Pam mae hyn yn bwysig?
Fe ddylech chi gysylltu â’r colegau y mae gennych ddiddordeb ynddynt a chael gafael ar eu prosbectws. Darllenwch bob prosbectws yn ofalus er mwyn darganfod pa mor hygyrch ydynt a sut y byddent yn darparu ar gyfer eich anghenion. Os nad yw’r prosbectws yn dweud y cyfan yr ydych am ei wybod, cysylltwch â’r coleg dan sylw i gael mwy o wybodaeth. Efallai yr hoffech chi ofyn am gyfweliad i drafod hygyrchedd.
Os ydyw’ch cwrs yn galw arnoch i fynd ar leoliad gwaith yna gwnewch yn siŵr fod y coleg yn gallu trefnu un sy’n addas ar gyfer eich anghenion.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â SKILL, gweler Addysg: cymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais i goleg, gweler Myfyrwyr addysg uwch a phrifysgolion.
Yn Lloegr, am wybodaeth ynglŷn â chymorth ariannol i fyfyrwyr yn cynnwys myfyrwyr ag anableddau, gweler Cymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch, ac yng Nghymru, gweler Cyllid Myfyrwyr Cymru.