Pam mae hyn yn bwysig? Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei darparu yn amrywio o wlad i wlad. I gael gwybodaeth ar gyfer eich gwlad chi, dewiswch o'r ddewislen.

Yr Iaith Gymraeg

Mae bron i chwarter y bobl yng Nghymru’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith.

Mae gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru hefyd, sy’n golygu y dylai mudiadau cyhoeddus roi gwybodaeth yn Gymraeg a darparu gwasanaethau yng Gymraeg, yn ogystal â Saesneg. Yn benodol, mae gennych yr hawl i ddefnyddio’r iaith Gymraeg mewn llys. Rydych hefyd yn medru dewis mynd i ysgol ble cewch eich addysg trwy gyfrwng y Gymraeg fel eich iaith gyntaf.

Ar y dudalen hon, cewch wybod mwy am eich hawl i ddefnyddio’r iaith Gymraeg a ble i fynd am wybodaeth bellach.

Gair o gyngor

Am wybodaeth bellach ynglyn â’r iaith Gymraeg, rhowch glic ar wefan iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru yn: www.cymru.newydd.gov.uk.

Cymraeg yn yr ysgol

Mae Cymraeg yn bwnc yn y cwricwlwm cenedlaethol ac mae’n orfodol ym mhob un o ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru, i ddisgyblion hyd at 16 oed. Mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, caiff ei haddysgu fel ail iaith ac mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, fel yr iaith gyntaf.

Mae cymorth ac adnoddau ar gael i rieni sydd am i’w plant fod yn ddwyieithog, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg eu hunain, ar wefan Twf  yn www.twfcymru.com.

Dysgu Cymraeg fel Oedolyn

Os ydych chi am ddysgu Cymraeg fel oedolyn, mae gwybodaeth ar gyrsiau, adnoddau dysgu a manylion cymwysterau ar wefan Cymraeg i Oedolion. www.cymraegioedolion.org.

Defnyddio’r Gymraeg yn y llys

Fe fyddwch yn medru defnyddio’r Gymraeg os ydych yn ddiffynnydd, yn dyst neu ynghlwm mewn unrhyw ffordd arall ag achos cyfreithiol yng Nghymru. Os ydych yn dymuno defnyddio’r Gymraeg mewn llys yng Nghymru, ar wahân i lys ynadon, dylech ddweud wrth y llys ar y cyfle cynharaf posib, a chyn diwrnod y gwrandawiad. Mewn llysoedd ynadon, mae’n ddefnyddiol os ydych yn dweud wrth y llys ymlaen llaw, ond nid yw’n hanfodol

Tu allan i Gymru, nid oes hawl gennych i siarad Cymraeg mewn gwrandawiad. Fe fydd y barnwr yn penderfynu a fydd yn caniatáu i’r Gymraeg gael ei siarad mewn llys tu allan i Gymru, ond ble caiff ei chaniatáu, trefnir cyfleusterau cyfieithu ar y pryd.

Gellir defnyddio’r Gymraeg mewn tribiwnlysoedd yng Nghymru hefyd.

Os cewch eich galw i wasanaethu ar reithgor yn Llys y Goron yng Nghymru, fe fyddwch yn derbyn dogfennau dwyieithog, ac mae’n rhaid i chi eu hateb. Fe fyddwch yn medru ateb yn Gymraeg gan ddweud yr hoffech dderbyn unrhyw gyfathrebu yn y dyfodol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn y llys, mae’r rheithwyr yn cael gwahoddiad i wylio fideo, sy’n esbonio cyfrifoldebau gwasanaeth rheithgor. Mae’r fideo ar gael yn Gymraeg. Fe fyddwch yn medru tyngu llw’r rheithiwr, neu gadarnhau, yn Gymraeg. Rhaid darparu cyfleusterau cyfieithu onid yw’r achos gyfan yn mynd i gael gwrandawiad yn y Gymraeg.

Fe fydd llinell gymorth Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi i siaradwyr Cymraeg yn ateb ymholiadau cyffredinol ynghylch defnyddio’r Gymraeg. Dyma’r manylion cyswllt:

Her Majesty's Courts and Tribunals Service (HMCTS)
Llinell Gymorth Gymraeg: 0800 212 368

Comisiynydd y Gymraeg

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn fudiad annibynnol.

Rôl y Comisiynydd yw ceisio sicrhau, yng Nghymru:

  • nad yw’r iaith Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg
  • fod pobl yn medru byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os mai dyna yw eu dymuniad.

Mae’r Comisiynydd yn medru ymchwilio i gwynion, er enghraifft ynghylch:

  • mudiad cyhoeddus sy’n gwrthod rhoi gwybodaeth yn Gymraeg
  • methu â darparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Os hoffech chi gwyno i’r Comisiynydd, dylech wneud hynny cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, trwy:

  • ffonio swyddfa’r Comisiynydd
  • lenwi’r ffurflen cwyno ar-lein
    Ffurflen cwyno – gwefan y Comisiynydd yn www.comisiynyddygymraeg.org
  • lenwi copi caled o’r ffurflen cwyno, sydd ar gael trwy gysylltu â’r Comisiynydd.

Dyma fanylion cyswllt y Comisiynydd:

Comisiynydd y Gymraeg
Siambrau’r Farchnad
5-7 Heol y Santes Fair
Caerdydd
CF10 1AT

Ffôn: 0845 603 3221
E-bost: post@comisiynyddygymraeg.org
Gwefan: www.comisiynyddygymraeg.org

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Llywodraeth yng Nghymru

Addysg yng Nghymru

Llysoedd barn

Citizens Advice

Barnu'r dudalen hon Rhoi adborth