Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os ydych chi’n Ddinasyddion Prydeinig, mae angen bellach i bob aelod o’r teulu i gael eu pasbort eu hunain i fynd unrhyw le dramor oni bai eich bod yn teithio i Ynys Manaw, Ynysoedd y Sianel neu Weriniaeth Iwerddon. Mae angen pasbort ar fabanod hefyd. Sut bynnag, os yw unrhyw un o’ch plant o dan 16 oed ac eisoes ar eich pasbort a gafodd ei roi cyn Hydref 1998, fe allan nhw o hyd deithio gyda chi ar y pasbort hwnnw hyd nes bydd eich pasbort yn dod i ben neu hyd nes y byddan nhw’n cyrraedd 16 oed - pa un bynnag sydd gyntaf.
Fe allwch chi gael ffurflenni cais am basbort o’r prif swyddfeydd post a’r asiantaethau teithio mwyaf. Fe allan nhw eich helpu i lenwi’r ffurflenni yn gywir a’u hanfon i ffwrdd ar eich rhan am ffî ychwanegol, neu fe roddan nhw daflen wybodaeth i chi sy’n dweud wrthych sut mae llenwi’r ffurflen eich hun, i ble mae anfon y ffurflen, a pha fath o ddull adnabod mae angen ei anfon. Fe allwch chi hefyd gael ffurflenni cais o swyddfeydd pasbort.
Am wybodaeth gyffredinol ynglŷn â phasbortau a theithio dramor, gweler Teithio dramor.