Pam mae hyn yn bwysig?
Canslo'ch contract teledu, ffôn neu ryngrwyd
Os ydych chi am ganslo'ch contract ar gyfer gwasanaeth ffôn, rhyngrwyd neu deledu, fe fydd angen i chi ddarllen eich amodau a thelerau i ddarganfod beth yw eich hawliau canslo.
Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych sut i ganslo'ch contract a sut i wybod beth yw'ch hawliau canslo.
Gair o gyngor
Adnewyddu contract yn awtomatig
Mae Ofcom nawr wedi gwahardd cwmnïau rhag adnewyddu contractau'n awtomatig. Felly, ar ddiwedd tymor lleiaf eich contract, dylech gael cyfle i ganslo heb iddo gael ei adnewyddu'n awtomatig.
Gellir cael mwy o wybodaeth ar wahardd contractau rhag cael eu hadnewyddu'n awtomatig gan Ofcom yn www.ofcom.org.uk
Ymchwiliwch i'ch hawliau canslo
Os ydych chi am ganslo'r contract ar gyfer eich gwasanaeth ffôn, rhyngrwyd neu deledu, dylech ymchwilio i'ch hawliau canslo a darllen eich amodau a thelerau. Dylai'r rhain fod wedi cael eu hanfon atoch mewn llythyr neu e-bost wrth i chi brynu'r gwasanaeth. Dyma’r pethau y dylech chi chwilio amdanynt:
- cyfnod oeri
- cyfnod contract lleiaf
- cyfnod rhybudd
- tâl canslo.
Cyfnod oeri
Efallai y bydd darparwr eich gwasanaeth wedi rhoi cyfnod oeri i chi. Mae hyn yn gadael i chi ganslo'r contract am unrhyw reswm o fewn cyfnod penodol o amser. Darllenwch eich amodau a thelerau i weld os oes cyfnod oeri gennych.
Os oeddech wedi prynu'r gwasanaeth ar-lein neu dros y ffôn, fe fydd cyfnod oeri o saith niwrnod gennych ac yn ystod y cyfnod hwn fe fyddwch yn medru canslo am unrhyw reswm, onid oedd y gwasanaeth wedi dechrau ar unwaith wedi i chi ei brynu.
Gair o gyngor
Newid eich meddwl
Os nad ydych wedi cael cytundeb terfynol eto, er enghraifft, nid ydych wedi talu eto neu nid ydych wedi cael cadarnhad eto, gallwch newid eich meddwl ynghylch cael y gwasanaeth ac, yn gyffredinol, ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw beth. Cysylltwch â'r cwmni ar unwaith, gan ddweud nad ydych am barhau gyda'r gwasanaeth, a chadarnhau hyn yn ysgrifenedig. Cadwch gopi o'r llythyr.
Cyfnod contract lleiaf
Pan fyddwch chi'n prynu contract ar gyfer gwasanaeth ffôn, rhyngrwyd neu deledu, fel arfer mae yna gyfnod lleiaf, er enghraifft 12 neu 18 mis. Fe fydd eich amodau a thelerau yn dweud wrthych faint yw hyd eich contract lleiaf. Efallai y bydd darparwr eich gwasanaeth yn gadael i chi ganslo'ch contract yn gynnar heb dalu'r holl daliadau misol am gyfnod lleiaf y contract.
Taliadau canslo
Efallai y bydd darparwr eich gwasanaeth yn codi tâl arnoch am ganslo'ch contract cyn diwedd cyfnod lleiaf y contract. Darllenwch eich amodau a thelerau i weld os yw hyn yn wir yn eich achos chi. Yn ôl canllawiau Ofcom, mae'r tâl hwn yn deg yn yr achosion canlynol:
- os ydych yn gwybod faint yw'r tâl ac eglurwyd hyn i chi cyn i chi brynu'r contract
- nid yw'r tâl yn fwy na'r swm sy'n ddyledus am y misoedd sy'n weddill ar gyfer y cyfnod lleiaf posib ar gyfer eich contract.
Os ydych yn canslo gwasanaeth band eang, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tâl i ddod â'r gwasanaeth i ben, hyd yn oed os yw cyfnod lleiaf y contract wedi dod i ben. Yn ôl Ofcom, mae'r tâl hwn yn deg os oeddech wedi cael gwybod amdano cyn i chi brynu'r contract. Dylai'r swm fod yn seiliedig ar y gost er mwyn i ddarparwr y gwasanaeth ddod â’r gwasanaeth i ben.
Cyfnod rhybudd
Efallai y bydd yn rhaid i chi roi rhybudd i ddarparwr eich gwasanaeth ymlaen llaw os ydych chi am ganslo o fewn cyfnod y contract. Fel arfer, mae hyn yn un mis, ond darllenwch eich amodau a thelerau.
Sut i ganslo'ch contract
Efallai y bydd rhywfaint o gyfarwyddyd yn eich amodau a thelerau ynghylch canslo'ch contract. Fel arall, cysylltwch â darparwr eich gwasanaeth a dywedwch wrtho eich bod am ganslo. Gallwch wneud hyn dros y ffôn, ond gofynnwch iddo anfon llythyr atoch yn cadarnhau eich bod wedi canslo. Os ydych yn ysgrifennu i ganslo'ch contract, cofiwch gynnwys:
- eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt
- eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt
- beth yr ydych wedi ei brynu a phryd
- rhif y cwsmer neu rif cyfrif y gwasanaeth
- eich bod eisiau canslo
- gofynnwch am gadarnhad ysgrifenedig fod y contract wedi cael ei ganslo.
Mae'n syniad da cael tystysgrif postio gan Swyddfa'r Post, os ydych yn canslo trwy'r post.
Os ydych yn cael trafferth canslo'ch contract, gallwch gwyno.
Os yw darparwr eich gwasanaeth wedi torri'r contract
Os yw darparwr y gwasanaeth yn torri ei ochr ef o'r contract, er enghraifft, nid yw'n gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud yn yr amodau a thelerau, neu nid yw'n trosglwyddo'r gwasanaeth, efallai y byddwch yn medru dadlau eich bod yn medru diddymu'r contract. I bob pwrpas, mae hyn yn canslo'r contract heb i chi orfod talu unrhyw ddirwy neu daliadau.
Ffonau symudol - os nad ydych yn medru canslo
Os nad ydych yn medru canslo'ch ffôn symudol, gallech geisio'i werthu i rywun arall. Ond, dylech ofyn i'ch darparwr yn gyntaf os oes modd trosglwyddo'r cyfrif at rywun arall. Efallai na fydd yn fodlon caniatáu hyn. Darllenwch amodau a thelerau'ch contract.











