Pam mae hyn yn bwysig?
Gofal iechyd preifat
Rydych chi'n medru cael triniaeth iechyd breifat ar gyfer unrhyw gyflwr meddygol, os ydych yn medru talu amdani. Fe allai hyn gynnwys triniaeth mewn ysbyty preifat, gan arbenigwr meddygol neu Feddyg Teulu. Mae hefyd yn medru cynnwys triniaeth ddeintyddol, cwnsela a seicotherapi, ffisiotherapi, neu driniaeth am gam-drin cyffuriau neu alcohol.
Pan fyddwch chi'n prynu gofal iechyd preifat neu yswiriant iechyd, rydych chi'n prynu contract am wasanaeth. Mae gennych hawliau cyfreithiol fel defnyddiwr pan fyddwch chi'n prynu gwasanaeth. Mae yna reolau hefyd ynghylch y safon gofal proffesiynol y dylech ddisgwyl ei derbyn.
Weithiau, nid yw pethau'n rhedeg yn llyfn: Darllenwch sut i ddatrys problem gyda'ch gofal iechyd preifat.
Prynu gofal iechyd preifat
Mae yna fanteision ac anfanteision i brynu gofal iechyd gan ymarferydd preifat yn hytrach na defnyddio'r GIG. Er enghraifft, mae'n medru bod yn ddrud ond efallai y cewch driniaeth gyflymach.
Ddylech chi fynd yn breifat - gofal iechyd
Ydych chi'n medru newid eich meddwl ynghylch prynu gwasanaeth?
Yswiriant iechyd preifat
Mae gofal iechyd preifat yn medru bod yn ddrud. Un ffordd o dalu amdano yw prynu polisi yswiriant iechyd preifat. Efallai y bydd gennych yr opsiwn o gael yswiriant iechyd preifat trwy'ch cyflogwr.
Prynu yswiriant iechyd preifat
Sut i ddatrys problem gyda hawliad yswiriant
Mae'r cwmni yswiriant yn gwrthod eich hawliad
Fedra i newid fy meddwl ynglyn â phrynu gwasanaeth?
Cwynion am ofal iechyd preifat
Os oes cwyn gennych yn erbyn eich ymarferydd iechyd preifat, mae angen i chi wybod beth yw eich hawliau a beth ddylech chi ei wneud.
Cwyno ynghylch esgeulustod neu gamymddwyn
Problemau gyda thaliadau a ffioedd
Problemau gyda thaliadau a ffioedd
Mae gofal iechyd preifat yn medru bod yn ddrud iawn. Cyn cael triniaeth breifat, mae'n bwysig holi beth fydd y costau, gan gynnwys unrhyw ffioedd y gellid eu hychwanegu at y bil os digwydd i bethau fynd o'u lle. Os ydych chi'n ei chael yn anodd talu am eich gofal iechyd, dylech gysylltu â'ch ymarferydd ar unwaith.
Problemau gyda thaliadau a ffioedd
Problemau gyda gwasanaeth
Os oes cwyn gyffredinol gennych ynghylch taliadau, oedi gyda’ch gwasanaeth neu wasanaeth gwael, dylech gysylltu â 'ch ymarferydd ar unwaith.
Sut i ddadlau ynghylch cost gwasanaeth
Yr hyn fedrwch chi ei wneud am wasanaeth gwael
Cymdeithasau gofal iechyd preifat
Mae ymarferwyr gofal iechyd preifat wedi eu cofrestru gyda chorff proffesiynol sy'n rheoleiddio'r maes ymarfer hwnnw. Efallai y bydd y cyrff proffesiynol hynny'n helpu gydag anghydfod neu efallai y byddan nhw'n medru darparu gwybodaeth ddefnyddiol ar ymarferwyr yn eich ardal chi.
Cymdeithasau iechyd preifat yn y Deyrnas Unedig











