Pam mae hyn yn bwysig?
Fel arfer, nid yw pobl sy'n dod i'r Deyrnas Unedig i weithio yn medru cael arian cyhoeddus. Mae 'arian cyhoeddus' yn golygu y rhan fwyaf o fudd-daliadau lles a thai'r awdurdod lleol. Efallai y byddwch yn medru cael triniaeth rad ac am ddim ar y GIG ac fe fydd eich plant yn cael mynd i ysgol y wladwriaeth.
Ond, os ydych o wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), mae'r rheolau'n wahanol. Mae gan ddinasyddion yr AEE yr hawl i beidio â chael eu trin yn waeth na dinesydd o Brydain. Dyma restr o wledydd yn yr AEE:
Awstria
Gwlad Belg
Bwlgaria
Gweriniaeth Tsiec
Cyprus (y rhan ddeheuol)
Denmarc
Estonia
y Ffindir
Ffrainc (gan gynnwys Giana, Guadeloupe, Martinique a Reunion)
yr Almaen
Groeg
Hwngari
Gwlad yr Ia
Yr Eidal
Latfia
Lithwania
Liechtenstein
Lwcsembwrg
Malta
Yr Iseldiroedd
Norwy
Gwla Pwyl
Portiwgal
Gweriniaeth Iwerddon (Eire)
Romania
Slofacia
Slofenia
Sbaen
Sweden
Y Deyrnas Unedig
Hyd yn oed os ydych yn dod o un o'r gwledydd hyn, ni fyddwch yn cael budd-daliadau'n awtomatig. Er enghraifft, os ydych yn chwilio am waith yn yr AEE ac nid ydych wedi gweithio yn y Deyrnas Unedig, ni fyddwch yn medru hawlio budd-daliadau fel Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm, Budd-dal Plant, Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor. Ond os ydych yn weithiwr yn yr AEE sydd wedi cael eich cyflogi yn y Deyrnas Unedig cyn colli eich gwaith, efallai y byddwch yn medru hawlio budd-daliadau tra'n chwilio am waith newydd. Mae hyn yn dibynnu o ba wlad yn yr AEE yr ydych yn dod ac am ba mor hir yr ydych wedi bod yn gweithio yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r rheolau ynghylch hawlio budd-daliadau dramor yn gymhleth iawn a dylech gael help cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae yna ganllawiau defnyddiol i fudd-daliadau yn yr AEE ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rhowch glic ar www.dwp.gov.uk.
Mae yna wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Directgov hefyd ynghylch budd-daliadau penodol os ydych yn dod o dramor. Rhowch glic ar www.direct.gov.uk.