Pam mae hyn yn bwysig? Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei darparu yn amrywio o wlad i wlad. I gael gwybodaeth ar gyfer eich gwlad chi, dewiswch o'r ddewislen.

Cwyno am wyliau pecyn

Os nad oedd eich gwyliau pecyn yn cyd-fynd â’r disgrifiad yn y llyfryn, neu wedi’i ddifetha gan broblemau megis gwaith adeiladu neu swn, mae’n bosibl y gallwch hawlio beth o’r arian yn ôl. Rydych yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus os dilynwch y weithdrefn gwyno gywir.

Darllenwch y dudalen hon i weld pa gamau y dylech eu cymryd wrth wneud cwyn am wyliau pecyn.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon ond yn gymwysedig i deithwyr sydd wedi bwcio gwyliau pecyn.

Os ydych wedi bwcio gwyliau pecyn byddwch wedi eich diogelu gan reoliadau arbennig. Os gwnaethoch drefnu’r gwyliau eich hunan, bwcio teithiau hedfan, llety a gwasanaethau ar wahân yna rydych yn deithiwr annibynnol. Er mwyn gwybod sut i gwyno am eich gwyliau fel teithiwr annibynnol gweler  Cwyno am lety eich gwyliau a Mynd â’ch cwyn am lety eich gwyliau ymhellach. Os nad ydych yn sicr a yw eich gwyliau yn un pecyn ai peidio gweler A ydych yn deithiwr pecyn neu yn deithiwr annibynnol?

I bwy ddylech chi gyfeirio’ch cwyn?

Os ydych yn cwyno am rywbeth a brynwyd gennych fel rhan o’ch gwyliau pecyn yna dylech gwyno i’ch trefnydd pecyn. Y trefnydd fel arfer fydd eich gweithredwr taith ond weithiau eich asiant teithio fydd hwn.  O dan reoliadau teithio pecyn eich trefnydd sy’n gyfrifol am wneud yn siwr eich bod yn cael y gwyliau y gwnaethoch dalu amdano. Bydd gan eich trefnydd pecyn gytundebau gyda llawer o bobl i ddarparu gwahanol rannau o’ch gwyliau. Os oes pethau fel teithiau hedfan, llety a gwibdeithiau yn gynwysedig yn eich pecyn y trefnydd sy’n gyfrifol hyd yn oed os yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan gwmni arall. Nid eu cyfrifoldeb hwy yw gwasanaethau neu wibdeithiau a drefnwyd gennych yn annibynnol.

Mwy o wybodaeth am drefnwyr pecyn

Pryd ddylech chi gwyno?

Peidiwch ag aros tan ddiwedd eich gwyliau i gwyno. Dylech gwyno cyn gynted ag y sylweddolwch fod problem. Os na roddwch gyfle i’ch trefnydd ddatrys pethau, gall effeithio ar unrhyw hawliau am iawndal a wneir gennych.

Dylech gwyno i gynrychiolydd y trefnydd yn y cyrchfan. Os nad oes cynrychiolydd neu nad ydynt o gymorth, cwynwch i brif swyddfa’r trefnydd yn y DU. Dylai’r cynrychiolydd roi ffurflen gwynion i chi. Os na roddant ffurflen i chi, ysgrifennwch lythyr yn cwyno a gofyn iddynt i’w arwyddo. Gofynnwch am gopi o’r ffurflen neu’r llythyr.

Nid yw eich cwyn yn datrys y broblem

Os nad ydych yn hapus gydag ymateb eich cynrychiolydd, bydd angen i chi fynd â’ch cwyn yn bellach pan gyrhaeddwch adref.

Tra ar eich gwyliau

Casglwch gymaint o dystiolaeth ag y medrwch. Gall hyn fod yn bethau megis:

  • Dyddiadur o bryd a sut yr effeithiodd y broblem arnoch
  • Ffotograffau neu ddarnau o ffilm fideo
  • Enwau a chyfeiriadau teithwyr eraill all gefnogi eich achos
  • Derbynebau o unrhyw arian a wariwyd gennych oherwydd y broblem.

Pan gyrhaeddwch adref

Cwynwch i’ch trefnydd pecyn ar bapur o fewn 28 niwrnod. Eglurwch sut yr effeithiodd y broblem ar eich gwyliau a pham eich bod yn anhapus ynglyn â’r ffordd yr ymdriniwyd â’ch cwyn. Byddwch yn eglur ynglyn â faint o iawndal yr hoffech i’r trefnydd ei dalu. Os ydych yn hawlio iawndal rhesymol rydych yn fwy tebygol o lwyddo.  Cynhwyswch gopïau o unrhyw dystiolaeth a gasglwyd gennych. Anfonwch y llythyr wedi’i gofnodi a chadwch gopi. Dechreuwch gadw cofnod o’r hyn sy’n digwydd ar gyfer tystiolaeth i’r dyfodol.

Rydych yn anhapus gydag ymateb eich trefnydd

Hwyrach na fydd eich trefnydd gwyliau yn ymateb neu efallai y byddant yn cynnig rhywbeth i chi nad yw’n plesio. Er enghraifft, mae’n bosibl y cynigiant ddisgownt bach i chi oddi ar wyliau i’r dyfodol. Os digwydd hyn,  ysgrifennwch ato yn ail-adrodd eich cwyn. Y tro hwn, eglurwch y byddwch yn ystyried cymryd camau cyfreithiol. Os nad yw hyn yn gweithio yna mae gennych dri opsiwn:

  • Os taloch unrhyw ran o gost eich gwyliau gyda cherdyn credyd mae’n bosibl y gallwch hawlio yn erbyn y cwmni cerdyn credyd
  • Os yw eich trefnydd yn aelod o gymdeithas fasnach efallai y gallant eich helpu
  • Yr opsiwn olaf yw mynd â’ch trefnydd pecyn i’r llys.

Mwy am sut i hawlio oddi wrth eich cwmni cerdyn credyd

Ydi eich trefnydd pecyn yn aelod o gymdeithas fasnach?

Os yw eich trefnydd yn aelod o gymdeithas fasnach fel Cymdeithas Asiantaethau Teithio Prydain (ABTA) neu’r Gymdeithas Gweithredwyr Teithiau Annibynnol (AITO) mae’n bosibl y gallant eich helpu i ddatrys pethau. Os ydych mewn sefyllfa ddi-ddatrys gyda’ch trefnydd gallwch gofrestru eich cwyn gyda’r gymdeithas fasnach. Bydd angen i chi roi copïau o’ch anfoneb cadarnhau bwcio iddynt a’r holl ohebiaeth rhyngoch chi a’r trefnydd. Os na allant ddatrys yr anghydfod, maent yn cynnig gwasanaeth cyflafareddiad annibynnol. Codir tâl am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ac ni fyddwch yn gallu mynd â’ch cwmni gwyliau i’r llys unwaith y bydd y broses hon wedi dechrau.

Mae Passenger Shipping Association hefyd yn rhedeg gwasanaeth datrys anghydfod os yw’ch cwyn yn ymwneud â mordaith neu wasanaeth fferi.

Ynglyn â gwyliau a gwahaniaethu

Yn gyffredinol, pan fydd cwmni’n gwerthu gwyliau i chi, ni chaiff wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd, hil, crefydd, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

Mae yna eithriadau i wyliau sy’n cael eu gwerthu ar gyfer grwpiau oedran penodol.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth am

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Cymdeithasau masnach a allai eich helpu gyda chwynion am wyliau:

ABTA

Rhif Ffôn: 0901 201 5050
Gwefan: www.abta.com/consumer-services

AITO

Rhif Ffôn: 020 8744 9280
Gwefan: www.aito.co.uk

Passenger Shipping Association

Rhif Ffôn: 020 7436 2449
Gwefan: www.the-psa.co.uk

Citizens Advice

Barnu'r dudalen hon Rhoi adborth