Pam mae hyn yn bwysig?
Sut mae system post y Deyrnas Unedig yn gweithio?
Mae pawb, bron, yn defnyddio gwasanaethau post. Er bod technoleg wedi cynhyrchu ffyrdd eraill o gyfathrebu, er enghraifft dros y ffôn, trwy ffacs ac e-bost, mae llawer o bobl yn dal i ddibynnu ar bost.
Mae'r dudalen hon yn esbonio pwy sy'n gyfrifol am wasanaeth post y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn amlinellu'ch hawliau pan fyddwch chi'n defnyddio gwasanaethau post yn y Deyrnas Unedig.
Pwy sy'n darparu gwasanaethau post?
Yr enw ar gwmnïau sy'n derbyn llythyron neu becynnau, yn eu casglu, eu sortio a'u dosbarthu yw gweithredwyr gwasanaethau post. Yr enw ar y gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu yw gwasanaethau post.
Y Post Brenhinol yw'r gweithredwr mwyaf ar gyfer gwasanaethau post. Mae ei rwydwaith yn dosbarthu post i bob cyfeiriad preswyl a busnes yn y Deyrnas Unedig, bron. Y Post Brenhinol hefyd yw'r darparwr gwasanaethau cyffredinol. Mae hyn yn golygu, yn gyfreithiol, ei fod yn gorfod dosbarthu i bob cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig am bris penodol, fforddiadwy a hynny chwe niwrnod yr wythnos.
Nid Y Post Brenhinol yw'r unig weithredwr gwasanaethau post yn y Deyrnas Unedig. Mae gweithredwyr gwasanaethau post eraill, fel arfer cwmnïau preifat, yn medru cystadlu gyda'r Post Brenhinol. Maen nhw'n medru gwneud hyn trwy gynnig gwasanaethau 'pen i ben' ar gyfer casglu post a'i ddosbarthu, neu trwy gael mynediad at rwydwaith y Post Brenhinol ar gyfer rhai rhannau o'r broses ddosbarthu.
Er enghraifft, efallai y bydd gweithredwr yn casglu post ac yn ei sortio, ond yna'n defnyddio rhwydwaith y Post Brenhinol er mwyn i'r Post Brenhinol ddosbarthu'n derfynol. Rhaid i unrhyw weithredwr sydd am wneud hyn drafod y defnydd o'r gwasanaeth yn unigol gyda'r Post Brenhinol.
- Gwybodaeth bellach am y gwasanaeth post cyffredinol
- Gwybodaeth bellach ar weithredwyr gwasanaethau post sydd ddim yn rhai'r Post Brenhinol a sut y gallai'ch hawliau gyda'r cwmnïau hyn fod yn wahanol
Pwy sy'n rheoleiddio gwasanaethau post?
Caiff gweithredwyr post eu rheoleiddio gan Ofcom. Mae gan Ofcom bwerau i ymchwilio, gweithredu a rhoi dirwyon ariannol i weithredwyr post sy'n torri ei amodau.
Beth yw'ch hawliau gyda'r gwasanaeth post?
Pan fyddwch chi'n postio llythyr gyda'r Post Brenhinol, efallai na fydd gennych yr hawliau arferol fel defnyddiwr dan gyfraith contractau. Mae hyn am fod y Post Brenhinol yn cael creu cynlluniau yn lle'r angen iddo gael contractau unigol gyda phob un sy'n prynu ei nwyddau a'i wasanaethau.
Mae'r cynlluniau hyn yn gosod yr amodau er mwyn i'r Post Brenhinol dderbyn post, a'i ddosbarthu, a phryd mae modd ei ddal yn atebol am bost a ddifrodwyd, a gollwyd neu a ohiriwyd.
Dyma'r pedwar cynllun:
- Cynllun post y Deyrnas Unedig (llythyron a pharseli a bostiwyd yn y Deyrnas Unedig i'w dosbarthu yn y Deyrnas Unedig)
- llythyron tramor
- parseli tramor
- llythyron a pharseli wedi'u ffrancio
Weithiau, gelwir y rhain yn becynnau post.
Os ydych yn anfon post tu allan i'r gwasanaethau uchod neu'n defnyddio gweithredwr gwasanaethau post arall, fe fydd hawliau cyffredinol gennych fel defnyddiwr dan gyfraith contractau.
Camau nesaf
- Darganfyddwch beth yw'r ffordd orau o sicrhau bod eich post yn cyrraedd yn ddiogel gyda gair o gyngor ar anfon post
- Os oes angen help pellach arnoch
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
- ·Ein gwasanaethau ar www.royalmail.com
- ·Gwybodaeth bellach am dargedau a safonau perfformiad y Post Brenhinol ar www.royalmailgroup.com
- ·Mae adrannau 83 i 88 Deddf Gwasanaethau Post 2000 yn trafod troseddau yn ymwneud â phost ar www.legislation.gov.uk











