Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Sgwrsio â chynghorydd ar-lein

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os yw eich problem yn ymwneud â gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, siaradwch â ni ar ein tudalen Help i Hawlio. 

Ar gyfer materion sy’n ymwneud â dyled, siaradwch â ni ar ein tudalen sgwrsio am ddyled.

Ar gyfer problemau gyda'ch nwy a thrydan, siaradwch â ni ar ein tudalen sgwrs ynni. [33244] 

Os oes gennych problemau defnyddwyr fel nwyddau wedi torri neu ddiffygiol, siaradwch â'n gwasanaeth defnyddwyr

Gallwch siarad am eich problem gyda chynghorydd hyfforddedig ar-lein. Byddwn yn ceisio eich helpu i ddatrys eich problem neu wneud cynnydd da tuag at hynny. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i ni eich anfon at eich Cyngor ar Bopeth lleol neu sefydliad arbenigol.

Fel arfer, mae’r gwasanaeth sgwrsio ar gael o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Nid yw ar gael ar wyliau banc.

I’ch cysylltu â’r cynghorydd cywir, byddwn yn gofyn i chi am ychydig o fanylion, gan gynnwys:

  • y math o gyngor sydd ei angen arnoch, er enghraifft ‘Budd-daliadau’

  • eich cod post

Os nad oes unrhyw un ar gael, byddwn yn ceisio cymryd neges oddi wrthych fel y gallwn gysylltu â chi trwy e-bost. Yn anffodus ni allwn wneud hyn bob amser pan fydd yn arbennig o brysur.

Darllenwch ein polisi preifatrwydd i gael gwybod sut rydym yn storio ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. 

Os ydych chi'n poeni bod rhywun yn gweld yr hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud ar-lein, gallwch ddileu hanes eich porwr neu ddefnyddio 'pori preifat' i guddio'ch gweithgarwch. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am orchuddio’ch traciau ar-lein gan Cymorth i Ferched – mae eu cyngor i bawb.

Problemau gyda’r gwasanaeth sgwrsio

Efallai y bydd yn cymryd ychydig funudau i’ch cysylltu â chynghorydd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os nad yw’r math cywir o gynghorydd ar gael.

Os byddwn yn gofyn i chi adael neges, dylai cynghorydd ateb o fewn 4 diwrnod gwaith. Os na chewch ateb, gwiriwch eich ffolder sbam.

Mae rhai meddalwedd 'atalydd hysbysebion' yn atal y rhaglen rhag gweithio. Os ydych chi'n defnyddio atalydd hysbysebion, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ychwanegu citizensadvice.org.uk fel gwefan ddibynadwy - y gellir ymddiried ynddo. 

Cwyno am y gwasanaeth sgwrsio 

Gallwch wneud cwyn am ein gwasanaeth sgwrsio.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.