Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Ffoniwch 101 i alw’r heddlu

Date: 20 January 2012

101 yw’r rhif newydd i’w ffonio os oes angen i chi gysylltu â’ch heddlu lleol ynglyn â mater sydd ddim yn argyfwng.

Dylech ffonio 101 i riportio troseddau ac anrhefn sy’n llai brys. Er enghraifft:

  • mae rhywun wedi dwyn eich car
  • mae rhywun wedi difrodi eich eiddo
  • rydych yn amau bod rhywun yn defnyddio cyffuriau, neu’n delio mewn cyffuriau, yn eich ardal leol
  • i riportio damwain ar y ffordd sydd ddim yn un ddifrifol
  • i roi gwybodaeth i’r heddlu am drosedd yn eich ardal
  • i siarad â’r heddlu am ymholiad cyffredinol.

Fe allwch chi ffonio 101 unrhyw bryd, 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Mae pob galwad yn costio 15 ceiniog o linell ddaear neu ffôn symudol. Nid oes gwahaniaeth faint yw hyd eich galwad, na pha amser o’r dydd fyddwch chi’n ffonio.

Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw neu â nam ar eich lleferydd, fe allwch chi ffonio rhif y ffôn testun, sef 18001 101. Os nad Saesneg yw’ch iaith gyntaf, fe fydd yr heddlu lleol yn defnyddio cyfieithydd ar y pryd i gyfieithu’ch galwad.

Os ydych mewn sefyllfa frys, er enghraifft, rydych yn sâl iawn, mewn perygl neu mae trosedd ddifrifol yn digwydd, dylech ffonio 999.