Pam mae hyn yn bwysig?
Ystyr heb fod o ansawdd boddhaol
Pan fyddwch chi'n prynu rhywbeth, mae cyfraith defnyddwyr yn dweud bod yn rhaid i'r eitem fod o ansawdd boddhaol.
Yr enw ar y ddeddf sy'n rhoi'r hawl hwn i chi yw Deddf Gwerthu Nwyddau. Mae'n berthnasol dim ond pan fyddwch yn prynu rhywbeth fel defnyddiwr gan fusnes, ac nid gan werthwr preifat.
Mae’r dudalen hon yn esbonio ystyr ansawdd boddhaol. Fe fydd yn eich helpu i benderfynu a oes hawl gennych i gwyno ynghylch rhywbeth yr ydych wedi ei brynu.
Beth yw ystyr ansawdd boddhaol?
Mae nwyddau o ansawdd boddhaol os ydynt o safon y byddai rhywun rhesymol yn ei gweld fel safon foddhaol adeg eu prynu. Dylai hyn ystyried eu pris ac unrhyw beth arall sy'n ymddangos yn berthnasol, er enghraifft, a ydynt yn nwyddau ail law. Dylai’r nwyddau:
Fod yn addas at y diben
Dylai nwyddau fod yn addas at yr holl ddibenion y defnyddir y math yma o nwyddau ar eu cyfer fel arfer. Er enghraifft, rhaid bod peiriant tostio yn medru gwneud tost, a rhaid bod peiriant golchi dillad yn medru golchi dillad.
Fod ag ymddangosiad a gorffeniad boddhaol
Fe allwch ddisgwyl i eitem newydd gael ymddangosiad da a gorffeniad da. Os nad yw hyn yn wir, fwy na thebyg nad ydyw o ansawdd boddhaol, hyd yn oed os nad oes unrhyw ddiffygion eraill ganddi. Er enghraifft, nid yw car newydd sydd â chrafiadau neu ffrog newydd sy'n fudr yn y siop, o ansawdd boddhaol.
Os yw nwyddau'n ail law, yna ni fyddwch yn medru disgwyl i'w hymddangosiad a'u gorffeniad fod mor berffaith ag eitemau newydd.
Fod yn rhydd o namau bach
Fwy na thebyg nad yw rhywbeth sydd â namau bach o ansawdd boddhaol, hyd yn oed os oes modd trwsio'r namau. Er enghraifft, nid yw crys newydd sydd â botymau ar goll, o ansawdd boddhaol, hyd yn oed os oes modd gosod botymau newydd arno. Ni fyddai llestr sydd â tholc bach o ansawdd boddhaol chwaith.
Fod yn ddiogel i’w ddefnyddio
Nid yw rhywbeth sy'n anniogel o ansawdd boddhaol. Efallai bod gwerthwr sy'n gwerthu pethau sy'n anniogel hefyd yn troseddu a dylid ei riportio i Safonau Masnach.
Bara am gyfnod rhesymol o amser mewn cyflwr rhesymol
Nid yw'r gyfraith yn dweud am ba hyd, yn union, ddylai nwyddau bara. Y rheol gyffredinol yw y dylai nwyddau bara am gyfnod rhesymol ac mewn cyflwr rhesymol. Er enghraifft, dylai car newydd bara am sawl blwyddyn mewn cyflwr rhesymol ond efallai y bydd angen i chi newid rhai o'r cydrannau gydag amser.
Os nad yw nwyddau'n para cyhyd ag y dylent, fwy na thebyg nad oeddent o ansawdd boddhaol adeg eu prynu. Er enghraifft, os yw gwadn pâr o esgidiau yn dod i ffwrdd ar ôl ychydig wythnosau o dreulio arferol, mae hyn yn awgrymu nad oeddent o ansawdd boddhaol yn y lle cyntaf.
Efallai y bydd angen i chi gael barn arbenigwr ar ba mor hir y gellid disgwyl i eitem benodol bara fel arfer.
Hysbysebu a datganiadau gan fasnachwyr
Rhaid bod unrhyw honiadau a geir gan werthwyr neu wneuthurwyr ynglŷn ag ansawdd nwyddau mewn deunyddiau hysbysebu fel llyfrynnau, taflenni a hysbysebion mewn cylchgronau, yn wir. Os cawsoch eich perswadio i brynu rhywbeth oherwydd honiadau mewn deunydd hysbysebu sydd ddim yn wir yn y pendraw, gallwch ddefnyddio hyn fel tystiolaeth i gwyno nad yw’r nwyddau’n foddhaol.
Treulio bob dydd
Nid yw gwerthwr yn gyfrifol am dreulio teg, felly ni fyddwch yn medru honni bod nwyddau’n anfoddhaol dim ond am eu bod wedi treulio ychydig gydag amser. Er mwyn i nwyddau fod yn anfoddhaol, rhaid bod nam arnynt adeg eu prynu, hyd yn oed os nad oeddech wedi darganfod y nam tan yn nes ymlaen. Os nad yw’r nwyddau’n para cyhyd ag y dylent, mae hyn yn awgrymu bod nam arnynt o’r cychwyn cyntaf.
Namau y tynnwyd eich sylw atynt
Ni fyddwch yn medru honni nad yw eitem o ansawdd boddhaol os yw'r namau sydd arni yn rhai y dywedwyd wrthych amdanynt cyn i chi ei phrynu. Er enghraifft, os ydych yn prynu cot sydd â label yn dweud bod twll ynddi, ni fyddwch yn medru cwyno yn nes ymlaen am y twll.
Nid oes rhaid i chi archwilio eitemau cyn eu prynu. Mae hyn yn golygu, os nad ydych wedi sylwi bod rhywbeth o'i le cyn prynu eitem, y byddwch yn dal i fedru honni nad ydyw o ansawdd boddhaol. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os fyddech wedi gweld y nam petaech wedi archwilio'r eitem yn agos. Ond, os nad ydych yn cwyno'n gyflym iawn, efallai y bydd yn rhaid i chi dderbyn atgyweiriad, eitem arall yn lle, neu ad-daliad rhannol, yn hytrach nag ad-daliad llawn.
Beth fedrwch chi ei wneud os nad yw nwyddau o ansawdd boddhaol?
Os nad yw nwyddau o ansawdd boddhaol, efallai y bydd hawl gennych i'w dychwelyd at y gwerthwr a hawlio ad-daliad. Ond, efallai y byddwch yn colli'r hawl hwn os ydych wedi derbyn y nwyddau. Os yw hyn yn digwydd, byddwch yn dal i fedru gofyn i'r gwerthwr am atgyweiriad, eitem arall yn lle neu ad-daliad rhannol.
Camau nesaf
Darganfyddwch fwy am ddiogelwch
Darllenwch sut i gael barn arbenigwr
Darganfyddwch fwy am nwyddau a brynwyd yn y sêl











