Pam mae hyn yn bwysig? Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei darparu yn amrywio o wlad i wlad. I gael gwybodaeth ar gyfer eich gwlad chi, dewiswch o'r ddewislen.

Problemau gydag 'arian yn ôl' - contractau ffonau symudol

Mae rhai cwmnïau ffôn symudol yn cynnig cynlluniau ‘arian yn ôl’ fel ffordd o annog cwsmeriaid i brynu contract symudol gyda nhw.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych am gynlluniau 'arian yn ôl' a'r hyn fedrwch chi ei wneud os ydych yn cael trafferth hawlio'ch arian yn ôl.

Gair o gyngor

Os ydych yn dewis darparwr ffôn symudol sy'n cynnig dêl ‘arian yn ôl’, cofiwch ddarllen yr amodau a thelerau. Efallai bod rhai pethau penodol y mae'n rhaid i chi eu gwneud, er enghraifft anfon copi o'ch bil, er mwyn cael yr arian yn ôl.

Sut mae cynlluniau arian yn ôl yn gweithio?

Mae cynlluniau arian yn ôl yn gweithio trwy eich clymu chi at gontract cyfnod lleiaf ac yna'n cynnig peth o'ch arian yn ôl i chi. Efallai y cewch yr arian hwn yn ôl mewn un taliad ar ddiwedd y cytundeb, neu efallai y byddwch yn medru hawlio'ch symiau misol yn ôl bob mis am nifer penodol o fisoedd.

Fel arfer, mae yna amodau a thelerau ynghlwm â'r cynigion hyn. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi anfon copi o'ch bil at eich darparwr bob mis er mwyn cael eich arian yn ôl.

Rheolau y mae'n rhaid i'r cwmni eu dilyn

Yn ôl y gyfraith, dylai darparwr gwasanaeth neu siop ffonau symudol fod yn glir ynghylch telerau'r ddêl ymlaen llaw. Mae hyn yn golygu, cyn i chi gytuno i gymryd contract ffôn symudol, bod yn rhaid i ddarparwr y gwasanaeth ffôn symudol neu'r siop roi gwybodaeth benodol i chi am y cynnig arbennig.

Mae'n medru rhoi'r wybodaeth i chi ar lafar, neu ei rhoi i chi'n ysgrifenedig. Os ydych chi am fod yn glir ynghylch yr hyn sy'n cael ei gynnig, gofynnwch am y manylion yn ysgrifenedig.

Dyma'r wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chael am y ddêl ‘arian yn ôl’:

  • pa gwmni sy'n gwneud y cynnig. Gallai hwn fod yn ddarparwr gwasanaeth neu'n siop ble'r ydych wedi prynu'ch ffôn
  • manylion y cynnig. Yr hyn y byddwch chi'n ei gael
  • amodau a thelerau'r cynnig. Yn gyffredinol, dylech gael gwybod bod y contract ar gyfer y cynnig arbennig neu'r arian yn ôl yn gontract ar wahân i gontract y ffôn symudol.

Os ydych chi'n cymryd y contract dros y ffôn, rhaid bod darparwr gwasanaeth y ffôn symudol yn cadarnhau amodau a thelerau'r cynnig arbennig neu ‘arian yn ôl’ trwy e-bost neu'n ysgrifenedig yn fuan wedi hynny.

Yn ôl y gyfraith, rhaid bod telerau dêl o'r fath yn deg. Fel arfer, mae hyn yn golygu:

  • nad ydynt yn medru gofyn i chi anfon bil gwreiddiol atynt - mae copi o fil yn ddigon
  • nad ydynt yn medru codi ffi arnoch am gofrestru ar gyfer y cynnig
  • bod yn rhaid iddynt roi o leiaf 60 niwrnod i chi gofrestru
  • nad ydynt yn medru gwrthod rhoi arian yn ôl i chi am fod peth arian yn ddyledus ar eich cyfrif. Ond, maen nhw'n medru gwrthod rhoi arian yn ôl i chi os ydych yn methu â thalu'ch biliau, a hynny'n rheolaidd, neu os ydych yn ceisio'u twyllo
  • os yw'r cynnig am arian yn ôl, nad yw'r cwmni'n medru gwrthod unrhyw geisiadau am arian yn ôl gennych yn y dyfodol os ydych yn methu â chael arian yn ôl y tro cyntaf i chi geisio.

Os ydych yn cael trafferth hawlio'ch arian yn ôl

Darllenwch amodau a thelerau'r ddêl ‘arian yn ôl’. Ydych chi'n gwneud popeth ddylech chi fod yn ei wneud? Os yw'r cwmni'n torri'i ochr ef o'r ddêl, neu os ydych yn credu ei fod wedi torri'r rheolau a restrwyd uchod, dylech gwyno iddo. Os nad yw'n datrys eich cwyn yn foddhaol, gallwch ei riportio i Ofcom.

Cwyno

Camau nesaf

Os oes angen help pellach arnoch

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Defnyddio safleoedd arian yn ôl gan www.moneysavingexpert.com

Peidio â chael eich dal gan gynlluniau arian yn ôl oddi ar www.moneysavingexpert.com

Citizens Advice

Barnu'r dudalen hon Rhoi adborth