Pam mae hyn yn bwysig?
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
Mae yna wiriad clyw y gall eich partner ei gymryd - ffoniwch 0844 800 3838. Neu ceisiwch ei berswadio i fynd at ei feddyg. Mwy na thebyg y bydd y meddyg yn ei gyfeirio at arbenigwr mewn ysbyty lleol. Fe brofan nhw ei glyw a phenderfynu os oes angen teclyn clyw arno.
Darperir teclynnau clyw’r GIG am ddim ar fenthyg am ba mor hir y bydd eu hangen. Mae batris teclynnau clyw, trwsiadau ac amnewidiadau am ddim.
Os penderfynwch chi brynu teclyn clyw, gwnewch yn siwr fod y person sy’n ei werthu i chi wedi’i gofrestru gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Fe allwch ddarganfod os ydyn nhw yn gofrestredig trwy ffonio 0845 300 6184. Neu fe allwch chi edrych ar eu gwefan ar: www.hpc-uk.org. Fe allan nhw gymryd camau yn erbyn rhywun sy’n gwerthu teclynnau clyw sy’n methu cwrdd â’u safonau. Fe allwch chi hefyd gysylltu â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal os oes gennych gwyn am rywun sy’n gwerthu teclyn clyw i chi.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â theclynnau clyw, a beth yw’r ffordd orau o gefnogi eich partner, ewch i wefan yn: Action on Hearing Loss yn: www.actiononhearingloss.org.uk. Neu ewch at eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Fe fyddan nhw’n gallu rhoi llawer o wybodaeth i chi ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael i bobol fyddar a’r rhai â nam ar eu clyw.
Er mwyn chwilio am eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.