Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

CThEM yn rhybuddio ynghylch negeseuon e-bost twyllodrus sy’n targedu trethdalwyr

Date: 20 January 2012

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CTHEM) yn rhybuddio trethdalwyr ynglyn â negeseuon e-bost twyllodrus sy’n rhoi’r argraff mai CThEM sydd wedi eu hanfon.

Mae’r negeseuon hyn yn cael eu hanfon yn ystod y cyfnod cyn dyddiad cau’r ffurflenni treth hunanasesiad ar ddiwedd y mis. Maen nhw’n edrych fel petai CThEM yn eu hanfon ac yn dweud bod ad-daliad yn ddyledus i chi ar eich treth. Yna, gofynnir i chi roi manylion eich cyfrif banc neu gerdyn credyd er mwyn i chi dderbyn 'yr ad-daliad'. Unwaith maen nhw wedi cael y manylion hyn, fe fyddwch yn cael eich cyfeirio at wefan go iawn CThEM. Oherwydd hyn, nid yw nifer o bobl yn sylweddoli mai twyll ydyw hyd nes i’r twyllwyr ddechrau mynd ag arian o’u cyfrif.

Ar ffurflenni ad-daliad treth go iawn CThEM (P800) mae yna orchymyn taliad ac ni fydd yn gofyn am fanylion cerdyn credyd neu ddebyd ar unrhyw adeg.

Mae CThEM yn cynghori pobl i anfon negeseuon e-bost o’r fath ymlaen at phishing@hmrc.gsi.gov.uk cyn eu dileu. Peidiwch â chlicio ar y wefan na’r dolenni yn yr e-bost amheus a pheidiwch ag agor atodiadau.

Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich twyllo gan e-bost twyllodrus, cofiwch ddweud wrth eich banc neu gwmni eich cerdyn credyd cyn gynted â phosib. Porwch drwy wefan CThEM hefyd i chwilio manylion negeseuon go iawn y maen nhw’n eu hanfon allan ar y pryd ac enghreifftiau o’r cynlluniau twyllodrus diweddaraf yn www.hmrc.gov.uk