Pam mae hyn yn bwysig?
Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban
- Beth yw gwahaniaethu ar sail rhyw
- Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw
- Gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw
- Erledigaeth
- Gwahaniaethu ar sail rhyw mewn cyflogaeth a hyfforddiant
- Gwahaniaethu ar sail rhyw mewn addysg
- Gwahaniaethu ar sail rhyw wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau
- Gwahaniaethu ar sail rhyw ac awdurdodau cyhoeddus
- Gwahaniaethu ar sail rhyw a hysbysebu
- Gwahaniaethu ar sail rhyw ac elusennau
- Gwahaniaethu ar sail rhyw mewn tai
- Gwahaniaethu ar sail rhyw mewn chwaraeon
- Beth fedrwch chi ei wneud ynglŷn â gwahaniaethu ar sail rhyw
- Ailbennu rhywedd
- Pobl briod a phobl mewn partneriaeth sifil
- Help wrth ddwyn achos o wahaniaethu ar sail rhyw
- Help pellach
Beth yw gwahaniaethu ar sail rhyw
Mae rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail rhyw pan fyddwch chi’n cael eich trin yn annheg am eich bod yn ddyn neu am eich bod yn fenyw.
Os oes gwahaniaethu ar sail rhyw yn digwydd yn unrhyw un o’r sefyllfaoedd canlynol, mae’n anghyfreithlon ac efallai y byddwch yn medru cymryd camau ynglŷn â’r sefyllfa:
- cyflogaeth a hyfforddiant
- addysg
- wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau, er enghraifft bancio, adloniant a thrafnidiaeth
- tai
- unrhyw rai o weithgareddau awdurdodau cyhoeddus, fel y GIG, adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol, yr heddlu a charchardai.
Mae gwahaniaethu ar sail rhyw yn medru bod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae hefyd yn medru bod ar ffurf aflonyddu neu erledigaeth.
Nid oes angen i wahaniaethu ar sail rhyw fod yn fwriadol. Efallai y bydd rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn heb sylweddoli hynny neu heb ei olygu, ond mae hyn yn dal i fedru cyfrif fel gwahaniaethu.
Nid yw’r gyfraith yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw yn caniatáu unrhyw wahaniaethu positif o blaid un rhyw. Er enghraifft, nid yw cyflogwr yn cael mynnu ei fod yn recriwtio neu’n dyrchafu menywod yn unig ar gyfer swydd benodol, am fod menywod wedi dioddef gwahaniaethu yn y gorffennol wrth geisio am swydd o’r fath.
Nid yw gwahaniaethu positif yr un peth â chamau gweithredu positif, a ganiateir.
Yn ogystal â’ch amddiffyn chi rhag gwahaniaethu ar sail rhyw yn erbyn dynion a menywod, mae’r gyfraith hefyd yn eich amddiffyn chi rhag:
- gwahaniaethu ar sail cyfnod mamolaeth a beichiogrwydd
- gwahaniaethu am eich bod yn newid o un rhyw i ryw arall (ailbennu rhywedd)
- gwahaniaethu am eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- gwahaniaethu oherwydd cyfeiriadedd rhywiol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethau ar sail beichiogrwydd a mamolaeth, gweler Gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd cyfnod mamolaeth neu feichiogrwydd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd eich cyfeiriadedd rhywiol, gweler Gwahaniaethu oherwydd cyfeiriadedd rhywiol.
<
Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw
Mae trin rhywun yn llai ffafriol nag y byddai rhywun arall o’r rhyw arall yn cael ei d/thrin o dan yr un amgylchiadau, oherwydd eu rhyw, yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw.
Er mwyn profi gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw, fe fydd o gymorth os fedrwch chi roi enghraifft o rywun o’r rhyw arall sydd, mewn amgylchiadau tebyg, wedi cael ei d/thrin yn fwy ffafriol neu a fyddai wedi cael ei d/thrin yn fwy ffafriol, na chi.
Mae cam-drin oherwydd rhyw ac aflonyddu oherwydd rhyw yn fathau o wahaniaethu uniongyrchol.
Mae enghreifftiau o wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw yn cynnwys:
- gwrthod rhoi credyd i fenyw briod heb lofnod ei gŵr, tra nad oes angen i ddyn priod gael llofnod ei wraig
- gwrthod derbyn cyflog menyw fel sail ar gyfer morgais oherwydd ei rhyw
- clwb nos yn codi pris uwch i ddyn ddod i mewn oherwydd ei ryw
- hysbysebu swydd ar gyfer ‘athro’. Mae hyn yn rhoi’r argraff fod y swydd yn agored i ddynion yn unig.
<
Gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw
Mae’n wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw os oes yna reol, polisi neu arfer ac mae pobl o ryw benodol yn llai tebygol o fod yn medru cwrdd â’r rheol, y polisi neu’r arfer na phobl eraill, ac mae hyn yn golygu eu bod o dan anfantais o gymharu â’r rhyw arall.
Mae enghreifftiau o wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw yn medru cynnwys:
- cyflogwr sy’n gofyn i’w holl gyflogedigion weithio’n llawn amser. Mae gan lawer o fenywod gyfrifoldebau gofal dros blant ifainc neu oedolion dibynnol, ac felly fe fyddai’n llawer mwy anodd iddyn nhw weithio’n llawn amser nag y byddai i ddynion
- darparwr morgeisi sy’n rhoi morgeisi i bobl sy’n gweithio’n llawn amser yn unig. Mae hyn yn debygol o olygu bod llai o fenywod na dynion yn cael morgais oherwydd mae mwy o fenywod yn gweithio’n rhan amser na dynion.
Os ydych chi’n credu bod gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw wedi digwydd, efallai y byddwch yn medru cwyno. Ond, os yw’r person neu’r mudiad yr ydych yn cwyno amdano/i yn medru dangos bod rhesymau didwyll dros y rheol, y polisi neu’r arfer, ac nad ydyw’n ymwneud o gwbl â rhyw, ni fydd hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu.
<
Erledigaeth
Os ydych yn cwyno ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, ni ddylid eich erlid chi am i chi gwyno. Mae hyn yn golygu na ddylid eich trin yn annheg am eich bod wedi cwyno.
Mae cwyno yn cynnwys dwyn achos llys, mynd at dribiwnlys cyflogaeth neu sefyll dros eich hawliau mewn rhyw ffordd arall.
Rydych yn medru cael eich amddiffyn os cewch eich erlid am i chi gwyno ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw. Rydych hefyd yn medru cael eich amddiffyn rhag gwahaniaethu am helpu rhywun arall i gwyno ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, er enghraifft, trwy roi tystiolaeth fel tyst yn y llys.
Rydw i wedi cwyno i fy rheolwr ynghylch y calendrau rhywiaethol y mae dynion yn eu harddangos yn y gwaith. Maen nhw wedi gorfod eu tynnu i lawr, ond nawr nid oes unrhyw un yn y swyddfa yn fodlon siarad â mi. Mae’n fy ypsetio i’n fawr iawn ac yn fy ngwneud i’n sâl. Oes unrhyw beth fedra i ei wneud?
Fe allai hyn fod yn enghraifft o’r hyn a elwir yn erledigaeth. Mae erledigaeth ar ôl i chi gwyno ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw yn anghyfreithlon. Mynnwch gyngor, gan eich undeb llafur os oes un gennych, neu gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth, neu gan fudiad sy’n medru rhoi help pellach.
<
Gwahaniaethu ar sail rhyw mewn cyflogaeth a hyfforddiant
Mae’n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhyw. Mae hyn yn cynnwys pob cyflogwr, waeth faint o bobl y mae’n eu cyflogi. Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr, gan gynnwys cyflogedigion, gweithwyr asiantaeth, pobl dan hyfforddiant a’r rheiny sy’n hunangyflogedig, amddiffyniad rhag gwahaniaethu ar sail rhyw yn y gwaith, Mae hyn yn cynnwys:
- recriwtio a dethol
- dyrchafiad
- hyfforddiant, cyflog a buddion
- dileu swyddi a diswyddo
- amodau a thelerau’r gwaith.
Mae yna reolau arbennig i amddiffyn menywod sy’n feichiog neu ar gyfnod mamolaeth rhag gwahaniaethu yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd cyfnod mamolaeth neu feichiogrwydd, gweler Gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd cyfnod mamolaeth neu feichiogrwydd.
Es i am brentisiaeth fel nyrs feithrinfa ond fe ddywedon nhw eu bod nhw ond yn cyflogi menywod ac nid dynion. Ydyn nhw’n medru gwneud hyn?
Nac ydynt. Mae’n anghyfreithlon i gwmni wahaniaethu yn erbyn unrhyw un oherwydd eu rhyw wrth ddarparu hyfforddiant. Mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, yn eich canolfan CAB lleol neu gan fudiad sy’n medru rhoi help pellach.
Cyflog Cyfartal
Mae Deddf Cyflog Cyfartal 1970 yn rhoi’r hawl i chi gael eich trin yn gyfartal o ran cyflog, o gymharu ag aelod o’r rhyw arall.
Os ydych chi’n credu nad ydych yn cael eich trin yn gyfartal, efallai y byddwch yn medru cwyno, neu ddwyn honiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Os ydych chi am wneud hyn, fe fydd angen i chi eich cymharu eich hun â rhywun o’r rhyw arall sy’n gweithio i’r un cyflogwr â chi. Fe fydd angen i chi fedru dangos eich bod:
- yn gwneud gwaith tebyg. Mae hyn yn golygu gwaith sydd yr un peth neu yn lled-debyg i waith y person arall, neu
- yn gwneud gwaith sydd wedi ei raddio’n gyfwerth â gwaith person arall mewn astudiaeth i werthuso swyddi
- yn gwneud gwaith sydd o’r un gwerth â gwaith y person arall. Er enghraifft, mae angen i chi ddefnyddio'r un faint o ymdrech, sgiliau a gallu i benderfynu.
Gwahaniaethu yn y gwaith os oes cyfrifoldebau gofal gennych
Rydych wedi eich amddiffyn yn gyfreithiol os ydych yn dioddef gwahaniaethu yn y gwaith am fod gennych gyfrifoldebau gofal. Mae cyfrifoldebau gofal yn cynnwys gofalu am eich plentyn neu, er enghraifft, oedolion oedrannus neu anabl.
Mae’n medru cyfrif fel gwahaniaethu ar sail rhyw os yw’ch cyflogwr yn gwrthod gadael i chi weithio oriau hyblyg er mwyn i chi fedru cyflawni eich cyfrifoldebau gofal. Mae gweithio’n hyblyg yn cynnwys:
- gweithio llai o oriau neu wahanol oriau
- gweithio’n rhan amser
- rhannu swydd
- dod i mewn yn hwyrach fel eich bod chi’n medru mynd â’ch plentyn i’r ysgol neu’r feithrinfa
- cymryd amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau ysbyty gyda’r person sydd yn eich gofal.
Os yw’r plentyn neu’r oedolyn yr ydych yn gofalu amdano/i yn anabl, efallai y bydd hefyd yn wahaniaethu ar sail anabledd os yw’ch cyflogwr yn eich trin yn waeth na chyflogedigion eraill oherwydd eich cyfrifoldebau gofal. Gelwir hyn yn Wahaniaethu ar sail anabledd trwy gysylltiad.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gweithio oriau hyblyg, gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith.
A oes yna adegau pan fydd cyflogwr yn cael eich trin chi’n llai ffafriol oherwydd eich rhyw?
Os fydd cyflogwr yn medru dangos bod angen i gyflogedigion fod o ryw benodol er mwyn gwneud gwaith penodol, mae’n medru mynnu cyflogi rhywun o’r rhyw yma. Gelwir hyn yn angen galwedigaethol ac nid yw’n cyfrif fel gwahaniaethu.
Un enghraifft ble gallai fod yna angen galwedigaethol i gyflogi menywod fyddai ar gyfer swydd gwnsela mewn lloches i fenywod. Fe fyddai’r cyflogwr yn medru dadlau y byddai’r cleientiaid fwy na thebyg eisiau siarad â menyw arall am eu problemau gan eu bod oll yn fenywod sydd wedi dioddef trais yn y cartref gan ddynion.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd yn bosib i gyflogwyr sy’n recriwtio ar gyfer swydd mewn crefydd gyfundrefnol fynnu eu bod yn cyflogi rhywun o ryw benodol yn unig.
Er enghraifft, efallai y bydd yn bosib i gyflogwr Gweinidog crefyddol ddadlau eu bod ond yn medru cyflogi dyn er mwyn osgoi tramgwyddo argyhoeddiadau crefyddol dilynwyr y crefydd. Efallai y byddan nhw hefyd yn gallu dadlau nad ydynt yn medru cyflogi person drawsrywiol neu ddyn hoyw am yr un rhesymau.
<
Gwahaniaethu ar sail rhyw mewn addysg
Mae’n anghyfreithlon i sefydliad addysgol y wladwriaeth neu sefydliad addysgol preifat wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhyw.
Mae hyn yn cynnwys polisïau derbyn, onid ydyw’n sefydliad un rhyw:
Felly, er enghraifft, ni ddylai ysgol rhyw gymysg wrthod derbyn disgybl oherwydd ei r(h)yw. Ac ni ddylai geisio cynnal cydbwysedd rhwng y niferoedd o fechgyn a merched yn yr ysgol trwy dderbyn un rhyw ond nid y llall pan fydd llefydd yn gyfyngedig.
Rhaid i fachgen a merch gael yr un mynediad at gwricwlwm yr ysgol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw gael yr un opsiynau pwnc yn union, a’r un faint o addysg pwnc.
Mae hefyd yn anghyfreithlon i unrhyw sefydliad addysgol wahaniaethu yn y ffordd y mae’n darparu gwasanaethau ar gyfer ei fyfyrwyr. Er enghraifft, dylai myfyrwyr mewn ysgol gael yr un mynediad at ymgynghoriad ar opsiynau cyrsiau ac arweiniad gyrfa. Ni ddylai unrhyw gyngor a ddarperir wahaniaethu.
Gwrthodwyd lle i fy merch yn yr ysgol a ddewiswyd gennym. Fe ddywedodd y pennaeth mai dim ond llefydd i fechgyn oedd ar ôl. A yw ysgol yn medru cadw nifer penodol o lefydd ar gyfer merched neu fechgyn?
Na, mae’n anghyfreithlon i ysgol rhyw gymysg wahaniaethu yn ei pholisïau derbyn. Ni ddylai wrthod derbyn disgybl oherwydd ei r(h)yw. Mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan CAB leol.
Beth fedrwch chi ei wneud ynglŷn â gwahaniaethu ar sail rhyw mewn addysg?
Fe fyddwch yn medru cwyno ynghylch gwahaniaethu gan ysgol, coleg, prifysgol neu Awdurdod Addysg Lleol yn eich llys sirol lleol (llys y siryf yn yr Alban).
Os yw’ch cwyn yn ymwneud ag ysgol, dylech geisio datrys eich cwyn trwy siarad â phennaeth yr ysgol yn gyntaf. Os nad ydych yn hapus o hyd, fe fyddwch yn medru mynd â’ch cwyn at gorff llywodraethol yr ysgol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gwyno am yr ysgol, gweler Problemau yn yr ysgol.
Os yw’ch cwyn yn ymwneud â choleg neu brifysgol, dylech ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r sefydliad ei hun. Os ydych yn cwyno am goleg addysg bellach sy’n cael ei ariannu gan yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau efallai y byddwch hefyd yn medru cwyno i’r Asiantaeth. Mae gwybodaeth ar sut i wneud hyn ar wefan yr Asiantaeth yn: www.skillsfundingangency.bis.gov.uk.
Os ydych yn cwyno am brifysgol yng Nghymru neu yn Lloegr, fe fyddwch yn medru dwyn eich cwyn gerbron Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol. Rydych yn medru cysylltu â Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol yn:
Third Floor
Kings Reach
38-50 King's Road
Reading
RG1 3AA
Rhif Ffôn: 0118 959 9813
Gwefan: www.oiahe.org.uk.
Os oes cwyn gennych am brifysgol yn yr Alban, dylech gwyno i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban yn: www.spso.org.uk.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio Ombwdsman yn yr Alban a phryd i ddefnyddio un, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman neu gomisiynydd yn yr Alban.
Os ydych yn ystyried dwyn achos llys ynghylch gwahaniaethu, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
<
Gwahaniaethu ar sail rhyw wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau
Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yn y Deyrnas Unedig wahaniaethu am eich bod yn ddyn neu’n fenyw.
Mae enghreifftiau o nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau yn cynnwys siopau, gwasanaethau ariannol fel bancio, cyfleusterau hamdden fel tafarndai a chlybiau, adloniant a thrafnidiaeth.
Ni ddylai rhywun sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau:
- wrthod darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau ar eich cyfer am eich bod yn ddyn neu’n fenyw
- ddarparu unrhyw rai o’r pethau hyn ar amodau neu delerau llai ffafriol am eich bod yn ddyn neu’n fenyw.
Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu, waeth sut mae’r nwyddau a’r gwasanaethau yn cael eu darparu neu waeth a oes rhaid i chi dalu amdanynt ai peidio.
Er enghraifft, mae’n anghyfreithlon i rywun wahaniaethu yn eich erbyn pan fyddwch chi’n prynu rhywbeth mewn siop neu dros y rhyngrwyd, pan fyddwch chi’n gwneud ymholiad dros y ffon neu pan fydd rhywun yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i chi.
Gwasanaethau ariannol
Mae’n anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaethau ariannol wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhyw.
Dyma enghreifftiau o wahaniaethu:
- gofyn i fenyw briod ddarparu gwarantydd ar gyfer benthyciad pan na fyddai gofyn i ddyn yn yr un sefyllfa wneud hyn
- mynnu bod menyw briod sy’n gofyn am fenthyciad yn ceisio ar y cyd gyda’i gŵr pan na fydd yn rhaid i ddynion priod geisio ar y cyd â’u gwragedd
- gosod amodau llymach pan fydd menyw yn gofyn am fenthyciad busnes na phan fydd dyn yn gwneud hyn.
Nid yw’n anghyfreithlon i gwmni yswiriant wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhyw pan fydd y cwmni’n asesu risg. Fe fyddai angen i’r cwmni fedru dangos bod y gwahaniaethu yn rhesymol a’i fod yn seiliedig ar ddata penodol.
Enghraifft ble byddai cwmni yswiriant yn cael gwahaniaethu yw cwmni yswiriant bywyd, oherwydd mae oes ddisgwyliedig menywod a dynion yn wahanol, ac felly gellir codi cyfraddau gwahanol arnyn nhw.
Tafarndai a chlybiau
Yn gyffredinol, mae’n anghyfreithlon i dafarndai a chlybiau wahaniaethu yn erbyn dynion neu fenywod, er bod yna rai eithriadau i glybiau preifat.
Er enghraifft, nid yw tafarn yn cael gwrthod gweini diod mewn gwydr peint i fenyw os yw dynion yn cael diod mewn gwydr peint.
Enghraifft arall o wahaniaethu ar sail rhyw yw clwb sy’n cynnig mynediad am ddim i fenywod yn unig. Ond, mae clwb aelodau preifat yn cael gwahaniaethu yn erbyn menywod neu ddynion yn y ffordd yma. Mae enghreifftiau o glwb aelodau preifat yn cynnwys clybiau’r gweithwyr, clybiau golff, clybiau bowlio a chlybiau gwyr bonheddig.
Er bod clybiau aelodau preifat yn medru gwahaniaethu yn erbyn eu haelodau, nid ydynt yn cael gwahaniaethu yn erbyn eu cyflogedigion oherwydd rhyw.
<
Gwahaniaethu ar sail rhyw ac awdurdodau cyhoeddus
Mae’n anghyfreithlon i awdurdod cyhoeddus wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhyw wrth gyflawni unrhyw rai o’i swyddogaethau. Mae awdurdodau cyhoeddus yn cynnwys adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau GIG, llysoedd a thribiwnlysoedd, swyddogion yr heddlu a charchardai.
Ar ben hyn, mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus i gymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cydraddoldeb yn weithgar.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus sicrhau bod dynion a menywod yn cael gwasanaethau sy’n cwrdd â’u hanghenion yn fwy agos.
Am fwy o wybodaeth ynghylch dyletswyddau awdurdodau cyhoeddus a gwahaniaethu ar sail rhyw, rhowch glic ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com.
<
Gwahaniaethu ar sail rhyw a hysbysebu
Gyda rhai eithriadau cyfyngedig, mae’n anghyfreithlon cyhoeddi neu ddarlledu hysbyseb sy’n gwahaniaethu oherwydd rhyw, neu sy’n hysbysebu gwasanaethau sy’n gwahaniaethu. Er enghraifft, mae’n anghyfreithlon i gyflogwr hysbysebu ar gyfer swydd gan ddefnyddio geiriau fel ‘crefftwr’ neu ‘athro’, oherwydd mae’n medru rhoi’r argraff fod y swydd yn agored i ddynion yn unig.
Os cyhoeddir hysbyseb o’r fath, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn medru dwyn achos llys yn erbyn y cyhoeddwyr, os oes asiantaeth cynghori yn cyfeirio’r achos atynt.
<
Gwahaniaethu ar sail rhyw ac elusennau
Nid yw’n anghyfreithlon i elusen ddarparu buddion ar gyfer pobl o un rhyw yn unig, tra bod hyn wedi ei nodi yng nghyfansoddiad neu reolau’r elusen.
<
Gwahaniaethu ar sail rhyw mewn tai
Rhentu eiddo
Yn gyffredinol, mae’n anghyfreithlon i landlord neu rywun sy’n gweithredu ar eu rhan, fel asiantaeth osod, wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhyw. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n medru gwrthod rhentu eiddo i chi oherwydd eich rhyw, cynnig yr eiddo i chi ar delerau llai ffafriol na’ch trin chi’n llai ffafriol na thenantiaid eraill.
Mae landlordiaid yn cynnwys landlordiaid preifat a landlordiaid tai cymdeithasol fel awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cael eich cartrefu gan landlord tai cymdeithasol, gweler Dod o hyd i lety.
I ddarganfod mwy am eich hawliau fel tenant landlord preifat, gweler Rhentu gan landlord preifat.
Yng Nghymru a Lloegr, i ddarganfod mwy am eich hawliau fel tenant i landlord tai cymdeithasol, gweler Rhentu gan landlord tai cymdeithasol.
Yn yr Alban, i ddarganfod mwy am eich hawliau fel tenant i landlord sector cyhoeddus, gweler Rhentu gan landlord sector cyhoeddus.
Mae yna rai sefyllfaoedd ble nad yw’n anghyfreithlon gwahaniaethu oherwydd eich rhyw wrth rentu eiddo allan.
Mae’r landlord yn berchen-breswylydd
Os yw’r landlord yn berchen ar y llety y mae’n ei rhentu allan, ac yn byw ynddo, mae’n medru dewis peidio â’i rentu i chi oherwydd eich rhyw. Ond, os yw’n cyhoeddi hysbyseb i’w rentu neu’n defnyddio asiantaeth, nid yw’n cael gwahaniaethu oherwydd eich rhyw.
Anheddau bach
Nid yw’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhyw pan fydd landlord yn rhentu llety allan sy’n cyfrif fel annedd bach. Mae annedd bach yn llety ble mae’r canlynol yn wir:
- mae’r landlord neu berthynas agos i’r landlord yn byw yno hefyd
- rydych chi’n rhannu llety gyda phobl eraill sy’n byw yno
- fel arfer, nid oes llety i fwy na dau deulu yn ogystal â theulu’r landlord ei hun, neu chwe pherson a’r landlord.
Llety comunol
Nid yw’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhyw wrth ddarparu rhai mathau o lety comunol.
Mae’r llety hwn yn llety sydd ag ystafelloedd cysgu neu fath arall o gyfleusterau cysgu sydd wedi eu rhannu, a ddylai gael eu defnyddio gan bobl o’r un rhyw, am resymau preifatrwydd.
Enghraifft o hyn fyddai lloches i fenywod.
Gwerthu eiddo
Yn gyffredinol, mae’n anghyfreithlon i rywun sy’n gwerthu eiddo wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhyw.
Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n medru gwrthod gwerthu eiddo i chi oherwydd eich rhyw neu werthu’r eiddo i chi ar delerau llai ffafriol.
Ond, mae yna eithriad i’r rheol hon. Os yw perchen-breswylydd yn gwerthu ei (h)eiddo heb ddefnyddio cwmni gwerthu tai, mae’n medru dewis peidio â’i werthu i chi oherwydd eich rhyw. Ond os ydyn nhw’n cyhoeddi hysbyseb i’w werthu, nid ydyn nhw’n cael gwahaniaethu.
Am fwy o wybodaeth ynghylch prynu cartref – gweler Prynu cartref.
<
Gwahaniaethu ar sail rhyw mewn chwaraeon
Nid yw’n anghyfreithlon cyfyngu cyfranogiad mewn rhai digwyddiadau chwaraeon at un rhyw yn unig. Mae hyn yn iawn ble mae cryfder corfforol, stamina neu gorffoledd mor bwysig y byddai menyw, er enghraifft, ar anfantais gystadleuol, o gymharu â dyn.
Nid yw’n anghyfreithlon cyfyngu gweithgarwch chwaraeon at un rhyw yn unig ble byddai aelod o un rhyw efallai’n gwrthwynebu cyswllt corfforol â rhywun o’r rhyw arall. Er enghraifft, nid yw’n anghyfreithlon i ddosbarth hunanamddiffyn gyfyngu ei hun at gyfranogwyr benywaidd.
Os yw clwb chwaraeon yn glwb i aelodau preifat, mae’n cael gwahaniaethu yn erbyn dynion neu fenywod wrth ddewis ei aelodau.
<
Beth fedrwch chi ei wneud ynglŷn â gwahaniaethu ar sail rhyw
Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail rhyw mae yna nifer o bethau efallai y byddwch yn medru eu gwneud, gan gynnwys:
- siarad â’r person neu’r mudiad sydd wedi gwahaniaethu yn eich erbyn
- defnyddio gweithdrefn achwyniad neu ddwyn cais gerbron tribiwnlys cyflogaeth os yw’n broblem sy’n ymwneud â chyflogaeth
- rhoi cyhoeddusrwydd i’ch achos drwy’r cyfryngau
- cymryd camau cyfreithiol drwy’r llysoedd
- rhoi manylion y broblem i asiantaeth gyngor, a fydd efallai’n medru ei chyfeirio at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol os ydych yn credu bod y broblem yn un eang.
Wrth benderfynu pa gamau i’w cymryd ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, fe fydd angen i chi feddwl am yr hyn yr ydych yn ceisio’i gyflawni. Er enghraifft, ydych chi eisiau iawndal ariannol, cyfiawnder neu gyhoeddusrwydd? Fe fydd angen i chi feddwl hefyd pa mor gyflym y mae angen i chi gael canlyniad.
Cymryd camau cyfreithiol ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw
Os ydych am gymryd camau cyfreithiol ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, fel arfer fe fydd angen i chi fod yn medru profi bod rhywun o ryw wahanol wedi cael eu trin, neu byddent yn cael eu trin, yn fwy ffafriol na chi mewn amgylchiadau tebyg.
Ond, os ydych yn dwyn achos ynghylch gwahaniaethu am eich bod yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth, nid oes angen i chi brofi bod rhywun o’r rhyw arall yn cael eu trin yn fwy ffafriol na chi.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd cyfnod mamolaeth a beichiogrwydd, gweler gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd cyfnod mamolaeth neu feichiogrwydd.
Camau gweithredu positif
Mae’r gyfraith yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw yn caniatáu’r hyn a elwir yn gamau gweithredu positif o blaid un rhyw.
Yn aml, defnyddir camau gweithredu positif mewn hyfforddiant neu hysbysebu i wneud iawn am ddiffyg cyfleoedd cyfartal yn y gorffennol. Ei nod yw annog un rhyw yn benodol, heb wahaniaethu yn erbyn y llall. Enghraifft o gamau gweithredu positif fyddai rhoi hyfforddiant ychwanegol i aelodau benywaidd o staff i’w helpu i fedru ceisio am rôl benodol os nad oes llawr o fenywod, neu os nad oes unrhyw fenywod, wedi cael eu cyflogi yn y rôl honno yn y gorffennol.
<
Ailbennu rhywedd
Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn eich erbyn os ydych yn ailbennu eich rhywedd.
Mae ailbennu rhywedd yn golygu newid o un rhyw i ryw arall.
Mae hefyd yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn eich erbyn os ydych yn bwriadu ailbennu eich rhywedd neu wedi ailbennu eich rhywedd. Nid oes rhaid i chi fod yn cael triniaeth feddygol.
Os ydych yn dioddef gwahaniaethu oherwydd ailbennu rhywedd, fe fyddwch chi’n medru cymryd camau ynglŷn â hyn, naill ai trwy’r llysoedd neu, os yw’n broblem sy’n ymwneud â chyflogaeth, trwy dribiwnlys cyflogaeth.
Enghraifft o wahaniaethu oherwydd ailbennu rhywedd fyddai ble mae rhywun yn gofyn i fenyw drawsrywiol am Dystysgrif Cydnabod Rhyw pan fydd yn dangos tystiolaeth i’w chyflogwr ei bod wedi newid ei henw ac yn gofyn am newid ei chofnodion.
Cyhyd â’i bod yn dangos rhyw fath o brawf bod ei henw wedi newid, ni ddylai fod yn gorfod dangos Tystysgrif Cydnabod Rhyw. Os yw ei chyflogwr yn gofyn am fwy o brawf nag y byddai’n ei ofyn gan rywun arall sydd wedi newid ei enw am reswm arall, fe allai hyn fod yn wahaniaethu.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Tystysgrifau Cydnabod Rhyw, gweler Cwestiynau Cyffredin ynghylch materion teuluol.
<
Pobl briod a phobl mewn partneriaeth sifil
Mewn rai sefyllfaoedd, mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn eich erbyn am eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig.
Nid yw hyn yn berthnasol i dai, nwyddau a gwasanaethau nac addysg.
Nid oes unrhyw gyfraith sy’n dweud na ddylid gwahaniaethu yn eich erbyn am eich bod yn sengl, er, efallai y byddai’n bosib dadlau yn erbyn hyn mewn rhai amgylchiadau penodol.
Mathau eraill o wahaniaethu
Yn ogystal â gwahaniaethu ar sail rhyw, fe allech ddioddef gwahaniaethu am resymau eraill. Er enghraifft, oherwydd:
- eich hil
- eich bod yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth
- eich tuedd rhywiol
- eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- ailbennu rhywedd
- eich anabledd
- eich crefydd.
Er enghraifft, rydych yn fenyw ddu drawsrywiol ac yn cael eich diswyddo am fod eich cyflogwr yn dweud bod eich gwaith yn wael, er nad ydyw erioed wedi codi problemau gyda chi o’r blaen. Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich diswyddo am eich bod yn ddu ac am eich bod yn fenyw drawsrywiol, fe fyddwch yn medru dwyn dau honiad, un am wahaniaethu ar sail hil ac un am wahaniaethu oherwydd ailbennu rhywedd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch mathau eraill o wahaniaethu, gweler ein tudalennau ar wahaniaethu.
<
Help wrth ddwyn achos o wahaniaethu ar sail rhyw
Os ydych am gymryd camau cyfreithiol ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, efallai y byddwch yn medru cael peth help gyda’ch achos.
Mae cyngor ynglŷn â hyn ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth, neu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. I ddod o hyd i fanylion eich CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, efallai y cewch gymorth a chyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim gan gyfreithiwr. Mae hyn yn dod o dan gynllun Help Cyfreithiol (cynllun cyngor a chymorth yn yr Alban,). Efallai y byddwch hefyd yn medru cael help gyda chost dwyn achos gerbron y llys o dan Gynrychiolaeth Gyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help sydd ar gael gyda chostau cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
<
Help pellach
EASS (Equality Advisory Support Service)
Os ydych wedi dioddef gwahaniaethu, mae help ar gael gan linell gymorth gwahaniaethu EASS.
Mwy am linell gymorth EASS
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Mae gwybodaeth ddefnyddiol am wahaniaethu ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar http://www.equalityhumanrights.com/
Canolfannau Cyfraith
Mae Canolfannau Cyfraith yn medru cynnig cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim os ydych chi am ddwyn achos o wahaniaethu ar sail rhyw. Os fydd cyfreithiwr o ganolfan cyfraith yn eich cynrychioli, efallai y bydd hawl gennych i wasanaethau cyfreithiol wedi eu hariannu’n gyhoeddus (cymorth cyfreithiol yn yr Alban). Yng Nghymru a Lloegr, mae manylion y ganolfan gyfraith agosaf ar gael gan Ffederasiwn y Canolfannau Cyfraith, ac yn yr Alban o Gymdeithas Canolfannau Cyfraith yr Alban.
Cymru a Lloegr
Law Centres Federation
PO Box 65836,
London EC4P 4FX
Rhif Ffôn: 020 7842 0720
Ffacs: 020 7842 0721
E-bost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: www.lawcentres.org.uk
Yr Alban
Scottish Association of Law Centres
c/o Govan Law Centre
47 Burleigh Street
Govan
Glasgow
G51 3LB
Rhif Ffôn: 0141 440 2503
E-bost: m@govanlc.com
Gwefan: www.govanlc.com/salc
Free Representation Unit (Lloegr)
Mae Free Representation Unit (FRU) yn medru darparu cynrychiolaeth ar gyfer pobl ar incwm isel sy’n byw yn ardal Llundain. Ond, mae’r FRU yn fudiad gwirfoddol ac ni ellir gwarantu cynrychiolaeth mewn achosion. Os ydych chi eisiau help gan yr FRU, rhaid i chi gael eich cyfeirio’n ysgrifenedig gan asiantaeth gyngor unwaith fydd dyddiad y gwrandawiad wedi ei osod. Rhaid bod yr asiantaeth yn tanysgrifio i’r FRU. Mae rhai canolfannau Cyngor ar Bopeth yn ardal Llundain yn tanysgrifio i’r FRU. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Ground Floor
60 Gray's Inn Road
London
WC1X 8LU
Ffôn: 020 7611 9555
Ffacs: 020 7611 9551
E-bost: ar gael trwy ffurflen ar y wefan
Gwefan: www.thefru.org.uk
Cynrychiolaeth Rad ac Am Ddim (yr Alban)
Mae peth cynrychiolaeth rad ac am ddim ar gael yn yr Alban ar gyfer tribiwnlysoedd a llysoedd. Mae ond ar gael ar gyfer rhai achosion penodol ac i bobl sydd ar incwm isel. Mae ond ar gael trwy ganolfan Cyngor ar Bopeth.
I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
<











