Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Efallai y byddwch yn gallu cael iawndal, ond dim ond os bydd eich trên yn hwyr oherwydd rhywbeth sydd o fewn rheolaeth y cwmni trenau. Gallai hyn gynnwys bod yn hwyr oherwydd gwaith peirianyddol ond nid oherwydd amodau tywydd garw eithriadol.
Os ydych yn gymwys i dderbyn iawndal, rhaid i’r cwmni gynnig ad-daliad llawn i chi os na allwch chi deithio o gwbl oherwydd bod y trên yr oeddech yn bwriadu mynd arno yn hwyr. Os allwch chi deithio mewn gwirionedd ond fod y trên yn cyrraedd mwy na awr yn hwyr, fe allwch chi gael taleb gwerth o leiaf 20 y cant o werth y tocyn, os prynoch chi docyn sengl. Os prynoch chi docyn dwyffordd, fe allwch chi hawlio taleb gwerth o leiaf 10 y cant o’r pris a dalwyd. Os oes gennych docyn tymor, mae ad-daliadau gwahanol yn berthnasol. Mae’r rhain yn dibynnu ar y cwmni trenau. Mae yna lefelau isafswm o iawndal - gyda rhai cwmnïau, fe allwch chi gael mwy.
Rhaid i chi ofyn am iawndal gan na roddir ef yn awtomatig. Fe allwch chi hawlio eich iawndal yn y man a’r lle neu trwy ysgrifennu at adran gwasanaethau cwsmeriaid y cwmni trenau. Fe allwch chi gael manylion oddi wrth y casglwr tocynnau ar eich trên neu o’r orsaf lle prynoch chi’r tocyn. Rhaid i chi wneud cais o fewn 28 diwrnod. Bydd angen y tocyn neu lungopi o’r tocyn fel tystiolaeth os ydych chi’n gwneud cais.
Os cynigir taleb i chi fel iawndal, ond yr ydych chi am arian fel iawndal, fe ddylech chi ofyn am hyn, er nad oes rhaid i’r cwmni roi arian i chi. Mae taleb yn ddilys am flwyddyn o’r dyddiad y rhoddwyd ef ac fe ellir ei gyfnewid am docyn taith ar unrhyw wasanaeth rheilffordd. Gellir ystyried hawliadau am dreuliau ychwanegol, megis aros dros nos mewn amgylchiadau eithriadol iawn.
Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu hawlio ad-daliad am ddal tacsi, os ydych yn methu symud o’r orsaf oherwydd bod y trên yn hwyr. Sut bynnag, efallai na fydd y cwmni trenau yn talu hwn oni bai eich bod wedi dweud wrth y rheolwr ar ddyletswydd yn yr orsaf eich bod yn gorfod cymryd tacsi a doedden nhw ddim yn gallu eich cael i ben eich taith mewn unrhyw ffordd arall.
Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd y mae’r cwmni trenau yn delio â’ch cais am iawndal, fe allwch chi fynd â’ch cwyn at Passenger Focus yn www.passengerfocus.org.uk (tel: 0300 123 2350). Yn Llundain fe allwch chi gysylltu â London TravelWatch yn www.londontravelwatch.org.uk (tel: 020 7505 9000).
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwynion am wasanaethau trenau hwyr a gwybodaeth gyffredinol am drafnidiaeth cyhoeddus, gweler Trafnidiaeth Cyhoeddus.