Pam mae hyn yn bwysig? Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei darparu yn amrywio o wlad i wlad. I gael gwybodaeth ar gyfer eich gwlad chi, dewiswch o'r ddewislen.

Yswiriant gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Yswiriant gwladol

Mae yswiriant gwladol yn gynllun lle mae pobl sy’n gweithio yn talu taliadau o’r enw yswiriant gwladol allan o’u henillion. Mae rhai budd-daliadau penodol yn dibynnu ar gyfraniadau yswiriant gwladol, ac fe fyddwch ond yn medru eu cael nhw os ydych yn cwrdd â’r amodau yswiriant gwladol. Mae cyfraniadau yswiriant gwladol hefyd yn mynd tuag at gostau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Caiff y cynllun yswiriant gwladol ei weinyddu gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CAThEM).

Os ydych yn hawlio budd-dâl neu gredyd treth, fe fydd angen rhif yswiriant gwladol arnoch. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os nad ydyw’n fudd-dâl sy’n dibynnu ar gyfraniadau yswiriant gwladol. Fe fydd angen i chi roi eich rhif yswiriant gwladol hefyd mewn amgylchiadau eraill, er enghraifft, pan fyddwch chi’n cael swydd newydd.

<Nôl i’r brig

Rhifau yswiriant gwladol

Mae rhif yswiriant gwladol (RHYG) yn rhif sy’n unigryw i chi ac fe’i defnyddir i gadw cofnod o’ch cyfraniadau yswiriant gwladol a’r budd-daliadau a delir i chi. Mae’r rhif yn cynnwys dwy lythyren, chwe rhif ac un llythyren, er enghraifft, AB 123456 C. Ni ddylech adael i unrhyw un arall ddefnyddio eich rhif.

Os ydych yn berson ifanc sy’n iau nag 16 sy’n byw yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae eich rhiant â hawl i Fudd-dâl Plant ar eich cyfer, fe fyddwch yn cael eich cofrestru yn awtomatig ar gyfer yswiriant gwladol, ac anfonir cerdyn yswiriant gwladol atoch yn dangos eich rhif, ychydig cyn eich pen-blwydd yn 16eg. Os na fyddwch yn cael eich rhif yn awtomatig, fe allwch gysylltu â Llinell Gymorth Cofrestriadau Yswiriant Gwladol ar 0845 915 7006 i gael cyngor. Os yw’ch rhiant yn hawlio Budd-dâl Plant ar eich cyfer chi, hyd yn oed os yw wedi dewis peidio â’i dderbyn, er mwyn osgoi’r dreth Budd-dâl Plant at gyfer Incwm Uchel, dylech gael rhif yswiriant gwladol o hyd. Am fwy o wybodaeth ar dreth Budd-dâl Plant ar gyfer Incwm Uchel, gweler Budd-dâl plant a threth os oes incwm uchel gennych.

Nid oes hawl cyfreithiol gennych i rif yswiriant gwladol, ond rydych yn rhwym yn gyfreithiol i ofyn am un os ydych yn dechrau gweithio, neu os ydych chi (neu eich partner) yn hawlio budd-dâl.

Dod o hyd i’ch rhif yswiriant gwladol

Os ydych yn credu bod rhif yswiriant gwladol gennych, ond nid ydych yn siŵr beth ydyw, efallai y byddwch yn medru dod o hyd iddo ar ddogfennau fel:

  • slipiau cyflog
  • datganiadau diwedd blwyddyn o’r dreth a’r yswiriant gwladol a dynnwyd o’ch cyflog (ffurflen P60)
  • llythyron yn nodi penderfyniadau ynghylch budd-daliadau.

Mae angen i chi roi eich rhif yswiriant gwladol pan fyddwch yn hawlio budd-dâl neu gredyd treth neu’n dechrau swydd. Os nad ydych yn gwybod beth ydyw, dylech roi gwybodaeth fel eich enw, cyfeiriadau lle’r ydych wedi byw, cyfeiriadau eich cyflogwr ac unrhyw wybodaeth arall a fydd yn eich helpu i ddangos pwy ydych chi. Fe fydd hyn yn helpu’r swyddfa budd-daliadau neu gredyd treth i ddod o hyd i’ch rhif, neu i ddechrau’r broses ar gyfer cael rhif os nad oes un gennych.

Fe fyddwch yn medru gofyn am help i ddod o hyd i’ch rhif gan eich swyddfa budd-daliadau agosaf neu Swyddfa Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol). Fe fyddwch hefyd yn medru ffonio Llinell Gymorth Cofrestriadau Yswiriant Gwladol ar 0845 915 7006.

Dweud am unrhyw newidiadau

Dylech ddweud wrth Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol CAThEM os ydych yn:

  • symud
  • newid eich enw
  • priodi neu gofrestru partneriaeth sifil
  • ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil
  • colli eich gŵr, gwraig neu bartner sifil.

Fe fydd hyn yn gymorth i CAThEM ddiweddaru eich cofnod cyfraniadau yswiriant gwladol a chysylltu â chi os oes angen. Mae hefyd yn golygu eu bod yn medru cysylltu â chi ynglŷn â hawlio pensiwn ymddeol y wladwriaeth ychydig cyn i chi gyrraedd oed ymddeol y wladwriaeth.

Fe allwch ddweud wrthyn nhw am newid i’ch enw neu gyfeiriad trwy ddefnyddio gwasanaeth e-bost CAThEM yn: www.hmrc.gov.uk, neu ffoniwch Llinell Gymorth Yswiriant Gwladol ar 0845 302 1479 (ffôn testun 0845 915 3296).

Gofyn am rif yswiriant gwladol

Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych ac rydych angen un, dylech ffonio rhif ffôn Rhif Yswiriant Gwladol National Employment ar 0845 600 0643 i drefnu cyfweliad (ffôn testun: 0845 600 0644. Fe fydd y cyfweliad yma mewn swyddfa a bydd yn ceisio sefydlu pwy ydych chi ac fe fydd angen i chi brofi pwy ydych chi.Fe fyddwch yn medru gwneud hyn trwy fynd â dogfennau fel tystysgrif geni, trwydded gyrru, cerdyn adnabod cenedlaethol a llythyron gan y Swyddfa Gartref. Mae enghreifftiau eraill o ddogfennau derbyniol ar GOV.UK.

Rhaid bod y dogfennau yn rhai gwreiddiol, nid llungopïau. Fe fyddan nhw’n holi cwestiynau i chi ynghylch ble’r ydych wedi byw a pha swyddi yr ydych wedi eu gwneud.

Ni fyddwch yn cael rhif hyd nes y bydd y swyddfa yn fodlon eich bod wedi profi pwy ydych chi. Efallai y bydd rhai pobl yn cael problemau am nad yw’r dogfennau ganddynt sydd fel arfer yn cael eu derbyn fel tystiolaeth. Ni ddylid gwrthod rhoi budd-daliadau i chi am nad oes unrhyw ddogfennau gennych. Efallai y byddwch yn medru rhoi manylion pobl eraill sy’n medru cadarnhau’r ffeithiau amdanoch, er enghraifft, cyfreithiwr neu grŵp cymunedol.

Fe fydd disgwyl hefyd i chi ddarparu tystiolaeth i brofi bod hawl gennych i weithio yn y Deyrnas Unedig. Os nad oes hawl gennych i weithio yn y Deyrnas Unedig, ni fydd hawl gennych i gael rhif yswiriant gwladol.

Os ydych yn cael trafferth wrth ofyn am rif yswiriant gwladol, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

<Nôl i’r brig

Pryd mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau yswiriant gwladol

Byw a gweithio yn y Deyrnas Gyfunol

Fel arfer, fe fyddwch chi ond yn gorfod talu cyfraniadau yswiriant gwladol os ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig ym Mhrydain Fawr neu Ogledd Iwerddon ac os ydych yn byw yma. Ond, mae yna sefyllfaoedd lle mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau yswiriant gwladol tra’ch bod yn gweithio dramor, neu fe allwch ddewis gwneud hynny.

Rwy'n weithiwr ymfudol o Bortiwgal ac yn gweithio yma ar gytundebau dros dro. A oes rhaid i mi dalu cyfraniadau yswiriant gwladol yn y wlad hon?

Os ydych yn dod o Bortiwgal, nid oes angen i chi dalu cyfranidaau yswiriant gwladol, tra bod gennych dystysgrif gyfredol o wlad eich cartref yn cadarnhau eich bod yn talu yswiriant gwladol yno. Mae hyn am fod Portiwgal yn un o wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Gwledydd yn yr AEE yw gwledydd yr Undeb Ewropeaidd a Liechtenstein, Gwlad yr Iâ a Norwy.

I ddarganfod pa wledydd sydd yn yr Undeb Ewropeaidd, ewch at Yr Undeb Ewropeaidd.

Os ydych yn gweithio dramor, ne mae gennych gyflogwr tramor neu rydych yn dod o wlad AEE ac nid ydych yn siŵr a ddylech fod yn talu cyfraniadau yswiriant gwladol, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Am ragor o wybodaeth, yng Nhymru ac yn Lloegr, am eich hawliau yn y DU os ‘dych chi’n dod o wlad sy’n rhan o’r AEE, gweler AEE: eich hawliau yn y DU, ar wefan Advicenow yn: www.advicenow.org.uk.

Iau nag oed pensiwn

Rhaid i chi dalu cyfraniadau yswiriant gwladol tra’ch bod yn gweithio ac o dan oed pensiwn, os ydych yn ennill mwy na swm penodol a elwir yn derfyn sylfaenol. Nid ydych yn eu talu os ydych o dan 16, ac rydych yn stopio eu talu pan fyddwch chi’n cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth. Os ydych yn hunangyflogedig, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhai cyfraniadau Dosbarth 4 ar ôl i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, gan ddibynnu ar eich enillion.

Efallai y byddwch yn medru parhau i gael credydau yswiriant gwladol os ydych yn ddyn sydd:

  • ddim yn gweithio
  • yn iau na 65, ond
  • wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth menyw sydd â’r un dyddiad geni â chi, neu rydych dros yr oed yma.

Am fwy o wybodaeth ynghylch oed pensiwn y wladwriaeth, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

Os ydych yn gyflogedig ac yn iau nag oed pensiwn

Os ydych yn gyflogedig ac yn iau nag oed pensiwn, rhaid i chi dalu cyfraniadau yswiriant gwladol Dosbarth 1 ar ran o’ch enillion. Mae'r swm yr ydych yn ei dalu'n dibynnu faint yr ydych yn ei ennill. Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw gyfraniadau os yw'ch enillion yn llai na swm penodol a elwir yn derfyn sylfaenol. Hefyd, os nad ydych yn cael llawer o dâl, efallai y cewch gyfraniadau yswiriant gwladol wedi eu hychwanegu at eich cofnod o gyfraniadau.

Mae’r terfynau hyn ar enillion yn newid bob blwyddyn, fel arfer ym mis Ebrill.

Os oes mwy nag un swydd gennych gyda chyflogwyr gwahanol, rhaid i chi dalu cyfraniadau yswiriant gwladol ar bob cyflogaeth ble mae eich enillion yn fwy na therfyn penodol. Ond, os oes gennych fwy nag un swydd â chyflog isel efallai na fydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau yswiriant gwladol o gwbl. Mae hyn am fod enillion pob swydd yn cael eu trin ar wahân, ac os yw’r ddau yn is na’r trothwy cynradd ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw yswiriant gwladol.

Os ydych am weld beth yw’r terfynau enillion rhowch glic ar wefan Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn www.hmrc.gov.uk neu holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth.

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn iau nag oed pensiwn

Os ydych yn hunangyflogedig, rhaid i chi dalu cyfraniadau yswiriant gwladol onid yw’ch enillion yn fach iawn ac rydych wedi gofyn am dystysgrif sy’n eich eithrio rhan talu yswiriant gwladol (gweler y pennawd Cyfraniadau Dosbarth 2).

Eich cofnod o gyfraniadau yswiriant gwladol

Defnyddir eich cofnod cyfraniadau i benderfynu a oes hawl gennych i fudd-daliadau sy’n seiliedig ar gyfraniadau, os ydych yn eu hawlio. Yn benodol, fe’i defnyddir i benderfynu faint o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth. Caiff eich cofnod cyfraniadau ei ganfod wrth eich rhif yswiriant gwladol (RhYG).

Am fwy o wybodaeth ynghylch oed pensiwn y wladwriaeth, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

Talu cyfraniadau hwyr

Os nad ydych wedi talu cyfraniadau pan ddylech fod wedi eu talu, gellir gofyn i chi eu talu yn nes ymlaen, ac fe ellir eich dirwyo neu eich erlyn. Os oeddech yn gyflogedig, cyfrifoldeb eich cyflogwr yw tynnu cyfraniadau a’u talu i CAThEM, ond os oeddech chi a’ch cyflogwr wedi cynllwynio i osgoi talu, gellir eich erlyn.

Mae cyfraniadau hwyr yn dal i fedru cyfrif tuag at fudd-daliadau sy’n seiliedig ar gyfraniadau os cant eu talu o fewn terfynau amser penodol.

Os nad yw’ch cofnod yswiriant gwladol yn gyflawn, er enghraifft, am eich bod yn astudio, efallai y penderfynwch dalu cyfraniadau gwirfoddol (gweler hefyd y pennawd Cyfraniadau Dosbarth 3). Fe fydd angen i chi ystyried a fydd y cyfraniadau yn eich helpu i fod yn gymwys am unrhyw fudd-daliadau.Dylech gofio bod y nifer o flynyddoedd y mae angen i chi fod wedi talu cyfraniadau er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Pensiwn Ymddeol sylfaenol y Wladwriaeth yn gostwng i 30 mlynedd os ydych yn ddyn neu'n fenyw a fydd yn cyrraedd oed ymddeol ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010.

Os ydych yn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth rhwng 6 Ebrill 2008 a 5 Ebrill 2015, mae gennych fwy o amser nawr i dalu cyfraniadau gwirfoddol hwyr er mwyn cael Pensiwn Ymddeol llawn gan y Wladwriaeth. Fe fyddwch yn gymwys amdano dim ond os oes gennych 20 mlynedd gymwys o gyfraniadau yswiriant gwladol yn barod. Rydych yn medru talu am chwe mlynedd ychwanegol, ond rhaid i chi wneud hyn o fewn chwe mlynedd i gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth. Dylai’r rheolau newydd fod yn arbennig o fanteisiol i chi os ydych yn fenyw yn eich pumdegau.

Os nad ydych wedi talu cyfraniadau pan ddylech fod wedi gwneud hynny, neu os ydych yn ystyried talu cyfraniadau hwyr am reswm arall, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Dosbarthiadau cyfraniadau yswiriant gwladol

Mae yna chwe dosbarth gwahanol ar gyfer cyfraniadau yswiriant gwladol, ond cyflogwyr yn unig sy’n talu dau ohonynt. Mae’r dosbarth yr ydych yn ei dalu yn dibynnu os ydych yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu’n talu cyfraniadau gwirfoddol i lenwi bylchau yn eich cofnod cyfraniadau. Mae yna gyfraniadau hefyd y mae’n rhaid i gyflogwr eu talu ar gyfer pob un sy’n gyflogedig ganddo/ganddi.

Cyfraniadau Dosbarth 1

Rhaid i chi dalu yswiriant gwladol Dosbarth 1 yn yr achosion canlynol:

  • rydych yn weithiwr sy’n iau nag oed pensiwn y wladwriaeth, ac
  • rydych yn ennill mwy na swm penodol bob wythnos. Gelwir hyn yn derfyn sylfaenol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch oed pensiwn y wladwriaeth, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

Mae eich cyflogwr hefyd yn talu cyfraniadau Dosbarth 1 ar gyfer pob person cyflogedig. Mae eich cyflogwr yn tynnu cyfraniadau Dosbarth 1 o’ch cyflog. Bob tro y cewch eich talu, dylai’ch cyflogwr roi datganiad cyflog i chi yn rhestru’r holl ddidyniadau a dynnwyd o’ch cyflog. Rhaid i’ch cyflogwr wneud y didyniadau hyn a’u talu i Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ynghyd â’r:

  • cyfraniadau y maen rhaid iddyn nhw eu talu ar eich rhan
  • eich treth incwm.

Unwaith y byddwch yn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, fe fyddwch yn medru gofyn am dystysgrif eithriad oedran gan swyddfa CAThEM (Cyfraniadau Yswiriant Gwladol) i’w rhoi i’ch cyflogwr er mwyn iddo stopio tynnu eich cyfraniadau o’ch cyflog. Ond, fe fydd yn rhaid i’ch cyflogwr barhau i dalu cyfraniadau cyflogwr ar eich cyfer tra’ch bod yn gweithio.

Mae cyfraniadau yswiriant gwladol Dosbarth 1 yn ganran o’ch cyflog, dros y terfyn cynradd. Mae canrannau gwahanol yn berthnasol, gan ddibynnu ar swm eich enillion.

Os ydych yn ennill llai na’r trothwy cynradd, nid ydych yn talu unrhyw yswiriant gwladol. Bydd cyfraniadau yswiriant gwladol yn cael eu hychwanegu at eich cofnod tra’ch bod yn ennill o leiaf cymaint â’r terfyn enillion is.

Mae lefel y cyfraniadau Dosbarth 1 yr ydych yn eu talu fel gweithiwr yn dibynnu a ydych chi’n cyfrannu at bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth (wedi’i gontractio i mewn), neu’n cyfrannu at gynllun cyflogwr sydd wedi’i gontractio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Os ydych mewn cynllun pensiwn personol, rydych yn talu cyfraniadau wedi’u contractio i mewn, ond fe fydd CAThEM hefyd yn talu i mewn i’ch cynllun pensiwn.

Os ydych am weld beth yw’r terfyn enillion is, y trothwy cynradd, y terfyn enillion uwch a’r canran o’ch cyflog a dynnir ar gyfer yswiriant gwladol, ewch at wefan CAThEM neu holwch gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth.

Cyfraniadau Dosbarth 1A

Telir Cyfraniadau Dosbarth 1A gan eich cyflogwr os ydych yn cael rhai buddion gyda’ch swydd - er enghraifft, car cwmni. Rhaid talu Cyfraniadau Dosbarth 1A dim ond os ydych yn gyfarwyddwr cwmni neu os yw’r buddion a gewch gyda’ch swydd yn fwy na swm penodol bob blwyddyn.

Cyfraniadau Dosbarth 1B

Telir Cyfraniadau Dosbarth 1B gan eich cyflogwr os oes rhaid iddynt fynd i mewn i gytundebau ardrefniant Talu Wrth Ennill gyda CATHEM i dalu treth.

Cyfraniadau Dosbarth 2

Rydych yn talu Cyfraniadau Dosbarth 2 os ydych yn hunangyflogedig. Os yw’ch enillion yn is na therfyn penodol (o’r enw terfyn eithriad enillion bach), nid oes rhaid i chi dalu cyfraniadau, ond rhaid i chi ofyn i CAThEM er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr eithriad. Fe allwch ddewis talu Cyfraniadau YG yn wirfoddol hyd yn oed os yw’ch enillion yn is na’r terfyn, fel nad oes bylchau yn eich cofnod cyfraniadau. Gan ddibynnu ar lefel eich elw, efallai hefyd y bydd yn rhaid i chi dalu Cyfraniadau Dosbarth 4 (gweler y pennawd Cyfraniadau Dosbarth 4).

Os ydych am weld beth yw cyfradd Cyfraniadau Dosbarth 2 yswiriant gwladol neu’r terfyn eithriad enillion bach, ewch at wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn www.hmrc.gov.uk. Rhaid i chi gysylltu â CAThEM os dewch yn hunangyflogedig fel y medrwch ddechrau talu Cyfraniadau Dosbarth 2. Dylech gysylltu â HMRC o fewn tri mis i’r dyddiad y daethoch yn hunangyflogedig. Fel arfer, fe fyddwch yn talu cyfraniadau trwy ddebyd uniongyrchol bob mis, neu mewn banc neu swyddfa bost. Os oes rhaid i chi eu talu ac nid ydych yn gwneud hynny, fe all CAThEM gymryd camau cyfreithiol i adfer unrhyw gyfraniadau sydd heb eu talu.

Cyfraniadau gostyngol i fenywod priod a gweddwon

Mae gan rai menywod priod a gweddwon yr hawl i dalu llai o gyfraniadau. Fe fydd gennych yr hawl hwn os ydych wedi cyflwyno cais ar ffurflen swyddogol cyn 21 Mai 1977. Ni all unrhyw un gymryd yr hawl hwn nawr.

Os ddewisoch chi dalu llai o gyfraniadau, fe fyddwch yn talu llai o Yswiriant gwladol Dosbarth 1, ac os ydych yn hunangyflogedig nid oes rhaid i chi dalu Cyfraniadau Dosbarth 2. Ond, mae’n golygu na fyddwch yn medru cael budd-daliadau cyfrannol ac efallai y cewch lai o Bensiwn Ymddeol wedi i chi ymddeol. Mae eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu CAThEM (swyddfa cyfraniadau YG) yn medru rhoi cyngor i chi ynghylch sut mae talu llai o gyfraniadau yn effeithio ar eich Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth,

Rydych yn medru dewis dechrau talu cyfraniadau ar y gyfradd safonol trwy gysylltu â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu CAThEM (Cyfraniadau YG). Gellir trin rhai menywod ar enillion isel, sy'n ildio'r gyfradd ostyngol, fel petaent yn talu cyfraniadau cyfradd lawn heb dalu unrhyw beth o gwbl. Fe fyddan nhw hefyd yn medru rhoi cyngor i chi ynghylch sut y bydd yn effeithio ar faint o bensiwn ymddeol y wladwriaeth a gewch. Fe fydd angen i chi lenwi ffurflen os ydych yn penderfynu ildio eich hawl i lai o gyfraniadau.

Os ydych yn fenyw ac yn credu bod hawl gennych i dalu llai o gyfraniadau ac efallai eich bod am newid hyn, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf

Cyfraniadau Dosbarth 3 (gwirfoddol)

Yn bennaf, mae Cyfraniadau yswiriant gwladol Dosbarth 3 yn gyfraniadau gwirfoddol yr ydych yn medru dewis eu talu os nad oes rhaid i chi dalu unrhyw gyfraniadau gorfodol, er enghraifft, os yw’ch enillion yn isel. Mae credydau i rieni a chynhalwyr hefyd yn gyfraniadau Dosbarth 3. Rydych yn medru dewis talu cyfraniadau Dosbarth 3 i helpu llenwi bylchau yn eich cofnod cyfraniadau yswiriant gwladol. Efallai y bydd CAThEM yn cysylltu â chi i awgrymu eich bod yn gwneud hyn, ond os ydych chi’n credu y gallai fod bylchau yn eich cofnod, fe allwch gysylltu â nhw. Mae’n arbennig o bwysig os ydych yn credu y bydd yn effeithio ar faint o bensiwn ymddeol y wladwriaeth a gewch.

Dylech gofio fod y nifer o flynyddoedd y mae angen i chi fod wedi talu cyfraniadau er mwyn cael Pensiwn Ymddeol sylfaenol y Wladwriaeth, yn gostwng i 30 mlynedd os ydych yn ddyn neu’n fenyw sydd yn mynd i gyrraedd oed ymddeol ar 6 Ebrill 2010, neu ar ôl y dyddiad yma.

Os ydych am weld beth yw cyfradd y cyfraniadau yswiriant gwladol Dosbarth 3 ewch at wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yn www.hmrc.gov.uk neu gysylltwch â'ch swyddfa CAThEM (Cyfraniadau YG) agosaf.

Os ydych eisiau cyngor ynghylch talu Cyfraniadau Dosbarth 3, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Cyfraniadau Dosbarth 4

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Cyfraniadau Dosbarth 4 os ydych yn hunangyflogedig ac mae eich elw dros swm penodol bob blwyddyn. Fe fyddwch yn talu’r rhain gyda’ch treth incwm fel arfer.

Os ydych am weld beth yw cyfradd Cyfraniadau Dosbarth 4 a lefel eich elw cyn y bydd yn rhaid i chi eu talu nhw, ewch at wefan CaThEM neu holwch gynghorydd profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Beth sy’n digwydd pan na fyddwch yn talu cyfraniadau

I’r rhan fwyaf o bobl, fe fydd yna gyfnodau yn eu bywyd gwaith pan na fyddant yn talu cyfraniadau am nad ydynt yn gweithio. Fe fydd hyn yn golygu bod bylchau gennych yn eich cofnod yswiriant gwladol ac fe allai hyn eich atal rhag cael budd-daliadau. Yn benodol, fe allai effeithio ar faint o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch. Mae’r cynllun yswiriant gwladol yn cydnabod llawer o’r sefyllfaoedd hyn ac yn rhoi cyfle i chi fod yn gymwys ar gyfer credydau, gan gynnwys credydau i rieni a chynhalwyr os ydych yn gofalu am blentyn neu berson anabl.

<Nôl i’r brig

Credydau yswiriant gwladol

Mae Credydau yswiriant gwladol yn gyfraniadau Dosbarth 1 na fyddwch yn talu amdanynt ac eithrio credydau i rieni a chynhalwyr sy’n gredydau Dosbarth 3. Caiff credydau eu hychwanegu at eich cofnod cyfraniadau pan fyddwch yn ddi-waith neu pan fydd eich gallu i weithio yn gyfyngedig, ac mewn rhai sefyllfaoedd eraill lle nad ydych yn gweithio am resymau penodol. Fel arfer, ni fyddant yn cael eu talu’n awtomatig os nad yw CAThEM yn gwybod am eich amgylchiadau, er enghraifft, rhaid eich bod yn cofrestru gyda’r swyddfa Canolfan Byd Gwaith, neu bod gennych dystysgrif feddygol. Gyda rhai mathau o gredydau, rhaid i chi ymgeisio’n ysgrifenedig hefyd.

Rydych yn medru cael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 ar ddechrau eich bywyd gwaith. Gelwir y rhain yn gredydau cychwynnol. Rydych yn medru cael credydau cychwynnol ar gyfer y flwyddyn dreth yr ydych yn 16 oed ynddi, ac yn y ddwy flwyddyn dreth ganlynol os na fyddai digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol gennych ar gyfer y blynyddoedd hyn fel arall.

Fodd bynnag, o 5 Ebrill 2011, ni fydd credydau cychwynnol yn cyfrif i’ch helpu i fod yn gymwys ar gyfer pensiwn ymddeol sylfaenol y wladwriaeth mwyach, am unrhyw flwyddyn dreth a ddechreuodd ers 6 Ebrill 2010. Fe fydd blynyddoedd treth blaenorol yn dal i gael eu cyfrif. Fe fydd y credydau’n dal i gyfrif tuag at fudd-daliadau profedigaeth.

Os ydych wedi ceisio am rif yswiriant gwladol ers 6 Ebrill 2010, ni fydd credydau cychwynnol yn eich helpu i fod yn gymwys ar gyfer pensiwn ymddeol sylfaenol y llywodraeth am unrhyw flwyddyn dreth. Fe fydd y credydau’n dal i gyfrif tuag at fudd-daliadau profedigaeth.

Efallai hefyd y bydd hawl gennych i gredydau pan fyddwch ar gwrs hyfforddiant a gymeradwywyd.  Fe fyddwch yn medru cael credydau am wythnosau pan fyddwch yn gwneud gwasanaeth rheithgor, wythnosau pan fyddwch yn cael Lwfans Cynhaliwr, ac wythnosau pan fyddwch yn cael Tâl Mamolaeth Statudol, neu Dâl Mabwysiadu Statudol. O 5 Ebrill 2012, fe fyddwch yn medru cael credydau am wythnosau pan fyddwch chi’n cael Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol.

Os ydych yn ddyn, fe fyddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol yn yr achosion canlynol:

  • rydych yn iau na 65, a
  • rydych wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth menyw sydd â’r un dyddiad geni â chi, neu rydych dros yr oed yma, a
  • nid ydych yn talu cyfraniadau ar enillion oherwydd, er enghaifft, rydych wedi ymddeol yn gynnar.

Ni fydd credydau yswiriant gwladol yn eich help i fod yn gymwys ar gyfer pob budd-dâl.

Am fwy o wybodaeth ynghylch oed pensiwn y wladwriaeth, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

Mae’r rheolau ynghylch pryd y medrwch gael credydau a phryd y mae’n rhaid i chi ofyn amdanynt yn gymhleth iawn. Os ydych am holi ynghylch credydau yswiriant gwladol dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Credydau i rieni a chynhalwyr

Mae credydau i rieni a chynhalwyr yn helpu rhieni a chynhalwyr i gwrdd âr amodau cyfraniadau ar gyfer budd-daliadau hir dymor, er enghraifft, Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hyn yn eich helpu os nad ydych yn gweithio am eich bod yn magu plentyn neu’n gofalu am rywun.

Mae credydau i rieni a chynhalwyr yn cymryd lle amddiffyniad cyfrifoldebau’r cartref. Os ydych yn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010, neu ar ôl y dyddiad yma, fe fydd unrhyw amddiffyniad cyfrifoldebau’r cartref yr ydych wedi ei gael yn barod yn cael ei newid yn gredydau i rieni a chynhalwyr.

Rydych yn cael credydau i rieni a chynhalwyr yn awtomatig os ydych yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 12 neu os ydych yn cael Lwfans Cynhalwyr.

Ond, os ydych yn gofalu am un person, neu fwy, am 20 awr neu fwy yr wythnos, ond nid ydych yn cael Lwfans Cynhalwyr, fe fydd angen i chi gyflwyno cais i gael y credydau:

Weithiau, efallai y byddwch yn medru cael credydau i rieni a chynhalwyr os yw'ch partner yn cael Budd-dal Plant yn eich lle chi. Yn yr achos hwn, byddai angen i chi gyflwyno cais ar gyfer credydau i rieni a chynhalwyr, ni fyddai'n cael ei gofnodi'n awtomatig.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Cynhalwyr, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.

Dydw i ddim yn gallu gweithio oherwydd mae'n rhaid i mi ofalu am fy mab 14 oed sy'n anabl. A fyddaf yn dal i gael pensiwn llawn wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth?

Mae'r gofynion o ran cyfraniadau, ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth yn gymhleth iawn ac yn dibynnu ar sawl peth. Os nad oes digon o gyfraniadau gennych eich hun, efallai y byddwch yn medru defnyddio cyfraniadau eich gŵr. Hefyd, os ydych yn cael Lwfans Cynhaliwr, fe fyddwch yn cael credydau awtomatig ar gyfer eich cyfraniadau yswiriant gwladol fel eich bod yn cael y swm llawn o bensiwn. Os nad ydych yn cael Lwfans Cynhaliwr ac rydych yn gofalu am eich mab am o leiaf 20 awr yr wythnos, neu fwy, fe fyddwch yn medru cyflwyno cais i CATHEM i sicrhau eich bod yn cael credydau i rieni a chynhalwyr, i’ch helpu i gwrdd â’r gofynion ar gyfer y pensiwn llawn.

Mae’r ffordd y mae credydau i rieni a chynhalwyr yn eich helpu i gael budd-daliadau yn gymhleth iawn. Os ydych yn credu y dylech gael credydau i rieni a chynhalwyr, neu os ydych am gyflwyno cais amdanynt, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

<Nôl i’r brig

Pa gyfraniadau sy’n talu am ba fudd-daliadau

Dosbarth 1

Mae Cyfraniadau yswiriant gwladol Dosbarth 1 yn cyfrif tuag at Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau, Budd-dâl Analluogrwydd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig â chyfraniadau, Budd-daliadau Profedigaeth, Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth a Lwfans Mamolaeth.

Dosbarth 2

Mae Cyfraniadau Dosbarth 2 yn cyfrif tuag at yr un budd-daliadau â Dosbarth 1, ond ni fydd Dosbarth 2 yn cyfrif tuag at Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau fel arfer.

Dosbarth 3

Mae cyfraniadau Dosbarth 3 yn cyfrif tuag at fudd-daliadau profedigaeth a Phensiwn y Wladwriaeth.

Dosbarth 4

Nid yw Cyfraniadau Dosbarth 4 yn cyfrif tuag at unrhyw fudd-daliadau. Ond, mae’n rhaid i chi eu talu os ydych yn hunangyflogedig ac mae gennych elw dros lefel penodol (gweler y pennawd Cyfraniadau Dosbarth 4).

<Nôl i’r brig

Pensiwn y Wladwriaeth a chyfraniadau yswiriant gwladol

Er mwyn cael Pensiwn y Wladwriaeth, fel arfer mae’n rhaid i chi fod wedi talu cyfraniadau neu wedi cael credydau YG sy’n adio i fyny i isafswm mewn cyfnod penodol. Efallai y byddwch yn medru defnyddio cofnod cyfraniadau eich gŵr, eich gwraig neu’ch partner sifil yn lle’ch cofnod cyfraniadau eich hun, neu yn ogystal â’ch cofnod cyfraniadau eich hun petai hyn yn rhoi gwell pensiwn i chi.

Mae amodau cyfraniad Pensiwn y Wladwriaeth yn gymhleth iawn ac yn medru bod yn anodd eu deall. Os fyddwch chi angen help i ddeall y gofynion, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Mae yna ofynion gwahanol ar gyfer cyfraniadau Pensiwn y Wladwriaeth gan ddibynnu os ydych wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010 neu ar ôl y dyddiad yma.

Rydych wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010

Os oeddech wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010, mae’n rhaid i chi gwrdd â dau ofyniad mewn perthynas â chyfraniadau, er mwyn i chi gael Pensiwn y Wladwriaeth.

Yr amod cyntaf ynghylch cyfraniadau yw bod yn rhaid i chi fod wedi talu digon o gyfraniadau Dosbarth 1, 2 neu 3 mewn unrhyw un flwyddyn dreth. Efallai y byddwch yn bodloni’r amod hon trwy eich cofnod cyfraniadau eich hun, neu gofnod eich cymar neu bartner sifil. Os ydych wedi bod yn cael Budd-dâl Analluogrwydd hir dymor yn ddiweddar, efallai na fydd yn rhaid i chi gwrdd â’r amod hon.

Mae’r ail amod mewn perthynas â chyfraniadau yn nodi bod yn rhaid eich bod wedi talu cyfraniadau ar gyfer y rhan fwyaf o’ch bywyd gwaith, neu wedi cael eich credydu amdanynt. I fenyw, mae hyn yn golygu’r rhan fwyaf o’r blynyddoedd rhwng 16 a 60, ac i ddyn, y rhan fwyaf o’r blynyddoedd rhwng 16 a 65. Os ydych wedi cael amddiffyniad cyfrifoldebau’r cartref, mae’r nifer o flynyddoedd y dylech fod wedi cael cyfraniadau neu gredydau ar eu cyfer yn llai.

Defnyddio cofnod cyfraniadau rhywun arall

Efallai y byddwch yn medru cyfuno eich cofnod cyfraniadau chi a rhai eich gŵr, gwraig neu bartner sifil yn yr achosion canlynol:

  • rydych yn weddw
  • rydych yn bartner sydd wedi goroesi mewn partneriaeth sifil ac mae eich partner wedi marw
  • rydych wedi ysgaru
  • mae eich partneriaeth sifil wedi'i dirymu.

Llai o bensiwn os nad oes digon o gyfraniadau gennych

Os nad oes cyfraniadau na chredydau gennych ar gyfer y nifer gofynnol o flynyddoedd, fe fyddwch yn medru cael Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfradd lai.

Os oeddech wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth ar ôl 6 Ebrill 2010, fe fyddwch yn medru cael un rhan o dri deg o Bensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth am bob blwyddyn gymwys yr oeddech yn talu’r cyfraniadau cywir, neu’n cael eich credydu gyda’r cyfraniadau cywir.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Pensiwn y Wladwriaeth ac oed pensiwn y wladwriaeth, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

<Nôl i’r brig

Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau a chyfraniadau yswiriant gwladol

Mae p’un ai eich bod â hawl i Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) sy’n seiliedig ar gyfraniadau, yn dibynnu ar y cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi eu talu dros y ddwy flynedd dreth lawn ddiwethaf cyn y flwyddyn fudd-dâl pan fyddwch chi’n cyflwyno cais am y budd-dâl.

Mae blwyddyn fudd-dâl yn dechrau yn Ionawr (ar Sul cyntaf y mis yma) ac yn dod i ben flwyddyn yn ddiweddarach.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n chwilio am waith.

Os ydych eisiau cyngor i weld a ydych yn cwrdd â’r amodau cyfraniad ar gyfer lwfans ceisio gwaith, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

<Nôl i’r brig

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig â Chyfraniadau

Yr amod cyfraniad cyntaf ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) sy'n gysylltiedig â chyfraniadau yw bod yn rhaid eich bod wedi talu cyfraniadau yswiriant gwladol Dosbarth 1 neu 2 yn un o’r tair blwyddyn dreth ddiwethaf cyn eich cais. Ond, efallai y byddwch yn medru bodloni’r amod hon gyda chyfraniadau a dalwyd mewn unrhyw flwyddyn dreth, os nad ydych wedi medru talu cyfraniadau yn ddiweddar, er enghraifft, am eich bod yn cael Lwfans Cynhaliwr neu Fudd-dâl Analluogrwydd, neu os oeddech yn cael Credyd Treth Gwaith gydag elfen anabledd cyn i chi fethu â gweithio.

Yr ail amod yw bod yn rhaid eich bod naill ai wedi talu neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau ar gyfer y ddwy flwyddyn dreth ddiwethaf cyn eich cais. Ond, ni fydd cyfraniadau wedi eu credydu bob amser yn cyfrif tuag at yr amod hon.

Mae’r amodau cyfraniad ar gyfer LCCh, a phryd y gellir eu hymlacio oherwydd eich amgylchiadau, yn gymhleth iawn. Os yw'ch gallu i weithio wedi bod yn gyfyngedig ers pan yn ifanc, efallai na fydd yn rhaid i chi fodloni unrhyw amodau cyfraniadau yswiriant gwladol o gwbl ac fe fyddwch yn cael LCCh sy'n gysylltiedig â chyfraniadau heb dalu unrhyw YG na’i gael wedi’i gredydu. Os nad ydych yn cwrdd â'r amodau cyfraniad ar gyfer LCCh sy'n gysylltiedig â chyfraniadau, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys ar gyfer LCCh sy'n gysylltiedig ag incwm os yw'ch incwm a'ch cyfalaf yn ddigon isel.

Am fwy o wybodaeth ynghylch LCCh, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn cwrdd â’r amodau cyfraniad ar gyfer LCCh sy'n gysylltiedig â chyfraniadau, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

<Nôl i’r brig

Lwfans Rhiant Gweddw, Lwfans Profedigaeth a chyfraniadau yswiriant gwladol

Yr amod cyfraniad cyntaf ar gyfer Lwfans Rhiant Gweddw a Lwfans Profedigaeth yw bod yn rhaid bod eich gwr, gwraig neu bartner sifil wedi talu cyfraniadau Dosbarth 1, 2 neu 3 mewn unrhyw flwyddyn dreth cyn marw. Nid oes rhaid eich bod yn bodloni’r amod hon os oedd yn cael Budd-dâl Analluogrwydd hir dymor neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig â chyfraniadau yn y flwyddyn y bu farw.

Yr ail amod mewn perthynas â chyfraniadau yw bod yn rhaid bod eich diweddar ŵr, wraig neu bartner sifil naill ai wedi talu cyfraniadau am y rhan fwyaf o’u bywyd gwaith – sef y rhan fwyaf o’r blynyddoedd rhwng 16 a’u marwolaeth, neu wedi ei gael wedi’i gredydu yn ystod y cyfnod hwn.

Os nad oedd gan eich gwr, gwraig neu bartner sifil gyfraniadau neu gredydau am y nifer iawn o flynyddoedd, fe fyddwch yn medru cael cyfradd llai o Lwfans Rhiant Gweddw neu Lwfans Profedigaeth, tra bod ganddynt gyfraniadau neu gredydau am o leiaf 25 y cant o’r blynyddoedd angenrheidiol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Rhiant Gweddw a Lwfans Profedigaeth, gweler Budd-daliadau a phrofedigaeth.

Os nad ydych yn siwr a ydych yn bodloni’r amodau cyfraniad ar gyfer Lwfans Rhiant Gweddw neu Lwfans Profedigaeth, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Taliad Profedigaeth

Dim ond un amod cyfraniad sydd ar gyfer Taliad Profedigaeth. Rhaid bod eich gwr, gwraig neu bartner sifil sydd wedi marw wedi talu, mewn unrhyw un flwyddyn dreth, cyfraniadau Dosbarth 1, 2 neu 3. Gellir adio cyfraniadau a dalwyd mewn blynyddoedd gwahanol mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft, os mai newydd ddod yn gyfrifol am dalu cyfraniadau oedd eich gwr, gwraig neu bartner sifil pan fu farw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Taliadau Profedigaeth, gweler Budd-daliadau a phrofedigaeth.

Os nad ydych yn siwr a ydych yn cwrdd â’r amodau cyfraniad ar gyfer taliad profedigaeth, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

<Nôl i’r brig

Problemau gydag yswiriant gwladol

Os ydych yn gofyn am fudd-dâl sy’n seiliedig ar gyfraniadau ac yn cael eich gwrthod am nad yw’n ymddangos bod gennych ddigon o gyfraniadau yswiriant gwladol, ond rydych yn credu bod y penderfyniad yn anghywir, fe allwch ofyn i’r swyddfa budd-daliadau ailystyried y penderfyniad, neu fe allwch apelio. Dylech wneud hyn o fewn mis i’r penderfyniad.

Os ydych yn credu bod penderfyniad ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol wedi eu credydu yn anghywir, fe allwch ddadlau’r penderfyniad neu apelio i Swyddfa CAThEM (Cyfraniadau YG). Dylech wneud hyn o fewn mis i’r penderfyniad, trwy gysylltu â’r swyddfa a’i gwnaeth.

Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan swyddfa Cyllid a Thollau Ei Mwrhydi (Cyfraniadau YG), fe allwch gwyno. Er enghraifft, efallai y teimlwch eu bod wedi gwneud camgymeriadau neu wedi cymryd gormod o amser i ddod 'nôl atoch. Dylech gysylltu â’r swyddfa sy’n delio gyda’ch achos yn gyntaf.

Gwahaniaethu

Mae'n anghyfreithlon i chi gael eich trin yn annheg oherwydd oed, anabledd, beichiogrwydd neu eni plentyn, hil, crefydd, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol pan fydd budd-daliadau neu gredydau treth yn cael eu talu i chi. Hefyd, mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol bolisïau sy’n dweud na fyddan nhw’n gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd pethau eraill, er enghraifft os oes cyfrifoldebau gofal gennych. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, pan fyddan nhw’n talu budd-daliadau neu gredydau treth i chi, fe fyddwch yn medru cwyno.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu, gweler ein tudalennau Gwahaniaethu.

<Nôl i’r brig

Help a gwybodaeth bellach

Mae gan CAThEM nifer o linellau cymorth dros y ffôn sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth ynglyn ag yswiriant gwladol. Mae manylion y llinellau cymorth ar wefan CAThEM yn: www.hmrc.gov.uk.

Os ydych chi angen gwybodaeth mewn fformatau gwahanol neu os oes unrhyw anghenion arbennig eraill gennych, mae gwybodaeth ar y gwasanaethau a ddarperir gan CAThEM ar eu gwefan yn: www.hmrc.gov.uk/contactus/particular-needs.htm.

<Nôl i’r brig

Citizens Advice

Barnu'r dudalen hon Rhoi adborth