Pam mae hyn yn bwysig?
Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Nghymru
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru
- Beth yw ombwdsman
- Pa fath o gwyn fydd yr ombwdsman yn medru archwilio iddi
- Sut i gwyno i'r ombwdsman
- Ombwdsman Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd
- Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru
- Ombwdsman Ewropeaidd
- Gwasanaeth yr Ombwdsman Ariannol
- Yr Obwdsman Cyfreithiol
- Yr Ombwdsman Eiddo
- Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo
- Ombwdsman Carchardai a Phrawf
Beth yw ombwdsman
Mae ombwdsman yn berson sydd wedi'i benodi i ymchwilio i gwynion ynghylch mudiad. Fel arfer, mae'r ombwdsman yn gyfreithiwr ac mae'n ymchwilio o safbwynt annibynnol.
Mae yna nifer o ombwdsmyn:-
- yr Ombwdsman Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd sy'n ymchwilio i gwynion ynghylch adrannau'r llywodraeth a rhai cyrff cyhoeddus penodol eraill
- yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru sy’n ymchwilio i gwynion ynghylch gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cwynion ynghylch y gwasanaeth iechyd yng Nghymru
- y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol
- yr Ombwdsman Ewropeaidd
- yr Ombwdsman Cyfreithiol
- yr Ombwdsman Eiddo
- yr Ombwdsman Carchardai a Phrawf.
- Gwasanaethau’r Ombwdsman: Ynni
- Yr Ombwdsman telathrebu
Nid oes tâl ar gyfer ymchwiliadau ombwdsman. Dylech hawlio unrhyw arian a wariwyd gennych ar y gwyn, er enghraifft, costau teithio, yn ôl o swyddfa'r ombwdsman perthnasol.
Hyd yn oed ble mae'r ombwdsman yn cytuno bod eich cwyn wedi'i chyfiawnhau, yn y mwyafrif o achosion ni ellir gorchymyn i fudiad wneud unrhyw beth i'ch iawndalu. Yn ychwanegol, gall ymchwiliad yr ombwdsman gymryd cryn amser. Dylech ond ystyried gwneud cwyn i'ch ombwdsman felly, fel mesur terfynol.
<
Pa fath o gwyn fydd yr ombwdsman yn medru archwilio iddi
Gwaith yr ombwdsman yw ymchwilio i achosion o gamweinyddu. Mae hyn yn golygu'r modd mae cymdeithas wedi delio â sefyllfa, er enghraifft, pun a’i fod y dulliau gweithredu a ddefnyddiwyd gan y gymdeithas yn deg ac yn rhesymol.
Mae’r ombwdsman hefyd yn medru ymchwilio i gwynion fod aelod o gorff llywodraeth leol, gan gynnwys cynghorwyr ac aelodau o’r awdurdodau tân a’r heddlu, wedi torri eu côd ymarfer. Mae hyn yn medru bod, er enghraifft, os yw cynghorydd wedi dwyn gwarth ar y cyngor neu wedi defnyddio ei sefyllfa i gael mantais iddo’i hun.
Mae ombwdsman ond yn ymchwilio i achosion ble mae unigolyn (neu grŵp o unigolion mewn rhai achosion) wedi dioddef anghyfiawnder, caledi neu golled ariannol oherwydd gweithredoedd, neu ddiffyg gweithredu, mudiad penodol. Mae'n rhaid i’r person a ddioddefodd yr anghyfiawnder, caledi neu golled gyflwyno’r gwyn.
Ni all ombwdsman ymchwilio i benderfyniad a wnaethpwyd gan fudiad. Gall ymchwilio i’r modd y daethpwyd i’r penderfyniad yn unig. Darperir gwybodaeth fwy manwl ar ba fath o gwyn y mae’n bosib i Ombwdsman ymgymryd â hi yn yr wybodaeth ganlynol.
Dylech ofyn am gyngor gan weithiwr cyngor profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth, neu'r swyddfa ombwdsman perthnasol, i ddarganfod a ydyw ombwdsman yn medru mynd ar drywydd cwyn penodol. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Dylech ond wneud cwyn at Ombwdsman os yw'r mudiad perthnasol wedi cael cynnig gwneud sylwadau ynglyn â'r gwyn a datrys unrhyw broblemau yn gyntaf. Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn y dylid ei wneud cyn cwyno at Ombwdsman, gweler yr wybodaeth isod.
Ni fydd Ombwdsman yn ymchwilio i achos os ydyw ar fin mynd i'r llys neu os yw gweithrediadau llys yn cael eu hystyried. Mewn rhai achosion ni fydd yr Ombwdsman yn ymchwilio i achosion y gellir eu datrys mewn llys neu dribiwnlys.
<
Sut i gwyno i'r ombwdsman
Mae'r dull gweithredu ar gyfer cychwyn ymchwiliad gan Ombwdsman yn dibynnu ar ba Ombwdsman sy'n derbyn y gwyn. Mae mwyafrif swyddfeydd yr Ombwdsman yn darparu ffurflen gais er mwyn gwneud cwyn. Nid oes rhaid defnyddio ffurflen gais fodd bynnag. Gellir anfon llythyr yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:-
- eich enw a'ch cyfeiriad
- enw a chyfeiriad y mudiad y mae'r gwyn yn ei gylch
- manylion am achos y gwyn, hynny yw, beth wnaeth y gymdeithas o'i le neu beth mae wedi methu â gwneud
- pa anghyfiawnder personol, colled ariannol neu galedi a ddioddefwyd
- beth ddylai'r mudiad wneud i ddatrys y sefyllfa
- manylion ynglyn â sut aethpwyd ati i ddelio â'r sefyllfa cyn cysylltu â'r Ombwdsman
- y dyddiad y daethoch i wybod am y digwyddiad y mae'r gwyn yn ei chylch.
Dylid anfon copïau o unrhyw waith papur sy'n berthnasol i’r gwyn hefyd.
Mae'n bosib i chi gael help cynghorydd profiadol i gysylltu ag ombwdsman a chychwyn y drefn gwyno, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
<
Ombwdsman Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd
Y math o gwynion y mae’r Ombwdsman Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd yn medru delio â nhw
Gall yr Ombwdsman Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd ymgymryd â chwynion ynglyn â’r modd y mae unigolyn wedi cael ei d/thrin gan adran o’r llywodraeth neu gorff cyhoeddus arall. Mae’r ombwdsman yn ymwneud â cham-weinyddiaeth gan gorff cyhoeddus, er enghraifft, sut mae’r gweithdrefnau yn cael eu defnyddio. Gweler isod rai enghreifftiau o’r math o gwynion y mae’r ombwdsman yn medru delio â nhw:-
- ymateb araf ac anfoddhaol i lythyron at adrannau'r llywodraeth
- gwybodaeth neu gyngor anghywir a/neu gamarweiniol a roddwyd gan swyddogion adrannau'r llywodraeth
- swyddogion adrannau'r llywodraeth yn gwrthod rhoi gwybodaeth
- staff adrannau'r klywodraeth yn ymddwyn yn anghwrtais, yn gwahaniaethu, yn gwrthod helpu neu'n anghymwynasgar
- methu â dilyn rheolau rhesymol mewn gweithdrefnau a gweinyddiaeth.
Ni all yr ombwdsman ymchwilio i’r mathau canlynol o gwynion:-
- cwynion ynglyn â diwydiannau gwladol
- cwynion ynglyn â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru
- cwynion ynglyn â'r modd y gweithredir camau cyfreithiol, er enghraifft, cwynion ynglyn â staff gweinyddol y llysoedd, oni bai fod y staff wedi gweithredu ar awdurdod y barnwr, neu'r ynad
- cwynion ynghylch yr heddlu
- cwynion ynglyn â phethau sydd heb achosi caledi neu ddioddefaint i chi
- cwynion ynglyn â pholisïau'r llywodraeth
- cwynion a adroddwyd i'r Aelod Seneddol fwy na deuddeg mis ar ôl i chi sylweddoli bod rheswm gennych dros gwyno.
Beth yw'r cam cyntaf
Dylech gyflwyno cwyn yn y lle cyntaf at yr adran o'r llywodraeth neu'r corff cyhoeddus cysylltiedig, gan fod yn rhaid rhoi cyfle iddynt i ystyried y broblem. Dylech anfon llythyr sy'n amlinellu'r broblem at yr adran berthnasol. Dylid cadw copïau o unrhyw lythyron a anfonwyd ac a dderbyniwyd. Os na fydd yr adran o'r llywodraeth neu'r corff cyhoeddus yn rhoi ymateb boddhaol, yna gellir ystyried cyflwyno cwyn at Ombwdsman.
Sut i gwyno
Bydd ombwdsman ond yn medru helpu os bydd AS wedi gofyn iddo wneud hynny. Yn gyntaf, dylech ysgrifennu llythyr yn sôn am y broblem at unrhyw AS gan ofyn iddo/iddi gyfeirio'r achos at yr ombwdsman. Dylid anfon pob gohebiaeth berthnasol at yr AS. Mae'n bosib y bydd yr AS yn dymuno archwilio'r mater cyn ei gyfeirio at yr ombwdsman, ac efallai y bydd yn penderfynu peidio â phasio'ch cwyn ymlaen. Gweler y pennawd Sut i wneud cwyn at ombwdsman am wybodaeth ynglyn â'r hyn y dylid ei gynnwys yn y llythyr. Gellir cysylltu â Swyddfa'r ombwdsman yn uniongyrchol i holi a yw'r achos yn un y byddai'n medru ymgymryd ag ef.
Dyma gyfeiriad yr Ombwdsman Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd:
Millbank Tower
Millbank
London
SW1P 4AP
Llinell Gymorth: 0345 015 4033
Ffôn testun: 0300 061 4298
Ffacs: 0207 217 4000
E-bost: phso.enquiries@ombudsman.org.uk
Gwefan: www.ombudsman.org.uk
Yr hyn y mae’r ombwdsman yn medru'i wneud
Os bydd yr ombwdsman yn cytuno i ymchwilio i'r gwyn, fe fydd yn cynnal ymchwiliad preifat. Mae’n bosib y bydd rywun o swyddfa’r ombwdsman yn eich cyfweld yn eich cartref.
Os yw’r ombwdsman yn cytuno bod y gwyn yn gyfiawn fe fydd ef/hi yn gofyn i’r adran berthnasol o'r Llywodraeth ddatrys y sefyllfa. Bydd adroddiad yr ombwdsman yn cael ei anfon at yr Adran, yr AS a’r person sy’n cyflwyno’r gwyn.
Nid yw’r ombwdsman yn medru gorfodi adran o’r llywodraeth neu gorff cyhoeddus arall i ddatrys anghyfiawnder, ac nid oes apêl yn erbyn ei ddarganfyddiadau. Fodd bynnag, ble mae ombwdsman yn cytuno gyda’r sawl sy’n cyflwyno’r gwyn ac yn gofyn iddynt unioni’r sefyllfa, fe fydd y corff cyhoeddus yn ymateb, fel arfer. Gall yr ombwdsman ofyn am:-
- ymddiheuriad
- ad-dalu arian sy'n ddyledus, er enghraifft, treth, budd-dâl
- iawndal, er enghraifft, am oedi
- gwell gweithdrefnau
- gwell gweithdrefnau gweinyddol yn yr Adran.
<
Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru
Y math o gwynion y mae'r Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus yn medru delio â nhw
Mae'r Ombwdsman yn medru delio â chwynion o gam-weinyddiaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir gan y mudiadau canlynol:-
- awdurdodau lleol
- cyd-fyrddau awdurdodau lleol
- awdurdodau tân a'r heddlu (ond nid cwynion am swyddogion unigol yr heddlu)
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Llywodraeth Cymru
- byrddau iechyd lleol
- ymddiriedolaethau GIG
- gwasanaethau Meddyg Teulu
- Cynghorau Iechyd Cymuned
- tai a ddarparwyd gan gymdeithasau tai a gan awdurdodau lleol
- awdurdodau parciau cenedlaethol
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- panelau apêl addysg
- cyrff llywodraethol ysgolion (materion derbyniad yn unig).
Mae'r ombwdsman ond yn medru ymchwilio i gwynion o gam-weinyddiaeth sydd wedi peri anghyfiawnder, dioddefaint neu galedi. Mae hyn yn golygu eu bod yn medru delio â chwynion sy'n ymwneud â'r modd y mae cymdeithas wedi gwneud rhywbeth, neu wedi methu a gwneud rhywbeth yn unig. Gweler isod enghreifftiau o'r mathau o gwynion y medrant ddelio â nhw:-
- oedi neu esgeulustod wrth ymateb i ymholiadau neu ddarparu gwasanaeth
- methiant wrth ddilyn polisïau, rheolau neu weithdrefnau'r y cytunwyd arnynt o fewn y mudiad
- anghwrteisi, gwahaniaethu, amharodrwydd y swyddogion i gynorthwyo
- gwybodaeth a chyngor anghywir a/neu gamarweiniol gan swyddogion
- swyddogion yn methu â darparu cyngor a gwybodaeth.
Mae’r ombwdsman hefyd yn medru ymchwilio i gwynion fod aelod o gorff lywodraeth leol wedi torri côd ymarfer y corff. Mae hyn yn medru bod, er enghraifft, os yw cynghorydd wedi dwyn gwarth ar y cyngor neu wedi defnyddio ei safle i gael mantais i’w hun. Mae’r ombwdsman yn medru ystyried cwyn am berson sy’n aelod o:
- gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol
- cyngor cymuned
- awdurdod tân, yr heddlu neu barc cenedlaethol.
Yn gyfreithiol, nid yw’r Ombwdsman yn medru ymchwilio i gwynion ynghylch rhai pethau, gan gynnwys:
- y rhan fwyaf o faterion staff, er enghraifft, ynghylch cyflog neu ddisgyblaeth (ond maen nhw’n medru ystyried cwynion am weithdrefnau penodi neu recriwtio)
- addysgu, cwricwlwm, ymddygiad, disgyblaeth a rheolaeth mewn ysgolion a cholegau
- y taliadau rhent a gwasanaeth a osodir gan landlord cymdeithasol
- cwyn ble mae gennych hawl cyfreithiol i apelio neu’r hawl i fynd â’r mater i’r llys, neu rydych wedi cael hawl o’r fath, ac eithrio ble maen nhw’n fodlon, yn yr amgylchiadau penodol, nad yw’n rhesymol disgwyl eich bod wedi gwneud hynny
- cwynion ynghylch ymddygiad gweithwyr unigol awdurdod. Ond, os oedd eu hymddygiad wedi arwain at eich trin yn annheg, neu roi gwasanaeth gwael i chi, rydych yn medru cwyno am yr awdurdod ei hun.
Beth yw'r cam cyntaf
Mae'n rhaid gwneud cwyn yn gyntaf at y mudiad cysylltiedig. Ysgrifennwch lythyr at yr adran berthnasol gan amlinellu'r broblem. Os na cheir ymateb boddhaol neu os na cheir ymateb o gwbl o fewn cyfnod rhesymol o amser, gofynnwch i'r ombwdsman i ymchwilio i'r gwyn.
Sut i wneud cwyn
Gallwch anfon eich cwyn yn uniongyrchol at yr ombwdsman neu gallwch ofyn i gynghorydd lleol wneud hyn ar eich rhan.
Dyma gyfeiriad yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru:
Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
Ffacs: 01656 641 199
E-bost: ask@Ombudsman-wales.org.uk
Gwefan: www.Ombudsman-wales.org.uk
Beth mae'r Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus yn medru'i wneud
Os yw’r Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus yn credu ei bod hi’n briodol fe fydd yn ymchwilio i’r achos. Mae’n bosib y bydd rhywun o swyddfa'r ombwdsman yn ymweld â chi. Yna fe fydd yr ombwdsman yn gwneud adroddiad a fydd yn cael ei anfon at y gymdeithas gysylltiedig âc atoch chi. Ni fyddwch yn cael eich enwi yn yr adroddiad. Yn y mwyafrif o achosion, bydd yn rhaid i’r mudiad y mae'r gwyn yn ei gylch wneud adroddiad a fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae cwynion weithiau’n cael eu datrys cyn diwedd yr ymchwiliad.
Os bydd yr ombwdsman yn darganfod bod y gymdeithas yn gyfrifol am beri anghyfiawnder, fe fydd yn cyhoeddi adroddiad sy’n cynnwys ei argymhellion ar gyfer datrysiad addas. Mae’n bosib i ombwdsman ofyn am un o'r canlynol:-
- ymddiheuriad
- iawndal
- gwell gweithdrefnau gweinyddol
- unioni'r broblem.
Nid oes gan yr ombwdsman y pŵer i orfodi mudiad i gymryd unrhyw un o’r camau yma, ond mae cymdeithasau fel arfer yn dewis cydymffurfio. Os nad yw mudiad yn gweithredu fel yr awgrymwyd gan yr ombwdsman, mae'n rhaid iddo gyhoeddi ei resymau dros beidio â gwneud hynny yn y wasg leol.
<
Ombwdsman Ewropeaidd
Y mathau o gwynion y mae'r Ombwdsman Ewropeaidd yn medru delio â nhw
Mae'r Ombwdsman Ewropeaidd yn medru ymchwilio i achosion o gamweinyddu yng ngweithgareddau sefydliadau a chyrff y gymuned Ewropeaidd. Mae'r cyrff hyn yn cynnwys Y Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd a'r Llys Cyfiawnder.
Mae enghreifftiau o'r mathau o broblemau y mae'r Ombwdsman Ewropeaidd yn medru ymchwilio iddynt yn cynnwys oedi gweinyddol, gwrthod rhoi gwybodaeth, gwahaniaethu a chamddefnyddio pwer.
Beth yw'r cam cyntaf
Cyn i chi wneud cwyn i'r Ombwdsman Ewropeaidd, dylech roi cyfle i'r sefydliad Ewropeaidd cysylltiedig ymchwilio i'r broblem a cheisio datrys y mater.
Sut i wneud cwyn
Mae yna derfyn amser ar gyfer cwynion. Mae'n ddwy flynedd o'r dyddiad pan oeddech yn gwybod ffeithiau'r broblem. Nid yw'n angenrheidiol i ASE gyfeirio'r cwyn at yr Ombwdsman Ewropeaidd. Nid oes ffi ar gyfer gwneud cwyn i'r Ombwdsman Ewropeaidd. Dylai'r gwyn fod yn ysgrifenedig. Mae yna ffurflen y medrwch ei lawrlwytho o Wefan yr Ombwdsman Ewropeaidd. Medrwch ei chwblhau a'i hanfon drwy'r e-bost. Fodd bynnag, nid oes rhaid gwneud cwyn gan ddefnyddio'r ffurflen.
Cyfeiriad yr Ombwdsman Ewropeaidd yw:-
1, Avenue du President Robert Schuman
CS 30403
F-67001Strasbourg Cedex
France
Ffôn: 00 33 388 172313
Ffacs: 00 33 388 179062
E-bost: eo@ombudsman.europa.eu
Gwefan: http://www.ombudsman.europa.eu/home.faces
Yr hyn y mae'r Ombwdsman Ewropeaidd yn medru ei wneud
Fe fydd yr Ombwdsman Ewropeaidd yn ymchwilio i’r gwyn. Fel arfer nid yw cwynion yn cael eu trin yn gyfrinachol, ond os byddwch yn gofyn am i'ch cwyn gael ei thrin yn gyfrinachol bydd hyn yn cael ei barchu mewn amgylchiadau unigol, os yw hynny'n bosib.
Fe fydd yr Ombwdsman Ewropeaidd yn ceisio datrys y broblem trwy gymrodedd er mwyn ceisio unioni pethau a sicrhau bod y person sy'n cwyno yn fodlon. Os yw eich ymgais ar gymrodedd yn methu, mae'ch Ombwdsman Ewropeaidd yn medru gwneud argymhellion i'ch sefydliad i ddatrys yr achos. Os nad yw'r sefydliad yn derbyn argymhellion eich ombwdsman, mae'r ombwdsman yn medru gwneud adroddiad arbennig i Senedd Ewrop.
<
Gwasanaeth yr Ombwdsman Ariannol
Y mathau o gwynion y mae'r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn medru delio â nhw
Mae'r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn medru delio gyda chwynion defnyddwyr ynglyn â'r mwyafrif o faterion ariannol personol gan gynnwys
- cyngor ariannol
- gwasanaethau bancio
- polisïau gwaddol
- morgeisi
- cynlluniau pensiwn personol
- gwasanaethau cymdeithasau adeiladau
- yswiriant.
Mae'r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn ddiduedd ac yn rhad ac am ddim. Mae'n medru delio'n bennaf gyda chwynion defnyddwyr am gwmnïau sydd wedi eu hawdurdodi gan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol, er, mae hefyd yn medru delio gyda nifer o gwmnïau anawdurdodedig. Dylech gysylltu â llinell gymorth y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn uniongyrchol i ddarganfod os ydyw'r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn gallu delio gyda'ch cwyn chi.
Sut i wneud cwyn
Cyn cwyno at y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol, mae'n rhaid i chi gwyno i'r cwmni drwy ddefnyddio'r weithdrefn gwynion ffurfiol. Os nad ydych yn fodlon â'r canlyniad, gellir cyflwyno cwyn i'r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol. Mae yna derfyn amser. Mae'r terfyn yn chwe mis i'r dyddiad y mae'r cwsmer yn derbyn penderfyniad terfynol oddi wrth y cwmni ynglyn â sut y mae'n bwriadu delio â'r mater. Gellir cael ffurflen gwyno oddi ar wefan y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol neu oddi wrth y llinell gymorth i ddefnyddwyr. Fe allwch gysylltu â'r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn uniongyrchol am wybodaeth ynglyn â sut i wneud cwyn.
Cyfeiriad y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yw:-
Financial Ombudsman Service
South Quay Plaza
183 Marsh Wall
London
E14 9SR
Llinell gymorth defnyddwyr: 0800 023 4567 (rhad ac am ddim i bobl sy’n ffonio o linell dir) neu 0300 123 9123 (rhad ac am ddim i ddefnyddwyr ffôn symudol sy’n talu tâl misol am alwadau i rifau sy’n dechrau gyda 01 neu 02) (Dydd Llun-Dydd Gwener 8.00yb-6.00yh; Dydd Sadwrn 9.00yb-1.00yp)
E-bost: complaint.info@financial-ombudsman.org.uk
Gwefan: www.financial-ombudsman.org.uk
Beth mae'r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn medru'i wneud
Bydd y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn bwrw golwg dros y gwyn ac yn cynghori ynglyn â sut i ddatrys y broblem. Os na cheir canlyniad boddhaol, bydd y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn cynnal ymchwiliad ffurfiol. Mae'r cwmni'n rhwym i'r penderfyniad terfynol a roddir ar ddiwedd yr ymchwiliad, ond os nad yw'r cwsmer yn cytuno, gall fynd ar gwyn i'r llys.
<
Yr Ombwdsman Cyfreithiol
Yr hyn y mae’r Ombwdsman Cyfreithiol yn medru delio ag ef
Mae’r Ombwdsman Cyfreithiol yn delio gyda chwynion ynghylch gwasanaethau a ddarperir gan gynghorwyr cyfreithiol. Mae cynghorwyr cyfreithiol yn cynnwys:
- cyfreithwyr
- bargyfreithwyr
- swyddogion cyfreithiol gweithredol
- trawsgludwyr trwyddedig
- drafftsmyn costau cyfraith
- nodiaduron
- twrneiod patent
- ymarferwyr profiant
- cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig
- twrneiod nod masnach
- unrhyw fusnes sy’n gyfrifol am y bobl hyn.
Yr hyn ddylech chi ei wneud yn gyntaf
Yn gyntaf, rhaid i chi geisio datrys y gwyn trwy ei thrafod gyda’ch cynghorydd cyfreithiol. Rhaid bod gan bob cwmni cyfreithiol weithdrefn gwyno ysgrifenedig ac fe fydd y cwmni’n dweud wrthych pwy ddylech gysylltu â nhw os oes problem yn codi gyda’r cynghorydd cyfreithiol sy’n delio â’r achos. Rhaid i’r cynghorydd cyfreithiol roi copi o’r weithdrefn gwyno i chi os ydych yn gofyn amdani.
Sut i gysylltu â’r Ombwdsman Cyfreithiol
Os nad yw hyn yn datrys y mater, dylech gysylltu â’r Ombwdsman Cyfreithiol. Mae gan yr Ombwdsman Cyfreithiol linell gymorth sy’n medru eich cynghori p’un ai y bydd yn medru delio â’ch cwyn ai peidio.
Rhaid i chi gysylltu â’r Ombwdsman Cyfreithiol o fewn chwe mis i’ch cyswllt diwethaf gyda’r cynghorydd cyfreithiol. Rhaid i chi ddarparu:
- manylion enw a chyfeiriad eich cynghorydd cyfreithiol
- y dyddiad y dywedoch wrth eich cynghorydd cyfreithiol am eich cwyn
- manylion yr ymateb a gawsoch.
Yr hyn y mae’r Ombwdsman Cyfreithiol yn medru ei wneud
I ddechrau, fe fydd yr Ombwdsman Cyfreithiol yn ceisio datrys eich cwyn yn anffurfiol. Os nad yw hyn yn bosib, fe fydd yr Ombwdsman Cyfreithiol yn ymchwilio i’ch cwyn yn ffurfiol ac fe fyddwch yn cael cyfle i gyflwyno’ch cais yn ysgrifenedig.
Os ydych yn derbyn penderfyniad yr Ombwdsman Cyfreithiol, fe fydd yn derfynol ac fe fyddwch yn rhwym i’r penderfyniad.
Os yw’r Ombwdsman Cyfreithiol yn cytuno bod gwasanaeth eich cynghorydd cyfreithiol wedi bod yn anfoddhaol, fe fydd yn medru gofyn i’ch cwmni cyfreithiol wneud unrhyw un/rai o’r canlynol:-
- ymddiheuro i chi
- rhoi unrhyw ddogfennau y gallech fod eu hangen yn ôl i chi
- talu iawndal i chi am golled, anghyfleustra neu drallod (hyd at £50,000)
- unioni pethau os fydd mwy o waith yn medru cywiro’r hyn sydd wedi mynd o’i le
- ad-dalu ffioedd cyfreithiol, neu eu gostwng.
Os yw’r cynghorydd cyfreithiol wedi torri unrhyw reolau ymddygiad broffesiynol, efallai y bydd yr Ombwdsman Cyfreithiol yn cyfeirio’ch cwyn at y corff rheoleiddio perthnasol. Mewn achosion eithafol, gellid disgyblu’r cynghorydd cyfreithiol neu ddileu ei statws fel cynghorydd cyfreithiol, ac yna ni fyddai’n medru gweithio fel cynghorydd cyfreithiol mwyach.
Os yw eich cynghorydd cyfreithiol wedi bod yn esgeulus neu wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y byddwch yn medru cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cynghorydd cyfreithiol a chwyno i’r Ombwdsman Cyfreithiol. Fe fydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol. Efallai y byddwch yn medru cael cymorth cyfreithiol ar gyfer hyn.
Fe allwch gysylltu â’r Ombwdsman Cyfreithiol yn:
Legal Ombudsman
PO Box 6806
Wolverhampton
WV1 9WJ
Ffôn: 0300 555 0333 (Llun-Gwener 8.30yb tan 5.30yp)
Minicom: 0300 555 1777
E-bost: enquiries@legalombudsman.org.uk
Gwefan: www.legalombudsman.org.uk
Mae mwy o wybodaeth ynghylch sut i gwyno ar wefan yr Ombwdsman Cyfreithiol yn: www.legalombudsman.org.uk.
<
Yr Ombwdsman Eiddo
Mae’r Ombwdsman Eiddo’n delio gyda dadleuon sy’n ymwneud â chwmnïau gwerthu tai, asiantau gosod, asiantau rheoli preswyl, priswyr, arwerthwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud ag eiddo.
Rhaid i bob cwmni gwerthu tai berthyn i gynllun unioni camweddau a gymeradwywyd gan y Swyddfa Masnachu Teg (OFT). Mae OFT wedi cymeradwyo’r cynllun unioni camweddau sy’n cael ei redeg gan yr Ombwdsman Eiddo. Dylech holi i weld os yw’ch cwmni gwerthu tai yn aelod o’r cynllun hwn. Os nad ydyw’n aelod, dylech holi i weld os yw’n aelod o’r unig gynllun arall a gymeradwyir gan y Swyddfa Masnachu Teg sy’n cael ei rhedeg gan y Gwasanaethau Ombwdsman: Eiddo.
Os nad yw cwmni gwerthu tai wedi ymuno ag un o’r cynlluniau hyn, gellir ei ddirwyo. Fe fyddwch yn medru riportio cwmni gwerthu tai sydd ddim wedi ymuno â chynllun i’r swyddfa safonau masnach leol.
Ar hyn o bryd, nid yw asiantau gosod, asiantau rheoli preswyl na gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud ag eiddo, yn gorfod cofrestru fel aelodau o gynllun unioni camweddau.
Y math o gwynion y mae'r Ombwdsman Eiddo yn medru delio â nhw
Bydd yr Ombwdsman Eiddo yn ymchwilio i gwynion am gwmnïau cofrestredig (aelodau o’r cynllun) os ydych wedi colli arian neu ddioddef anghyfleustra am fod y cwmni yna wedi:
- mynd yn erbyn eich hawliau cyfreithiol
- eich trin yn annheg
- yn euog o gamweinyddu (gan gynnwys aneffeithlonrwydd ac oedi).
Y math o gwynion nad ydyw'r Ombwdsman Eiddo yn medru delio â nhw
- Nid yw’r Ombwdsman Eiddo yn medru delio gyda chwynion os:-
- nad yw’r gwyn yn erbyn cwmni cofrestredig (aelod o’r cynllun)
- mae'r gwyn yn cael/wedi cael ei thrin gan y llys
- ni chodwyd y gwyn yn ysgrifenedig gyda’r cwmni cofrestredig
- fe ddigwyddodd y digwyddiad yr ydych yn cwyno yn ei gylch dros ddeuddeg mis cyn i chi gwyno’n ffurfiol i'r cwmni, neu cyn i'r cwmni ddod yn aelod o'r cynllun.
Beth i'w wneud yn gyntaf
Yn gyntaf, dylech gwyno’n ffurfiol, yn ysgrifenedig, i’r cwmni cofrestredig, i ddechrau ei weithdrefn gwyno fewnol.
Ar ddiwedd y weithdrefn hon, os nad ydych yn fodlon o hyd, gallwch gysylltu â’r Ombwdsman Eiddo gan roi manylion eich cwyn. Rhaid i chi wneud hyn o fewn chwe mis i’r dyddiad y cwblhaodd y cwmni ei weithdrefn gwyno fewnol.
Sut i wneud cwyn
Dylech gysylltu â’r Ombwdsman Eiddo gan roi manylion llawn am y gwyn. Cyfeiriad yr Ombwdsman Eiddo yw:-
Milford House
43-55 Milford Street
Salisbury
Wiltshire
SP1 2BP
Ffôn: 01722 333 306
Ffacs: 01722 332 296
E-bost: admin@tpos.co.uk
Gwefan: www.tpos.co.uk
Yr hyn y mae'r Ombwdsman Eiddo yn medru ei wneud
Ar ôl ystyried yr wybodaeth a geir gennych chi a’r cwmni cofrestredig, bydd yr Ombwdsman Eiddo yn anfon penderfyniad at y ddwy ochr. Gall yr Ombwdsman wobrwyo iawndal o hyd at £25,000. Gallwch dderbyn neu wrthod y penderfyniad. Os ydych yn ei dderbyn bydd y cwmni cofrestredig yn gyfreithiol rwym i dderbyn y penderfyniad.
Os ydych yn penderfynu gwrthod penderfyniad yr Ombwdsman gallwch benderfynu pa gamau gweithredu (yn cynnwys camau cyfreithiol) yr ydych yn dymuno eu cymryd.
<
Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo
Mae Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo yn delio gyda chwynion gan ddefnyddwyr sy’n ymwneud â chwmnïau gwerthu tai, asiantau gosod, asiantau rheoli preswyl, cwmnïau tirfesur siartredig, tirfesurwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud ag eiddo.
Rhaid i bob cwmni gwerthu tai berthyn i gynllun unioni camweddau a gymeradwywyd gan y Swyddfa Masnachu Teg (OFT). Mae OFT wedi cymeradwyo’r cynllun unioni camweddau sy’n cael ei redeg gan Wasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo. Dylech holi i weld os yw’ch cwmni gwerthu tai yn aelod o’r cynllun hwn. Os nad ydyw’n aelod, dylech holi i weld os yw’n aelod o’r unig gynllun arall a gymeradwyir gan y Swyddfa Masnachu Teg sy’n cael ei rhedeg gan Yr Ombwdsman Eiddo.
Os nad yw cwmni gwerthu tai wedi ymuno ag un o’r cynlluniau hyn, gellir ei ddirwyo. Fe fyddwch yn medru riportio cwmni gwerthu tai sydd ddim wedi ymuno â chynllun i’r swyddfa safonau masnach leol.
Ar hyn o bryd, nid yw asiantau gosod, asiantau rheoli preswyl na gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud ag eiddo, yn gorfod cofrestru fel aelodau o gynllun unioni camweddau.
Y math o gwynion y mae Gwasanaethau'r Ombwdsman: Eiddo yn medru delio â nhw
Mae Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo, yn delio gyda chwynion ynghylch triniaeth annheg, oedi y gellid ei osgoi, methu â dilyn gweithdrefnau iawn a gwasanaeth gwael neu anfedrus ymhlith pethau eraill. Mae’n medru edrych ar eich problem os yw un o’i aelodau’n gysylltiedig, felly mae’n bwysig i chi wirio hyn yn gyntaf. Mae rhestr o’i aelodau ar gael ar ei wefan yn. www.ombudsman-services.org.
Y math o gwynion nad ydyw Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo yn medru delio â nhw
Ni fydd Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo yn delio gyda chwynion:
- nad ydynt yn erbyn cwmni sy’n aelod
- y byddai’n well i’r llysoedd neu gynllun datrys anghydfod ddelio â nhw
- sy’n ymwneud â hawliad am fwy na £25,000
- sydd wedi cael eu gwneud fwy na chwe mis wedi i’r cwmni sy’n destun i'r gwyn gynnig ei gynnig terfynol
- sydd wedi digwydd fwy na naw mis cyn i chi gwyno i’r cwmni
- sydd ynglŷn â syrfëwr siartredig neu gwmni yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon os ddigwyddodd y broblem cyn 1 Mehefin 2007
- sydd ynglŷn â chwmni syrfëwr siartredig neu syrfëwr sydd wedi darparu gwasanaeth i chi yn yr Alban cyn 1 Hydref 2003
- sydd ynglŷn â chwmni gwerthu tai os ddigwyddodd y broblem cyn 1 Hydref 2008
- sydd ynglŷn ag asiant rheoli preswyl os ddigwyddodd y broblem cyn 1 Tachwedd 2009.
Beth i'w wneud yn gyntaf
Yn gyntaf, dylech ddefnyddio gweithdrefn gwyno fewnol y cwmni sy’n aelod. Mae yna derfyn amser er mwyn i chi gwyno. Mae’r terfyn amser yn naw mis o’r digwyddiad yr ydych yn cwyno amdano.
Ar ddiwedd y weithdrefn hon, os nad ydych yn fodlon, fe fyddwch yn medru cwyno i Wasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo gan nodi manylion eich cwyn.
Sut i wneud cwyn
Fe allwch gysylltu â Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo yn:
PO Box 1021
Warrington
WA4 9FE
Ffôn: 0330 440 1634 (Dydd Llun i Ddydd Gwener o 9.00yb tan 5.00yp)
Ffôn testun: 0330 440 1600
E-bost: enquiries@os-property.org
Gwefan: www.os-property.org
Yr hyn y mae Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo yn medru ei wneud
Ar ôl ystyried yr wybodaeth a geir gennych chi a’r cwmni sy’n aelod, bydd Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo yn anfon penderfyniad at y ddwy ochr. Gall yr Ombwdsman wobrwyo iawndal o hyd at £25,000. Gallwch dderbyn neu wrthod y penderfyniad. Os ydych yn ei dderbyn bydd y cwmni sy’n aelod yn cadw at y penderfyniad terfynol ac yn cymryd y camau y mae’r Ombwdsman wedi gofyn amdanynt.
Os ydych yn penderfynu gwrthod penderfyniad yr Ombwdsman, fe fyddwch yn medru penderfynu pa gamau eraill (gan gynnwys camau cyfreithiol) yr ydych am eu cymryd.
<
Ombwdsman Carchardai a Phrawf
Y math o gwynion y mae'r Ombwdsman Carchardai a Phrawf yn medru delio â nhw
Mae’r Ombwdsman Carchardai a Phrawf yn medru ystyried cwynion am y mwyafrif o agweddau o driniaeth carcharor mewn carchar, gan gynnwys gwrandawiadau disgyblu. Mae’r ombwdsman hefyd yn delio gyda chwynion gan bobl sydd ar brawf. Fe all ystyried p'un ai fod penderfyniad a wnaed gan Wasanaeth y Carchar neu'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn gywir a p’un ai y dilynwyd y gweithdrefnau cywir wrth wneud y penderfyniad. Mae hyn yn cynnwys camau a gymerwyd gan staff y carchar a gyflogir gan gwmnïau preifat a chan bobl fel swyddogion prawf y carchar neu aelodau o’r Bwrdd Monitro Annibynnol. Mae'r ombwdsman hefyd yn gyfrifol am ymchwilio i farwolaethau pob carcharor a phreswylydd hostelau prawf a llety lle cedwir mewnfudwyr.
Y math o gwynion nad ydyw'r Ombwdsman Carchardai a Phrawf yn medru delio â nhw
Nid yw'r Ombwdsman Carchardai a Phrawf yn medru delio gyda chwynion sy’n ymwneud â gweithredoedd asiantaethau eraill, er enghraifft, yr heddlu, y llysoedd neu’r Adran Mewnfudo.
Beth i'w wneud yn gyntaf
Cyn gwneud cwyn i'r Ombwdsman Carchardai a Phrawf, rhaid eich bod chi yn gyntaf wedi defnyddio'r gweithdrefnau cwyno mewnol. Os nad ydych wedi cael ymateb boddhaol i'r gwyn, neu os nad yw Pencadlys Gwasanaeth y Carchar neu'r Bwrdd Prawf Rhanbarthol wedi ymateb o fewn chwe wythnos, gellir cyflwyno cwyn i'r ombwdsman.
Sut i wneud cwyn
Mae yna derfyn amser ar gyfer cwyno. Mae'n un mis o'r dyddiad yr ydych yn cael ateb oddi wrth Bencadlys Gwasanaeth y Carchar neu'r Bwrdd Prawf Cenedlaethol. Os nad ydych wedi cael ymateb, fe allwch gwyno unrhyw amser wedi chwe wythnos. Mae gan yr Ombwdsman y rhyddid i ymchwilio i gwynion a wnaed y tu allan i'r cyfyngiad amser, er enghraifft, os oeddech yn sâl ac wedi methu â gwneud cwyn yn gynharach.
I gwyno, anfonwch lythyr, at yr ombwdsman. Os ydych yn garcharor, dylech anfon y llythyr mewn amlen o dan sêl gyda'r geiriau 'Prisoners confidential access' wedi eu hysgrifennu arni. Dylai carcharor gynnwys ei rif carchar yn y llythyr cwyn. Gellir cael cymorth gan ffrind, perthynas neu gynghorydd. Dylid anfon y gwyn at:-
Prison and Probation Ombudsman
Ashley House
2 Monck Street
London
SW1P 2BQ
Ffôn: 020 7276 2876 neu 08450 0107938
Ffacs: 020 7276 2860
E-bost: mail@ppo.gsi.gov.uk
Gwefan: www.ppo.gov.uk
Yr hyn fydd yr Ombwdsman Carchardai a Phrawf yn ei wneud
Fel arfer bydd yr Ombwdsman Carchardai a Phrawf yn cael copïau o unrhyw bapurau perthnasol oddi wrth Gwasanaeth y Carchar neu'r Bwrdd Prawf Cenedlaethol. Bydd y gwyn yn cael ei thrin yn gyfrinachol cyn belled ag y bo modd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, fe fyddwch chi a'r bobl eraill sy'n gysylltiedig yn cael eich cyfweld.
Bydd yr ombwdsman yn anfon y penderfyniad a’r sail i’r penderfyniad yn ysgrifenedig atoch chi ac at Wasanaeth y Carchar neu'r Bwrdd Prawf Cenedlaethol. Fel arfer byddwch yn cael ymateb oddi wrth yr ombwdsman o fewn wyth wythnos i'r dyddiad y cyflwynwyd y gwyn. Os fydd yr ymchwiliad yn parhau’n hirach na deuddeg wythnos, bydd y carcharor yn derbyn adroddiadau gyda'r diweddaraf ar hyn yn fisol oddi wrth yr ombwdsman.
Os yw’r ombwdsman yn cynnal eich cwyn, fe fydd yn argymell y camau y dylai Gwasanaeth y Carchar neu'r Bwrdd Prawf Cenedlaethol eu cymryd.
<











