Pam mae hyn yn bwysig?
Mynnwch gyngor
Gan ganolfan Cyngor ar Bopeth
Mae canolfannau Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyfrinachol, diduedd ac annibynnol rhad ac am ddim o dros 3,500 o leoliadau. Mae’r rhain yn cynnwys safleoedd ar y stryd fawr, canolfannau cymunedol, meddygfeydd, llysoedd a charchardai.
Mae ein cyngor yn helpu pobl i ddatrys eu problemau gyda dyled, budd-daliadau, cyflogaeth, tai, gwahaniaethu a llawer iawn mwy o faterion. Mae ar gael i bawb.
Gellir rhoi cyngor wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn. Mae mwyafrif y canolfannau’n medru trefnu ymweld â’ch cartref ac mae rhai’n darparu cyngor drwy’r e-bost. Mae nifer cynyddol yn treialu’r defnydd o negeseuon ffôn symudol, sgwrsio ar-lein a gwegamera hefyd. Chwiliwch am eich canolfan leol i weld yr amrywiaeth lawn o wasanaethau y mae’n eu darparu.
- Taflen ffeithiau ar gyngor CAB
- Gwyliwch gyflwyniad i wasanaeth Cyngor ar Bopeth a sut mae’n medru helpu, trwy gyfrwng iaith arwyddion Prydain.
Chwiliwch am eich CAB lleol
Beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n ymweld â CAB
Pan fyddwch chi’n cyrraedd canolfan CAB fe fyddwn ni’n eich croesawu chi ac yn dweud wrthych am y gwasanaethau sydd ar gael gennym. Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth eang o daflenni ffeithiau a llyfrynnau i chi bori trwyddyn nhw. A wnewch chi ddweud am unrhyw ofynion ieithyddol neu fynediad sydd gennych er mwyn i ni wneud ein gorau glas i ddarparu ar eich cyfer.
Mae pob un yn cael cynnig sesiwn fer gydag aseswr, a fydd yn nodi’r ffordd fwyaf addas i ni ddarparu’r help sydd ei angen arnoch. Fe fyddwn ni’n dweud faint o amser efallai y bydd angen i chi aros am hyn.
Gan ddibynnu ar eich anghenion penodol, efallai y bydd angen i chi wneud apwyntiad i drafod eich problem ymhellach – yn bersonol, dros y ffôn neu drwy e-bost. Neu, efallai y byddwn ni’n rhoi gwybodaeth i chi er mwyn i chi ei darllen gartref, neu efallai y byddwn ni’n dweud wrthych am fudiad gwahanol sydd mewn sefyllfa well i’ch helpu chi.
Dros y ffôn
Mae pob canolfan Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor dros y ffôn. Yn ychwanegol at hyn, rydyn ni yn y broses o ddatblygu gwasanaeth ffôn cenedlaethol. Fe fydd ar gael mewn rhannau gwahanol o’r Deyrnas Unedig dros y ddwy flynedd nesaf.
Erbyn hyn, mae ar waith yn llwyr yng Nghymru, ond dim ond i bobl sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Yn Lloegr, mae’r gwasanaeth yn cael ei weithredu fesul ardal ar hyn o bryd. Os nad yw ar gael yn eich ardal chi eto, fe fyddwch yn clywed opsiynau ar gyfer gwybodaeth wedi’i recordio.
- Ar gyfer y gwasanaeth yng Nghymru ffoniwch 08444 77 20 20
- Ar gyfer y gwasanaeth yn Lloegr ffoniwch 08444 111 444 neu chwiliwch am fanylion cyswllt eich canolfan leol yn y bocs chwilio isod
Ar gyfer galwadau i’n gwasanaeth ffôn cenedlaethol (rhifau 0844) codir tâl o bum ceiniog y funud o linell ddaearol ac efallai y bydd yn costio dipyn yn fwy o ffôn symudol neu ffôn arall.
Ffyrdd eraill o gael cyngor
Dyma ambell ffordd arall o gael cyngor:
- Mae ACAS yn rhoi cyngor ar gyflogaeth. Rhowch glic ar: www.acas.org.uk
- Mae Shelter yn rhoi cyngor ynglŷn â thai. Rhowch glic ar: www.shelter.org.uk
- Mae’r Llinell Ddyled Genedlaethol yn rhoi cyngor ar ddyled. Rhowch glic ar: www.nationaldebtline.co.uk
- Mae’r Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd Defnyddwyr yn rhoi cyngor ar ddyled. Rhowch glic ar: www.cccs.co.uk
- Mae Moneymadeclear yn rhoi cyngor ynglŷn ag arian a materion ariannol. Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk
- Mae gan Which? wasanaeth cyngor cyfreithiol sydd ar gael i rai tanysgrifwyr. Rhowch glic ar: www.which.co.uk
- Efallai y bydd eich polisi yswiriant ar gyfer eich cartref, eich polisi yswiriant moduro neu yswiriant personol yn darparu gwasanaeth cyngor cyfreithiol
- Os ydych chi’n perthyn i undeb, corff proffesiynol neu gymdeithas fasnach, efallai y byddwch yn medru cael cyngor cyfreithiol ganddyn nhw.











