Diweddarwyd y safle:

Chwefror 11 af 2012

Damweiniau traffig

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon



Damweiniau traffig

Diffinnir damwain fel damwain traffig os yw’n digwydd ar heol neu mewn lle y mae gan y cyhoedd fynediad ato. Gallai hyn gynnwys llwybrau troed a llwybrau ceffyl. Yn Yr Alban, mae’n ddyletswydd ar yr awdurdodau lleol i gynnal ffyrdd cyhoeddus.

Nôl i’r brig


Pwy sy'n gyfrifol am ddamwain traffig

Gallai fod yn amlwg bod rhywun wedi achosi damwain ac felly ni fydd dadlau ynghylch atebolrwydd. Fodd bynnag, bydd yna achosion lle nad yw’n amlwg, neu pan yw’n anodd adnabod graddfa’r atebolrwydd. Er enghraifft, fel rheol gyffredinol, os yw eich cerbyd chi yn gwrthdaro â chefn cerbyd arall, chi sy’n atebol am y ddamwain. Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw’r car sydd o’ch blaen wedi brecio’n sydyn neu’n annisgwyl, oherwydd mae’n ofynnol i yrwyr gadw pellter diogel rhyngddyn nhw a’r car o’u blaen. Fodd bynnag, gallai fod amgylchiadau pan nad yw’r rheol hon yn gymwys, ac os ceir dadlau ynghylch atebolrwydd, bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch oni bai bod y cwmni yswiriant yn delio â’r achos.

Nôl i’r brig


Beth mae'n rhaid i yrrwr sydd wedi cael damwain traffig ei wneud

Dylai gyrrwr sydd wedi cael damwain traffig stopio p’un ai mai ef/hi oedd yn gyfrifol amdani neu beidio os:

  • oedd unrhyw un arall wedi ei anafu; neu
  • os oedd cerbyd arall, neu eiddo rhywun arall, wedi ei ddinistrio; neu
  • os anafwyd anifail mewn cerbyd arall neu wrth redeg ar draws yr heol; neu
  • os dinistriwyd bolard, lamp stryd neu eitem arall o gelfi ar y stryd.

Os oes yn rhaid i chi stopio, mae’n rhaid i chi aros ger y cerbyd am ddigon o amser fel bod unrhyw un sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â’r ddamwain yn gallu gofyn i chi am fanylion. Gallai hyn fod, er enghraifft, perchennog anifail a anafwyd, perthynas rhywun a anafwyd neu’r heddlu. Mae’n rhaid i’r gyrrwr yna roi ei enw a’i gyfeiriad, enw a chyfeiriad perchennog y cerbyd (os nad y gyrrwr yw’r perchennog), a chofrestrif y cerbyd.

Mae’n bosib y bydd angen i chi adrodd y ddamwain i’r heddlu yn bersonol cyn gynted â’i fod yn ymarferol ac yn sicr o fewn 24 awr. Mae’n rhaid gwneud hyn os nad oedd y gyrrwr wedi rhoi ei enw a’i gyfeiriad pan ddigwyddodd y ddamwain, hyd yn oed os gofynnwyd iddo amdanynt neu beidio.

Os yw person arall yn cael ei anafu, mae’n rhaid i’r gyrrwr ddangos tystysgrif yswiriant dilys os gofynnir amdano gan yr heddlu, y person a anafwyd, neu unrhyw un arall sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol neu anuniongyrchol â’r ddamwain. Os gofynnir am y dystysgrif yswiriant, ond nad yw’n cael ei rhoi, mae’n rhaid adrodd y ddamwain i’r heddlu cyn gynted â’i fod yn ymarferol, neu mewn unrhyw achos o fewn 24 mis, ac mae’n rhaid mynd â’r dystysgrif yswiriant i’r orsaf heddlu o fewn saith diwrnod o ddyddiad y ddamwain. Fodd bynnag, os darparodd y gyrrwr manylion yr yswiriant pan ddigwyddodd y ddamwain, nid oes yn rhaid adrodd y ddamwain i’r heddlu, cyn belled â’i fod wedi cyflawni’r dyletswyddau uchod.

Os hoffech fwy o wybodaeth am anafiadau personol, yn Lloegr a Chymru, gweler Anafiadau personol, ac yn Yr Alban gweler Anafiadau personol.

O ran damweiniau lle achosir difrod yn unig, mae’n rhaid i’r gyrrwr roi manylion yswiriant i unrhyw un sy’n dymuno hawlio yn ei erbyn.

Yn achos pob damwain, dylai gyrwyr hysbysu cwmni yswiriant eu hun.

Os hoffech fwy o wybodaeth yn Lloegr a Chymru am hawlio yn erbyn cwmni yswiriant, gweler Yswiriant Cerbyd yn yr adran Defnyddwyr.

Nôl i’r brig


Gwiriadau'r heddlu ar gyfer yswiriant

Gall yr heddlu, pan ydynt yn drwgdybio bod trosedd yn cael ei chyflawni, gael mynediad at gronfa ddata gyfrifiadurol i wirio p’un ai bod gan y cerbyd a/neu’r gyrrwr yswiriant.

Gall yr heddlu atafaelu cerbyd pan gaiff ei yrru heb yswiriant. Os nad yw’r perchennog yn darparu tystysgrif yswiriant ddilys o fewn saith diwrnod gwaith, gall yr heddlu werthu’r cerbyd. Fodd bynnag, gall y perchennog hawlio’r elw yn ôl.

Nôl i’r brig


Olrhain perchennog cerbyd pan nad yw'r gyrrwr yn fodlon rhoi gwybodaeth

Mae’n ofynnol i yrrwr sydd wedi cael damwain ddarparu gwybodaeth – gweler dan y pennawd Beth mae’n rhaid i yrrwr sydd wedi cael damwain ei wneud. Os oedd rhywun ar wahân i berchennog y cerbyd yn ei yrru pan ddigwyddodd y ddamwain, mae’n rhaid i berchennog y cerbyd roi gwybodaeth am y gyrrwr i’r heddlu. Mae peidio â rhoi’r wybodaeth hon i’r heddlu yn drosedd oni bai bod y perchennog yn gallu dangos nad oedd yn ymwybodol o’r wybodaeth hon ac nid oedd yn rhesymol iddo wybod.

Os yw gyrrwr sydd wedi bod mewn damwain traffig yn gwrthod rhoi manylion, megis ei enw a’i gyfeiriad, pan ddigwyddodd y ddamwain, gellir cael y wybodaeth hon mewn ffordd arall. Os nodwyd cofrestrif y cerbyd ac adroddwyd y ddamwain i’r heddlu, gall yr heddlu olrhain perchennog (nid o reidrwydd y gyrrwr) y cerbyd ynghyd â’i gwmni yswiriant. Fodd bynnag, gall yr heddlu wrthod trosglwyddo’r wybodaeth hon.

Yn Lloegr, Cymru a’r Alban, gall yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) roi enw a chyfeiriad y person sydd wedi’i gofrestru fel perchennog y cerbyd i unrhyw un sydd â rheswm da dros ei angen ar yr amod bod yr amgylchiadau yn berthnasol i gerbyd neu ei ddefnydd ar y ffordd. Os dymunwch y wybodaeth hon, dylech ysgrifennu at y DVLA gan esbonio pam eich bod ei hangen. Gallwch ddefnyddio ffurflen V888 ar wefan y (New window) www.dvla.gov.uk. Bydd angen i chi dalu ffi o £2.50. Mae’n rhaid i chi roi cofrestrif, gwneuthuriad a model y cerbyd a dyddiad y ddamwain. Os nad yw’r DVLA o’r farn bod yna resymau addas ar gyfer darparu’r wybodaeth, fe fydd yn dychwelyd y ffi. Y manylion cyswllt yw:

DVLA
Gwasanaethau Cwsmeriaid
Abertawe
SA99 1AR

Rhif ffôn: 0300 790 6802
Ffôn testun: 01792 766 426
Ffacs: 0300 123 0798
E-bost: ffurflen ymholi ar gael ar y wefan
Gwefan: (New window) www.direct.gov.uk

Yng Ngogledd Iwerddon, os hoffech y wybodaeth hon mae’n rhaid i chi ddefnyddio cyfreithiwr neu eich cwmni yswiriant oherwydd ni roddir enwau na chyfeiriadau perchnogion cerbydau i’r cyhoedd. Mae hyn yn costio £2.50. Mae’r wybodaeth ar gael gan:

Driver and Vehicle Licensing Northern Ireland Enquiry Section County Hall
Castlerock Road
Coleraine
BT51 3TA

Rhif ffôn: 0845 402 4000
E-bost: dvlni@doeni.gov.uk
Gwefan: (New window) www.dvlni.gov.uk

Nôl i’r brig


A oedd y gyrrwr yn gyrru'n anghyfreithlon

Mae enghreifftiau o yrru anghyfreithlon yn cynnwys gyrru:

  • ar eich pen eich hun gyda thrwydded dros dro
  • heb drwydded gyrru, treth neu yswiriant
  • os ydych wedi eich gwahardd rhag gyrru
  • cerbyd sydd wedi’i ddwyn
  • cerbyd peryglus
  • heb dystysgrif MOT
  • tra’ch bod yn feddw neu dan ddylanwad cyffuriau.

Nid yw gyrrwr anghyfreithlon mewn sefyllfa gref i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn rhywun arall, hyd yn oed os mai’r person arall achosodd y ddamwain.

Os buoch mewn damwain traffig lle’r oedd gyrrwr yn gyrru’n anghyfreithlon, dylech gysylltu ag ymgynghorydd profiadol mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Nôl i’r brig


Damweiniau a achosir gan salwch sydyn

Os digwydd damwain oherwydd bod gyrrwr yn sâl, er enghraifft, drwy strôc neu drawiad ar y galon, ni fydd yn cael ei erlyn am ei yrru. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, gall gyrwyr hawlio iawndal drwy eu cwmni yswiriant.

Os buoch mewn damwain achoswyd gan salwch gyrrwr, dylech gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Talu am driniaeth mewn ysbyty

Mae’r Cynllun Adfer Costau Anafiadau yn caniatáu’r GIG i adfer costau trin claf mewn achosion lle telir iawndal anaf personol i’r person. Yn ôl y cynllun hwn, mae’n rhaid i’r person sy’n talu’r iawndal ad-dalu’r GIG am driniaeth mewn ysbyty ac am wasanaethau ambiwlans hyd at swm penodol. Mae’r cynllun yn gymwys i bawb sy’n talu iawndal yn ogystal â chwmnïau yswiriant. Gweinyddir y cynllun gan Uned Adfer Iawndal yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Nôl i’r brig


Tystion

Mae’n bwysig eich bod yn casglu tystiolaeth oddi wrth dystion annibynnol ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd mewn damwain. Os yw rhywun a oedd yn bresennol yn y ddamwain yn gwrthod fod yn dyst, fe’ch cynghorir chi i ofyn i’r heddlu a yw’r tyst wedi cael ei ofyn i roi datganiad. Os nad yw hyn yn bosibl, mae’n sefyllfa anodd, oni bai eich bod yn ymwybodol o enw a chyfeiriad y tyst. Gyda’r wybodaeth hon gellir galw arno fel tyst mewn achos llys sifil.

Dylai tystion nodi eu tystiolaeth ar bapur a chadw eu nodiadau gwreiddiol oherwydd gallai tipyn amser fynd heibio cyn bod hawliadau yn cael eu talu neu gamau yn y llys yn cael eu cymryd. Beth bynnag y dywed tystion, dylai’r bobl a gafodd y ddamwain ysgrifennu nodiadau eu hun o’r hyn ddigwyddodd, gan gynnwys brasluniau a chymryd ffotograffau cyn gynted â phosibl a chadw eu nodiadau gwreiddiol.

Nôl i’r brig


Methiant i ymateb i lythyron hawlio

Os nad yw rhywun yn ymateb i lythyr hawlio sy’n esbonio mai nhw sy’n gyfrifol am iawndal yn dilyn damwain ar y ffordd, dylech gymryd un o’r camau canlynol:

  • os oes gennych yswiriant cyfun, gadewch i’r cwmni yswiriant ddelio â’r hawliad. Os nad yw’r cwmni yswiriant yn llwyddo i adennill iawndal o’r person arall, gallech golli eich bonws dim-hawlio, oni bai eich bod yn siwio’r person cyfrifol yn llwyddiannus
  • os nad oes gennych yswiriant, neu os mai yswiriant trydydd person yn unig sydd gennych, bydd angen i chi ymdrin â’r hawliad eich hun. Os nad yw’r person arall yn ymateb, mae’n bosib y bydd angen i chi gymryd camau yn y llys (gweler dan y pennawd Cymryd camau yn y llys). Fodd bynnag, os nad yw’r person arall yn ymateb, gallai profi’r achos yn y llys fod yn anodd oni bai bod gennych dystion annibynnol
  • os oedd yr heddlu yn gysylltiedig, cysylltwch â nhw i ofyn a ydynt yn parhau i archwilio’r ddamwain ac a yw’r person arall wedi cysylltu â nhw.

Os nad yw rhywun yn ymateb i lythyron hawlio, dylech gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Nôl i’r brig


Cymryd camau yn y llys

Cymryd camau yn y llys yn Lloegr a Chymru

Yn Lloegr a Chymru, os nad oes gennych gwmni yswiriant sy’n gweithredu ar eich rhan, mae’n bosib y bydd angen i chi siwio’r person atebol, er enghraifft, i adennill unrhyw golledion nad oedd wedi’u hyswirio. Os dyma’r achos, dylech ystyried y pwyntiau canlynol:

  • os yw’r achos wedi’i amddiffyn ac wedi’i glustnodi ar y llwybr hawliadau bychain (hynny yw hawliadau o £5,000 neu lai), ni fyddwch fel arfer yn gallu hawlio costau cyfreithiwr, ac felly bydd angen i chi ddelio â’r achos eich hun, neu dalu am gyfreithiwr.

Os hoffech fwy o wybodaeth am hawliadau bychain, gweler Hawliadau bychain.

  • os yw’r hawliad wedi’i amddiffyn ac wedi’i glustnodi ar y llwybr cyflym neu hawliadau aml-lwybr, byddwch yn gallu hawlio eich costau cyfreithiol yn ôl oddi wrth yr ochr arall, er ni ellir sicrhau y cewch nhw i gyd yn ôl
  • p’un ai yw’r achos wedi ei glustnodi ar y llwybr hawliadau bychain, llwybr cyflym neu aml-lwybr, mae’n bosib y gallwch dderbyn ychydig o gymorth gyda’ch costau cyfreithiol.

Os hoffech fwy o wybodaeth am gymorth gyda chostau cyfreithiol yn Lloegr a Chymru, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol, yn Yr Alban gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol, ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol.

Os cyhoeddwyd ffurflen hawlio yn eich erbyn chi, mae angen i chi ymateb yn gyflym oherwydd mae’r terfynau amser ar gyfer amddiffyn eich hun yn eithaf tyn. Hyd yn oed os ydych yn cyfaddef eich bod yn atebol i dalu’r holl iawndal a gaiff ei hawlio, mae’n bosib bod gennych wrth-hawliad da ac mae’n rhaid ei gyflwyno ar unwaith.

Dylai rhywun sy’n gysylltiedig ag achos llys sifil gysylltu ag ymgynghorydd profiadol er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Cymryd camau yn y llys yn Yr Alban

Yn Yr Alban, mae’n bosib y cymerir camau sifil yn erbyn person o dan weithdrefnau hawliadau bychain, achosion diannod neu achosion arferol.

Dylai rhywun sy’n gysylltiedig ag achos llys sirol gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Cymryd camau yn y llys yng Ngogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, ni ellir defnyddio gweithdrefn hawliadau bychain mewn perthynas â damweiniau traffig. Mae’n bosib y bydd angen cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth arnoch naill ai yn y llys sirol neu’r Uchel Lys.

Nôl i’r brig


Damweiniau traffig a berthyn i waith

Dylai gweithiwr sydd wedi cael damwain traffig wrth deithio ar gyfer dibenion gwaith (neu ar y ffordd i’r gwaith o bosib) ystyried y pwyntiau canlynol:

  • os yw’r cerbyd wedi’i yswirio gan y cyflogwr, bydd y gweithiwr wedi’i yswirio gan yswiriant cerbyd y cyflogwr, p’un ai ei fod yn gyfrifol am y ddamwain neu beidio
  • os yw’r gweithiwr yn gerddwr neu feiciwr a anafwyd, bydd y cyflogwr fel arfer yn atebol yn yr un ffordd ag achos anaf diwydiannol, oni bai bod y gweithiwr yn amlwg wedi bod yn esgeulus
  • os yw’r gweithiwr yn aelod o undeb llafur ac os yw wedi’i anafu, fel arfer fe fydd yn cael cymorth cyfreithiol rhad ac am ddim gan yr undeb llafur
  • mae’n bosib y gall hawlio budd-daliadau o dan y cynllun anafiadau diwydiannol.

Os hoffech fwy o wybodaeth am hawlio budd-daliadau, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu anabl.

Nôl i’r brig


Dysgwyr gyrru

Caiff dysgwyr gyrru sy’n gyrru’n gyfreithlon eu trin yr un ffordd â gyrwyr eraill mewn perthynas â damwain traffig. Mae’n rhaid i oruchwylwyr dysgwyr gyrru wneud popeth sy’n rhesymol er mwyn atal y gyrrwr rhag gyrru mewn ffordd beryglus. Dyletswydd y gyrrwr yw adrodd y ddamwain ac mae atebolrwydd a chyfrifoldeb y goruchwyliwr yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Mae gan yr heddlu'r gallu i ofyn i oruchwylwyr dysgwyr gyrru am eu trwydded a’u tystysgrif yswiriant.

Nôl i’r brig


Beiciau

Os yw rhywun wedi cael damwain sy’n cynnwys beic, dylent fod yn ymwybodol nad oes yn rhaid i feicwyr gael eu hyswirio rhag unrhyw ddifrod i’r beic, unrhyw gerbyd arall neu anafiadau personol. Fodd bynnag, gallai polisi yswiriant arall yswirio’r beiciwr, er enghraifft, ei bolisi yswiriant cynnwys cartref. Os digwydd y ddamwain ar y ffordd i’r gwaith neu ar y ffordd adref o’r gwaith, mae’n bosib bod yswiriant y cyflogwr yn yswirio’r person a gafodd y ddamwain neu gallai gael cyngor neu gymorth gan undeb llafur.

Os oes gan y beiciwr yswiriant anaddas, fe fydd siŵr o fod yn rhwyddach i hawlio yn erbyn yswiriant y person a gafodd y ddamwain a gadael i’r cwmni yswiriant gymryd camau yn erbyn unrhyw un sy’n atebol.

Os nad yw hyn yn bosibl, dylid siwio’r beiciwr yn y llys am iawndal – gweler dan y pennawd Cymryd camau yn y llys.

Nôl i’r brig


Plant

Os ydych yn cael damwain a achoswyd gan blentyn, mae’n gallu bod yn anodd profi bod ymddygiad y plentyn wedi bod yn esgeulus. Hyd yn oed os gellir profi esgeulustod y plentyn, efallai nad oes gwerth cymryd camau cyfreithiol oherwydd mae’n annhebygol iawn bod gan y plentyn arian. Fodd bynnag, gellir gorfodi dyfarniad chwe blynedd yn dilyn dyddiad y dyfarniad, oherwydd gallai’r plentyn fod yn medru talu nes ymlaen.

Os oedd oedolyn cyfrifol gyda’r plentyn pan ddigwyddodd y ddamwain, mae’n bosib y gellir siwio’r oedolyn os gellir dangos bod yr oedolyn wedi ymddwyn yn esgeulus wrth fethu â goruchwylio’r plentyn yn gywir.

Hyd yn oed os nad oedd oedolyn gyda’r plentyn, mae’n bosib y gallwch siwio oedolyn am fethu â goruchwylio’r plentyn yn gywir pan ddigwyddodd y ddamwain.

Nôl i’r brig


Gwrthrychau llonydd neu sefydlog

Os yw rhywun yn bwrw gwrthrych sefydlog, naill ai ar yr heol ei hun neu ar ymyl yr heol, dylent ystyried y canlynol:-

  • a oedd y gwrthrych wedi’i farcio’n briodol neu wedi’i oleuo i alluogi gyrwyr i’w weld yn glir ac mewn digon o amser i’w osgoi, er enghraifft, car heb ei oleuo, sgip neu waith ar y ffordd. Os na, bydd yn rhaid darganfod pwy oedd yn gyfrifol am beidio â’i oleuo neu ei farcio. Er enghraifft, os mai car wedi parcio oedd y gwrthrych, y person cyfrifol yw’r perchennog. Os mai gwaith ar y ffordd oedd yn gyfrifol am y ddamwain, yna’r person sy’n cyflawni’r gwaith hwn sy’n gyfrifol, er enghraifft, yr awdurdod lleol, cwmni nwy, dŵr neu drydan, neu’r contractwyr oedd yn gwneud y gwaith ar eu rhan
  • a oedd y gwrthrych wedi cael ei adael ar y ffordd naill ai’n anghyfreithlon neu mewn ffordd anniogel, er enghraifft, car sydd wedi ei barcio ar gornel. Os felly, bydd perchennog y gwrthrych neu’r cerbyd yn atebol
  • a yw’r gwrthrych wedi achosi damweiniau eraill. Os felly, mae hyn yn dystiolaeth bod y gwrthrych yn gysylltiedig â’r ddamwain.

Nôl i’r brig


Cyflwr arwyneb heolydd

Gallai cyflwr arwyneb heol achosi damwain, er enghraifft, tyllau, ia, mwd neu ddail. Mae’n bosib na roddwyd rhybudd priodol o gyflwr yr heol, er enghraifft:

  • gallai’r awdurdod lleol (adran o’r enw Department of Regional Development, Roads Service yng Ngogledd Iwerddon Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon) fod wedi methu ag ymateb yn rhesymol i’r broblem gydag arwyneb yr heol. Os felly, gallant fod yn gyfrifol am unrhyw ddamweiniau a achoswyd
  • gallai unigolion neu gwmnïau, er enghraifft, ffermwyr neu gontractwyr fod wedi gadael mwd neu saim ar yr heol am gyfnod afresymol o amser heb unrhyw rybuddion priodol. Os felly, gallant fod yn gyfrifol am unrhyw ddamweiniau a achoswyd
  • contractwr nad yw wedi adfer arwyneb yr heol yn gywir ar ôl cyflawni gwaith arni.

Os difrodwyd eich car oherwydd cyflwr yr heol, efallai y byddwch yn medru hawlio iawndal gan yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r heol.

Ond, fe fydd angen i chi ddangos na chafodd yr heol ei harchwilio’n iawn na’i hatgyweirio. Dylech gysylltu â’r awdurdod lleol cyn gynted â phosib gyda thystiolaeth o:

  • ·gyflwr yr heol
  • ·y difrod a wnaed i’ch car
  • ·costau atgyweirio’ch car.

Fe allwch hefyd anfon ffotograff o’r heol i gefnogi eich cais.  Os mai twll yn yr heol sydd wedi achosi’r difrod, ceisiwch anfon mesuriadau lled a dyfnder y twll.

Os yw’r awdurdod lleol yn honni iddo gynnal a chadw’r heol yn iawn, a’i archwilio’n iawn, efallai y byddwch yn dal i fedru hawlio os nad yw’r awdurdod wedi dilyn y cod ymarfer cenedlaethol ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd. Mae’r cod ar gael yn (New window) www.ukroadsliaisongroup.org.

Ar wefan (New window) www.potholes.co.uk mae yna restr o’r awdurdodau sy’n gyfrifol am gynnal a chadw heolydd a chanllawiau manwl ynghylch sut i riportio a hawlio iawndal.

Nôl i’r brig


Cerbydau argyfwng

Nid yw cerbydau argyfwng yn cael eu heithrio rhag cymryd cyfrifoldeb dros ddamweiniau a gânt neu achosir ganddynt. Mae’r un rheolau â damweiniau eraill yn gymwys.

Nôl i’r brig


Gyrwyr o dramor

Os yw damwain yn digwydd yn y DU a bod y gyrrwr o dramor, mae’r un dyletswyddau ganddo â dinesydd y DU – gweler dan y pennawd Beth mae'n rhaid i yrrwr sydd wedi cael damwain traffig ei wneud.

Gallai cael iawndal am unrhyw ddifrod neu anafiadau fod yn anodd. Ceisiwch gysylltu â’r Canolfan Yswirwyr Ceir. Gallan nhw ddarganfod manylion y gyrrwr a’i gwmni yswiriant os rhoddir cofrestrif y cerbyd a bod y gyrrwr yn dod o wlad sy’n cymryd rhan yn y system cerdyn gwyrdd. Os nad oedd yswiriant gan y gyrrwr, neu os nad oedd y cwmni yswiriant asiant yn y Deyrnas Unedig, bydd y Canolfan Yswirwyr Ceir yn ymdrin â’r achos. Os oes gan y cwmni yswiriant asiant yn y DU, fe’ch cynghorir chi i gysylltu â nhw. Manylion cyswllt y Canolfan Yswirwyr Ceir yw:

The Company Secretary
Motor Insurers Bureau
6-12 Capital Drive
Linford Wood
Milton Keynes
MK14 6XT

Rhif ffôn: 01908 830001
Ffacs: 01908 671681
E-bost: enquiries@mib.org.uk
Gwefan: (New window) www.mib.org.uk

Nôl i’r brig