Pam mae hyn yn bwysig?
Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Nid oes hawl gennych i fynd â rhywbeth yn ôl i'r siop am eich bod chi wedi newid eich meddwl ar ôl mynd adref. Mae hyn yn wir os ydych wedi ei brynu mewn sêl neu ar unrhyw adeg arall.
Ond, mae'n werth mynd yn ôl i'r siop i ofyn a ydyn nhw'n fodlon ei gymryd yn ôl. Mae gan lawer o siopau, yn enwedig y manwerthwyr mwy ar y stryd fawr, bolisi dychwelyd sy'n golygu eu bod nhw'n gadael i chi ddychwelyd yr eitem, a chael ad-daliad, cyfnewid yr eitem neu gael nodyn credyd neu daleb o'r un gwerth yn lle. Fel arfer, mae yna gyfyngiad amser ar gyfer gwneud hyn.
Cofiwch nad oes rhaid i'r siop adael i chi ddychwelyd eitemau nad ydych chi eu heisiau yn gyfreithiol, ac efallai na fydd siopau sy'n gadael i chi wneud hyn fel arfer yn fodlon i chi wneud hyn gydag eitemau a brynwyd mewn sêl.
Y ffordd orau o wneud yn siwr eich bod yn medru dychwelyd eitem nad ydych ei heisiau, yw dod i gytundeb gyda'r cynorthwyydd siop eich bod yn medru gwneud hyn cyn i chi ei phrynu. Os ydych wedi dod i gytundeb o'r fath, mae'n rhaid i'r siop gadw at y cytundeb.
Wrth gwrs, os oes rhywbeth o'i le ar yr eitem, yna fe fydd hawl gennych i'w dychwelyd. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd hawl gennych i ad-daliad llawn, cael peth o'ch arian yn ôl, neu gael nwyddau wedi eu hatgyweirio neu rai newydd yn eu lle. Efallai hefyd y byddwch yn cael dewis derbyn nodyn credyd neu daleb, ond ni fydd yn rhaid i chi wneud hyn os fyddai'n well gennych sortio'r broblem mewn rhyw ffordd arall.
Mae gennych yr hawliau hyn os ydych wedi prynu'r eitem mewn sêl neu ar unrhyw adeg arall. Os yw'r siop yn dweud yn wahanol, maen nhw'n torri'r gyfraith, a dylech gwyno i linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.
Ond, gellir gostwng pris rhai nwyddau oherwydd namau bach felly cofiwch edrych ar yr eitem yn ofalus cyn ei phrynu. Os dangoswyd y nam i chi cyn gwerthu'r eitem, er enghraifft ar arwydd, label, neu gan y cynorthwyydd siop, nid oes rhaid i'r siop gymryd yr eitem yn ôl. Efallai y bydd hyn yn wir os na ddangoswyd y nam i chi, ond roedd mor amlwg fel y dylech fod wedi sylw beth bynnag.
Os na ddangoswyd y nam i chi ac nid oedd yn amlwg, rydych yn medru mynnu cael defnyddio'ch hawliau!
I ddarganfod mwy am eich hawliau wrth i chi siopa, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.