Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Dyddiad cau ffurflenni hunanasesiad treth – rhybudd ynghylch y dirwyon newydd

Date: 20 January 2012

Os ydych chi’n hunangyflogedig neu mae gennych incwm arall nad ydyw’n cael ei drethu’n uniongyrchol trwy eich cyflog, fel arfer mae’n rhaid i chi anfon eich ffurflen dreth at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) bob blwyddyn.

Mae CThEM wedi cyflwyno dirwyon newydd i’w defnyddio os ydych yn anfon eich ffurflen hunanasesiad treth yn hwyr ar-lein. Rhaid i chi anfon eich ffurflenni erbyn 31 Ionawr, neu dyma fydd y dirwyon:

  • dirwy o £100 ar 1 Chwefror, a hefyd
  • dirwy o £10 y diwrnod o 1 Mai am 90 diwrnod – uchafswm o £900, os nad ydych wedi cyflwyno’r ffurflenni o hyd, a hefyd
  • £300 o ddirwy ar 1 Awst os nad ydych wedi cyflwyno’r ffurflenni o hyd, neu 5% o’r dreth sy’n ddyledus os yw hynny’n fwy, a hefyd
  • dirwy o £300 ar 1 Chwefror y flwyddyn ganlynol os nad ydych wedi cyflwyno’r ffurflenni o hyd, neu 5% o’r dreth sy’n ddyledus os yw hynny’n fwy.

O’r blaen, ni allai’r ddirwy fwyaf y gallech fod yn ei hwynebu fod yn fwy na’r dreth sy’n ddyledus gennych i CThEM, ond nid yw hyn yn wir mwyach.  Fe allech orfod talu hyd at £1,600 mewn dirwyon, hyd yn oed os nad oes arnoch unrhyw arian i CThEM neu os oes arnyn nhw ad-daliad i chi.

Dyna pam mae’n bwysig iawn eich bod yn cyflwyno’ch ffurflenni treth ar amser. Os ydych yn cael unrhyw drafferth yn llenwi’ch ffurflenni, mynnwch help cyn gynted â phosib. Os oeddech wedi anfon ffurflen bapur, y dyddiad cau oedd 31 Hydref y llynedd, ac mi fyddai’r dirwyon yn dechrau casglu o’r dyddiad yna, yn yr un modd â ffurflenni a gyflwynir ar-lein.

I gael gwybod pwy sy’n medru helpu, gweler Help gyda phroblemau treth. Am wybodaeth ar ffurflenni treth a phwy sy’n gorfod eu llenwi, gweler Ffurflenni treth.