Pam mae hyn yn bwysig?
Tystysgrifau geni
Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
- Pryd i gofrestru genedigaeth
- Pwy sy’n medru cofrestru genedigaeth
- Sut i gofrestru genedigaeth
- Enwi’r plentyn ar dystysgrif geni
- Genedigaethau tu allan i’r Deyrnas Unedig
- Beth ddylech chi ei wneud os nad yw genedigaeth wedi cael ei chofrestru
- Pobl trawsrywiol
- Mathau o dystysgrifau geni
- Cael copi o dystysgrif geni
- Tystysgrifau geni ar ôl mabwysiadu
- Tystysgrifau geni o dramor
- Ffioedd ar gyfer copïau o dystysgrifau geni yng Nghymru a Lloegr
- Ffioedd ar gyfer copïau o dystysgrifau geni yng Ngogledd Iwerddon
Pryd i gofrestru genedigaeth
Fel arfer, mae'n rhaid cofrestru genedigaeth o fewn 42 diwrnod. Fel arfer, dylid cofrestru genedigaethau lle roedd y baban yn farw ar enedigaeth o fewn 42 diwrnod hefyd, a heb fod yn hwyrach na 12 mis wedi’r enedigaeth.
Pwy sy’n medru cofrestru genedigaeth
Mae mam yn medru cofrestru genedigaeth ei phlentyn ar ei phen ei hun, nid oes gwahaniaeth os ydyw’n briod. Mae hefyd yn medru cofrestru’r enedigaeth ar y cyd gyda’r tad.
Mae tad ond yn medru cofrestru’r enedigaeth ar ei ben ei hun:
- os oedd yn briod â’r fam pan gafodd y plentyn ei eni neu genhedlu, neu
- mae’r fam wedi llenwi ffurflen datganiad statudol, yn ei enwi ef fel y tad, neu
- mae yna gytundeb cyfrifoldeb rhiant mewn grym, neu
- mae ganddo orchymyn llys priodol.
Os nad yw’r tad yn briod â’r fam ond mae’n cofrestru’r enedigaeth ar y cyd gyda hi, bydd yn cael cyfrifoldeb rhiant.
Os ydych yn bartner benywaidd i fam plentyn, efallai y byddwch yn medru cofrestru’r enedigaeth ar y cyd gyda’r fam mewn rhai amgylchiadau. Fe fydd hyn yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i chi.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfrifoldeb rhiant, gweler y pennawd Plant, yn Cydfyw a phriodas – gwahaniaethau cyfreithiol.
Os ydych yn bartner benywaidd i fam plentyn, efallai y byddwch am gael cyngor i weld os ydych yn medru cael cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Mae cyngor ar gael o’ch canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os nad yw rhieni’r plentyn yn medru cofrestru'r enedigaeth, fe all un o'r canlynol wneud hynny yn eu lle:-
- gweinyddydd yn yr ysbyty sydd â chyfrifoldeb dros gofrestru genedigaethau sy’n digwydd yn yr ysbyty
- rhywun sy'n byw yn y ty lle cafodd y plentyn ei eni
- unrhyw berson a oedd yn bresennol adeg yr enedigaeth
- unrhyw berson sy'n gyfrifol am y plentyn.
<
Sut i gofrestru genedigaeth
Mae'n rhaid cofrestru genedigaeth gyda'r Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau yn y rhanbarth lle ganwyd y baban. Mae'r cyfeiriad yn y llyfr ffôn.
Rydych hefyd yn medru chwilio am eich swyddfa gofrestru leol ar-lein ar: www.gov.uk.
Os nad ydych yn medru mynd i’r swyddfa gofrestru ble ganwyd y plentyn, fe fyddwch yn medru mynd i swyddfa arall. Yna, fe fydd y cofrestrydd yn anfon y manylion at y swyddfa yn y rhanbarth ble ganwyd y plentyn. Rhaid i chi fynd i’r swyddfa gofrestru o fewn 42 diwrnod.
Nid oes ffi am gofrestru genedigaeth. Cyhoeddir tystysgrif genedigaeth fer yn rhad ac am ddim adeg cofrestru ond mae yna ffi am gopïau o’r dystysgrif lawn.
Enwi'r plentyn ar dystysgrif geni
Gall mam y plentyn ddewis unrhyw enwau cyntaf a chyfenw. Gall roi cyfenw'r tad i'r plentyn os mai dyna yw ei dymuniad ac nid oes rhaid cael caniatâd y tad cyn gwneud hyn. Yng Ngogledd Iwerddon, dim ond o dan amgylchiadau penodol y ceir cynnwys manylion y tad sydd ddim yn briod â'r fam.
Nid oes hawl gan ddyn sydd wedi'i gofrestru ar dystysgrif geni fel tad fynnu bod y plentyn yn derbyn enw penodol, er enghraifft ei gyfenw.
Gall pâr priod ddewis unrhyw gyfenw ar gyfer y plentyn. Nid oes yn rhaid iddo fod yn enw un o'r rhieni.
Genedigaethau tu allan i'r DU
Caiff pob genedigaeth ar gychod cofrestredig Prydeinig a hofrenfadau, a genedigaeth deiliaid Prydeinig ar gychod sydd wedi eu cofrestru dramor sydd yn mynd at gyrchfan yn y DU neu sydd wedi dod oddi yno, eu cofrestru gan Gofrestrydd Cyffredinol Cychod a Morwyr yng Nghaerdydd.
Caiff pob genedigaeth ar awyren gofrestredig Prydeinig eu cofrestru gan yr Awdurdod Hedfan Sifil.
Fel arfer, gall genedigaethau dinaysddion Prydeinig, dinasyddion Tiroedd Dibynnol Prydeinig a dinasyddion Prydeinig Tramor gael eu cofrestru mewn gwledydd tramor yn y Conswl Prydeinig neu'r Uwch Gomisiwn.
Gellir cofrestru genedigaethau i aelodau o'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu tu allan i'r DU gan Swyddog Cofrestru Adran Gwasanaethau tramor.
<
Beth ddylech chi ei wneud os nad yw genedigaeth wedi cael ei chofrestru
Mae'n bosib gwneud cais i gofrestru genedigaeth flynyddoedd wedyn. Rhaid i chi fod yn un o’r bobl sy’n medru cofrestru genedigaeth ac fe fydd angen i chi roi cymaint o fanylion ag sy'n bosib, er enghraifft union ddyddiad a lleoliad y genedigaeth gan gynnwys enw a chyfeiriad llawn y plentyn neu eich henw a'ch cyfeiriad llawn chi. Dylech ysgrifennu at:-
GRO Corrections
PO Box 476
Southport
Merseyside
PR8 2WJ
Ffôn: 0300 123 1837
E-bost: corrections.re-reg@ips.gsi.gov.uk
Yng Ngogledd Iwerddon, mae'n bosib y bydd y Cofrestrydd Cyffredinol yn medru awdurdodi cofrestru'r genedigaeth tra bod tystiolaeth foddhaol yn cael ei gyflwyno i gefnogi'r holl fanylion a ddangosir ar y gofrestr. Os ydych yn cofrestru genedigaeth, cwblhewch ffurflen GRO 205 sydd ar gael o Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol a chyflwynwch o leiaf dau ddarn o dystiolaeth ddogfennol ar gyfer dyddiad a lleoliad y genedigaeth.
<
Pobl drawsrywiol
Fe all person trawsrywiol y cofrestrwyd ei (g)enedigaeth neu fabwysiadu yn y Deyrnas Gyfunol, ac sy'n cael Tystysgrif Cydnabod Rhyw llawn gan y Panel Cydnabod Rhyw, gael tystysgrif geni newydd sy'n adlewyrchu ei rhyw newydd gan y Gofrestr Cydnabod Rhyw a gedwir yn y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.
Fe fyddwch yn medru cael tystysgrif fer yn rhad ac am ddim. Fe fydd yn cynnwys manylion y dyddiad a lleoliad geni a'r manylion am eich rhieni sydd ar eich tystysgrif geni gwreiddiol, ynghyd â'ch rhyw newydd a'ch enw newydd. Ni fydd unrhyw un sy'n edrych ar eich tystysgrif geni newydd yn gallu gweld eich bod wedi cael rhyw newydd yn gyfreithiol.
Mae yna opsiwn hefyd i'r dystysgrif geni newydd hon ddangos eich cyfenw pan gawsoch eich geni, os yw'n wahanol i'r cyfenw ar eich tystysgrif cydnabod rhyw. Rhowch glic ar wefan GOV.UK ar www.gov.uk.
Fe fydd eich cofrestriad gwreiddiol yn dal i fodoli, ond ni fydd â chysylltiad at eich cofrestriad newydd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cael tystysgrif cydnabod rhyw, gweler Cwestiynau a ofynnir yn aml ynghylch materion teuluol.
<
Mathau o dystysgrifau geni
Mae yna ddau fath o dystysgrif geni:-
- y dystysgrif lawn, sef copi o'r gosodiad yn y gofrestr genedigaethau, sy'n cynnwys yr holl fanylion a gofnodwyd
- y dystysgrif fer, sydd ond yn rhoi enw llawn y plentyn a'i ryw, a dyddiad a lleoliad yr enedigaeth. Nid yw'n rhoi enw a manylion y fam na'r tad. Rhoddir tystysgrif fer yn rhad ac am ddim pan gaiff yr enedigaeth ei chofrestru am y tro cyntaf.
<
Cael copi o dystysgrif geni
Tystysgrifau o Gymru a Lloegr
Gallwch gael copi o dystysgrif geni yn un o'r ffyrdd canlynol, a chodir ffi:-
- drwy'r post neu ymweliad personol i’r swyddfa gofrestru yn y lleoliad ble ganed y plentyn
- ar-lein gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, os oes gennych fanylion llawn am yr enedigaeth neu os ydych yn gwybod beth yw Cyfeirnod Mynegai’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Rydych yn medru talu gyda cherdyn credyd neu ddebyd. Rydych yn medru ceisio ar-lein ar: www.gov.uk.
- dros y ffôn gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i ddeiliaid cardiau credyd neu ddebyd yn unig.
- trwy'r post gan y Swyddfa'r Gofrestru Gyffredinol. Gallwch lawrlwytho ffurflen gais oddi ar wefan GOV.UK ar www.gov.uk neu e--bostio’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Rydych yn medru talu’r ffi trwy gerdyn credyd neu ddebyd neu drwy siec sy’n daladwy i IPS. Dyma’r manylion cyswllt:
General Register Office
Certificate Services Section
PO Box 2
Southport
Merseyside
PR8 2JD
Rhif Ffôn: 0845 603 7788 (Llun-Gwe 8yb-8yp; Sad 9yb-4yp)
E-bost: certificate.services@ips.gsi.gov.uk
Gwefan: www.gro.gov.uk
Am fanylion y ffioedd ar gyfer copïau o dystysgrifau geni, rhowch glic ar wefan GOV.UK ar www.gov.uk
Dylech gynnwys gymaint o wybodaeth am yr enedigaeth ag sy'n bosib. Os nad ydych yn gwybod union ddyddiad eich geni, fe fydd modd chwilio un flwyddyn y naill ochr a’r llall i’r flwyddyn a geir gennych. Os nad oes modd olrhain genedigaeth,, cewch eich arian yn ôl.
Os ydych yn darparu cyfeirnod indecs, bydd y dystysgrif yn cael ei phostio o fewn pedair diwrnod gwaith. Gellir dod o hyd i'r cyfeirnod trwy chwilio drwy'r mynegai ar ficro-lun mewn rhai llyfrgelloedd mawr a swyddfeydd cofnodion cyhoeddus. Gellir chwilio’n rhad ac am ddim am fwyafrif y cyfeirnodau o 1837 hyd yn gynnar yn yr 20fed ganrif yn: www.freebmd.org.uk. Mae rhai swyddfeydd cofrestru lleol wedi gosod eu cyfeirnodau nhw eu hunain ar-lein: gweler www.ukbmd.org.uk. Dyma fanylion cyswllt Canolfan Cofnodion y Teulu:
1 Myddelton Street
London
EC1R 1UW
Gwefan: www.familyrecords.gov.uk/frc
Gallwch gael tystysgrif, at ddibenion nawdd cymdeithasol yn unig, gan y cofrestrydd lleol lle cofrestrwyd yr enedigaeth. Os ydych yn cael copi yn fuan wedi cofrestru'r enedigaeth, byddwch yn gorfod talu ffi is. Unwaith bydd y gofrestr wedi'i anfon ar y Cofrestrydd Uwcharolygu, codir y tâl llawn. Cedwir y tystysgrif gan yr yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Tystysgrifau o Ogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon
Gallwch gael copi o dystysgrif genedigaeth a gymerodd le yng Ngogledd Iwerddon neu Gweriniaeth Iweddon, a manylion y ffïoedd o :-
Gogledd Iwerddon
The General Register Office
Oxford House
49-55 Chichester Street Belfast
BT1 4HL
Tel: 02890 252000
Website: www.groni.gov.uk
Gweriniaeth Iwerddon
General Register Office
Government Offices
Convent Road
Roscommon
Tel: 00 353 (0)90 6632900
Website: www.groireland.ie
<
Tystysgrifau wedi i'r plentyn gael ei fabwysiadu
Mae tystysgrif mabwysiadu’n cymryd lle tystysgrif geni i rywun sydd wedi cael ei fabwysiadu a dylid ei defnyddio at bob diben swyddogol. Gallwch gael copi o’ch tystysgrif mabwysiadu oddi ar wefan GOV.UK ar www.gov.uk
Os ydych yn 18 neu'n hyn ac wedi cael eich mabwysiadu yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon gallwch wneud cais am gopi gwreiddiol o'ch tystysgrif geni.
Os ydych yn gwybod holl fanlyion yr enedigaeth dylech wneud cais i'r Cofrestrydd Uwcharolygu yn y rhanbarth lle cofrestrwyd eich genedigaeth neu wneud cais i’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Mae yna ffi am hyn.
Os nad ydych yn gwybod manylion eich genedigaeth a chawsoch eich mabwysiadu cyn Tachwedd 12 1975, bydd angen i chi weld cynghorydd profiadol cyn i chi fedru cael gwybodaeth o'r dystysgrif geni gwreiddiol.
Os cawsoch eich mabwysiadu ar neu ar ôl Tachwedd 12 1975, gallwch ddewis a hoffech weld cynghorydd cyn cael gwyboeth am eich tystysgrif geni.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â mynediad at gofnodion genedigaeth, rhowch glic ar wefan GOV.UK ar www.gov.uk.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch mabwysiadu, gweler Mabwysiadu yn y taflenni ffeithiau ar y Teulu. Yng Ngogledd Iwerddon, gweler Pobl ifanc a teulu.
<
Tystysgrifau o dramor
Os cawsoch eich geni dramor, gallai'r enedigaeth fod wedi ei chofrestru yn y DU hefyd. Os felly, gellir cael copi o'r dystysgrif yn y ffordd arferol – gweler uchod.
Os nad yw'r enedigaeth wedi ei chofrestru yn y DU, mae'n bosib y byddwch yn medru cael copi o'r dystysgrif geni o'r wlad lle cawsoch eich geni. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â'r llysgenhadaeth berthnasol yn y DU.
Os nad ydych yn medru cael hyd i gopi o'ch tystysgrif geni o dramor, efallai y bydd isadran Chwilio Dogfennau Lleol Swyddfa'r Gymanwlad a Thramor yn medru eich helpu. Codir ffi. Dyma'r cyfeiriad:-
Local Document Searches
Consular Directorate
Rm K4.4.9
Foreign and Commonwealth Office
King Charles Street
London
SW1A 2AH
Gwefan: www.fco.gov.uk
Os cawsoch eich bedyddio yn is-gyfandir India cyn 1947 dylech holi Cofnodion Swyddfa India yn:
Asia, Pacific and Africa Collections enquiries
The British Library
96 Euston Road
London
NW1 2DB
Ffôn: 020 7412 7873
Ffacs: 020 7412 7641
E-bost: apac-enquiries@bl.uk
Gwefan: www.bl.uk
<
Ffioedd ar gyfer copïau o dystysgrifau geni yng Nghymru a Lloegr
Mae gwybodaeth ynghylch y ffioedd ar gyfer copïau o dystysgrifau geni yng Nghymru a Lloegr ar wefan GOV.UK ar: www.gov.uk.
<
Ffïoedd ar gyfer Copïau o dystysgrifau geni yng Ngogledd Iwerddon
Mae gwybodaeth ynghylch y ffioedd ar gyfer copïau o dystysgrifau geni yng Ngogledd Iwerddon ar wefan NI Direct ar: www.nidirect.gov.uk.
<











