Pam mae hyn yn bwysig?
Nid ydych wedi cael bil ynni ers meitin
Rydych wedi'ch rhwymo'n gyfreithiol i dalu am y nwy a'r trydan yr ydych yn ei ddefnyddio yn eich cartref. Ond, mae yna reolau ynghylch yr hyn ddylai cwmnïau ynni ei wneud os nad ydynt wedi anfon bil atoch ers tipyn o amser.
Mae'r dudalen hon yn esbonio beth ddylech chi ei wneud os nad ydych wedi cael bil nwy neu drydan ers meitin.
Gair o gyngor
Tra'ch bod wedi ymdrechu i gysylltu â'ch cwmni cyflenwi, ni fydd yn medru anfon bil atoch am fwy na blwyddyn o ddefnydd ynni.Oes rhaid i chi dalu o hyd?
Os nad ydych wedi cael bil am eich cyflenwad nwy neu drydan ers tipyn, cysylltwch â'r cwmni sy'n cyflenwi'ch ynni i holi pam. Rhaid i chi dalu am unrhyw ynni yr ydych wedi ei ddefnyddio. Ond mae'n rhaid i gwmnïau cyflenwi ynni ddilyn rheolau penodol hefyd yn ymwneud â pha mor bell yn ôl fedran nhw fynd ar y bil. Gelwir hyn yn cod ôl-filio.
Yr hyn y maen nhw'n medru codi tâl amdano
Os ydych chi wedi gwneud ymdrech i gysylltu â'ch cwmni cyflenwi ond nid ydynt wedi darparu bil, ni fyddant yn medru codi tâl arnoch am ynni a ddefnyddiwyd fwy na blwyddyn yn ôl.
Os nad ydych wedi gwneud ymdrech resymol i gysylltu â'ch cwmni cyflenwi, neu os nad oeddech wedi cydweithredu ar eu ceisiadau am ddarllen y mesurydd, yna fe fydd cyfrifoldeb arnoch i dalu'r ddyled gyfan.
Gellir codi tâl ar gwsmeriaid busnes cyn belled yn ôl â'r dyddiad y dechreuodd y cyflenwad, os ydyn nhw wedi bod yn codi swm anghywir arnoch.
Ni ellir codi tâl arnoch am fwy na chwe blynedd o daliadau ynni wedi eu hôl-ddyddio, hyd yn oed os nad y cwmni cyflenwi sydd ar fai. Mae hyn yn berthnasol i gwsmeriaid domestig a busnes.
You cannot be charged for more than six years’ worth of back-billed energy charges, even if the supplier is not at fault. This applies to domestic and business customers.
Cysylltu â'ch cwmni cyflenwi
Os nad ydych wedi cael bil nwy neu drydan ers tipyn o amser, dylech gysylltu â'ch cwmni cyflenwi i ddweud wrthyn nhw nad ydych wedi cael bil.
Os ydych wedi bod yn ceisio cysylltu â'ch cwmni cyflenwi ers dros flwyddyn, dylech ddweud eich bod yn credu eich bod wedi eich amddiffyn gan y cod ymarfer ar ôl-filio ac y dylent godi tâl arnoch am ddefnydd blwyddyn yn unig. Os yw'ch cwmni cyflenwi'n ceisio anfon bil atoch am gyfnod hirach na hyn, a chithau wedi ymdrechu'n rhesymol i gysylltu â nhw, fe fyddwch yn medru cwyno.
Os nad ydych yn medru talu
Dylai cwmnïau cyflenwi gynnig cynllun talu i chi sy'n rhoi cyfle i chi ad-dalu unrhyw ddyled dros yr un cyfod o amser ag y mae wedi cronni. Er enghraifft, os nad oeddech wedi cael bil gan eich cwmni cyflenwi ers tair blynedd, dylech fod yn medru rhannu’r ad-daliadau dros dair blynedd.
Efallai na fyddwch yn medru newid eich cwmni cyflenwi hyd nes eich bod wedi talu'r ddyled sy'n weddill.
Camau nesaf
- Help ynghylch sut i gwyno am ôl-filio
- Yr hyn fedrwch chi ei wneud os nad ydych yn siwr pwy yw'ch cwmni cyflenwi
- Os oes angen help pellach arnoch
Gwybodaeth bellach
- Darllenwch y cod ymarfer ar gyfer ôl-filio yn www.energy-uk.org.uk.











