cwynion y GIG yng Nghymru.

Nôl i’r brig


Gwybodaeth am wasanaethau’r GIG

Yn ogystal â gwybodaeth am eich triniaeth, mae gennych hawl i gael gwybodaeth fanwl am wasanaethau iechyd lleol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am safonau ansawdd ac uchafswm amserau aros. Fe allwch chi gael y wybodaeth hon oddi wrth Feddyg Teulu, Bwrdd Iechyd Lleol neu Gyngor Iechyd Cymuned.

Ni ddylai’r GIG wahaniaethu yn eich erbyn yn y ffordd y mae’n darparu gwybodaeth am wasanaethau’r GIG. Er enghraifft, rhaid i wybodaeth fod ar gael mewn diwyg sy’n hygyrch i bobol anabl.

Nôl i’r brig


Eich hawliau i weld eich cofnodion meddygol

Fel arfer mae gennych hawl i weld y rhan fwyaf o’r cofnodion meddygol sy’n cael eu cadw amdanoch. Mae gennych hawl i gael gwybod sut y defnyddir y cofnodion hyn, pwy sy’n cael mynediad iddynt a sut y gallwch chi drefnu i’w gweld.

Darperir y wybodaeth hon mewn meddygfeydd a Byrddau Iechyd Lleol ar ffurf posteri a thaflenni. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i weld eich cofnodion meddygol, gofynnwch i’r person sy’n gyfrifol am eich trin.

Mae gennych yr hawl hefyd i weld adroddiad meddygol a ysgrifennwyd amdanoch gan ymarferydd meddygol sydd â’r cyfrifoldeb am eich gofal parhaus. Er enghraifft, gallai hyn fod eich Meddyg Teulu, ymgynghorydd neu unrhyw ymarferydd meddygol sydd wedi’ch trin yn y gorffennol, er enghraifft, gallai hyn fod yn adroddiad mae’ch meddyg wedi’i ysgrifennu ar gyfer eich cyflogwr neu’ch cwmni yswiriant.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â mynediad i gofnodion personol, gweler Defnyddio’r gyfraith i ddiogelu’ch gwybodaeth.

Nôl i’r brig


Cofnodion Iechyd Unigol

Mae’r Cofnod Iechyd Unigol (CIU) yn cael ei estyn allan ledled Cymru.

Bydd y CIU yn darparu gwybodaeth oddi wrth feddygfeydd Meddygon Teulu i wasanaethau brys lleol. Bydd y wybodaeth hon yn cynnwys y manylion hyn am y claf:

  • meddyginiaethau presennol
  • cyflyrau iechyd
  • alergeddau
  • imiwneiddiadau
  • pwysau gwaed
  • canlyniadau profion.

Dim ond gweithwyr iechyd proffesiynol sydd â gofal uniongyrchol am y claf fydd yn gallu cael mynediad i’r wybodaeth.

Bydd yn rhaid i chi roi caniatâd cyn y gall gweithiwr iechyd proffesiynol edrych ar eich CIU. Sut bynnag, bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn gallu edrych ar eich CIU os nad ydych chi’n gallu rhoi caniatâd.

Fe dderbyniwch chi daflen am CIU o leiaf chwe wythnos cyn cyflwyno CIU yn eich ardal. Mae’n rhoi gwybodaeth ynglŷn â sut i eithrio o’r cynllun. Fe fyddwch hefyd yn gallu gwneud cais am gopi o’r wybodaeth sydd ar eich CIU, ond efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffî.

Fe gewch chi fwy o wybodaeth am CIU ar wefan GIG Cymru yn: www.wales.nhs.uk.

Nôl i’r brig


Caniatad i driniaeth

Mae’n rhaid i chi roi’ch caniatâd cyn y gall unrhyw feddyg neu ymarferydd gofal iechyd eich archwilio neu roi triniaeth i chi.

Sut bynnag, mae yn rai sefyllfaoedd lle gellir eich archwilio neu’ch trin heb ganiatâd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • os oes gennych glefyd hysbysadwy neu os ydych yn gludydd clefyd hysbysadwy. Mae clefyd hysbysadwy yn glefyd y mae’n rhaid i’r ymarferydd gofal iechyd ddweud wrth yr awdurdod lleol amdano
  • os ydych chi o dan orchymyn y Ddeddf Iechyd Meddwl, mewn amgylchiadau arbennig
  • os yw’ch bywyd mewn perygl, yr ydych yn anymwybodol ac yn methu esbonio beth yr ydych yn ei ddymuno.

Weithiau bydd staff GIG yn gofyn i chi arwyddo ffurflen sy’n dweud eich bod yn caniatáu triniaeth. Gelwir hwn yn ganiatâd ysgrifenedig. Bryd arall, fe allwch chi ddweud wrth y staff eich bod yn caniatáu triniaeth.

Fel arfer gofynnir i chi am ganiatâd ysgrifenedig ar gyfer:

  • triniaeth sydd â pherygl difrifol neu sgil effeithiau
  • anaesthetig cyffredinol
  • llawfeddygaeth
  • rhai ffurfiau o therapi cyffuriau.

Dylid cofnodi eich caniatâd yn eich nodiadau gyda gwybodaeth am yr hyn esboniwyd i chi gan weithwyr iechyd proffesiynol. Dylai hyn ddigwydd os rhoddoch chi ganiatad yn ysgrifenedig neu mewn rhyw ffordd arall.

Cyn i chi roi’ch caniatâd, rhaid i’ch meddyg ddweud wrthych beth yw’r driniaeth, beth allai ddigwydd o ganlyniad iddo ac os oes peryglon ai peidio. Os na roddwyd y wybodaeth hon i chi, efallai nad yw’ch caniatâd yn ddilys, hyd yn oed os ydych chi wedi arwyddo ffurflen.

Hefyd, os ydych chi’n rhoi’ch caniatâd am un math o driniaeth, nid yw hyn y golygu eich bod yn rhoi’ch caniatâd i driniaeth bellach. Dylid gofyn i chi eto am eich caniatâd am driniaeth bellach.

Nôl i’r brig


Hawl i wrthod triniaeth y GIG

Mae gennych yr hawl i wrthod unrhyw ymyrraeth gorfforol gan aelod o staff y GIG. Gall hyn gynnwys llawdriniaethau a chwistrelliadau, neu help i wisgo. Pan fyddwch chi’n ymweld â’r meddyg, fel arfer mae hyn yn golygu eich bod yn rhoi caniatâd i archwiliad a thriniaeth. Sut bynnag, all y meddyg ddim gweithredu yn erbyn eich cyfarwyddiadau penodol chi, felly fe ddylech chi ddweud wrth y meddyg am unrhyw driniaeth nad ydych amdano.

Os oes nifer o driniaethau gwahanol y gellir eu defnyddio i drin eich cyflwr, fe ddylech chi gael gwybodaeth ynglŷn â’r rhain. Sut bynnag, allwch chi ddim mynnu ar driniaeth arbennig os yw’r meddyg neu’r ymgynghorydd yn credu nad yw’n briodol.

Mae gorfodi triniaeth arnoch chi yn erbyn eich ewyllys yn ymosodiad. Os ymosodir arnoch, fe ddylech chi gysylltu â’ch Bwrdd Iechyd Lleol neu Gyngor Iechyd Cymuned i gwyno. Efallai y byddwch chi hefyd am i’r heddlu ymwneud â’r mater.

Fe gewch chi fwy o wybodaeth ynglŷn â Chyngor Iechyd Cymuned, yn cynnwys sut i gysylltu â nhw, ar eu gwefan yn: www.communityhealthcouncils.org.uk.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno, gweler Cwynion y GIG yng Nghymru.

Nôl i’r brig


Caniatad ar gyfer arbrofion, ymchwil meddygol a dysgu

Yn gyffredinol, mae’n rhaid i chi roi caniatâd i feddyg i ymgymryd â gwaith ymchwil arnoch.

Dylid dweud wrthych beth yw’r gweithdrefnau, ac am unrhyw beryglon posibl. Dylid dweud wrthych hefyd eich bod yn gallu tynnu allan o’r gwaith ymchwil ar unrhyw adeg. Dylid diogelu eich hawl i gyfrinachedd mewn ymchwil bob amser.

Gall pobol sydd â diffyg medr meddyliol, hynny yw, pobol sy’n methu penderfynu drostynt eu hunain, fod yn rhan o ymchwil hefyd. Sut bynnag mae yna reolau caeth ynglŷn â hyn, a rhaid sicrhau fod mesurau yn eu lle i wneud yn siŵr fod pobol yn ddiogel a bod gwybodaeth yn gyfrinachol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â medr meddyliol, gweler Rheoli materion i rywun arall yng Nghymru.

Mae gennych yr hawl i wrthod cymryd rhan mewn dysgu heb i’ch triniaeth gael ei effeithio. Os nad ydych am fod yn rhan o ddysgu, mae’n syniad i roi gwybod i’r ysbyty ymlaen llaw.

Nôl i’r brig


Plant a chaniatad

Yng Nghymru, ystyrir unrhyw un sy dros 18 oed yn oedolyn sy’n gallu rhoi caniatâd neu wrthod triniaeth. Mae hyn yn wir oni bai fod yna ffactorau eraill sy’n golygu na allant benderfynu drostynt eu hunain.

Gall pobol ifanc 16 neu 17 oed roi caniatâd ar gyfer eu triniaeth eu hunain hefyd. Nid oes rhaid i riant neu warcheidwad roi caniatâd yn ogystal. Sut bynnag, hyd yn oed os nad ydyw’r person ifanc am gael triniaeth, gall llys orchymyn fod triniaeth yn digwydd. Gall hyn fod, er enghraifft, os ystyrir fod y driniaeth o bennaf les iddynt. Os nad yw’r person ifanc yn gallu rhoi eu caniatâd eu hunain, er enghraifft os nad ydyw’r gallu ganddynt, mae’n rhaid i riant neu warcheidwad roi eu caniatâd ar gyfer triniaeth.

Mae gan staff y GIG ddyletswydd o gyfrinachedd tuag at bobol ifanc 16 neu 17 oed, ac ni ddylent roi gwybodaeth i riant neu warcheidwad y person ifanc heb eu caniatâd.

Gall plant dan 16 oed roi eu caniatâd eu hunain cyhyd â bod meddyg neu Fwrdd Iechyd Lleol yn barnu eu bod yn gallu deall beth sy’n digwydd. Nid oes un prawf cyffredinol i benderfynu hyn, bydd yn dibynnu ar bob sefyllfa.

Os nad oes gan blentyn dan 16 oed ddigon o ddealltwriaeth, mae angen caniatâd oddi wrth riant neu warcheidwad, neu trwy orchymyn llys, oni bai ei fod yn achos brys. Os yw plentyn dan 16 oed sydd a digon o ddealltwriaeth yn gwrthod triniaeth, gellir rhoi triniaeth o hyd gyda chaniatâd eu rhiant neu warcheidwad neu gan orchymyn llys.

Nis gall pobol ifanc na phlant o dan 18 oed roi eu caniatâd eu hunain ar gyfer llawdriniaethau arbrofol a rhoddi gwaed, oni bai fod ganddynt ddigon o ddealltwriaeth o beth mae’n ei olygu.

Os yw’r plentyn yn ward y llys, bydd y llys yn penderfynu os yw’r driniaeth o bennaf les i’r plentyn ai peidio. Os yw plentyn yn ward y llys mae hyn yn golygu fod gan y llys y pŵer i wneud yr holl benderfyniadau ynglŷn â’r plentyn y byddai rhiant neu warcheidwad fel arfer yn eu gwneud, hyd nes y bydd y gorchymyn sy’n caniatáu hyn yn newid. Mae hyn yn wahanol i orchymyn llys ar gyfer triniaeth benodol. Sut bynnag, os caniatawyd eich triniaeth gan y llys, fe ddylech chi gael y cyfle i ddadlau yn y llys pam nad ydych am driniaeth.

Os yw’r caniatâd ynglŷn ag ymchwil ac mae’n ymwneud â phlentyn dan 16, gall rhiant neu warcheidwad roi caniatâd ar eu rhan.

Nôl i’r brig


Gwrthod triniaeth i’ch plentyn

Os ydych chi, gwarcheidwad neu blentyn yn gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer triniaeth y mae’r meddyg yn ei ystyried yn angenrheidiol, mae disgwyl i’r meddyg drin y plentyn o hyd. Bydd y camau fydd y meddyg yn eu cymryd yn dibynnu ar ba mor sydyn y mae angen y driniaeth.

Pan fydd bywyd plentyn mewn perygl, mae gan y meddyg yr hawl i wneud yr hyn sydd ei angen i arbed bywyd y plentyn. Os ydych chi neu warcheidwad naill ai’n methu darparu cymorth meddygol i’ch plentyn, neu’n gwrthod caniatau triniaeth yn afresymol, fe ellir eich erlyn am esgeulustra.

Nôl i’r brig


Talu am driniaeth sy ddim o dan y GIG

Ar gyfer rhai clefydau mae yna weithiau driniaethau ychwanegol i chi na allwch eu cael o dan y GIG. Er enghraifft, efallai nad yw’r driniaeth gewch chi ar gyfer rhai mathau o gancr yn cynnwys rhai cyffuriau ychwanegol oherwydd eu bod yn rhy ddrud i’r GIG.

Yng Nghymru, mae pob Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud eu rheolau eu hunain ynglŷn ag os ydych yn gallu talu am y cyffuriau hyn eich hunan a dal i dderbyn gofal oddi wrth y GIG.

Os ydych yn teimlo yr hoffech dalu am driniaeth ychwanegol eich hunan, gallai hyn effeithio’ch hawl i gael gofal o dan y GIG. Fe ddylech chi wirio gyda’ch ysbyty cyn dechrau talu am unrhyw driniaeth ychwanegol neu ofal preifat.

Nôl i’r brig


Yr hawl i farw

Nid yw’r gyfraith ynglŷn â hawl person i farw ai peidio yn glir iawn. Mae gennych yr hawl i wrthod neu stopio triniaeth unrhyw bryd, hyd yn oed os yw hyn yn golygu y gallech chi farw. Sut bynnag, all meddyg ddim rhoi triniaeth na gwrthod rhoi triniaeth gyda’r bwriad o arwain at neu gyflymu marwolaeth.

Os ydych chi’n credu y gallech fod yn rhy sâl fel na allwch chi bellach benderfynu ynglŷn â thriniaeth, fe ddylech chi ddweud wrth y meddyg ymlaen llaw pa bryd y byddech chi am i’r driniaeth stopio.

Efallai y byddwch chi am lunio dogfen ysgrifenedig sy’n nodi’ch dymuniad ynglŷn â beth ddylai ddigwydd petaech chi’n mynd yn rhy sâl i roi caniatâd ar gyfer triniaeth feddygol. Gelwir hwn yn benderfyniad ymlaen llaw (a adwaenir hefyd fel blaen-gyfarwyddyd neu ewyllys byw). Mae penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth yn rhwymo’n gyfreithiol weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Os ydych chi’n pryderu ynglŷn â chael triniaeth yn erbyn eich ewyllys, fe ddylech chi sicrhau eich bod yn gwneud hyn yn glir pan argymhellir y driniaeth.

Fe gewch chi fwy o wybodaeth ynglŷn â phenderfyniadau ymlaen llaw ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.

Os ydych chi’n ystyried gwneud penderfyniad ymlaen llaw fe ddylech chi gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, cyfreithiwr neu ymgynghorydd yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion am eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Symud organau ar ôl marwolaeth

Oni bai eich bod chi wedi dweud nad ydych am i rannau o’ch corff gael eu defnyddio ar gyfer ymchwil neu eu rhoi i eraill ar ôl i chi farw, gall pwy bynnag sy’n gyfrifol am eich corff yn gyfreithiol ganiatáu i’r organau gael eu rhoi. Fel arfer eich cynrychiolydd personol fydd hwn neu hon. Cyn y gellir symud organau, rhaid i’r staff meddygol fod yn sicr fod yr ymennydd wedi marw, a bod tystysgrif marwolaeth wedi’i rhoi.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Yn Adviceguide

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau a’ch Meddyg Teulu yng Nghymru, gweler Defnyddio Meddyg Teulu y GIG yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau a’ch gofal ysbyty y GIG yng Nghymru, gweler Defnyddio gwasanaethau ysbyty’r GIG yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gofal iechyd sydd ar gael i chi o dan y GIG, gweler Pa ofal iechyd alla i ei gael o dan y GIG?

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno am ofal y GIG, gweler Cwynion GIG.

Ar Galw Iechyd Cymru

Fe gewch chi fwy o wybodaeth am wasanaethau'r GIG yng Nghymru ar wefan Galw Iechyd Cymru yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.

Mae’r wefan yn rhoi gwybodaeth i chi am:

  • gwasanaethau Meddyg Teulu lleol, yn cynnwys sut mae dod o hyd i’ch deintydd, Meddyg Teulu, ysbyty neu fferyllydd agosaf
  • sut i ddewis yr ysbyty neu glinig gorau ar gyfer triniaeth neu weithdrefn arbennig
  • clefydau a chyflyrau cyffredin megis clefyd y siwgr, a chanllawiau ar gyfer gweithdrefnau cyffredin, megis cael clun newydd
  • sut i gwyno am wasanaeth y GIG
  • sut mae byw bywyd iachach.

Mae Galw Iechyd Cymru hefyd yn gweithredu gwasanaeth ymholiadau ar-lein nad ydynt yn rhai brys. Peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych chi neu rywun arall yn teimlo’n sâl neu’n profi symptomau - cysylltwch â Galw Iechyd Cymru neu’ch Meddyg Teulu. Fe allwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth ymholiadau ar-lein ar gyfer cwestiynau am iechyd. Fe allwch chi fynd ar-lein, mewnbynnu’ch ymholiad, a bydd arbenigwr gwybodaeth iechyd medrus yn ceisio’ch ateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Fe allan nhw ateb ymholiadau ynglŷn â phethau megis:

  • cyflyrau cyffredin
  • gwasanaethau GIG lleol
  • hawliau cleifion
  • byw iachus.

Mae’r gwasanaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar-lein yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.

Fe allwch chi hefyd gael cyngor cyfrinachol a gwybodaeth ynglŷn â phroblemau iechyd a gwasanaethau dros y ffôn oddi wrth Galw Iechyd Cymru. Mae’n cynnig mynediad 24 awr i gyngor iechyd am ddim oddi wrth nyrsys profiadol. Bwriad y llinell yw eich helpu chi i ofalu am eich hunan trwy’ch cynghori chi ynglŷn â’r cam nesaf, er enghraifft, pa un ai i aros gartref a pha hunan-driniaeth i’w gymryd, pa un ai i ymweld â Meddyg Teulu neu ysbyty.

Y manylion cyswllt ar gyfer Galw Iechyd Cymru yw:

Ffôn: 0845 46 47 (codir tâl ar y gyfradd leol am y galwadau)
ffon destun ar 0845 606 4647 neu ffoniwch trwyr RNID Typetalkar 1 8001 0845 46 47.
Gwefan: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.

Gwybodaeth llywodraeth leol a chenedlaethol

Mae Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am wasanaethau iechyd yng Nghymru. Fe gewch chi wybodaeth am wasanaethau a’r newyddion iechyd diweddaraf a chyhoeddiadau ar wefan yr Adran yn: http://new.wales.gov.uk.

Mae Byrddau Iechyd Lleol (LHB) bellach yn gyfrifol am bob gwasanaeth gofal iechyd yn eu hardal. Fe allwch chi ddarganfod sut mae cysylltu â’ch BILl ar wefan Iechyd yng Nghymru y GIG yn: http://www.wales.nhs.uk/eingwasanaethau/cyfeiriadur

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback