Pam mae hyn yn bwysig? Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei darparu yn amrywio o wlad i wlad. I gael gwybodaeth ar gyfer eich gwlad chi, dewiswch o'r ddewislen.

Cofiwch eich hawliau wrth brynu ar-lein

Date: 13 April 2012

Mae’r Swyddfa Masnachu Teg, sef gwylgi defnyddwyr y llywodraeth, wedi lansio ymgyrch newydd i’ch helpu i ddeall eich hawliau fel defnyddiwr pan fyddwch chi’n siopa ar-lein.

Pan fyddwch chi’n prynu rhywbeth ar-lein mae gennych fwy o sicrwydd eto na phrynu’n uniongyrchol o’r siop.

Yn ychwanegol at eich hawliau defnyddiwr arferol wrth brynu nwyddau, mae gennych rai hawliau ychwanegol os ydych yn prynu ar-lein, gan gynnwys:

  • yr hawl i gael ad-daliad llawn os nad ydych yn derbyn y nwyddau o fewn 30 niwrnod i’r dyddiad y gosodwyd eich archeb, neu erbyn y dyddiad yr ydych wedi cytuno iddo
  • yr hawl i newid eich meddwl a chanslo o fewn saith niwrnod gwaith i’r dyddiad yr oeddech wedi gosod eich archeb am y tro cyntaf, i’r dyddiad y derbyniwyd y nwyddau neu’r dyddiad y llofnodwyd i dderbyn gwasanaeth
  • yr hawl i dderbyn gwybodaeth glir ynghylch y cynnyrch, enw a chyfeiriad y masnachwr, manylion dosbarthu, y costau a’ch hawl i ganslo. Os nad ydych yn cael yr holl wybodaeth hon, efallai y bydd mwy o amser eto gennych i ganslo’ch archeb

Mae yna rai mathau o archebion na fyddwch yn medru ei canslo, er enghraifft:

  • nwyddau sy’n darfod, er enghraifft blodau neu fwyd
  • papurau newydd neu gylchgronau
  • nwyddau sydd wedi eu personoli’n arbennig i chi
  • gwasanaethau sydd wedi dechrau ar unwaith, er enghraifft lawrlwytho cerddoriaeth.

Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawliau fel defnyddiwr wrth i chi brynu ar-lein, ac i wylio fideo defnyddiol, rhowch glic ar wefan y Swyddfa Masnachu Teg yn www.oft.gov.uk.

Citizens Advice

Barnu'r dudalen hon Rhoi adborth