Pam mae hyn yn bwysig?
Mae'r car yr ydych wedi ei brynu wedi cael ei ddwyn
Mae'n drosedd i ddeliwr neu werthwr preifat werthu car neu gerbyd arall sydd wedi ei ddwyn. Os ydych wedi prynu car sydd wedi cael ei ddwyn, fwy na thebyg y bydd yn rhaid i chi roi'r car yn ôl. Ni fyddwch yn cael eich arian yn ôl yn awtomatig nac unrhyw iawndal.
Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth fedrwch chi ei wneud os yw'r car yr ydych wedi ei brynu wedi cael ei ddwyn.
Sut ydych chi'n gwybod os yw'r car yr ydych wedi ei brynu wedi cael ei ddwyn?
Efallai y bydd car sydd wedi ei ddwyn wedi cael ei newid i ddynwared car arall. Yn Saesneg, y term am hyn yw 'ringer'. Fel arfer, bydd yn dynwared car sydd ar yr heol ar hyn o bryd neu gar sydd wedi cael ei sgrapio neu ei losgi yn dilyn damwain.
Mae'n anodd gwybod os yw car yn dynwared car arall heb wirio hanes y car. Efallai y byddwch yn darganfod hyn os fyddwch chi'n cael damwain neu os yw'r car yn cael ei archwilio gan yr heddlu.
Dyma arwyddion rhybudd eraill a allai awgrymu bod car wedi ei ddwyn:
- nid oedd y gwerthwr yn medru rhoi'r ddogfen gofrestru (V5C) i chi
- mae yna gamgymeriadau sillafu ar y V5C neu nid oes dyfrnod arni
- nid yw'r enw a'r cyfeiriad ar y V5C yn cyfateb i'r manylion a gawsoch gan y gwerthwr
- nid yw'r rhifau adnabod ar y car yn cyfateb i'r rhifau ar y V5C
- mae gwydr sydd â rhifau adnabod wedi ei grafu arno wedi cael ei ddifrodi neu mae rhywun wedi ymyrryd ag ef.
Ydych chi wedi troseddu?
Mae trafod nwyddau sydd wedi eu dwyn yn drosedd, ond nid ydych yn debygol o gael eich arestio os nad oeddech yn gwybod bod y car wedi cael ei ddwyn.
Dywedwch wrth yr heddlu cyn gynted ag y byddwch chi wedi darganfod eich bod wedi prynu car sydd wedi ei ddwyn, neu cyn gynted ag y byddwch chi'n amau hyn, a pheidiwch â'i ddefnyddio. Os nad ydych yn ei riportio ac rydych yn parhau i'w yrru, gellir eich arestio chi am drafod nwyddau sydd wedi eu dwyn.
Os ydych chi am geisio cael eich arian yn ôl
Os ydych chi am gael eich arian yn ôl, fe fydd yn rhaid i chi ddwyn achos llys yn erbyn y sawl a werthodd y car i chi. Mae'n eithaf anodd i chi wneud hyn, oherwydd fe fydd angen i chi fedru dod o hyd i'r sawl sydd wedi ei werthu i chi. Mae hefyd yn medru bod yn broses araf a drud.
Mynnwch gyngor cyfreithiol annibynnol cyn i chi ddechrau dwyn achos llys.
Os ydych chi am geisio cadw'r car
Os ydych chi am gadw'r car, fe fydd angen i chi ddangos bod hawl gennych i fod yn berchennog ar y car. Gelwir hyn yn hawl da i'r cerbyd. Fe fydd yn rhaid i chi fynd i'r llys ac fe fydd barnwr yn penderfynu a ddylid caniatáu i chi gadw'r car ai peidio. Mae proses y llys yn medru bod yn un hir ac mae'n debygol y caiff y car ei atafaelu hyd nes y ceir penderfyniad.
Dyma faes cymhleth iawn o'r gyfraith ac mae'n medru bod yn araf ac yn gostus. Mynnwch gyngor cyfreithiol annibynnol cyn i chi ddechrau dwyn achos llys.











