Pam mae hyn yn bwysig?
Sut i ennill mwy ar gynilion
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
- Ynglŷn â sut i ennill mwy ar gynilion
- Gwirio cyfraddau llog
- Gwiriwch fod eich cyfrif yn cwrdd â’ch anghenion cynilo
- Gwarchod eich cynilion rhag chwyddiant
- Cynyddwch eich cynilion sy'n rhydd o dreth
- Sut gall dilyn y Gyllideb helpu
- Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Ynglŷn â sut i ennill mwy ar gynilion
Os oes gennych gynilion, fe fyddwch am wneud yn siŵr eu bod yn ennill cymaint ag sy’n bosibl. Bydd angen i chi wirio beth sy’n digwydd i’ch cynilion yn rheolaidd. Bydd eich bywyd yn newid dros y blynyddoedd, yn ogystal â’ch anghenion ariannol, ac felly mae’n bwysig eich bod yn sicrhau amser i adolygu eich cynlluniau cynilo a’u newid hefyd.
Gellir effeithio ar eich cynilion hefyd gan ddigwyddiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth chi, megis newidiadau yn y gyfradd treth incwm, cynnydd mewn costau byw neu godi a gostwng yng nghyfraddau llog Banc Lloegr (y gyfradd banc).
Os ydych chi’n anwybyddu’r digwyddiadau hyn, gallai eich cynilion golli eu gwerth ac fe fyddwch yn diweddu gyda llai o arian nag yr oeddech yn gobeithio amdano.
Mae’r dudalen hon yn edrych ar rai o’r pethau y gallwch eu gwneud i sicrhau unwaith y byddwch wedi dewis lle i gynilo’ch arian, ei fod yn parhau i ennill y gyfradd orau posibl. Mae hyn yn cynnwys:
- pam y dylech chi wirio cyfraddau llog
- sut mae chwyddiant yn effeithio’ch cynilion
- pa amser o’r flwyddyn i ddechrau cynilo
- ble i gael mwy o wybodaeth am gynilion.
Os ydych chi’n ystyried cynilo a heb benderfynu lle i roi eich arian eto, gweler Y ffordd orau i gynilo.
<
Gwirio cyfraddau llog
Pan fyddwch chi’n agor cyfrif cynilo, efallai y cynigir cyfradd llog cychwynnol uwch i chi. Y gyfradd llog yw’r swm o arian yr ydych yn ei ennill ar eich cynilion. Gall y gyfradd gyflwyniadol barhau am ychydig fisoedd yn unig. Pan fydd yn dod i ben, gall y gyfradd llog sydd ar gynnig fod yn is na’r hyn y gallech ei gael gyda chyfrifon cynilo eraill.
Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael dêl dda, gwiriwch am ba mor hir y bydd y gyfradd llog gyflwyniadol yn parhau ac os oes yna unrhyw gyfyngiadau arnoch i symud eich arian ar ôl i’r gyfradd gyflwyniadol ddod i ben. Mae rhai banciau a chymdeithasau adeiladu yn codi tâl arnoch os ydych yn symud eich arian sy’n golygu y gallwch golli rhywfaint o’r llog yr enilloch chi.
Fe ddylech chi anelu at wirio’r gyfradd llog ar unrhyw gyfrif sydd gennych o leiaf unwaith y flwyddyn, a mwy os yn bosibl, er mwyn sicrhau ei fod yn talu cyfradd llog sy’n uwch na chyfradd chwyddiant. Os ydych chi’n ansicr, gofynnwch i’ch darparwr cynilion i wirio i chi.
Mae’n werth gwirio’ch cyfrif hefyd os oes newid yng nghyfradd banc y llog. Hwn ydyw’r brif gyfradd llog a osodir gan Fanc Lloegr. Gall newid yn y gyfradd banc effeithio hefyd ar werth eich cynilion.
Os telir eich llog ar gyfradd newidiol gall symud i fyny ac i lawr. Mae hyn yn golygu os ydyw’r gyfradd banc yn cynyddu, fe allwch chi gael mwy o arian, ond os yw’r gyfradd banc yn mynd i lawr, fe all eich cyfradd llog ostwng hefyd.
Os telir eich llog ar gyfradd benodol ac mae’r gyfradd banc yn cynyddu, efallai y bydd yn werth gwirio i weld os oes cyfrif arall yn cynnig cyfradd well. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth all ddigwydd i’ch cynilion a buddsoddiadau os ydyw’r gyfradd banc yn newid, ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn: www.moneyadviceservice.org.uk. Os ydych chi am wirio beth yw’r gyfradd banc ar y foment hon a phryd y gwneir y penderfyniad nesaf ynglŷn ag ydyw’n mynd i godi neu ddisgyn, ewch i wefan Banc Lloegr yn: www.bankofengland.co.uk.
Os oes gennych gyfandaliad
Os ydych chi wedi rhoi cyfandaliad sylweddol o arian mewn cyfrif cynilo, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ei roi mewn rhywle sy’n rhoi’r gyfradd orau.
Mae yna gyfrifon cymdeithasau adeiladu wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer buddsoddi cyfandaliadau ond mae hefyd yn werth gwirio os gewch chi gyfradd llog gwell mewn cyfrif cynilo rheolaidd.
Os allwch chi gael cyfradd well mewn cyfrif cynilo rheolaidd, fe allech chi symud eich arian yn raddol o gyfrif cynilo cyfandaliad i gyfrif cynilion rheolaidd sydd â chyfradd llog uwch. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn colli allan ar unrhyw log.
Bydd rhai cyfrifon cynilo hefyd yn gadael i chi ddechrau gyda chyfandaliad ac yna ychwanegu symiau rheolaidd. Yn aml, mae’r cyfraddau uchaf yn parhau am amser cyfyngedig yn unig, ac felly efallai y bydd angen i chi gadw i symud eich arian er mwyn cael y fargen orau. Ond gwyliwch am unrhyw gyfyngiadau ar y cyfrif sy’n golygu y byddwch yn colli llog os ydych chi’n tynnu’r arian allan yn gynnar.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyfrifon cynilo cyfandaliad a chyfrifon cynilo rheolaidd, gweler Beth yw’r ffordd orau i gynilo
Fe allwch gael mwy o wybodaeth am hyn hefyd ar wefan Moneysavingexpert yn: www.moneysavingexpert.com a defnyddio tablau cymharu y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn: www.moneyadviceservice.org.uk er mwyn cymharu cyfrifon cynilo oddi wrth ddarparwyr gwahanol.
<
Gwiriwch fod eich cyfrif yn cwrdd â’ch anghenion
Efallai y cewch chi gyfradd llog da ar eich cyfrif ond os nad yw’n cwrdd â’ch anghenion cynilo, fe allech chi golli llog. Er enghraifft, mae rhai cyfrifon yn codi tâl fel cosb am godi arian mwy na nifer arbennig o weithiau mewn blwyddyn. Os ydych chi am dynnu arian allan sawl gwaith y flwyddyn, efallai na fydd gyda chi yn y diwedd gymaint o log ag y tybioch.
Gwiriwch fod telerau ac amodau eich cyfrif yn cwrdd â’ch anghenion mewn gwirionedd. Os nad ydynt, fe ddylech chi ddechrau siopa o gwmpas i ddod o hyd i gyfrif sy’n iawn i chi.
Os penderfynwch chi newid eich cyfrif i gael cyfradd llog gwell, darllenwch y cytundeb yn ofalus cyn arwyddo dim byd i wneud yn siŵr eich bod yn deall yr hyn yr ydych yn arwyddo amdano.
Weithiau, gall darparwyr cyfrifon newid telerau ac amodau eich cyfrif ar ôl i chi ei agor. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen unrhyw wybodaeth ddaw oddi wrth eich darparwr cyfrif yn dweud fod telerau ac amodau eich cyfrif wedi newid. Os ydyw hyn yn awgrymu nad yw’r cyfrif bellach yn cwrdd â’ch anghenion neu os ydych yn mynd i golli llog, efallai yr hoffech chi ddechrau chwilio am gyfrif arall.
<
Gwarchod eich cynilion rhag chwyddiant
Os ydyw’ch cyfrif cynilo yn talu cyfradd llog isel, mae yna berygl y bydd gwerth eich cynilion yn mynd i lawr dros amser. Gall hyn ddigwydd os yw’r llog dderbyniwch chi yn llai na'r cynnydd mewn costau byw (chwyddiant).
Bydd angen i chi wirio’n rheolaidd fod y gyfradd llog yr ydych yn ei derbyn yn well o leiaf na chyfradd banc Banc Lloegr. Os nad ydych yn gwybod, gofynnwch i’ch darparwr cynilion. Efallai y gallan nhw awgrymu cyfrifon eraill y gallwch chi symud eich arian iddynt. Ond gwiriwch beth sydd ar gynnig gan ddarparwyr cynilion eraill hefyd, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y cyfraddau gorau.
Os nad ydych am wirio cyfraddau’n rheolaidd, fe allwch chi ddewis cyfrif sy’n gwarantu talu o leiaf gwerth y gyfradd banc, neu ychydig dros ben. Mae hyn yn golygu na fydd eich cynilion yn colli eu gwerth. Ond mae’n werth gwirio beth mae cyfrifon cynilo eraill yn ei gynnig yn rheolaidd oherwydd fe allwch chi gael cyfradd llog gwell yn rhywle arall.
Byddwch yn ofalus i beidio cloi eich arian mewn cyfrif cynilo â chyfradd llog penodol yn rhy hir. Gyda rhai cyfrifon cynilo cyfradd llog uchel, mae angen i chi gadw’ch arian yn y cyfrif am rhwng un i bum mlynedd. Nid oes neb yn gwybod beth fydd yn digwydd i gyfraddau llog dros y cyfnod hwn o amser, felly er bod y gyfradd yn demtasiwn nawr, efallai na fydd mor dda ymhen rhai blynyddoedd i ddod.
<
Cynyddwch eich cynilion sy’n rhydd o dreth
Os ydych chi’n talu treth incwm, fe fyddwch yn talu treth ar yr arian enillwch chi o’ch cynilion.
Fe allwch chi osgoi talu treth ar rywfaint o’ch cynilion os defnyddiwch chi lwfans ISA arian parod. Y flwyddyn dreth hon (2012/13), fe allwch chi roi hyd at £5,640 mewn ISA arian parod. Os nad oes gennych arian mewn ISA arian parod eisoes, edrychwch allan am un sy’n cynnig y cyfraddau llog gorau.
Efallai y cewch chi gyfraddau gwell mewn ISA o gwmpas dechrau a diwedd blwyddyn dreth, ar ddechrau Ebrill. Y rheswm am hyn yw bod banciau a chymdeithasau adeiladu yn awyddus i chi ddefnyddio’ch lwfans cyn diwedd yr hen flwyddyn dreth, ac i ddenu cynilwyr ar ddechrau'r flwyddyn newydd.
Fe allwch chi roi arian i mewn ar ddiwedd y flwyddyn dreth, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, ac yna rhoi swm ychwanegol i mewn ar ddechrau'r flwyddyn dreth nesaf. Bydd hyn yn cynyddu'r swm o gynilion sy’n rhydd o dreth fydd gennych.
Fe ddylech chi wirio fod yr ISA yn cwrdd â’ch anghenion cynilo ac edrych allan am gyfraddau cyflwyniadol uchel all ddiflannu ar ôl rhai misoedd.
Os oes ISA gennych eisoes, gwiriwch o gwmpas dechrau a diwedd y flwyddyn dreth i wneud yn siŵr eich bod yn cael dêl dda.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynilion sy’n rhydd o dreth, gweler ISAs.
Gall Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol hefyd gynnig rhywfaint o gynilion sy’n rhydd o dreth. Sut bynnag, mae’n werth cymharu y cyfraddau maen nhw’n eu talu gyda chyfrifon cynilo llog uchel megis cyfrifon cynilo rhybudd penodol rheolaidd i weld pa opsiwn sy’n cynnig y mantais ariannol gorau.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyfrifon cynilo rhybudd penodol rheolaidd gweler Cyfrifon cynilo banciau a chymdeithasau adeiladu.
Os nad ydych chi’n talu treth, bydd yn rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn adhawlio unrhyw dreth a dynnwyd eisoes o’ch cynilion trwy eich ffurflen dreth flynyddol neu Swyddfa Dreth. Fe allwch chi hefyd wneud yn siŵr nad ydych yn gorfod talu treth yn y lle cyntaf. Pan fyddwch chi’n agor eich cyfrif, gofynnwch am lenwi’r ffurflen R85 - ‘Cael eich llog heb i dreth gael ei thynnu i ffwrdd’. Dylai eich darparwr cynilion roi copi i chi.
Fe allwch gael mwy o wybodaeth ynglŷn â faint o dreth y mae’n rhaid i chi ei dalu ar eich cynilion neu fuddsoddiadau ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
<
Sut gall dilyn y Gyllideb helpu
Bob Ebrill mae’r llywodraeth yn cyhoeddi ei gynlluniau gwario am y flwyddyn sydd i ddod, yn y Gyllideb. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddiadau ynglŷn â newidiadau treth, yn ogystal â newidiadau i’r symiau y caniateir i chi eu cynilo neu eu buddsoddi.
Daw adroddiad-cyn y Gyllideb allan yn yr Hydref. Mae hwn yn gosod allan y cynlluniau arfaethedig o flaen y Gyllideb ei hun ym mis Ebrill. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ystyried unrhyw newidiadau yr hoffech eu gwneud i’ch cynlluniau cynilo.
Mae’r holl bapurau newyddion yn cario crynodebau o’r Gyllideb pan fydd yn digwydd ac fe allwch gael mwy o wybodaeth ar wefan y Trysorlys lle mae yna dudalennau Cyllideb a chyn y Gyllideb arbennig.
<
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Yn Adviceguide
- Pam mae angen i mi gynilo
- Alla i fforddio i gynilo a faint
- Cyfrifon cynilo banciau a chymdeithasau
- Cyfrifon Cynilo Unigol
- Buddsoddi yn y farchnad stoc
Gwefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cynnyrch ariannol, gan gynnwys tablau cymharu. Rhowch glic ar : www.moneyadviceservice.org.uk.
Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol
Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn cynnig nifer o gynhyrchion ariannol a warentir gan y llywodareth. Maen nhw ar gael trwy Swyddfa’r Post, ar-lein neu dros y ffôn. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.nsandi.com.
<











