Pam mae hyn yn bwysig?
Yswiriant diogelu taliadau – hawlio’ch arian yn ôl yn rhad ac am ddim
Date: 4 May 2012
Efallai y bydd cwmni rheoli achosion wedi dod atoch gan gynnig cael ad-daliad i chi ar eich yswiriant diogelu taliadau. Ond, nid oes angen i chi ddefnyddio un o’r cwmnïau hyn i geisio cael ad-daliad - fe fyddwch yn medru hawlio’r arian sy’n ddyledus i chi eich hun. Rydych yn medru gwneud hyn yn rhad ac am ddim. Nid oes rhaid i chi dalu ffi ac mae yr un mor gyflym i chi wneud hyn eich hun.
Mae Yswiriant Diogelu Taliadau – neu ‘PPI’ – yn yswiriant a gynigir i chi weithiau wrth i chi gymryd benthyciad, morgais, cerdyn credyd neu gerdyn siop. Bwriad ‘PPI’ yw talu’r ad-daliadau os ydych chi’n mynd yn sâl, yn colli eich swydd neu’n cael damwain. Ond, efallai y bydd rhywun wedi gwerthu polisi ‘PPI’ i chi nad ydyw’n addas i chi . Er enghraifft, fe allech weld bod eich polisi’n berthnasol i bobl sydd â swydd lawn amser yn unig, a chithau’n ddi-waith, neu nad ydych yn medru hawlio am eich bod yn gorfod bod yn iau na therfyn oed penodol.
Os gwerthwyd polisi anaddas i chi, gelwir hyn yn gam-werthu. Dylech fod yn medru canslo’r polisi a chael ad-daliad, er, fwy na thebyg y bydd yn rhaid i chi hawlio am hyn. Os ydych yn defnyddio cwmni rheoli achosion i hawlio, fe fyddan nhw’n cymryd tua 25% o’r arian a gewch yn ôl, a TAW ar ei ben. Os ydych yn hawlio ar eich pen eich hun, fe fyddwch yn medru cadw’r holl arian a gewch.
Yn ddiweddar, mae’r llywodraeth wedi dweud y bydd yn ceisio sicrhau ei bod yn haws ac yn symlach hawlio ad-daliadau ‘PPI’. Fe fydd hefyd yn cyhoeddi cyngor ar beidio â gorfod defnyddio cwmni rheoli achosion i hawlio.
I gael gwybod mwy am ‘PPI’ a sut i hawlio os cam-werthwyd polisi i chi, gan gynnwys llythyr enghreifftiol y gallwch ei ddefnyddio, gweler Yswiriant diogelu taliadau.
Mae yna ganllawiau gam-wrth-gam ar sut i hawlio, sy’n hawdd eu defnyddio, ar wefan MoneySavingsExpert yn www.moneysavingexpert.com.
Os byddwch chi angen mwy o help, ewch at eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.











