Pam mae hyn yn bwysig?
Gair o gyngor ar brynu mewn ocsiwn ar-lein
Pan fyddwch chi'n prynu o ocsiwn ar y rhyngrwyd, efallai y bydd gennych lai o hawliau i'ch diogelu os digwydd i rywbeth fynd o'i le. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe fyddwch yn prynu gan unigolyn ac mae hyn yn cynyddu'r risg y gallech brynu nwyddau nad ydych yn hapus â nhw. Mae yna rai pethau fedrwch chi eu gwneud i ostwng y risg a chynyddu'ch siawns o gael bargen arbennig.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys cyngor ar brynu'r nwyddau yr ydych yn chwilio amdanynt mewn ocsiwn ar-lein.
Ceisiwch ddarganfod pwy yw'r gwerthwr
Mae'n bwysig gwybod gan bwy yr ydych yn prynu fel eich bod yn medru prynu'n ddiogel ac yn hyderus. Mae yna rai gwiriadau fedrwch chi eu gwneud i ddarganfod mwy o wybodaeth am y gwerthwr.
Holwch gwestiynau i'r gwerthwr ynglyn â'r nwyddau cyn i chi brynu
Fe fydd holi cwestiynau ynglyn â'r nwyddau yn eich helpu i benderfynu a ydych chi am eu prynu. Fe allech holi am:
- oed y nwyddau a'u cyflwr
- a ydyn nhw'n gweithio'n iawn
- a oes unrhyw ddifrod.
Os nad yw'r nwyddau yr ydych wedi eu cael y cyfateb i’r disgrifiad, efallai y byddwch yn medru cael eich arian yn ôl.
Chwiliwch i weld beth sydd ar gael
Nid ocsiynau ar-lein yw'r llefydd rhataf i brynu nwyddau bob tro. Chwiliwch mewn ambell siop arall i weld os fedrwch chi gael yr eitem yn rhatach yn rhywle arall.
Cymharwch y pris i weld os yw'n rhesymol
Sicrhewch fod y pris yn deg cyn i chi brynu. Mae gan rai gwefannau ocsiwn restr o werthiannau a gwblhawyd yn dangos faint oedd pris gwerthu eitemau tebyg. Fe allech chwilio am gynnyrch tebyg hefyd mewn siopau ar-lein eraill, i gymharu'r prisiau.
Sicrhewch fod y nwyddau'n rhai dilys
Gofynnwch i'r gwerthwr roi llun o'r eitem i chi a manylion fel rhif cyfresol. Byddwch yn medru gwirio'r rhif cyfresol yn annibynnol trwy wefan y gwneuthurwr. Po fwyaf o fanylion y bydd y gwerthwr yn medru eu rhoi i chi ynglyn â'r nwyddau, y mwyaf tebygol y maen nhw o fod yn rhai didwyll.
Darllenwch amodau a thelerau'r wefan i ddarganfod beth yw eich hawliau
Fe fyddwch yn cael gweld amodau a thelerau pan fyddwch chi'n cofrestru gyda'r safle ac fe fydd yn rhaid i chi gytuno gyda nhw. Fe allai'r amodau a thelerau gynnwys gwybodaeth ar:
- eich opsiynau os digwydd i rywbeth fynd o'i le gyda'r nwyddau
- a ydych chi'n medru canslo'ch cynnig
- sut mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r wefan
- unrhyw fesurau diogelu taliadau y mae'r wefan yn eu rhoi i chi
- pryd fyddwch chi wedi ymrwymo i brynu'r nwyddau
- beth ddylech chi ei wneud os oes cwyn gennych
Dulliau talu
Defnyddiwch ffordd ddiogel o dalu am y nwyddau. Cyn cynnig am eitem, ceisiwch ddarganfod pa fath o daliad y bydd y gwerthwr yn ei dderbyn. Dyma'r ffyrdd mwyaf diogel o dalu:
- cerdyn credyd os ydych yn prynu nwyddau dros £100
- cynllun diogelu taliadau, fel PayPal.
Os ydych yn defnyddio'r rhain, efallai y byddwch yn medru cael eich arian yn ôl os digwydd i chi gael problemau gyda'ch nwyddau.
Os ydych yn talu gyda siec neu unrhyw fath o drosglwyddiad ariannol, fel Western Union, nid oes fawr ddim i'ch diogelu os digwydd i rywbeth fynd o'i le gyda'r nwyddau neu os na fyddant yn cyrraedd.
Sicrhewch eich bod eisiau prynu'r nwyddau
Cofiwch, pan fyddwch chi'n gwneud cynnig, fel arfer mae'n eich rhwymo'n gyfreithiol. Mae hyn yn golygu, os ydych yn ennill y cynnig, y bydd yn rhaid i chi brynu'r nwyddau. Felly, sicrhewch eich bod eisiau prynu'r nwyddau, heb os, cyn i chi gynnig.











