Pam mae hyn yn bwysig?
Profion gyrru
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
- Y prawf gyrru
- Y prawf theori
- Y prawf ymarferol
- Ceisio am brawf
- Ymgeiswyr sydd ag anghenion arbennig
- Ailsefyll y prawf
- Apeliadau
- Cyfnod prawf
- Gwaharddiad
- Pass Plus
- Ffioedd
- Cwynion
- Gwybodaeth ychwanegol
Y prawf gyrru
Mae prawf gyrru yn cynnwys prawf theori a phrawf ymarferol. Ni allwch fel arfer sefyll y prawf ymarferol os nad ydych wedi llwyddo yn y prawf theori.
Fodd bynnag, mae rhai pobl wedi’u heithrio rhag sefyll y prawf theori. Cewch fwy o wybodaeth am bwy sydd wedi’i eithrio rhag sefyll y prawf theori ar www.gov.uk.
Mae’n rhaid i chi dalu ffi am bob rhan o’r prawf – am fanylion, gweler dan y pennawd Ffioedd.
Cyn sefyll y prawf, mae’n rhaid bod gennych drwydded gyrru dros dro dilys Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon.
<
Y prawf theori
Mae yna ddwy rhan i’r prawf theori. Y cyntaf yw prawf cyffwrdd sgrin lle mae’n rhaid i chi ddewis yr ateb cywir o nifer o ddewisiadau. Yr ail ran yw prawf adnabod peryglon. Dangosir set o glipiau fideo o beryglon gyrru i chi a bydd gofyn i chi glicio botwm eich llygoden cyn gynted ag y gwelwch berygl. Mae’n rhaid i chi lwyddo yn ddwy ran y prawf theori ar yr un pryd.
<
Y prawf ymarferol
Ni allwch sefyll y prawf ymarferol tan eich bod wedi llwyddo yn y prawf theori, oni bai eich bod wedi eich eithrio - gweler y pennawd Y prawf theori. Bydd y prawf ymarferol yn profi eich gallu i reoli eich cerbyd yn briodol ac i yrru’n annibynnol, ac fe fydd yn para 40 munud fel arfer. Os oes gennych anabledd corfforol, bydd angen i chi ddangos eich bod yn medru defnyddio unrhyw reolyddion arbennig sydd ar eich cerbyd.
Bydd y prawf ymarferol hefyd yn cynnwys prawf llygaid syml a dau gwestiwn ar ddiogelwch cerbyd a gynlluniwyd i sicrhau eich bod yn gwybod sut i wirio diogelwch eich cerbyd. Gallai’r cwestiynau hyn gyfeirio at deiars, brêcs, hylifau, goleuadau, adlewyrchyddion, cyfeirwyr a’r corn.
Mae’n rhaid i chi gwblhau cwrs hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) cyn sefyll prawf beic modur, ac mae’n rhaid i chi ddangos eich tystysgrif CBT pan fyddwch chi’n cymryd eich prawf ymarferol. Cewch wybodaeth am y CBT gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ar 0115 936 6547.
Os nad ydych yn llwyddo yn y prawf ymarferol neu os nad ydych yn ei sefyll o fewn dwy flynedd i’r dyddiad yr oeddech wedi pasio eich prawf theori, bydd angen i chi basio’r prawf theori eto cyn y gallwch sefyll prawf ymarferol.
Pan fyddwch wedi llwyddo yn y prawf ymarferol, os oes trwydded dros dro â cherdyn llun gennych ac nid yw’ch manylion personol wedi newid, gallwch roi eich trwydded dros dro i’r arholwr ac fe fydd yn rhoi trwydded lawn i chi yn awtomatig. Fel arall, mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am eich trwydded lawn o fewn dwy flynedd i ddyddiad y prawf. Os nad ydych yn gwneud hyn, bydd yn rhaid i chi sefyll y prawf ymarferol (a’r prawf theori) eto.
<
Ceisio am brawf
Gallwch geisio am brawf theori neu ymarferol:
- yn ysgrifenedig, trwy gwblhau ffurflen gais sydd ar gael gan ganolfannau prawf, hyfforddwyr gyrru neu drwy ffonio’r llinell trefnu profion. Rhif y llinell i drefnu profion yw 0300 200 1122 yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, neu 0300 200 1133 os hoffech geisio trwy gyfrwng y Gymraeg
- drwy ffonio 0300 200 1122 yn Lloegr, Cymru neu’r Alban, neu 0300 200 1133 i geisio yn Gymraeg ac yng Ngogledd Iwerddon drwy ffonio 0845 600 6700 (i archebu prawf theori) neu 0845 247 2472 (i archebu prawf ymarferol) gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd
- ar-lein ar www.gov.uk neu, yng Ngogledd Iwerddon, www.nidirect.gov.uk.
Mae’n rhaid i chi dalu ffi i wneud y prawf – gweler dan y pennawd Ffioedd.
Gallwch ad-drefnu neu ganslo prawf dros y ffôn neu ar-lein drwy roi rhybudd o dri diwrnod gwaith.
<
Ymgeiswyr sydd ag anghenion arbennig
Os oes gennych anghenion arbennig, er enghraifft, anawsterau darllen, anableddau corfforol neu os ydych yn dymuno sefyll y prawf theori mewn iaith arall yn hytrach na Saesneg, gall yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) wneud trefniadau ar eich cyfer.
Cewch hyd i fwy o wybodaeth ar www.gov.uk ac yng Ngogledd Iwerddon ar www.nidirect.gov.uk.
<
Ailsefyll y prawf
Os nad ydych yn llwyddo yn y prawf theori, mae’n rhaid i chi aros tri diwrnod gwaith cyn medru sefyll prawf arall. Gallwch sefyll y prawf gymaint o weithiau ag y dymunwch.
Os nad ydych yn llwyddo yn y prawf ymarferol, mae’n rhaid i chi aros deg diwrnod gwaith cyn medru ailsefyll prawf car neu feic modur a thri diwrnod gwaith cyn ailsefyll prawf lori neu fws. Gallwch sefyll y prawf gymaint o weithiau ag y dymunwch.
<
Apeliadau
Os nad ydych yn llwyddo yn y prawf theori, dim ond os aflonyddwyd ar y prawf y gallwch apelio.
Os nad ydych yn llwyddo yn y prawf ymarferol, dim ond os na gyflawnwyd y prawf yn unol â’r rheolau y gallwch apelio.
<
Cyfnod prawf
Pan fyddwch yn llwyddo yn eich prawf gyrru am y tro cyntaf, byddwch yn ddarostyngedig i ddwy flynedd o gyfnod prawf. Mae’r cyfnod o ddwy flynedd yn dechrau ar y diwrnod yr ydych yn llwyddo yn y prawf ymarferol am y tro cyntaf.
Os cewch eich euogfarnu o droseddau gyrru a chewch chwech neu fwy o bwyntiau cosb yn ystod y cyfnod prawf, gan gynnwys unrhyw bwyntiau cosb a oedd gennych cyn pasio’r prawf, bydd eich trwydded gyrru yn cael ei diddymu.
Os diddymir eich trwydded gyrru lawn, byddwch yn cael eich trin unwaith eto fel dysgwr, fel pe baech heb basio prawf gyrru. I barhau i yrru, bydd angen trwydded gyrru dros dro arnoch a bydd angen i chi yrru gyda phlatiau dysgwr tan eich bod wedi llwyddo yn eich profion ymarferol a theori.
Ni allwch apelio yn erbyn diddymiad eich trwydded. Ond, os ydych yn apelio yn erbyn y cyhuddiad neu’r ddedfryd a gynyddodd nifer eich pwyntiau i 6 neu fwy, gallwch wneud cais i adfer eich trwydded tan bod canlyniad yr apêl yn hysbys. Os yw’r llys yn hysbysu’r DVLA (DVA yng Ngogledd Iwerddon) bod y ddedfryd dan apêl, a’ch bod wedi cael caniatâd i barhau i yrru, dylid adfer eich trwydded lawn heb brawf pellach.
Nid oes isafswm amser ar gyfer diddymu eich trwydded. Cyn gynted â’ch bod yn llwyddo ym mhrofion theori ac ymarferol prawf gyrru arall, gallwch geisio am drwydded lawn newydd. Ond, bydd y pwyntiau cosb yn aros ar y drwydded gyrru am bedair blynedd o ddyddiad eich trosedd. Ar ôl pedair blynedd, gallwch ofyn i’r DVLA (neu’r DVLNI yng Ngogledd Iwerddon) i gael gwared arnynt oddi ar eich trwydded.
Am fwy o wybodaeth ynghylch arnodiadau ar eich trwydded gyrru, gweler Trwyddedau gyrru
<
Gwaharddiad
Ar gyfer rhai troseddau gyrru, gall y llys eich gwahardd rhag gyrru a/neu (g)orchymyn eich bod yn sefyll y prawf eto. Os yw’r drosedd yn ddifrifol iawn, gall y llys orchymyn gwaharddiad tan eich bod yn llwyddo yn y prawf a’ch bod yn sefyll prawf ymarferol dwbl a elwir yn brawf gyrru estynedig. Mae’r ffi ar gyfer y prawf hwn yn uwch na’r ffi ar gyfer y prawf arferol – gweler dan y pennawd Ffioedd.
Bydd yn rhaid i yrrwr beic modur sydd wedi ei wahardd gan lys ailsefyll yr hyfforddiant sylfaenol gorfodol (gweler y pennawd Y prawf ymarferol) er mwyn gyrru fel dysgwr, a bydd yn rhaid iddo sefyll y prawf ymarferol.
Os hoffech fwy o wybodaeth am waharddiadau ac arnodiadau, gweler Trwyddedau gyrru.
<
Pass Plus
Cynllun hyfforddi gwirfoddol yw Pass Plus ar gyfer gyrwyr sydd newydd basio eu prawf gyrru yn Lloegr, Cymru a’r Alban. Mae’n cynnwys chwech gwers sy’n ymdrin â gyrru yn y nos, gyrru mewn pob math o dywydd, a gyrru ar draffyrdd a ffyrdd deuol, ymhlith pynciau eraill. Mae’n rhaid i chi dalu ffi i fynychu ond nid oes prawf ar ddiwedd y cwrs.
Os ydych yn cwblhau cwrs Pass Plus o fewn deuddeg mis o basio eich prawf, mae’n bosib y cewch ddisgownt ar eich yswiriant. Mae’r disgownt hwn fel arfer yn gyfwerth ag un flwyddyn o fonws dim-hawlio. Gwiriwch gyda’ch yswiriwr cyn mynychu’r cwrs i weld p’un ai fod hyn ar gael. Mae’n syniad i chi hefyd wirio gyda brocer yswiriant i ddarganfod p’un ai bod yswirwyr eraill yn rhoi mwy o ddisgownt.
Cewch hyd i fwy o wybodaeth am Pass Plus ar www.gov.uk.
<
Ffioedd
Bydd yn rhaid i ymgeisydd dalu ffi ar gyfer y prawf theori a’r prawf ymarferol. Cewch hyd i fwy o wybodaeth am y ffioedd sy’n daladwy ar www.gov.uk neu yng Ngogledd Iwerddon ar www.nidirect.gov.uk.
<
Cwynion
Os hoffech gwyno am y ffordd y gweinyddwyd unrhyw ran o’ch prawf theori neu ymarferol, cysylltwch â’r ganolfan prawf lle gyflawnoch y prawf. Os nad ydych yn fodlon â’u hymateb i’ch cwyn, cysylltwch ag adran gwasanaethau cwsmeriaid yr Asiantaeth Safonau Gyrru ar 0300 200 1122 neu e-bostiwch customer.services@dsa.gsi.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, dylech gysylltu â’r Asiantaeth Profi Gyrwyr a Cherbydau ar 028 9068 1831 neu e-bostiwch dvta@doeni.gov.uk.
<
Gwybodaeth ychwanegol
Cewch wybodaeth bellach am brofion gyrru ar www.gov.uk neu yng Ngogledd Iwerddon ar www.nidirect.gov.uk.
<











