Pam mae hyn yn bwysig?
Canslo archeb a werthwyd o bellter pan na fydd y cyfnod oeri'n berthnasol
Pan fyddwch chi'n prynu nwyddau neu wasanaethau dros y rhyngrwyd, dros y ffôn, drwy'r post neu oddi ar deletestun, mae gennych yr hawl i ganslo'ch contract am unrhyw reswm o fewn cyfnod penodol o amser i'w brynu. Gelwir hyn yn gyfnod oeri.
Mewn rhai sefyllfaoedd, nid oes cyfnod oeri. Ond efallai y byddwch yn dal i fedru canslo'r archeb.
Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych sut i ganslo'ch contract os nad yw'r cyfnod oeri cyfreithiol yn berthnasol i chi.
A yw'r cyfnod oeri'n berthnasol i chi?
Rydych yn medru canslo'ch contract am unrhyw reswm o fewn cyfnod oeri. Mae’r cyfnod oeri’n dod i ben saith niwrnod o’r diwrnod ar ôl i chi dderbyn nwyddau, neu saith niwrnod o’r diwrnod ar ôl i chi gytuno’n derfynol ar gontract am wasanaethau (14 niwrnod ar gyfer gwasanaethau ariannol). Gellir ymestyn y cyfnod hwn os nad ydych yn derbyn gwybodaeth ysgrifenedig benodol gan y masnachwr.
Mae yna rai nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu prynu o bellter ble nad oes hawl awtomatig gennych i gyfnod oeri.
Canslo'ch archeb a werthwyd o bellter o fewn y cyfnod oeri
Pryd nad ydych chi’n cael cyfnod oeri
Ydych chi'n medru canslo o dan amodau'ch contract?
Efallai y bydd y masnachwr wedi rhoi hawl i ganslo i chi fel rhan o'ch cytundeb. Darllenwch eich cytundeb i weld beth mae'n ei ddweud. Efallai eich bod wedi ei dderbyn mewn e-bost neu drwy'r post neu efallai mewn catalog archebu.
Os nad ydych wedi cael gwybodaeth ysgrifenedig am eich hawliau canslo, dylech ofyn i'r masnachwr amdani. Yn ôl y gyfraith, rhaid iddyn nhw roi'r wybodaeth hon i chi.
Os yw'ch cytundeb yn dweud nad ydych yn medru canslo
Efallai na fydd eich cytundeb yn gadael i chi ganslo unwaith fydd y cyfnod oeri wedi dod i ben. Os yw hyn yn wir, gallech ofyn i'r masnachwr os yw'n fodlon i chi ganslo o hyd, fel arwydd o ewyllys da.
Os yw'n fodlon i chi ganslo, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi i'r masnachwr. Er enghraifft, ffi canslo.
Sut i ganslo'ch contract
I ganslo'ch contract, dylech anfon llythyr at y masnachwr yn dweud eich bod eisiau canslo. Rydych yn medru canslo trwy'r post, trwy'r e-bost, y ffacs neu gyda llaw yn y cyfeiriad gwybyddus diwethaf.
Dylai'ch llythyr gynnwys:
- eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt
- yr hyn yr oeddech wedi ei brynu a phryd
- eich bod am ganslo nwyddau neu wasanaethau yn ôl eich hawliau a gofnodwyd yn y contract neu fel y cytunwyd gyda'r masnachwr
- eich bod yn disgwyl ad-daliad llawn os ydych eisoes wedi talu
- cais am gadarnhad ysgrifenedig fod y contract wedi cael ei ganslo.
Pan fyddwch chi'n anfon llythyr trwy'r post, cofiwch ei anfon trwy bost cofrestredig fel bod prawf gennych i chi ei bostio a phrawf o'r dyddiad y mae'r masnachwr yn derbyn y llythyr.
Ffioedd canslo
Mae masnachwr yn cael codi ffi canslo arnoch. Enw arall ar hyn yw ffi weinyddol.
Cael eich arian yn ôl
Os ydych yn cael canslo'ch contract, dylech gael eich holl arian yn ôl o fewn cyfnod rhesymol. Darllenwch eich contract i weld pa fath o ad-daliad fedrwch chi ei gael. Er enghraifft, efallai y byddwch yn medru cael ad-daliad rhannol yn unig, neu efallai na fydd eich ad-daliad yn cynnwys costau dosbarthu.
Nwyddau sydd wedi eu rhan-gyfnewid
Os oeddech wedi rhoi nwyddau i'r masnachwr yn rhan-gyfnewid, dylai eu dychwelyd i chi mewn cyflwr da. Ond, darllenwch eich contract i weld beth yw eich hawliau.
Os oes rhywbeth o'i le gyda'r nwyddau neu wasanaethau a brynwyd gennych
Os ydych wedi prynu rhywbeth sy'n ddiffygiol, efallai y byddai'n well i chi ofyn am eich hawl cyfreithiol i gael ad-daliad, eitem arall yn lle, atgyweiriad neu iawndal, yn lle canslo'ch contract.
Os aeth rhywbeth o'i le gyda gwasanaeth
Camau nesaf
Dychwelyd y nwyddau at y masnachwr - eich cyfrifoldebau a chostau











