Pam mae hyn yn bwysig? Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei darparu yn amrywio o wlad i wlad. I gael gwybodaeth ar gyfer eich gwlad chi, dewiswch o'r ddewislen.

Newid cyflenwr nwy neu drydan

Mae llawer o gwmnïau’n cyflenwi nwy a thrydan. Mae angen iddynt gystadlu â’i gilydd i gael busnes. Golyga hyn yn aml fod bargeinion da i’w cael a gallech arbed arian trwy newid cyflenwyr.

Mae’r dudalen hon yn darparu rhestr wirio ddefnyddiol o’r camau sydd angen i chi eu gwneud i newid cyflenwr ynni.

Gair o gyngor

Pan fyddwch yn newid cyflenwr ynni, nid y pris yw’r unig beth y dylech fod yn ei ystyried.

Mae hefyd yn bwysig cymharu safonau gwasanaeth, mathau o gytundeb a sgoriau boddhad cwsmer.

Cyn i chi newid

Cyn i chi newid cyflenwr, dilynwch y camau hyn i sicrhau eich bod yn dewis y cyflenwr  iawn ar eich cyfer chi:

  • Mynnwch weld faint rydych yn ei dalu ar hyn o bryd ar gyfer eich nwy a thrydan
  • Gwiriwch y telerau ac amodau gyda’ch cyflenwr presennol i weld os oes cosb am ganslo eich cytundeb cyfredol – dyma’r sefyllfa sy’n debygol o fod os oes gennych gytundeb cyfnod penodol neu gytundeb pris penodol
  • Mynnwch weld pa fath o dariff sydd fwyaf addas i chi
  • Cymharwch y gwahanol dariff gan wahanol gyflenwyr
  • Meddyliwch am agweddau eraill o wasanaeth megis sut mae’r cyflenwr yn delio â chwynion, unrhyw gymhelliant neu ddisgownt, neu gostau penodol
  • Mynnwch weld pwy i gysylltu â hwy a beth sy’n digwydd pan fyddwch yn newid.

Pan fyddwch wedi dewis at bwy i newid

I sicrhau fod y newid yn digwydd yn esmwyth, dilynwch y camau hyn:

  • Cysylltwch â’r cyflenwr newydd a gofyn am gael newid. Byddant yn rhoi dyddiad i chi pan fydd eich cyflenwad yn cael ei newid
  • Dywedwch wrth eich cyflenwr presennol eich bod yn newid i’r cyflenwr newydd
  • Ar ddiwrnod y newid, bydd eich cyflenwr newydd yn gofyn i chi am ddarlleniad mesurydd, i sicrhau eich bod yn cael bil cywir am y swm cywir
  • Bydd eich cyflenwr newydd yn rhoi’r darlleniad hwn i’ch hen gyflenwr iddynt hwy roi bil i chi am unrhyw arian sy’n ddyledus
  • Bydd eich cyflenwr newydd yn rhoi gwybod i chi pa ddyddiad y bydd eich cytundeb yn dechrau gyda hwy
  • Mynnwch rifau cyswllt ar gyfer y ddau gyflenwr rhag ofn y bydd yn rhaid i chi alw’r naill neu’r llall yn ystod y broses

Faint o amser mae newid yn ei gymryd?

Gyda’r broses newid fel arfer tua thair wythnos, a 14 diwrnod ar ben hynny os oes cyfnod tawelu. Dylai’r ddau gyflenwr ynni gydweithio i sicrhau fod hyn yn digwydd yn esmwyth.

Os ydych yn cael unrhyw broblemau yn ystod y broses, ceisiwch eu datrys gyda’r cyflenwyr yn gyntaf. Os ydych yn dal i fod angen help, medrwch gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Citizens Advice

Barnu'r dudalen hon Rhoi adborth