Pam mae hyn yn bwysig?
Gwybodaeth newydd a gwell i ddefnyddwyr
Date: 25 April 2012
A gan mai ceir yw un o’r prif broblemau i ddefnyddwyr, mae yna gyngor newydd hefyd ar brynu ceir newydd a cheir ail law, gan gynnwys cyngor ar werthu car a sut i apelio yn erbyn tocyn parcio.
Mae’r elfennau newydd sbon yn cynnwys llythyron enghreifftiol rhyngweithiol, ‘coed penderfynu’, gair o gyngor, pwyntiau pwysig a’r camau nesaf i’ch helpu i benderfynu ar y ffordd ymlaen.
Mae coed penderfynu yn declynnau cwestiwn ac ateb rhyngweithiol, sy’n eich tywys chi drwy’r broses o ddelio gyda phroblemau penodol. Mae’r testunau’n cynnwys cwmnïau gwyliau sy’n mynd i’r wal a newid eich meddwl ynghylch prynu nwyddau neu wasanaethau.
Fe allwch ddefnyddio’r llythyron rhyngweithiol i gwyno am bethau fel nwyddau diffygiol neu waith o safon isel, ac mae yna lythyron hefyd ar gyfer canslo rhywbeth a brynwyd o bellter dros y rhyngrwyd neu’r ffôn.
Rhowch glic ar ein tudalennau defnyddwyr i ddarganfod mwy.







