The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Nid oes bellach lwfansau di-doll ar gyfer teithiau o fewn yr Undeb Ewropeaidd (EU). Yn lle, fe allwch chi ddod nôl â swm anghyfyngedig o nwyddau o daith mewn unrhyw wlad yn yr UE, cyhyd â’i fod at eich defnydd personol chi neu fel rhodd. Yn ymarferol os ydych chi dros 17 oed caniateir i chi ddod ag 800 o sigaréts, 10 litr o wirodydd, 90 litr o win a 110 litr o gwrw. Os ydych chi’n dod â mwy na hynny bydd rhaid i chi berswadio’r tollau ei fod at ddefnydd personol. Mae yna lwfansau pellach ar gyfer cynnyrch tybaco eraill a diodydd alcoholig.
Mae yna lwfansau di-doll o hyd ar gyfer teithio o wledydd eraill y tu allan i’r UE sy’n llawer llai.
Os ydych chi dros 17 oed, caniateir i chi ddod â’r canlynol:
Caniateir i chi gyfuno alcohol neu gynnyrch tybaco cyhyd â’ch bod yn cadw at y cyfanswm lwfans a ganiateir ar gyfer pob cynnyrch. Er enghraifft, fe allwch chi ddod â 100 o sigarets a 25 o sigarau sy’n 50% o’ch lwfans sigarets a 50% o’ch lwfans sigarau. Allwch chi ddim cyfuno lwfansau alcohol a thybaco.
Os ydych chi’n dod â mwy na hynny, rhaid i chi ddatgan y nwyddau yn y tollau ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu toll. Os na fyddwch chi, yr ydych yn torri’r gyfraith. Gellir cymryd eich nwyddau nad ydynt wedi’u datgan oddi arnoch, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau cosb, ac efallai y cewch chi’ch erlyn.
Mae’r un lwfansau di-doll yn berthnasol i deithiau busnes yn ogystal â gwyliau.
Os ydych chi’n teithio o wlad sy ddim yn yr UE i’r DU, rhaid i chi ddatgan unrhyw arian parod sydd gennych os ydyw’n 10,000 iwros neu fwy (neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn arian cyfredol arall). Mae’r rheol hon hefyd yn berthnasol pan fyddwch chi’n teithio i wlad arall sy ddim yn yr UE o’r DU.
Nid oes rhaid i chi ddatgan arian os ydych chi’n teithio o wlad UE arall neu deithio yno.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pha nwyddau ac arian y gallwch ddod â nhw i mewn i’r DU a gwybodaeth gyffredinol ynglŷn â theithio dramor, gweler Teithio dramor.