Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Alla i ddefnyddio fy ffôn symudol yn y car?

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae’n drosedd i ddefnyddio ffôn symudol llaw wrth yrru. Mae hyn yn cynnwys pan fyddwch chi’n aros wrth oleuadau traffig neu mewn ciw traffig. Fe allwch chi gael dirwy benodol o £60 a thri phwynt cosb ar eich trwydded os ydych chi’n torri’r gyfraith. Yr unig eithriad yw os defnyddiwch chi’r ffôn i ddeialu 999 neu 112 mewn gwir argyfwng lle byddai’n anniogel neu’n anymarferol i stopio.

Fe allwch chi ddefnyddio ffôn symudol heb ddwylo, ond os collwch chi reolaeth o’ch cerbyd wrth ei ddefnyddio, yr ydych hefyd mewn perygl o gael cosb benodol o £60 a thri phwynt cosb.

Os bydd achos yn mynd i’r llys, yn ychwanegol at bwyntiau, fe allech chi wynebu gwaharddiad ar ben uchafswm diryw o £1,000 (£2,500 i yrwyr bysiau, coetsis neu gerbydau nwyddau).

Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i yrwyr beiciau modur yn ogystal â gyrwyr cerbydau.

Fe allwch chi ddarganfod mwy am ffonau symudol a gyrru yn: (New window) www.thinkroadsafety.gov.uk/advice/mobilephones.htm.

 

Cwestiynau cyffredin eraill am deithio: