Pam mae hyn yn bwysig?
Cwyno am esgeulustod neu gamymddwyn mewn gofal iechyd preifat
Pan fyddwch chi'n prynu gofal iechyd preifat, rydych chi'n disgwyl cael eich trin gyda safon gofal a sgil uchel.
Bernir gweithwyr iechyd proffesiynol yn ôl y safonau a ddisgwylir gan weithwyr proffesiynol tebyg eraill. Mae hyn yn golygu, yr hyn y byddai aelodau eraill o'r proffesiwn yn ei wneud, yn rhesymol, dan yr un amgylchiadau. Mae methu â chwrdd â'r safon yma yn esgeulustod proffesiynol.
Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth i'w wneud os oes cwyn gennych yn erbyn eich ymarferydd meddygol preifat.
Mae'r ymarferydd wedi bod yn esgeulus
Os ydych chi'n credu bod meddyg, llawfeddyg neu ymarferydd meddygol arall wedi bod yn esgeulus ac rydych chi eisiau cwyno, fe fydd angen i chi benderfynu pa ganlyniad yr ydych chi am ei weld. Er enghraifft, efallai y byddwch chi eisiau:
- ymddiheuriad ffurfiol
- ad-daliad
- triniaeth adferol yn rhad ac am ddim
- iawndal.
Hawlio iawndal
Os ydych chi'n dioddef poen, anaf, anghyfleustra neu gostau ychwanegol oherwydd esgeulustod, mae gennych yr hawl i iawndal. Fe allai hyn gynnwys colli enillion.
Er mwyn hawlio iawndal, dylech geisio trafod gyda'ch ymarferydd yn gyntaf. Efallai y byddwch chi eisiau cael cyngor ynglyn â gwneud hyn.
Os nad yw hyn yn gweithio, efallai y byddwch chi eisiau dwyn achos cyfreithiol. Dylech gael cyngor cyfreithiol arbenigol yn gynnar. Mae manylion cyfreithwyr yn eich ardal chi sy'n delio gydag achosion o iawndal meddygol ar gael gan Action against Medical Accidents (AvMA). Os yw'r ymarferydd yn aelod o ISCAS (Independent Sector Complaints Adjudication Service) a weithredir gan IHAS (Independent Health Advisory Service), fe allech geisio cysylltu â'r gwasanaeth am help.
Mae'n medru bod yn anodd profi esgeulustod meddygol. Yn aml, mae'n dibynnu ar farn broffesiynol, bersonol eich ymarferydd ynghylch y driniaeth fwyaf addas yn eich achos chi. Efallai y bydd angen i chi gael barn rhywun arall. Ond, efallai na fydd ymarferydd arall yn awyddus i fod ynghlwm â chwyn yn erbyn aelod arall o'i broffesiwn. Efallai na fydd rhai ymarferwyr yn barod i roi barn arall onid ydynt yn cael cais ffurfiol gan eich Meddyg Teulu neu gan y cwmni yswiriant. Os ydyn nhw'n cytuno i roi barn arall, fwy na thebyg y byddan nhw'n codi tâl am hyn.
Rhaid dechrau achos cyfreithiol ar gyfer esgeulustod meddygol o fewn tair blynedd i'r dyddiad y digwyddodd yr esgeulustod, neu i'r dyddiad y daethoch yn ymwybodol ohono.
Action against Medical Accidents
Ffôn: 0845 123 2352
Gwefan: www.avma.org.uk.
ISCAS (Independent Sector Complaints Adjudication Service)
Ffôn: 20273798598
Gwefan: www.independenthealthcare.org.uk
Camymddwyn
Mae camymddwyn proffesiynol yn cynnwys ymddygiad fel perthnasoedd amhriodol gyda chleifion, honiadau ffug i gymhwysedd, ymweliadau na ofynnwyd amdanynt, canfasio, torri cyfrinachedd a ffugio cofnodion meddygol. Mae hefyd yn medru cynnwys anghwrteisi neu berthnasoedd personol gwael a allai gynnwys peidio â rhoi ystyriaeth ddifrifol i'ch pryderon neu fod yn anfoesgar neu'n hiliol tuag atoch.
Os yw'ch cwyn yn ymwneud â chamymddwyn, dylech gwyno'n syth i'r gymdeithas broffesiynol y mae'r ymarferydd wedi cofrestru gyda hi.
Os yw'r ymarferydd yn aelod o ISCAS (Independent Sector Complaints Adjudication Service) a weithredir gan IHAS (Independent Health Advisory Service), fe allech geisio cysylltu â'r gwasanaeth am gyngor.
Ysgrifennwch at y gymdeithas broffesiynol berthnasol yn esbonio'n fanwl yr hyn sydd wedi digwydd. Fe fydd pob mudiad yn dweud wrthych beth mae eu gweithdrefn gwyno benodol yn ei olygu. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn rhaid i chi lenwi datganiad statudol (affidafid yn yr Alban), yn amlinellu amgylchiadau'r gwyn, a'i dyngu gerbron cyfreithiwr. Efallai y bydd tâl am hyn.
Ymosodiad
Mae ymarferydd sy'n eich archwilio neu'ch trin chi yn erbyn eich ewyllys yn ymosod arnoch. Os yw llawfeddyg yn rhoi llawdriniaeth i chi heb gael eich caniatâd (ac eithrio mewn argyfwng), mae hyn yn cyfrif fel ymosodiad. Er enghraifft, os yw claf wedi cytuno gyda llawfeddyg i gael lwmp wedi ei dynnu o'i bron, ond mae'r llawfeddyg wedi tynnu'r fron gyfan, ac nid oedd yn argyfwng, fe allai hyn gyfrif fel ymosodiad.
Mewn rhai amgylchiadau, gellir archwilio a thrin rhywun sydd wedi'i gadw'n orfodol mewn ysbyty seiciatrig, am broblemau iechyd meddwl, heb gael eu caniatâd.
Mae ymosodiad yn drosedd. Os ydych chi am ddwyn achos ynghylch yr ymosodiad, dylech gael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr a dweud wrth yr heddlu. Efallai y byddwch hefyd yn medru dwyn achos sifil yn erbyn yr ymarferydd.
Mynnwch help gan fudiad proffesiynol
Os nad ydych yn medru datrys problem trwy ddelio'n uniongyrchol gydag ymarferydd, fe fyddwch yn medru cysylltu â'r mudiad proffesiynol sy'n rheoleiddio'r maes ymarfer hwnnw.
Fel arfer, fe fydd y mudiad proffesiynol ond yn helpu gyda chwynion ynghylch camymddwyn difrifol, er, efallai y bydd yn barod i gyflafareddu'n anffurfiol ar faterion eraill. Fel arfer, fe fydd yn cynghori, onid ydych yn cwyno ynghylch camymddwyn difrifol, y dylech fynd â'ch cwyn at y llys.
Camau nesaf
Os oes angen help pellach arnoch
Riportio camymddwyn neu esgeulustod i gymdeithas gofal iechyd preifat yn y Deyrnas Unedig
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Independent Health Advisory Service
Ffôn: 20273798598
E-bost: info@independenthealthcare.org.uk
Gwefan: www.independenthealthcare.org.uk











