The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Adnewyddu credydau treth – angen rhoi’ch ffigurau incwm go iawn erbyn 31 Ionawr
Date: 20 January 2012
Os oeddech wedi rhoi amcan o’ch incwm ar gyfer y flwyddyn dreth 2010/2011 wrth adnewyddu eich credydau treth yn 2011, er enghraifft am eich bod yn hunangyflogedig, mae angen i chi roi’ch ffigurau incwm go iawn ar gyfer y flwyddyn dreth honno i CThEM cyn gynted â phosib.
Y dyddiad cau ar gyfer rhoi’r wybodaeth hon i’r Swyddfa Credydau Treth yw 31 Ionawr 2012.
Fe fyddwch yn medru dweud wrth y Swyddfa Credydau Treth beth yw eich incwm go iawn drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credydau Treth. Dyma’r manylion cyswllt:
HM Revenue and Customs Tax Credit Office
Preston
PR1 4AT
Llinell Gymorth: 0345 300 3900 (dydd Llun i ddydd Gwener o 8.00yb tan 8.00yh; dydd Sadwrn o 8.00yb tan 4.00yp)
Iaith Gymraeg: 0845 302 1489 (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30yb tan 5.00yp)
Ffôn Testun: 0345 300 3909
Gwefan: www.hmrc.gov.uk
Am fwy o wybodaeth ynglyn â chredydau treth, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy’n gweithio a Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.









