Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Pan fyddwch chi am gael cyfrif banc newydd, mae yna nifer o bethau y dylech eu hystyried.
Ar y dudalen hon fe allwch ddod i wybod am y gwahanol fathau o gyfrifon banc, beth y dylid ei ystyried, a sut i agor neu newid cyfrif banc.
Fe allwch ddod i wybod am:
Mae yna hefyd fwy o wybodaeth am fanciau a chymdeithasau adeiladu, ynghyd â sefydliadau eraill allai eich helpu.
Mae yna fathau gwahanol o gyfrifon banc y gallwch eu defnyddio am resymau gwahanol. Yn y fan hon rydyn ni’n sôn wrthych am y prif fathau o gyfrifon banc, ac i beth y gallwch eu defnyddio.
Fe allwch ddefnyddio cyfrif cyfredol i’ch helpu i reoli eich arian o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys:
Gall rhai cyfrifon cyfredol hefyd ennill llog i chi ar yr arian sydd gennych yn y cyfrif, er mae’n debyg y bydd hyn yn llai na sawl cyfrif cynilo.
Gyda chyfrif cyfredol, fe gewch chi lyfr siec y gallwch ei ddefnyddio i godi arian. Efallai y cewch chi gerdyn debyd hefyd y gallwch ei ddefnyddio mewn siopau a pheiriannau arian. Fe all y banc ganiatáu i chi gael gorddrafft a mynediad i fathau eraill o gredyd. Caniateir i chi drefnu debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog.
Bydd rhai banciau yn caniatáu i chi newid siec personol cyfrif cyfredol am arian parod neu ddefnyddio eich cerdyn arian yn Swyddfa’r Post, am ddim. Gofynnwch i’ch swyddfa bost leol os allwch chi wneud hyn am ddim o’ch cyfrif cyfredol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sieciau, gweler Sieciau.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pheiriannau arian, gweler Problemau gyda pheiriannau arian.
Fe allwch ddefnyddio cyfrif cerdyn Swyddfa’r Post i gasglu budd-daliadau, credydau treth a phensiynau’r wladwriaeth. Allwch chi ddim talu unrhyw arian i mewn.
Fe allwch gael eich arian allan o gyfrif cerdyn Swyddfa’r Post dim ond trwy gerdyn plastig a Rhif Adnabod Personol (PIN) yn Swyddfa’r Post. Allwch chi ddim gordynnu ar gyfrif cerdyn Swyddfa’r Post ac ni allwch ddefnyddio’ch cerdyn mewn unrhyw beiriant arian.
Fe allwch chi ddefnyddio cyfrifon cynilo i roi heibio arian yr hoffech chi ei gynilo ar gyfer y dyfodol, ar gyfer argyfyngau neu i brynu rhai pethau drud megis car newydd neu wyliau.
Bydd cyfrif cynilo yn rhoi llog i chi ar eich arian.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyfrifon cynilo, yn cynnwys tabl sy’n cymharu gwahanol fathau o gyfrifon cynilo, ewch i wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn www.moneyadviceservice.org.uk.
Os oes gennych statws credyd gwael neu os ydych ar incwm isel, efallai y cewch chi broblem i agor cyfrif cyfredol safonol neu gyfrif cynilo. Efallai y cewch chi broblem hefyd os oes gennych gyfrif cyfredol lle rydych chi wedi gordynnu. Os ydych chi yn y sefyllfa hon, efallai y gallwch chi agor cyfrif banc sylfaenol.
Fe allwch ofyn i fanc neu gymdeithas adeiladu am agor cyfrif banc sylfaenol. Rhaid i’r banc neu gymdeithas adeiladu roi gwybod i chi os ydyn nhw’n cynnig cyfrifon banc sylfaenol. Os ydyw, rhaid dweud wrthych beth yw’r amodau y mae’n rhaid i chi gwrdd â nhw er mwyn gallu agor y cyfrif.
Efallai y gwrthodir cyfrif banc sylfaenol i chi os ydyw’r gwiriad archwiliad credyd yn dangos fod gennych ddyledion gwael blaenorol o fwy na £5000, neu ddyfarniad llys sy’n aros yn eich erbyn.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwiriadau archwiliad credyd a dyfarniadau llys sy’n aros, gweler Dyled.
Os oes gennych gyfrif banc sylfaenol, fel arfer:
Mae yna rai anfanteision dros gael cyfrif banc sylfaenol. Mae’r rhain yn cynnwys:
Ni ellir cael mynediad i bob cyfrif banc sylfaenol yn Swyddfa’r Post. Os ydych chi am wneud hyn, gwiriwch gyda’ch banc cyn i chi agor cyfrif banc sylfaenol.
Os oes gennych orddrafft neu ddyledion eraill ar eich cyfrif cyfredol a chwithau’n agor cyfrif banc sylfaenol yn yr un banc, fe allan nhw ddefnyddio’r arian yn eich cyfrif newydd i dalu dyledion yr hen un. Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau, credyd treth neu bensiwn y wladwriaeth, efallai yr hoffech ystyried agor eich cyfrif banc sylfaenol mewn banc neu gymdeithas adeiladu wahanol.
Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am gyfrifon banc sylfaenol, yn cynnwys tabl sy’n cymharu'r gwahanol fathau o gyfrifon banc sylfaenol, ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn: www.moneymadeclear.org.uk.
Fe allwch chi gael fersiynau o’r wybodaeth hon mewn print bras, Braille neu ar fformat clywedol oddi wrth Linell Gymorth Cwsmeriaid AGA (FSA) ar: 0845 606 1234 (Mincom/ffôn destun 08457 300 104).
Fe allwch chi hefyd agor cyfrif banc ar y cyd gyda phobol eraill. Er enghraifft, efallai y byddech chi am wneud hyn i reoli biliau’r cartref gyda rhywun sy’n rhannu’r cartref gyda chi, neu gyda’ch gwraig, gŵr neu bartner sifil.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyfrifon banc ar y cyd, yn cynnwys sut i agor cyfrif banc ar y cyd a sut mae cael mynediad iddo, gweler Cyfrifon banc ar y cyd.
I agor cyfrif banc mae’n rhaid i chi fel arfer gwblhau ffurflen gais. Yn aml, fe allwch wneud hyn mewn cangen neu ar-lein, ac weithiau fe allwch chi wneud hyn dros y ffôn hefyd.
Fe fydd rhaid i chi hefyd ddarparu prawf o bwy ydych chi yn cynnwys eich enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad. Fel arfer bydd yn rhaid i chi ddangos dwy ddogfen wahanol i’r banc i brofi pwy ydych, er enghraifft, bil diweddar. Os nad oes gennych un o’r dogfennau y mae’r banc am eu gweld, fe ddylen nhw dderbyn llythyr oddi wrth berson cyfrifol sy’n eich adnabod, megis eich Meddyg Teulu, athro, gweithiwr cymdeithasol neu swyddog prawf.
Os ydych chi’n fethdalwr neu os oes gennych gofnod o dwyll, ni chaniateir i chi fel arfer agor cyfrif. Hefyd, efallai y gwrthodir caniatâd i chi agor cyfrif cyfredol os oes gennych statws credyd gwael. Sut bynnag, os ydych yn fethdalwr neu os oes gennych statws credyd gwael, efallai y gallwch chi agor cyfrif banc sylfaenol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â methdaliad yn Lloegr a Chymru, gweler Methdaliad yn y daflen ffeithiau ar Credyd a Dyled. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â methdaliad yn yr Alban, gweler Help gyda dyled.
Gall banc neu gymdeithas adeiladu wrthod agor cyfrif i chi. Nid oes yn rhaid iddyn nhw roi rheswm i chi a does dim byd y gallwch ei wneud ynglŷn â’r peth.
Gall rhai grwpiau o bobol megis cyn-garcharorion ei chael hi’n anodd tuhwnt i agor cyfrifon.
Sut bynnag ni chaniateir i fanc na chymdeithas adeiladu wahaniaethu yn eich erbyn, er enghraifft, ar sail eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu rywioldeb. Os gwahaniaethir yn eich erbyn, fe allech chi gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Hefyd, efallai y gallwch chi fynd â’r achos i’r llys.
Sut bynnag, mae yna rai amgylchiadau lle gall banc neu gymdeithas adeiladu wahaniaethu yn eich erbyn, er enghraifft, fe allan nhw wrthod caniatáu i chi agor rhai mathau o gyfrifon oni bai eich bod yn syrthio i grŵp oedran arbennig.
Am fwy o wybodaeth am wahaniaethu, gweler ein tudalennau ar wahaniaethu.
Os ydych chi’n credu fod banc neu gymdeithas adeiladu yn gwahaniaethu yn eich erbyn, fe ddylech chi gael cymorth oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Wrth i chi agor cyfrif gyda banc neu gymdeithas adeiladu ac yn defnyddio’u gwasanaethau, yr ydych yn mynd i gytundeb gyda nhw.
Bydd telerau’r cytundeb yn newid yn ôl y banc neu’r gymdeithas adeiladu a’r math o gyfrif neu wasanaeth arall a ddefnyddir gennych.
Cyn i chi agor cyfrif, fe ddylech chi gael gwybodaeth fydd yn eich helpu i ddewis y cyfrif sy’n addas i chi. Dylai’r wybodaeth hon gynnwys y telerau a’r amodau a’r cyfraddau llog.
Ar ôl i chi agor y cyfrif, dylai’ch banc neu gymdeithas adeiladu eich hysbysu am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth hon, er mwyn i chi wneud penderfyniadau ar sut i gael y gorau o’ch cyfrif.
Os ydych chi’n agor cyfrif cyfredol, sylfaenol neu gynilo mynediad parod, fe ddylech chi hefyd gael gwybodaeth ychwanegol megis:
Dylid rhoi’r wybodaeth hon i chi mewn ffordd sy’n hawdd i chi i’w deall.
Unwaith y byddwch chi wedi agor eich cyfrif, dylai’r banc neu gymdeithas adeiladu eich hysbysu am unrhyw newidiadau i’r telerau a’r amodau o leiaf ddeufis cyn i’r newidiadau ddigwydd.
Os oes newidiadau i delerau ac amodau eich cyfrif, fe allwch gau’r cyfrif pryd y mynnoch i fyny at 60 diwrnod o’r diwrnod y dywedwyd wrthych am y newidiadau. Nid oes rhaid i chi roi rhybudd na thalu taliadau ychwanegol.
Os ydych chi’n agor cyfrif cynilo ar wahân i’r cyfrif cynilo mynediad parod, rhoddir llai o wybodaeth fanwl i chi nag ar gyfer mathau eraill o gyfrifon. Gallai gael ei ddarparu mewn bocs crynodeb fydd yn eich helpu chi i gymharu gwahanol gyfrifon o wahanol fanciau a chymdeithasau adeiladu.
Efallai y bydd yn rhaid i chi fod yn 18 neu drosodd i allu agor rhai cyfrifon.
Os penderfynwch chi newid eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, fe ddylech chi ystyried:
Fe ddylech chi agor cyfrif newydd cyn cau’r hen un a gwneud yn siŵr eich bod yn canslo unrhyw archebion sefydlog neu ddebydau uniongyrchol cyfredol, neu symud y rhain i’ch cyfrif newydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd unrhyw sieciau nas defnyddiwyd neu gardiau plastig (wedi’u torri’n ddarnau) i’ch hen fanc neu gymdeithas adeiladu.
Os ydych yn trosglwyddo gweddill i’ch cyfrif newydd, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gadael digon o arian ar ôl yn yr hen gyfrif i sicrhau unrhyw sieciau sydd heb eu talu.
Os oes arnoch ddyled i’ch banc neu gymdeithas adeiladu presennol a chwithau’n dymuno cau’r cyfrif, efallai y cewch eich erlyn am yr arian sy’n ddyledus os nad ydych yn ei dalu wrth gau’r cyfrif.
Mae gan eich banc neu gymdeithas adeiladu newydd a hen gyfrifoldebau tuag atoch.
Bydd lefel y gwasanaeth y dylech ei ddisgwyl oddi wrth eich hen fanc neu gymdeithas adeiladu yn dibynnu ar y ffaith os oes trefniant mewn lle rhwng eich hen fanc a’r un newydd ai peidio.
Lle nad oes trefniant, yr unig beth mae’n rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu ei ddarparu ydyw gwasanaeth effeithiol i’ch helpu i gau’r cyfrif a rhaid iddo ddychwelyd unrhyw arian sy’n ddyledus i chi. Mae hyn yn cynnwys unrhyw log.
Lle mae trefniant mewn lle, rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu drosglwyddo unrhyw weddill sy yn y cyfrif a gwneud trefniadau parthed debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog. Os oes camgymeriadau neu oedi yn y broses drosglwyddo sy’n arwain at daliadau banc, ni ddylech chi orfod talu amdanynt.
Am fwy o wybodaeth am fanciau a chymdeithasau adeiladu a’r gwasanaethau a gynigir ganddynt, gweler Banciau a chymdeithasau adeiladu.
Fe allwch chi hefyd gael y wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn ddefnyddiol:
Mae yna wybodaeth hawdd i’w ddarllen am fancio. Fe’i ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer pobol ac anawsterau dysgu. Mae’n dweud wrthych sut i ddewis ac agor cyfrif banc a sut i ddefnyddio eich cyfrif banc. Mae hefyd yn esbonio rhai o’r geiriau a ddefnyddir mewn bancio.
Fe allwch chi weld y wybodaeth ar y rhyngrwyd yn: www.making-money-easier.info.
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cynnyrch ariannol fel cyfrifon banc, gan gynnwys tablau cymharu ar gyfer gwahanol gyfrifon cynilo.
Mae eu Llinell Cyngor Am Arian yn medru ateb cwestiynau cyffredinol ynghylch cynnyrch a gwasanaethau ariannol.
Rhif ffôn eu Llinell Gyngor Am Arian yw 0300 500 5000.
Cyfeiriad eu gwefan yw www.moneyadviceservie.org.uk
Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yw’r corff sy’n gyfrifol am reoli banciau a chymdeithasau adeiladu.
Nid ydynt yn gallu ymwneud â chwynion unigol, argymell cwmnïau na rhoi cyngor cyfreithiol neu ariannol. Ond, mae FSA â diddordeb mewn clywed am achosion lle mae’r banc neu’r gymdeithas adeiladu wedi torri eu hymrwymiadau. Gall yr FSA, lle mae’n briodol, ddirwyo’r banc neu gymdeithas adeiladu.
Eu Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr yw 0845 606 1234
Eu gwefan yw: www.fsa.gov.uk.
Os ydych chi wedi mynd trwy trefn gwyno eich banc neu gymdeithas adeiladu a dydyn nhw ddim wedi gallu’ch helpu chi, fe allwch gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Rhaid i chi roi o leiaf wyth wythnos i’ch banc neu gymdeithas adeiladu i ddatrys y broblem, oni bai eu bod yn anfon llythyr sefyllfa ddiddatrys atoch cyn diwedd yr wyth wythnos. Mae hwn yn lythyr sy’n dweud wrthych nad oes dim byd mwy y gallan nhw ei wneud i’ch helpu.
Rhaid i chi gwyno wrth yr Ombwdsmon o fewn chwe mis i dderbyn y llythyr sefyllfa ddiddatrys, neu o ddiwedd y cyfnod o wyth wythnos os na chewch chi lythyr sefyllfa ddiddatrys. Gwnewch yn siwr eich bod yn cadw cofnod o’r dyddiad pan gwynoch chi gyntaf wrth y banc.
Fe allwch chi gysylltu â’r Ombwdsmon Ariannol ar 0845 080 1800, neu ymweld â’r wefan yn: www.financial-ombudsman.org.uk.
Am fwy o wybodaeth am Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsmon yng Lloegr, Sut i ddefnyddio Ombwdsmon yng Nghymru, Sut i ddefnyddio Ombwdsmon yn yr Alban, Sut i ddefnyddio Ombwdsmon yng Ngogledd Iwerddon.
