Pam mae hyn yn bwysig? Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei darparu yn amrywio o wlad i wlad. I gael gwybodaeth ar gyfer eich gwlad chi, dewiswch o'r ddewislen.

Sut i ddarllen eich mesurydd trydan

Mae'r cwmni sy'n cyflenwi'ch trydan yn mesur faint o ynni yr ydych yn ei ddefnyddio gyda mesurydd. Os oes mesurydd credyd trydan gennych, ceisiwch roi darlleniadau rheolaidd i'ch cwmni cyflenwi, fel bod eich biliau'n seiliedig ar eich defnydd go iawn, ac nid amcangyfrif. Bydd hyn yn gostwng y perygl i chi dalu gormod neu ddim digon.

Mae'r dudalen hon yn esbonio'r gwahanol fathau o fesuryddion credyd trydan, a sut i'w darllen. Nid yw'r wybodaeth hon yn berthnasol i chi os oes mesurydd rhagdaliad gennych.

Gair o gyngor

Os yw'n anodd i chi fynd at eich mesurydd eich hun, neu ei ddarllen, efallai y byddwch yn medru cofrestru ar Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol y cwmni sy'n cyflenwi'ch ynni. Mae'r cynllun hwn yn cynnig gwasanaethau rhad ac am ddim ychwanegol i bobl o oed pensiwn, pobl sydd wedi'u cofrestru'n anabl, pobl sydd â nam ar eu clyw neu eu golwg neu bobl sydd â salwch hir dymor. Caiff ei redeg gan gwmnïau cyflenwi ynni.

Efallai bod y gwasanaethau'n cynnwys:

  • symud eich mesurydd yn rhad ac am ddim fel ei bod yn haws i chi fynd ato
  • rhoi teclynnau rheoli neu addasyddion fel bod eich mesurydd neu'ch cyfarpar yn haws ei ddefnyddio
  • darlleniadau chwarterol rhad ac am ddim os ydych yn dweud wrth eich cwmni cyflenwi na fedrwch chi ei ddarllen eich hun.

Darllenwch fwy am y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol

Darllen eich mesurydd trydan

Mae yna sawl gwahanol fath o fesurydd trydan. Edrychwch i weld pa fath sydd gennych cyn ei ddarllen.

Mesurydd digidol un gyfradd

Ar fesurydd digidol, fe fydd y rhifau'n arddangos yn electronig neu'n ddigidol, ac yn dangos pum rhif mewn du neu wyn, ac yna efallai y bydd un rhif arall, neu fwy, yn goch, i ddilyn.

I ddarllen y mesurydd:

  • cofnodwch y pum rif a ddangosir o'r chwith i'r dde
  • anwybyddwch unrhyw rifau eraill.

Mesurydd un gyfradd

Single rate meter

Yn y diagram, darlleniad y mesurydd yw 75085.

Mesurydd digidol dwy gyfradd

Os ydych yn cael trydan ar bris is, tu allan i'r cyfnod brig, efallai bod yna ddwy res o rifau ar eich mesurydd.

Mae'r rhes uchaf (sy'n dweud low neu night) yn dangos sawl uned o drydan yr ydych wedi ei defnyddio tu allan i'r cyfnod brig. Mae'r rhes isaf (sy'n dweud normal neu day) yn dangos sawl uned o drydan yr ydych wedi ei defnyddio yn ystod y cyfnod brig.

I ddarllen y mesurydd, darllenwch y rhes uchaf a'r rhes isaf:

  • cofnodwch y rhifau a ddangosir o'r chwith i'r dde
  • anwybyddwch y rhif(au) diwethaf sydd efallai'n goch.

Mesurydd digidol dwy gyfradd

Two rate digital meters

Yn y diagram, y darlleniadau fyddai 75085 a 48124.

Mae angen i chi roi'r ddau ddarlleniad i'ch cwmni cyflenwi.

Mesurydd un rhif dwy gyfradd

Gyda rhai mesuryddion dwy gyfradd dim ond un rhif digidol a ddangosir. Fe fyddan nhw naill ai'n arddangos darlleniadau'r gwahanol gyfraddau yn eu tro, neu fe fydd botwm y mae angen i chi ei bwyso er mwyn gweld y darlleniadau ar gyfer y cyfraddau gwahanol.

I ddarllen y mesurydd, nodwch y rhifau a ddangosir o'r chwith i'r dde, ymhob rhes.

Mesurydd un rhif dwy gyfradd

Two rate single display meter

Yn y diagram, y darlleniadau fyddai 24504 a 54250.

Mae angen i chi roi'r ddau ddarlleniad i'ch cwmni cyflenwi.

Mesurydd deial

Ar fesurydd deial mae yna bum deial, neu fwy, a phob un yn troi i bwyntio at rif o 0 i 9.
I ddarllen y mesurydd:

  • darllenwch y pum deial cyntaf o'r chwith i'r dde.
  • anwybyddwch y deial sy'n dweud 1/10 (os oes deial o'r fath gennych)
  • cofnodwch y rhif y mae'r pwyntiwr newydd ei basio

os yw'r pwyntiwr dros y rhif yn union, cofnodwch y rhif a'i danlinellu. Os ydych wedi tanlinellu rhif, darllenwch y deial nesaf ar y dde. Os yw'r pwyntiwr ar y deial yna ar rif 9, mae angen i chi ostwng y rhif yr ydych wedi ei danlinellu trwy dynnu un. Er enghraifft, os oes 6 ac yna 9, dylech newid y 6 i 5 a'i danlinellu.

Trydan ar fesurydd deial

Dial meter electric

Yn y diagram, darlleniad y mesurydd yw 15659.

Camau nesaf

Citizens Advice

Barnu'r dudalen hon Rhoi adborth